Neidio i'r prif gynnwy

Trosolwg o Ddeddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017, ei gynnydd trwy'r Senedd a'r is-ddeddfwriaeth.

Cyhoeddwyd gyntaf:
15 Rhagfyr 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Trosolwg

Mae Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017 (y Ddeddf) yn gosod treth ar drafodiadau tir sy’n digwydd yng Nghymru. Yr enw a roddir arni yw’r “dreth trafodiadau tir” ac mae’n effeithio ar bobl sy’n prynu eiddo preswyl i fyw ynddo, yn ogystal â phersonau sy’n caffael eiddo amhreswyl (fel rhan o fusnes, er enghraifft). 

Gwneir darpariaeth ynglŷn â’r prif gysyniadau sy’n sail i’r dreth, gan gynnwys:

  • pa drafodiadau sy’n cyfrif fel trafodiadau tir
  • beth yw buddiant trethadwy a pha bryd y mae’n gymwys
  • pa drafodiadau tir y caiff y dreth ei chodi arnynt
  • bandiau a chyfraddau treth
  • sut i gyfrifo’r dreth
  • y mathau o ryddhad sydd ar gael rhag y dreth

Mae’r Ddeddf yn egluro sut y mae’r dreth yn gymwys i lesoedd, ac i gwmnïau, partneriaethau ac ymddiriedolaethau. Mae hefyd yn egluro pa bryd a phwy y mae’n ofynnol iddynt ddychwelyd ffurflenni a gwneud taliadau i Awdurdod Cyllid Cymru. Gwneir darpariaeth hefyd i wrthweithio trefniadau i osgoi trethi datganoledig. 

Mae rhagor o wybodaeth am y Ddeddf ar gael yn y Nodiadau Esboniadol:

Darllenwch y Ddeddf yn llawn:

Dod i rym

Daeth Rhan 8 o’r Ddeddf (ac eithrio adran 76 ac Atodlen 23) i rym ar 25 Mai 2017, sef y diwrnod ar ôl i’r Ddeddf gael y Cydsyniad Brenhinol, yn unol ag adran 81(1). Daw gweddill darpariaethau’r Ddeddf hon i rym a bennir gan Weinidogion Cymru mewn gorchymyn a wneir drwy offeryn statudol, yn unol ag adran 81(2).

Mae’r gorchmynion a ganlyn wedi eu gwneud:

Is-ddeddfwriaeth a wnaed o dan y Ddeddf

Is-ddeddfwriaeth a wnaed o dan y Ddeddf 
TeitlRhifDyddiad gwneudDyddiad dod i rymDogfennau ategol
Rheoliadau Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017 (Diwygio Atodlen 5) 2026 ar legislation.gov.uk2026 Rhif 4211 Chwefror 202613 Chwefror 20262026 Rhif 42: Memorandwm Esboniadol ar senedd.cymru
Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir (Addasu Rhyddhad ar gyfer Caffaeliadau sy’n Ymwneud ag Anheddau Lluosog) (Cymru) ar legislation.gov.uk2026
 
2026 Rhif 4011 Chwefror 202613 Chwefror 20262026 Rhif 40: Memorandwm Esboniadol ar senedd.cymru
Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir (Addasu Rhyddhad ar gyfer Safleoedd Treth Arbennig) (Rhif 3) (Cymru) 2025 ar legislation.gov.uk2025 Rhif 1210 (Cy. 197)19 Tachwedd 202512.01 a.m. ar 21 Tachwedd 20252025 Rhif 1210 (Cy. 197): Memorandwm Esboniadol ar senedd.cymru
Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir (Addasu Rhyddhad ar gyfer Safleoedd Treth Arbennig) (Rhif 2) (Cymru) 2025 ar legislation.gov.uk2025 Rhif 1209 (Cy. 196)19 Tachwedd 202512.00 a.m. ar 21 Tachwedd 
2025
2025 Rhif 1209 (Cy. 196): Memorandwm Esboniadol ar senedd.cymru
Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir (Addasu Rhyddhad ar gyfer Caffaeliadau sy’n Ymwneud ag Anheddau Lluosog) (Cymru) 2025 ar legislation.gov.uk2025 Rhif 119 (Cy. 26)5 Chwefror 20257 Chwefror 2025Memorandwm 2025 Rhif 119 (Cy. 26): Esboniadol ar senedd.cymru
Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir (Addasu Rhyddhad ar gyfer Safleoedd Treth Arbennig) (Cymru) 2025 ar legislation.gov.uk2025 Rhif 54 (Cy. 14)22 Ionawr 202523 Ionawr 20252025 Rhif 54 (Cy. 14): Memorandwm Esboniadol ar senedd.cymru
Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir (Bandiau Treth a Chyfraddau Treth) (Cymru) (Diwygio) 2024 ar legislation.gov.uk2024 Rhif 1311 (Cy. 220)10 Rhagfyr 202411 Rhagfyr 20242024 Rhif 1311 (Cy. 220): Memorandwm Esboniadol ar senedd.cymru
Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir (Rhyddhad ar gyfer Safleoedd Treth Arbennig) (Cymru) 2024 ar legislation.gov.uk2024 Rhif 1193 (Cy. 195)20 Tachwedd 202426 Tachwedd 2024Memorandwm 2024 Rhif 1193 (Cy. 195): Esboniadol ar senedd.cymru
Rheoliadau Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017 (Diwygio Atodlen 5) 2024 ar legislation.gov.uk2024 Rhif 791 (Cy. 124)    10 Gorffennaf 202412 Gorffennaf 20242024 Rhif 791 (Cy. 124): Memorandwm Esboniadol ar senedd.cymru
 
Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir (Bandiau Treth a Chyfraddau Treth) (Cymru) (Diwygio) 2022 ar legislation.gov.uk2022 Rhif 1027 (Cy. 220)6 Hydref 2022    10 Hydref 2022    2022 Rhif 1027 (Cy. 220): Memorandwm Esboniadol ar senedd.cymru
Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir (Amrywio Dros Dro Gyfraddau a Bandiau ar gyfer Trafodiadau Eiddo Preswyl) (Cymru) (Diwygio) 2021 ar legislation.gov.uk    2021 Rhif 238 (Cy. 61)       3 Mawrth 2021   1 Ebrill 2021  2021 Rhif 238 (Cy. 61): Memorandwm Esboniadol ar senedd.cymru
Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir (Swm Penodedig o Rent Perthnasol) (Cymru) (Diwygio) 2021 ar legislation.gov.uk
      
2021 Rhif 119 (Cy. 32)  3 Chwefror 2021    4 Chwefror 2021   2021 Rhif 119 (Cy. 32): Memorandwm Esboniadol (Saesneg yn unig) ar senedd.cymru
Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir (Bandiau Treth a Chyfraddau Treth) (Cymru) (Diwygio) 2020 ar legislation.gov.uk 2020 Rhif 1618 (Cy. 339)   21 Rhagfyr 2020   22 Rhagfyr 2020    2020 Rhif 1618 (Cy. 339): Memorandwm Esboniadol ar senedd.cymru
Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir (Amrywio Dros Dro Gyfraddau a Bandiau ar gyfer Trafodiadau Eiddo Preswyl) (Cymru) 2020 ar legislation.gov.uk2020 Rhif 794 (Cy. 174)      22 Gorffennaf 2020  27 Gorffennaf 2020   2020 Rhif 794 (Cy. 174): Memorandwm Esboniadol ar senedd.cymru
Rheoliadau Cyfraith yr EU a Ddargedwir (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â'r UE) 2019 ar legislation.gov.uk2019 Rhif 1281 (Cy. 255)24 Medi 201931 Ionawr 20202019 Rhif 1281 (Cy. 255): Memorandwm Esboniadol (Saesneg yn unig) ar senedd.cymru
Rheoliadau Deddfau Trethi Cymru (Diwygiadau Amrywiol) (Ymadael â'r EU) 2019 ar legislation.gov.uk2019 Rhif 833 (Cy. 153)2 Ebrill 201931 Ionawr 2020, ar wahân i Ran 2, a ddaeth i rym ar 1 Ebrill 20192019 Rhif 833 (Cy. 153): Memorandwm Esboniadol (Saesneg yn unig) ar senedd.cymru
Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir (Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) (Diwygio) 2018 ar legislation.gov.uk   2018 Rhif 401 (Cy. 71)       22 Mawrth 2018 1 Ebrill 2018   2018 Rhif 401 (Cy. 71) : Memorandwm Esboniadol (Saesneg yn unig) ar senedd.cymru
Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir (Bandiau Treth a Chyfraddau Treth) (Cymru) 2018 ar legislation.gov.uk2018 Rhif 128 (Cy. 32)31 Ionawr 20181 Ebrill 2018 2018 Rhif 128 (Cy. 32): Memorandwm Esboniadol ar senedd.cymru
Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir (Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) 2018 ar legislation.gov.uk2018 Rhif 126 (Cy. 31)31 Ionawr 20181 Ebrill 20182018 Rhif 126 (Cy. 31): Memorandwm Esboniadol (Saesneg yn unig) ar senedd.cymru
Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir (Swm Penodedig o Rent Perthnasol) (Cymru) 2018 ar legislation.gov.uk    2018 Rhif 133 (Cy. 34)    31 Ionawr 2018    1 Ebrill 2018    2018 Rhif 133 (Cy. 34): Memorandwm Esboniadol (Saesneg yn unig) ar senedd.cymru
Rheoliadau Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017 (Diwygio Atodlen 5) 2018 ar legislation.gov.uk     2018 Rhif 125 (Cy. 30)      31 Ionawr 2018  1 Ebrill 2018    2018 Rhif 125 (Cy. 30): Memorandwm Esboniadol (Saesneg yn unig) ar senedd.cymru
Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir (Gweinyddu) (Cymru) 2018 ar legislation.gov.uk    2018 Rhif 2 (Cy. 2)      4 Ionawr 2018  1 Ebrill 2018    2018 Rhif 2 (Cy. 2): Memorandwm Esboniadol (Saesneg yn unig) ar senedd.cymru

Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig hefyd wedi gwneud y gorchymyn hwn o dan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006:  

Ystyriaeth y Senedd o’r ddeddfwriaeth

Cyflwynwyd y Bil ar 12 Medi 2016 gan Mark Drakeford AS, a oedd yn Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol ar y pryd. Cafodd ei basio gan Senedd Cymru (Cynulliad Cenedlaethol Cymru bryd hynny) ar 4 Ebrill 2017.

Mwy o wybodaeth am y Bil a gofnod o hynt y Bil trwy'r Senedd ar senedd.cymru.

Mae'r Memorandwm Esboniadol a luniwyd gan Lywodraeth Cymru (fel y cafodd ei ddiwygio ar ôl Cyfnod 2):

Erthyglau a gwybodaeth gysylltiedig