Neidio i'r prif gynnwy

Trosolwg o Ddeddf Rheoleiddio Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig (Cymru) 2018, ei gynnydd trwy'r Senedd a'r is-ddeddfwriaeth.

Cyhoeddwyd gyntaf:
2 Awst 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Trosolwg

Mae Deddf Rheoleiddio Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig (Cymru) 2018 (y Ddeddf) yn diwygio deddfwriaeth flaenorol, yn enwedig Deddf Tai 1996, i ddiddymu’r elfennau o reolaeth gan y llywodraeth ganolog a llywodraeth leol a arweiniodd at benderfyniad y Swyddfa Ystadegau Gwladol i ddosbarthu landlordiaid cymdeithasol yn Gorfforaethau Cyhoeddus Anariannol. Mae hyn yn caniatáu iddynt gael eu hailddosbarthu yn Gorfforaethau Preifat Anariannol.

Mae’r Nodiadau Esboniadol i’r Ddeddf yn rhoi sylwebaeth fanwl ar y darpariaethau amrywiol:

Darllenwch yr Ddeddf yn llawn:

Dod i rym

Daeth adrannau 19 ac 20 i rym ar 14 Mehefin 2018, sef y diwrnod ar ôl i’r ddeddf gael y Cydsyniad Brenhinol. Mae adran 19(2) o’r Ddeddf yn darparu bod darpariaethau eraill y Ddeddf yn dod i rym pan fydd Gweinidogion Cymru yn gwneud un neu ragor o orchmynion:

Daeth y gorchymyn a ganlyn â gweddill y darpariaethau i rym: 

Is-ddeddfwriaeth a wnaed o dan y Ddeddf

Is-ddeddfwriaeth a wnaed o dan y Ddeddf
EnwRhifDyddiad gwneudDyddiad dod i rymDogfennau ategol
Rheoliadau Deddf Rheoleiddio Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig (Cymru) 2018 (Diwygiadau Canlyniadol) 2018 ar legislation.gov.uk2018 Rhif 870 (Cy. 171)18 Gorffennaf 201815 Awst 20182018 Rhif 870 (Cy. 171): Memorandwm Esboniadol (Saesneg yn unig) ar senedd.wales

Ystyriaeth y Senedd o’r ddeddfwriaeth

Cyflwynwyd y Bil gan Carl Sargeant AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant (ar y pryd), ar 16 Hydref 2017. Yna daeth Rebecca Evans AS, y Gweinidog Tai ac Adfywio (ar y pryd) yn Aelod â gofal am y Bil o 9 Tachwedd 2017. Cafodd y Bil ei basio gan Senedd Cymru (Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar y pryd) ar 8 Mai 2018.

Mwy o wybodaeth am Ddeddf a gofnod o hynt y Bil trwy'r Senedd ar senedd.cymru.

Mae’r Memorandwm Esboniadol a luniwyd gan Lywodraeth Cymru (fel y cafodd ei ddiwygio ar ôl Cyfnod 2):

Cafodd y Ddeddf y Cydsyniad Brenhinol ar 13 Mehefin 2018.