Trosolwg o Ddeddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2019, ei gynnydd trwy'r Senedd a'r is-ddeddfwriaeth.
Cynnwys
Trosolwg
Mae Deddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2019 (Deddf 2019) yn disodli Deddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2005 ac yn rhoi pwerau newydd i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru (yr Ombwdsmon). Mae’r rhain yn cynnwys y pŵer i gynnal ymchwiliadau “ar ei liwt ei hun” i awdurdodau rhestredig, a all ddigwydd hyd yn oed os nad yw aelod o’r cyhoedd yn cwyno. Dim ond os yw gofynion Deddf 2019 wedi eu bodloni y gall gynnal ymchwiliadau ar ei liwt ei hun, fodd bynnag, ac os yw’r ymchwiliad yn cydymffurfio â’r meini prawf sy’n cael eu llunio a’u cyhoeddi gan yr Ombwdsmon.
Mae Deddf 2019 hefyd yn rhoi pwerau i’r Ombwdsmon lunio a chyhoeddi datganiad o egwyddorion ar gyfer ymdrin â chwynion, ac yn caniatáu iddo gyhoeddi gweithdrefnau enghreifftiol ar gyfer ymdrin â chwynion.
Mae Atodlen 3 i Ddeddf 2019 yn nodi’r cyrff a’r personau eraill sy’n awdurdodau rhestredig at ddibenion y Ddeddf, ac felly’n dod o fewn cylch gorchwyl yr Ombwdsmon. Mae gan Weinidogion Cymru bwerau i ddiwygio’r rhestr o gyrff a phersonau eraill. Cafodd y pŵer hwn ei arfer o 1 Ebrill 2021, er enghraifft, pan ychwanegwyd cyd-bwyllgorau corfforedig at Atodlen 3.
Mae’r Nodiadau Esboniadol i’r Ddeddf yn rhoi sylwebaeth fanwl ar y darpariaethau amrywiol:
Darllenwch yr Ddeddf yn llawn:
Dod i rym
Daeth adrannau 77 i 82 o’r Ddeddf i rym ar 22 Mai 2019, sef y diwrnod y cafodd y Ddeddf y Cydsyniad Brenhinol, yn unol ag adran 77(2).
Mae adran 77(1) yn darparu bod gweddill darpariaethau’r Ddeddf yn dod i rym pan fydd Gweinidogion Cymru yn gwneud un neu ragor o orchmynion:
Mae’r gorchymyn a ganlyn wedi’i wneud:
Rheoliadau Deddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2019 (Cychwyn) 2019 ar legislation.gov.uk
Is-ddeddfwriaeth a wnaed o dan y Ddeddf
| Enw | Rhif | Dyddiad gwneud | Dyddiad dod i rym | Dogfennau ategol |
|---|---|---|---|---|
| Rheoliadau Deddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2019 (Diwygio Atodlen 3) 2021 ar legislation.gov.uk | 2021 Rhif 345 (Cy. 99) | 17 Mawrth 2021 | 1 Ebrill 2021 | 2021 Rhif 345 (Cy. 99): Memorandwm Esboniadol ar senedd.cymru |
Ystyriaeth y Senedd o’r ddeddfwriaeth
Cyflwynwyd y Bil gan Simon Thomas AS, a oedd yn Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid ar y pryd, ar 2 Hydref 2017. Fe’i pasiwyd gan Senedd Cymru (Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar y pryd) ar 20 Mawrth 2019.
Mwy o wybodaeth am Ddeddf a gofnod o hynt y Bil trwy'r Senedd ar senedd.cymru.
Mae'r Memorandwm Esboniadol a luniwyd gan Lywodraeth Cymru (fel y cafodd ei ddiwygio ar ôl Cyfnod 2):
Cafodd y Ddeddf y Cydsyniad Brenhinol ar 22 Mai 2019.
