Trosolwg o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016, ei gynnydd trwy'r Senedd a'r is-ddeddfwriaeth.
Cynnwys
Trosolwg
Mae Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 (‘y Deddf’) yn cynnwys darpariaeth ar gyfer:
- cynllunio a rheoli adnoddau naturiol Cymru ar lefel genedlaethol a lleol;
- rhoi pwrpas cyffredinol i Cyfoeth Naturiol Cymru sy’n gysylltiedig â’r ‘egwyddorion rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy’ a ddiffinnir yn y Bil;
- gwella’r pwerau sydd ar gael i Cyfoeth Naturiol Cymru wneud cytundebau rheoli tir a chynlluniau arbrofol;
- rhoi gofyniad ar awdurdodau cyhoeddus i gynnal a gwella bioamrywiaeth;
- creu fframwaith statudol ar gyfer gweithredu ar newid hinsawdd, gan gynnwys targedau ar gyfer lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr;
- diwygio’r gyfraith ar godi tâl am fagiau siopa;
- rhoi pwerau i Weinidogion Cymru mewn perthynas ag ailgylchu gwastraff (yn cynnwys casglu gwastraff ar wahân) a thrin gwastraff bwyd;
- gwneud darpariaeth ynghylch gorchmynion pysgodfa unigol a rheoleiddio mewn perthynas â physgodfeydd cregyn;
- ffioedd ar gyfer trwyddedau morol;
- sefydlu Pwyllgor Llifogydd ac Erydu Arfordirol; a
- newidiadau i'r gyfraith ar ddraenio tir ac is-ddeddfau a wneir gan Cyfoeth Naturiol Cymru.
Mae’r Nodiadau Esboniadol i’r Ddeddf yn rhoi sylwebaeth fanwl ar y darpariaeth amrywiol:
Darllenwch y Ddeddf yn llawn:
Dod i rym
Daeth Rhan 8 o'r Ddeddf i rym ar 21 Mawrth 2016, sef y diwrnod y cafodd y Ddeddf y Cydsyniad Brenhinol, yn unol ag adran 88(1). Daeth Rhannau 1, 2 a 5, ac adrannau 82, 84, 85 ac 86 i rym ar ddiwedd y cyfnod o ddau fis sy’n dechrau â'r diwrnod y cafodd y Ddeddf y Cydsyniad Brenhinol. Daw gweddill darpariaethau'r Ddeddf i rym ar ddiwrnod a bennir gan Weinidogion Cymru mewn gorchymyn a wneir drwy offeryn statudol, yn unol ag adran 88(3).
Darllenwch adran 88 o'r Ddeddf ar legislation.gov.uk.
Mae’r gorchmynion canlynol wedi eu gwneud:
- Gorchymyn Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 (Cychwyn Rhif 4) 2023 ar legislation.gov.uk
- Gorchymyn Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 (Cychwyn Rhif 3) 2017 ar legislation.gov.uk
- Gorchymyn Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 (Cychwyn Rhif 2) 2017 ar legislation.gov.uk
- Gorchymyn Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 (Cychwyn Rhif 1) 2017 ar legislation.gov.uk
Is-ddeddfwriaeth a wnaed o dan y Ddeddf
Ystyriaeth y Senedd o’r ddeddfwriaeth
Cyflwynwyd y Bil ar 11 Mai 2016 gan Carl Sargeant AC, y Gweinidog Cyfoeth Naturiol ar y pryd, a chafodd ei basio ar 2 Chwefror 2016.
Mae’r Memorandwm Esboniadol a luniwyd gan Lywodraeth Cymru (fel y cafodd ei ddiwygio ar ôl Cyfnod 2):
Cafodd y Ddeddf y Cydsyniad Brenhinol ar 21 Mawrth 2016.
