Manylion rhaglen ‘Mwy na Geiriau’ o ddigwyddiadau sy’n cael eu cynnal Eisteddfod Genedlaethol Y Garreg Las 2026
Stondin Mwy na geiriau - Rhif 101-105
Rhaglen yr wythnos
Dydd Sadwrn 1 Awst
Dewch i ddysgu am Mwy na geiriau, strategaeth Llywodraeth Cymru i gryfhau gwasanaethau Cymraeg yn iechyd a gofal.
Iwan Brioc comingtooursenses.org i arddangos gwaith ar 'Dod Nol' at ein Coed (trwy’r dydd).
Dydd Sul 2 Awst
Dewch i ddysgu am Mwy na geiriau, strategaeth Llywodraeth Cymru i gryfhau gwasanaethau Cymraeg yn iechyd a gofal.
Iwan Brioc comingtooursenses.org i arddangos gwaith ar 'Dod Nol' at ein Coed (trwy’r dydd).
Dydd Llun 3 Awst
Canolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol
11:30 i 12:30
Partneriaeth newydd rhwng y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol a Choleg Brenhinol y Bydwragedd i gefnogi bydwragedd i ddefnyddio mwy o Gymraeg yn eu gwaith.
Partneriaeth Gydwasanaethau GIG Cymru – Optegwyr
13:30 i 14:30
Bydd cyfieithydd ar y pryd ar gael: Cymraeg i Saesneg.
Iechyd Cyhoeddus Cymru – Tîm Ymwrthedd Gwrthfiotegau a Thîm Gwella Iechyd
Gweithgareddau hwyl i blant (snot gun ayyb!) a deunyddiau e-Bug neu Superbugs i godi ymwybyddiaeth am heintiau a sut yw hatal ac am ymwrthedd gwrthfiotig (trwy’r dydd).
Iechyd Cyhoeddus Cymru – Tîm HAPUS
Yn hyrwyddo menter sy'n canolbwyntio ar wella lles meddyliol trwy ymgysylltu â'r gymuned, adnoddau, a sgyrsiau cenedlaethol.
meddwl.org
Byddent yn rhannu gwybodaeth am eu platfform a sut maent yn cefnogi iechyd meddwl a llesiant (bore).
Dydd Mawrth 4 Awst
Partneriaeth Gydwasanaethau GIG Cymru – Cynllun Bwyd Di-Glwten
9:30 i 12:00
Iechyd Cyhoeddus Cymru: Tîm Ymwrthedd Gwrthfiotegau a Thîm Imiwneiddio
Gweithgareddau hwyl i blant (snot gun ayyb!) a deunyddiau e-Bug neu Superbugs i godi ymwybyddiaeth am heintiau a sut yw hatal ac am ymwrthedd gwrthfiotig (trwy’r dydd).
Iechyd Cyhoeddus Cymru: Tîm HAPUS
Yn hwyrwyddo menter sy'n canolbwyntio ar wella lles meddyliol trwy ymgysylltu â'r gymuned, adnoddau, a sgyrsiau cenedlaethol.
Dr Rob Morgan
Codi ymwybyddiaeth o Gynllun Cymorth i Ddysgwyr Cymraeg (trwy’r dydd).
Sefydliadau eraill sy’n bresennol:
- Gofal Cymdeithasol Cymru
Dewch i ymweld â ni i gael sgwrs am ofal cymdeithasol.
Bydd gennym amrywiaeth o adnoddau ar gael, yn ogystal â bwrdd negeseuon lle gallwch rannu negeseuon a meddyliau gyda gofalwyr.
Mae cydweithwyr o Gofal Cymdeithasol Cymru (GCC) a WeCare Wales yn edrych ymlaen at eich croesawu a siarad â chi am y cyfleoedd a’r gefnogaeth sydd ar gael ym maes gofal cymdeithasol.
Edrychwn ymlaen at eich gweld yno! (trwy’r dydd)
Sefydliadau eraill sy’n bresennol:
- Arolygiaeth Gofal Cymru
Dydd Mercher 5 Awst
Gofal Cymdeithasol Cymru: Ein Cynnig Cymraeg – Darganfod Sgiliau Cymraeg Cudd mewn Gofal Cymdeithasol
11:00 i 12:00
Dewch i ddarganfod sut mae Gofal Cymdeithasol Cymru yn helpu cyflogwyr i adnabod a datblygu’r gallu Cymraeg sydd eisoes yn bodoli o fewn eu gweithlu.
Mae’r sesiwn fywiog hon yn rhannu dull profedig o hybu hyder staff, gwella ansawdd gwasanaethau, a galluogi mwy o bobl i dderbyn gofal yn eu hiaith, gyda straeon go iawn gan gyflogwyr sy’n gwneud iddo ddigwydd.
Cyngor Sir Ceredigion / tîm CERED: Menter Iaith Ceredigion
Yn arddangos eu Prosiect Hêl Atgofion: darn o waith celf a wnaed gan drigolion cartrefi preswyl.
Sefydliadau eraill sy’n bresennol:
- Gyrfa Cymru
- Arolygiaeth Gofal Cymru
Dydd Iau 6 Awst
Iechyd a Gofal Digidol Cymru
13:30 i 14:30
Sesiwn banel "Sut mae technoleg digidol yn newid y GIG yng Nghymru?"
Sesiwn banel: cadeirydd Ifan Evans.
Panel:
- Dr Meinir Jones, BIP Hywel Dda
- Elin Wyn, Cadeirydd Bwrdd Cynghori MNG
Ymddiriedolaeth Gofalwyr Ifanc: Prosiect 'Ymwybodol o Ofalwyr'
Codi ymwybyddiaeth o ofalwyr di-dâl ymhlith gweithwyr/y sector gofal iechyd proffesiynol.
Byddent yn lansio’u ffilm sy’n adlewyrchu pwysigrwydd galluogi gofalwyr i gyfathrebu trwy’r Gymraeg, eu hiaith gyntaf, pan maent yn gorfod delio â gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru (trwy’r dydd).
Dydd Gwener 7 Awst
Lansiad Adduned ar y Cyd rhwng Mwy na geiriau a Llais
13:30 i 14:30
Hefyd trafodaeth bord gron.
Ymweliad gan Gweinidog y Cabinet dros Iechyd a Gofal.
Fe fydd cyfieithydd ar y pryd o’r Gymraeg i Saesneg.
Iechyd Cyhoeddus Cymru: Tîm HAPUS
Yn hyrwyddo menter sy'n canolbwyntio ar wella lles meddyliol trwy ymgysylltu â'r gymuned, adnoddau, a sgyrsiau cenedlaethol (trwy’r dydd).
Dydd Sadwrn 8 Awst
Iechyd Cyhoeddus Cymru: Tîm HAPUS
Yn hyrwyddo menter sy'n canolbwyntio ar wella lles meddyliol trwy ymgysylltu â'r gymuned, adnoddau, a sgyrsiau cenedlaethol.
