Neidio i'r prif gynnwy

Trosolwg o Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016, ei gynnydd trwy'r Senedd a'r is-ddeddfwriaeth.

Cyhoeddwyd gyntaf:
3 Ionawr 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Trosolwg

Mae Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016 (‘y Ddeddf’) yn darparu’r fframwaith cyfreithiol ar gyfer casglu a rheoli trethi datganoledig yng Nghymru yn y dyfodol ac yn sefydlu Awdurdod Cyllid Cymru (ACC), y corff sy’n gyfrifol am gasglu a rheoli trethi datganoledig.

Mae’r Ddeddf yn cynnwys darpariaeth ar gyfer:

  • rhoi pwerau a dyletswyddau priodol i ACC (a dyletswyddau a hawliau cyfatebol ar drethdalwyr ac eraill) mewn perthynas â dychwelyd ffurflenni treth a chynnal ymchwiliadau ac asesiadau i alluogi ACC i nodi a chasglu swm priodol o drethi datganoledig sy’n ddyledus gan drethdalwyr
  • pwerau ymchwilio a gorfodi sifil cynhwysfawr, gan gynnwys pwerau sy’n galluogi ACC i ofyn am wybodaeth a dogfennau ac i asesu ac archwilio mangreoedd ac eiddo arall
  • dyletswyddau ar drethdalwyr i dalu cosbau a llog dan rai amgylchiadau
  • hawliau i drethdalwyr ofyn am adolygiadau mewnol o rai o benderfyniadau ACC ac i apelio i Dribiwnlys yr Haen Gyntaf yn erbyn penderfyniadau o’r fath
  • cyflwyno pwerau gorfodi troseddol i ACC

Mae’r Nodiadau Esboniadol i’r Ddeddf yn rhoi sylwebaeth fanwl ar y darpariaethau amrywiol:

Darllenwch y Ddeddf yn llawn:

Dod i rym

Daeth Rhan 1, adrannau 37, 82, 117 a 171, a Rhan 10 i rym ar 26 Ebrill 2016, sef y diwrnod ar ôl i'r Ddeddf gael Cydsyniad Brenhinol, yn unol ag adran 194(1). Daw gweddill darpariaethau'r Ddeddf hon i rym ddiwrnod a bennir gan Weinidogion Cymru drwy orchymyn a wneir drwy offeryn statudol, yn unol ag adran 194(2):

Mae'r gorchmynion canlynol wedi eu gwneud:

Is-ddeddfwriaeth a wnaed o dan y Ddeddf

Is-ddeddfwriaeth a wnaed o dan y Ddeddf
TeitlRhifDyddiad gwnaedDyddiad dod i rym Dogfennau ategol
Rheoliadau Casglu a Rheoli Trethi (Costau Ardoll Ymwelwyr) (Cymru) 2026 ar legislation.gov.uk2026 Rhif 264 Chwefror 202613 Chwefror 2026Memorandwm Esboniadol ar senedd.cymru
Rheoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cyfraddau Treth) (Diwygio) a Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016 (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2024 ar legislation.gov.uk2024 Rhif 367 (Cy. 67)31 Mawrth 20241 Ebrill 2024Memorandwm Esboniadol ar senedd.cymru
Rheoliadau Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016 (Darpariaeth Atodol) 2018 ar legislation.gov.uk2018 Rhif 768 (Cy. 155)24 Mehefin 201820 Gorffennaf 2018Memorandwm Esboniadol – heb fod ar gael
Rheoliadau Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016 (Darpariaethau Canlyniadol ac Atodol)  ar legislation.gov.uk20182018 Rhif 285 (Cy. 54)26 Chwefror 20181 Ebrill 2018Memorandwm Esboniadol (Saesneg yn unig) ar senedd.cymru
Rheoliadau Casglu a Rheoli Trethi (Cofnodion Treth Gwarediadau Tirlenwi) (Cymru) 2018 ar legislation.gov.uk2018 Rhif 276 (Cy. 52)27 Chwefror 20181 Ebrill 2018 Memorandwm Esboniadol (Saesneg yn unig) ar senedd.cymru
Rheoliadau Casglu a Rheoli Trethi (Trefniadau Talu’n Ôl) (Cymru) 2018 ar legislation.gov.uk2018 Rhif 88 (Cy. 21)24 Ionawr 20181 Ebrill 2018Memorandwm Esboniadol (Saesneg yn unig) ar senedd.cymru
Rheoliadau Casglu a Rheoli Trethi (Datgelu a Ganiateir) (Cymru) 2017 ar legislation.gov.uk2017 Rhif 1163 (Cy. 289)28 November 201729 November 2017Memorandwm Esboniadol (Saesneg yn unig) ar senedd.cymru
Rheoliadau Casglu a Rheoli Trethi (Gweinyddu) (Cymru)  ar legislation.gov.uk20172017 Rhif 1022 (Cy. 260)23 Hydref 2017

1 Ebrill 2018

21 Tachwedd 2017 - Rhan 1 a 2 o’r Rheoliadau

Memorandwm Esboniadol (Saesneg yn unig) ar senedd.cymru

Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig hefyd wedi gwneud y Gorchymyn hwn o dan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006:  

 

Ystyriaeth y Senedd o’r ddeddfwriaeth

Cyflwynwyd y Bil ar 13 Gorffennaf 2015 gan Jane Hutt AS, Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth ar y pryd. Cafodd ei basio gan Senedd Cymru (Cynulliad Cenedlaethol Cymru bryd hynny) ar 8 Mawrth 2016.

Mwy o wybodaeth am Ddeddf a gofnod o hynt y Bil trwy'r Senedd ar senedd.cymru.

Mae'r Memorandwm Esboniadol a luniwyd gan Lywodraeth Cymru (fel y cafodd ei ddiwygio ar ôl cyfnod 2):

Cafodd y Ddeddf y Cydsyniad Brenhinol ar 25 Ebrill 2016.