Neidio i'r prif gynnwy

Dyma’r ail ddiweddariad tymhorol ar waith y Bwrdd. Ers diweddariad Gwanwyn 2026, mae’r Bwrdd wedi cyfarfod ddwywaith, ar 4 Mehefin a 9 Gorffennaf.

Cyhoeddwyd gyntaf:
30 Gorffennaf 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Yn y cyfarfod ym mis Mehefin, cyflwynodd tîm y rhaglen gynigion i ddiwygio cwmpas a threfniadau llywodraethu’r rhaglen, a chynnig dyddiadau cylch bywyd y rhaglen, sef Hydref 2025 i Medi 2027.

Cynigiwyd y bydd y rhaglen yn parhau i oruchwylio:

  • llunio a chyhoeddi Strategaeth y Gymraeg ddiwygiedig
  • llunio a chyhoeddi’r Fframwaith Cenedlaethol ar Addysg Gymraeg a Dysgu Cymraeg
  • llunio a chyhoeddi’r Cod i ddisgrifio gallu yn y Gymraeg yn seiliedig ar y CEFR
  • sefydlu’r Athrofa Dysgu Cymraeg Genedlaethol erbyn 1 Awst 2027

Cynigiwyd y byddai gweithredu’r Fframwaith Cenedlaethol yn trosglwyddo i drefniadau busnes arferol ar ôl ei gyhoeddi. O ganlyniad, bydd y rhaglen yn cynnwys pedwar prosiect: Strategaeth y Gymraeg, y Fframwaith Cenedlaethol, y Cod, a sefydlu’r Athrofa. Cytunodd aelodau’r Bwrdd mewn egwyddor â’r trefniadau hynny.

Cafodd y Bwrdd gyflwyniad gan swyddogion ymchwil ar y gwaith theori newid, a rhannwyd map a fydd yn sail i waith polisi a chynllunio. Cafwyd diweddariadau pellach drwy adroddiad uchafbwyntiau’r rhaglen a chyfraniadau gan arweinwyr y prosiectau.

Yn y cyfarfod ym mis Gorffennaf, cymeradwywyd y cwmpas a’r trefniadau llywodraethu newydd. Rhannwyd amlinelliadau cychwynnol o’r Strategaeth, y Fframwaith a’r Cod, a chroesawyd sylwadau’r aelodau. Trafodwyd hefyd y cynllun cyfathrebu ar gyfer yr ymgynghoriad cyhoeddus ar y dogfennau hynny yn ystod Hydref 2026.

Rhoddwyd diweddariad hefyd ar brosiect Cyflawni’r Nod, gan amlygu’r gwaith ymgysylltu sy’n cefnogi awdurdodau lleol, ysgolion a lleoliadau wrth baratoi ar gyfer gweithredu darpariaethau’r Ddeddf.

Bydd y cyfnod nesaf yn canolbwyntio ar baratoi ar gyfer yr ymgynghoriad cyhoeddus ar y Strategaeth, y Fframwaith a’r Cod yn nhymor yr Hydref.