Neidio i'r prif gynnwy

Ymgynghoriad ar fwriad Gweinidogion Cymru i gymeradwyo'r codau ymarfer diweddaraf ar gyfer rheoli llety myfyrwyr, a gyhoeddwyd gan yr Accreditation Network UK (ANUK)/Unipol ac UUK/GuildHE Accommodation, sef corff y cod a sefydlwyd gan Universities UK a GuildHE, ac a weinyddir gan Professional HE Services Limited (PHES).

Cyflwyniad

  1. Mae Llywodraeth Cymru, yn amodol ar gynnal yr ymgynghoriad hwn, yn bwriadu cymeradwyo y codau ymarfer newydd ar gyfer rheoli llety myfyrwyr fel y'u cyhoeddwyd gan Accreditation Network UK/Unipol ac UUK/Guild HE Accommodation, wedi’u rhestru isod.
     
  2. Mae’n ofynnol i Weinidogion Cymru ymgynghori cyn cymeradwyo codau ymarfer newydd (gweler Ymgynghoriad isod). Os yw canlyniad yr ymgynghoriad yn cefnogi cymeradwyo'r codau ymarfer diweddaraf, bydd Gweinidogion Cymru yn gwneud is-ddeddfwriaeth, o dan bwerau yn adran 233 Deddf Tai 2004 (Deddf 2004), gan gymeradwyo'r codau. Felly, rydym yn lansio ymgynghoriad wyth wythnos o hyd ynghylch cymeradwyo'r codau ymarfer.
     
  3. Cynhelir yr ymgynghoriad rhwng 30 Gorffennaf a 24 Medi 2026.
     
  4. Mae'r ymgynghoriad yn agored i unrhyw un a fyddai effallai am ystyried ac ymateb, ond gallai fod o ddiddordeb arbennig i bobl sy'n ymwneud â rheoli llety myfyrwyr, myfyrwyr sy'n byw mewn llety myfyrwyr, awdurdodau lleol, a phobl sy'n cynrychioli buddiannau myfyrwyr neu fuddiannau y rhai hynny sy’n rheoli llety myfyrwyr.

Y cefndir

  1. Mae Tai Amlfeddiannaeth (HMO) yn adeiladau (neu rannau o adeiladau) sy'n cael eu meddiannu fel unig breswylfa neu brif breswylfa gan fwy na dau berson nad ydynt yn ffurfio un aelwyd. Cyflwynodd Deddf 2004 gyfundrefn drwyddedu ar gyfer HMO, wedi’i oruchwylio gan awdurdodau lleol, sydd wedi'i llunio i godi safonau rheoli eiddo o'r fath.
     
  2. Mae Deddf 2004 yn caniatáu i lety o fath penodol gael eu heithrio rhag y gofynion trwyddedu HMO; cyfeirir at lety o'r fath fel ‘llety a eithrir’. Caiff rhai adeiladau sy'n cael eu meddiannu yn gyfan gwbl neu'n bennaf at ddibenion dilyn cwrs addysg bellach neu addysg uwch llawnamser fod yn llety a eithrir.  Bydd y llety hwnnw yn cael ei eithrio o drefn drwyddedu HMO os yw’r sefydliad addysgol dan sylw yn cael ei nodi mewn rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru ac mai’r person sy’n rheoli’r adeilad yw naill ai yr un sefydliad addysgol neu berson arall a nodir yn y rheoliadau sy’n cael eu gwneud gan Weinidogion Cymru.
     
  3. Wrth benderfynu a ddylid llunio deddfwriaeth o’r math hwnnw mae’n bosibl y bydd Gweinidogion Cymru yn ystyried i ba raddau y mae rheolaeth yr adeiladau yn cydymffurfio â chodau ymarfer sydd wedi'u cymeradwyo gan Weinidogion Cymru.
     
  4. Mae gan Weinidogion Cymru bŵer o dan adran 233 o Ddeddf 2004 i gymeradwyo, drwy orchymyn, godau ymarfer sy'n pennu safonau ymddygiad ac ymarfer i'w dilyn wrth reoli HMO neu lety a eithrir.
     
  5. Mae Gweinidogion Cymru o'r farn ei bod hi'n haws sicrhau bod safonau rheoli llety myfyrwyr yn cael eu cynnal trwy gydymffurfio â chodau ymarfer a luniwyd yn benodol ar gyfer llety o'r fath, yn hytrach na'i gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol eu trwyddedu. Mae hyn hefyd yn lleihau'r baich rheoleiddio ar awdurdodau lleol a fyddai fel arall yn gorfod arolygu'r eiddo myfyrwyr hynny.

Y sefyllfa bresennol

  1. Roedd Gorchymyn Tai (Cymeradwyo Codau Ymarfer Rheoli) (Llety Myfyrwyr) (Cymru) 2006 (Gorchymyn 2006) yn cymeradwyo’r tri chod ymarfer canlynol:

    a) Cod Ymarfer Universities UK/Standing Conference of Principals ar gyfer Rheoli Tai Myfyrwyr (Cymru), dyddiedig 16 Mai 2006;

    b) Cod Safonau yr Accreditation Network UK/Unipol ar gyfer Datblygiadau Mwy o Faint ar gyfer Llety Myfyrwyr y'u Cynhelir a'u Rheolir gan Sefydliadau Addysgol (Cymru), dyddiedig 16 Mai 2006; ac

    c) Cod Safonau yr Accreditation Network UK/Unipol ar gyfer Datblygiadau Mwy o Faint ar gyfer Llety Myfyrwyr Nad Ydynt yn Cael eu Cynnal na'u Rheoli gan Sefydliadau Addysgol (Cymru), dyddiedig 16 Mai 2006.
     
  2. Mae’r tri chod ymarfer a restrir uchod wedi’u disodli gan fersiynau newydd (gweler isod).  Mae’r codau wedi’u diweddaru yn moderneiddio’r safonau a ddisgwylir gan ddarparwyr llety myfyrwyr ac yn cryfhau amddiffyniadau a disgwyliadau o ran gwasanaethau i breswylwyr sy’n fyfyrwyr, heb newid sylfaenol i’r categorïau ar gyfer llety sy’n cael eu cynnwys yn fframwaith cymeradwyo 2006.
     
  3. Mae’r ymgynghoriad hwn yn holi a ddylai Gweinidogion Cymru gymeradwyo’r codau newydd ac, os felly ddiweddaru’r Gorchymyn Tai (Cymeradwyo Codau Ymarfer Rheoli) (Llety Myfyrwyr) (Cymru) 2006 (Gorchymyn 2006) yn unol â hynny.

13.  Nid yw'r un o'r codau ymarfer a gymeradwywyd gan Orchymyn 2006 yn parhau i fod mewn grym, wedi i'r canlynol eu disodli:

a) Cod Ymarfer UUK/GuildHE Accommodation ar gyfer Tai Myfyrwyr dyddiedig Mawrth 2025;

b) Cod Safonau ANUK/Unipol ar gyfer Datblygiadau Preswyl Mwy – ar gyfer llety myfyrwyr a gynhelir gan sefydliadau addysgol neu y rheolir ganddynt, dyddiedig Medi 2024 

c) Cod Safonau  ANUK/Unipol ar gyfer Datblygiadau Mwy – ar gyfer llety myfyrwyr NAD ydynt yn cael eu cynnal na’u rheoli gan sefydliadau addysgol, Chwefror 2026

Ymgynghoriad

  1. Mae’r ymgynghoriad hwn yn holi barn a ddylai Gweinidogion Cymru gymeradwyo’r tri chod a restrir uchod yn lle’r codau a gymeradwywyd gan Orchymyn 2006 sydd ddim mewn grym bellach.
     
  2. Mae'r codau ymarfer a restrir uchod, sy’n cael eu cynnig i’w cymeradwyo, wedi'u datblygu gan sefydliadau annibynnol ar y cyd â sefydliadau addysg uwch ledled y DU. Mae darparwyr llety sy'n ymrwymo i'r codau yn cael eu rheoli a'u llywodraethu gan y sefydliadau sydd wedi datblygu'r codau.
     
  3. Ymgynghorwyd yn eang ynghylch y tri cod arfaethedig wrth iddynt gael eu datblygu ac felly nid yw Gweinidogion Cymru yn ymgynghori ar gynnwys y codau, maent yn hytrach yn ymgynghori ar eu bwriad i'w cymeradwyo.
     
  4. Cyn y caiff Gweinidogion Cymru gymeradwyo cod ymarfer, rhaid iddynt gymryd camau rhesymol i ymgynghori â phobl sy'n ymwneud â rheoli HMO neu (yn ôl y digwydd) lety a eithrir o'r math dan sylw a phobl sy'n meddiannu llety o'r fath, neu bobl sy'n cynrychioli buddiannau'r bobl hynny.  Felly, mae’r ymgynghoriad hwn yn cael ei ddwyn i sylw’r grwpiau hynny yn benodol drwy e-bost.
     
  5. Felly, rydym yn lansio ymgynghoriad wyth wythnos o hyd lle rydym yn ceisio barn ar a yw'n briodol i Weinidogion Cymru gymeradwyo'r tri chod ymarfer sy'n gosod safonau ymddygiad ac ymarfer i'w dilyn o ran rheoli llety myfyrwyr.
     
  6. Mae dolenni i'r codau ymarfer diweddaraf ar gael uchod.

Cwestiwn

  1. Ydych chi’n cytuno â cynnig Gweinidogion Cymru i gymeradwyo'r tri chod ymarfer a restrir uchod? (ydw/nac ydw)

Sut i ymateb

  1. Dylech gyflwyno eich sylwadau erbyn erbyn 17.00 ddydd 25 Medi 2026, mewn unrhyw un o'r ffyrdd canlynol:

Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data (GDPR y DU)

Llywodraeth Cymru fydd y rheolydd data ar gyfer ymgyngoriadau Llywodraeth Cymru ac unrhyw ddata personol a roddir gennych wrth ichi ymateb i’r ymgynghoriad. 

Mae gan Weinidogion Cymru bwerau statudol y byddant yn dibynnu arnynt i brosesu’r data personol hyn a fydd yn eu galluogi i wneud penderfyniadau cytbwys ynghylch sut y maent yn cyflawni eu swyddogaethau cyhoeddus. Y sail gyfreithiol dros brosesu gwybodaeth yn yr ymarfer casglu data hwn yw ein tasg gyhoeddus; hynny yw, arfer ein hawdurdod swyddogol i ymgymryd â rôl a swyddogaethau craidd Llywodraeth Cymru. (Erthygl 6(1)(e)) 

Bydd unrhyw ymateb a anfonwch atom yn cael ei weld yn llawn gan staff Llywodraeth Cymru sy'n gweithio ar y materion y mae'r ymgynghoriad hwn yn ymwneud â nhw, neu sy’n cynllunio ymgyngoriadau ar gyfer y dyfodol. Yn achos ymgyngoriadau ar y cyd, mae’n bosibl hefyd y bydd hyn yn cynnwys awdurdodau cyhoeddus eraill. Pan fydd Llywodraeth Cymru yn cynnal dadansoddiadau pellach o’r ymatebion i’r ymgynghoriad, efallai y bydd trydydd parti achrededig (ee sefydliad ymchwil neu gwmni ymgynghori) yn cael ei gomisiynu i wneud y gwaith hwn. Dim ond o dan gontract yr ymgymerir â gwaith o'r fath. Mae telerau ac amodau safonol Llywodraeth Cymru ar gyfer contractau o’r fath yn cynnwys gofynion llym ar gyfer prosesu a chadw data personol yn ddiogel.

Er mwyn dangos bod yr ymgynghoriad wedi’i gynnal yn briodol, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyhoeddi crynodeb o'r ymatebion i'r ddogfen hon. Mae’n bosibl hefyd y byddwn yn cyhoeddi’r ymatebion yn llawn. Rydym yn cyhoeddi ymatebion yn ddienw ac ni chaiff eich enw na'ch manylion cyswllt eu cynnwys. Os hoffech i'ch enw neu fanylion eraill gael eu cyhoeddi ochr yn ochr â'ch ymateb, rhowch wybod i ni pan fyddwch yn cyflwyno eich ymateb, a byddwn yn eu cynnwys.

Dylech hefyd fod yn ymwybodol o'n cyfrifoldebau o dan ddeddfwriaeth Rhyddid Gwybodaeth ac y gall fod rhwymedigaeth gyfreithiol ar Lywodraeth Cymru i ddatgelu rhai mathau o wybodaeth.

Os caiff eich manylion chi eu cyhoeddi fel rhan o'r ymateb i'r ymgynghoriad, caiff yr adroddiadau cyhoeddedig hyn eu cadw am gyfnod amhenodol. Ni fydd gweddill eich data a gadwir fel arall gan Lywodraeth Cymru yn cael eu cadw am fwy na thair blynedd.

Eich hawliau

O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawliau canlynol:

  • i wybod am y data personol a gedwir amdanoch chi a'u gweld
  • i’w gwneud yn ofynnol inni gywiro gwallau yn y data hynny
  • i wrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu’r data (o dan rai amgylchiadau)
  • i’ch data gael ei ‘ddileu’ (o dan rai amgylchiadau)
  • cludadwyedd y data (o dan rai amgylchiadau)
  • cyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data.

I gael rhagor o fanylion am yr wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei chadw ac am y defnydd a wneir ohoni, neu os ydych am arfer eich hawliau o dan Reoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data, gweler y manylion cyswllt isod:

Swyddog Diogelu Data:

Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
CAERDYDD
CF10 3NQ

E-bost: swyddogdiogeludata@llyw.cymru

Dyma fanylion cyswllt Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth: 

Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF

Ffôn: 0303 123 1113

Gwefan: https://cy.ico.org.uk/