Neidio i'r prif gynnwy

Trosolwg o Ddeddf Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru) 2021, ei gynnydd trwy'r Senedd a'r is-ddeddfwriaeth.

Trosolwg

Mae Deddf Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru) 2021 yn diwygio Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 a Deddf Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Cymru) 2019 fel bod gan bobl sy’n rhentu cartref yng Nghymru o dan gontract meddiannaeth safonol sicrwydd deiliadaeth am o leiaf 12 mis. Ymysg pethau eraill, mae’n:

  • cynyddu’r cyfnod rhybudd isaf y mae’n rhaid i landlord ei roi i ddod â contract meddiannaeth safonol i ben o dan yr hyn a elwir yn “droi allan heb fai” o 2 fis i 6 mis
  • gosod cyfyngiadau ar roi rhybuddion penodol pan fo gofynion statudol penodol wedi eu torri 
  • cyfyngu ar yr amgylchiadau y gall y landlord amrywio contract safonol cyfnodol 
  • torri’r cysylltiad rhwng rhoi rhybudd i amrywio’r contract a rhoi rhybudd yn ceisio meddiannaeth. 

Mae’r Ddeddf hefyd yn diwygio Deddf 2019 fel bod talu tâl gwasanaeth, a thalu am ddatganiad ysgrifenedig newydd o gontract meddiannaeth, mewn rhai amgylchiadau, yn daliadau a ganiateir at ddibenion Deddf 2019. 

Mae’r Nodiadau Esboniadol i’r Ddeddf yn rhoi sylwadau manwl ar y darpariaethau amrywiol:

Darllenwch yr Ddeddf yn llawn:

Dod i rym

Daeth adrannau 15, 17, 19 a 20 i rym ar 8 Ebrill 2021, sef y diwrnod ar ôl i’r Ddeddf dderbyn y Cydsyniad Brenhinol, yn unol ag adran 19(1). 

Mae adrannau 19(2) a (3) o’r Ddeddf yn darparu bod gweddill y darpariaethau yn dod i rym pan fydd Gweinidogion Cymru yn gwneud un neu ragor o orchmynion:

Mae’r gorchymyn a ganlyn wedi ei wneud:

Gorchymyn Deddf Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru) 2021 (Cychwyn) 2022 ar legislation.gov.uk

Is-ddeddfwriaeth a wnaed o dan y Ddeddf

Ystyriaeth y Senedd o’r ddeddfwriaeth

Cyflwynwyd y Bil gan Julie James AS, y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol (ar y pryd) ar 10 Chwefror 2020, ac fe’i pasiwyd gan Senedd Cymru ar 23 Chwefror 2021.

Mwy o wybodaeth am Ddeddf 2026 a gofnod o hynt y Bil trwy'r Senedd ar senedd.cymru.

Mae Memorandwm Esboniadol a luniwyd gan Lywodraeth Cymru (wrth gyflwyno’r Bil):

Cafodd y Ddeddf y Cydsyniad Brenhinol ar 7 Ebrill 2021.