Neidio i'r prif gynnwy

Trosolwg o Ddeddf Rhentu Cartrefi (Ffioedd, Gwahaniaethu etc.) (Cymru) 2019, ei gynnydd trwy'r Senedd a'r is-ddeddfwriaeth.

Trosolwg

Mae Deddf Rhentu Cartrefi (Ffioedd, Gwahaniaethu etc.) (Cymru) 2019 (‘Deddf 2019’) yn gwahardd landlordiaid rhag codi amryw o ffioedd gosod ar denantiaid preswyl, fel ffioedd gweinyddu, a ffioedd geirda a gwiriad credyd. Mae hefyd yn gwneud darpariaeth ynghylch blaendaliadau cadw ac yn caniatáu i Weinidogion Cymru, drwy reoliadau, wneud darpariaeth mewn cysylltiad â rhoi cyhoeddusrwydd i rai ffioedd y mae asiantau gosod yn eu codi.

Mae sylwebaeth fanwl ar ddarpariaethau amrywiol Deddf 2019 ar gael yn y Nodiadau Esboniadol i’r Ddeddf ar legislation.gov.uk

Gweler Deddf 2019 ar legislation.gov.uk.

Cafodd enw byr Deddf 2019 (ei henw byr yn flaenorol oedd “Deddf Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Cymru) 2019” ei ddiwygio gan Ddeddf Hawliau Rhentwyr 2025, sef Deddf gan Senedd y DU, i adlewyrchu cwmpas ehangach Deddf 2019, mewn perthynas â gwahaniaethu:

Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn y Nodiadau Esboniadol i’r Ddeddf Hawliau Rhentwyr ar legislation.gov.uk (paragraffau 330 i 334).

Dod i rym

Daeth adrannau 30 a 31 o’r Ddeddf i rym ar 16 Mai 2019, sef y diwrnod ar ôl i’r Ddeddf gael y Cydsyniad Brenhinol. Daw gweddill darpariaethau’r Ddeddf i rym yn unol ag adran 30(2) o’r Ddeddf, pan fydd Gweinidogion Cymru yn gwneud un neu ragor o orchmynion:

Mae’r gorchymyn a ganlyn wedi ei wneud:

Is-ddeddfwriaeth a wnaed o dan y Ddeddf

Ystyriaeth y Senedd o’r ddeddfwriaeth

Cyflwynwyd y Bil gan Rebecca Evans AC, y Gweinidog Tai ac Adfywio ar y pryd, ar 11 Mehefin 2018. Cafodd ei basio gan Senedd Cymru (Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar y pryd) ar 27 Mawrth 2019.

Mwy o wybodaeth am y Bil a gofnod o hynt y Bil trwy'r Senedd ar senedd.cymru.

Mae'r Memorandwm Esboniadol a luniwyd gan Lywodraeth Cymru (fel y cafodd ei ddiwygio ar ôl Cyfnod 2):

Cafodd y Ddeddf y Cydsyniad Brenhinol ar 15 Mai 2019.