Neidio i'r prif gynnwy

Elin Jones AS, Gweinidog Cabinet dros Gyllid

Cyhoeddwyd gyntaf:
31 Gorffennaf 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Heddiw, rwy'n lansio ymgynghoriad ynglŷn â newidiadau i'r meini prawf gosod ar gyfer dosbarthu eiddo hunanddarpar at ddibenion trethi lleol.

Caiff eiddo hunanddarpar ei ddosbarthu’n eiddo domestig ac yn atebol i dalu'r dreth gyngor, oni bai ei fod yn bodloni meini prawf penodol sy'n ymwneud â'i weithgarwch gosod masnachol. Os yw eiddo yn bodloni'r meini prawf hyn, mae ardrethi annomestig yn berthnasol iddo. Ers 1 Ebrill 2023, mae'r meini prawf wedi cynnwys gofynion bod yr eiddo ar gael i'w osod am o leiaf 252 diwrnod, a'i fod wedi'i osod am o leiaf 182 diwrnod yn ystod y flwyddyn flaenorol.

Roedd ein maniffesto yn cynnwys ymrwymiad i barhau i adolygu’r trothwy gosod o 182 diwrnod ac i greu eithriadau newydd clir a rhesymol pan na fyddai llety hunanddarpar yn gymwys i fod yn gartref preifat. Mae'r datganiad a'r ymgynghoriad hwn yn rhoi diweddariad ar ein dull o gyflawni'r ymrwymiad hwn ac yn nodi cynigion penodol ar gyfer eithriadau, fel bod modd sicrhau datrysiad parhaol a chynaliadwy i’r mater hwn.

Mae twristiaeth yn rhan bwysig o'r economi yng Nghymru, ond gall effeithio ar y farchnad dai i bobl leol. Rydym am ddod o hyd i'r cydbwysedd cywir rhwng y cyfraniad economaidd a wneir gan lety gwyliau hunanddarpar a gallu awdurdodau lleol i ymateb i unrhyw broblemau sy'n codi o ganlyniad i orgyflenwad mewn rhai ardaloedd.

Dros y degawd rhwng 2013 a 2023, fe wnaeth nifer yr eiddo hunanddarpar y mae ardrethi annomestig yn berthnasol iddynt dreblu bron, o tua 4,000 i dros 11,000. Roedd hyn yn achosi pryderon bod gorgyflenwad, yn enwedig mewn rhai ardaloedd, yn cyfyngu ar y cyfraniad economaidd a wneir gan rai eiddo, a phryder am y stoc tai sydd ar gael i gymunedau lleol. Ar ôl gosod y trothwy o 182 diwrnod a chynnydd pellach mewn gweithgarwch gosod gan rai gweithredwyr, mae tua 8,000 o eiddo hunanddarpar bellach wedi'u rhestru ar gyfer ardrethi annomestig. Mae hyn tua 70% o'r brig yn 2023.

Er bod nodau'r trothwy gosod yn cael eu derbyn yn gyffredinol, bu dadl gyson am y lefel a'r effaith ar fusnesau hunanddarpar gwirioneddol. Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod nad yw'r trothwy gosod o 182 diwrnod wedi'i gyflawni ar gyfer rhai eiddo hunanddarpar sefydledig sy'n cael eu gosod am bron i hanner y flwyddyn ac sy'n gwneud cyfraniad sylweddol i'w heconomïau lleol. Rydym felly'n adolygu'r trothwy o 182 diwrnod.

Dylid cydnabod hefyd bod rhai o'r eiddo nad ydynt wedi cyrraedd y trothwy o 182 diwrnod yn cael eu gosod am ychydig mwy na 10 wythnos (70 diwrnod) y flwyddyn yn unig. Mae’n annhebygol mai dyma’r cyfraniad gorau posibl y gallai eiddo o’r fath ei wneud i'w cymunedau lleol. Mae gan berchnogion yr opsiwn i barhau i ddarparu llety hunanddarpar am ran o'r flwyddyn, gan dderbyn y bydd eu cyfraniad yn cael ei wneud drwy'r dreth gyngor. 

Mae'n rhaid taro cydbwysedd gofalus wrth adolygu'r trothwy o 182 diwrnod ac ni fyddai unrhyw ddewis posibl arall yn bodloni'r holl randdeiliaid. Mae’n bosibl y bydd Llywodraeth Cymru yn dymuno ystyried gostyngiad cymedrol i'r trothwy gosod, gan gymryd canfyddiadau ein hadolygiad i ystyriaeth. Mae’n bosibl y gallai unrhyw ostyngiad o fwy na phedair wythnos y flwyddyn, er enghraifft, arwain at risg o danseilio nod y trothwy gosod yn sylweddol. 

Byddwn yn adolygu'r dystiolaeth sydd ar gael ac yn ymgysylltu ymhellach â rhanddeiliaid, gan gynnwys cynrychiolwyr y sector hunanddarpar ac awdurdodau lleol. Bydd yr ymgynghoriad yn cyfrannu at yr adolygiad drwy geisio barn ar yr effeithiau y gallai gostyngiad yn y trothwy gosod ei gael. Byddwn yn cwblhau’r adolygiad erbyn diwedd y flwyddyn.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn cydnabod na ellid defnyddio pob eiddo hunanddarpar fel cartrefi parhaol. Rydym felly'n cynnig pum eithriad ar gyfer yr amgylchiadau canlynol:

  1. Eiddo sy'n rhan o fusnes ehangach
  2. Eiddo aml-uned mawr
  3. Eiddo sy'n destun cyfyngiad cynllunio perthnasol
  4. Eiddo o fewn cwrtil cartref y perchennog
  5. Eiddo ar fferm y perchennog

Mae'n bwysig y gellir cymhwyso'r eithriadau yn gyson, gan leihau unrhyw risg o ganlyniadau anfwriadol. Mae'r ymgynghoriad yn disgrifio’r cynigion yn fanwl ac yn gofyn i bobl am eu sylwadau. 

Bydd yr ymgynghoriad yn para 12 wythnos, o 31 Gorffennaf tan 23 Hydref 2026. 

Yn amodol ar ganlyniad yr ymgynghoriad a'r adolygiad o'r trothwy 182 diwrnod, byddai angen deddfwriaeth i weithredu unrhyw newidiadau. Y bwriad yw y bydd yn dod i rym ar 1 Ebrill 2027.

Cyhoeddir y datganiad hwn yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau. Os bydd Aelodau am imi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynghylch hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddaf yn hapus i wneud hynny.