Trosolwg o Ddeddf Cymwysterau Cymru 2015, ei gynnydd trwy'r Senedd a'r is-ddeddfwriaeth.
Cynnwys
Trosolwg
Mae Deddf Cymwysterau Cymru 2015 (‘y Ddeddf’) yn sefydlu corff newydd o’r enw Cymwysterau Cymru fel y corff rheoleiddio annibynnol sy’n gyfrifol am gydnabod cyrff dyfarnu cymwysterau penodol yng Nghymru, ac am adolygu a chymeradwyo cymwysterau nad ydynt yn raddau yng Nghymru.
Mae’r Ddeddf yn mynd i’r afael â phedwar prif wendid y system bresennol, sef:
- nad oes yna un sefydliad penodol sy’n ymroddedig i sicrhau effeithiolrwydd cymwysterau a’r system gymwysterau;
- nad oes unrhyw bwerau i flaenoriaethu cymwysterau er mwyn canolbwyntio ar y cymwysterau y mae angen eu rheoleiddio fwyaf;
- nad oes unrhyw bwerau i ddewis un darparwr ar gyfer cymhwyster penodol i sicrhau bod dysgwyr ledled Cymru yn cymryd yr un cymhwyster; ac
- nad oes digon o gapasiti i hyrwyddo’r gwaith o ddatblygu cymwysterau yn strategol o fewn y trefniadau cyfredol.
Mae’r Nodiadau Esboniadol i’r Ddeddf yn rhoi sylwebaeth fanwl ar y darpariaethau amrywiol:
Darllenwch y Ddeddf yn llawn:
Dod i rym
Daeth adrannau 1, 2(3), 55 i 57, 59 i 61 ac Atodlen 2 o’r Ddeddf i rym ar 5 Awst 2015, sef y diwrnod y cafodd y Ddeddf y Cydsyniad Brenhinol, yn unol ag adran 60(1).
Daw darpariaethau eraill y Ddeddf hon i rym ar ddiwrnod a bennir gan Weinidogion Cymru drwy orchymyn a wneir drwy offeryn statudol, yn unol ag adran 60(2).
Mae’r gorchmynion canlynol wedi eu gwneud:
Is-ddeddfwriaeth a wnaed o dan y Ddeddf
| Enw | Rhif | Dyddiad gwaned | Dyddiad dod i rym | Dogfennau ategol |
|---|---|---|---|---|
| Rheoliadau Cymwysterau Cymru (Cosbau Ariannol) (Penderfynu ar Drosiant) 2019 ar legislation.gov.uk | 2019 Rhif 796 (Cy. 149) | 3 Ebrill 2019 | 12 Ebrill 2019 | 2019 Rhif 796 (Cy. 149): Memorandwm Esboniadol (Saesneg yn unig) ar senedd.cymru |
| Rheoliadau Deddf Cymwysterau Cymru 2015 (Diwygiadau Canlyniadol) 2016 ar legislation.gov.uk | 2016 Rhif. 236 (Cy. 88) | 24 Chwefror 2016 | 1 Mai 2016 | 2016 Rhif. 236 (Cy. 88): Memorandwm Esboniadol (Saesneg yn unig ar senedd.cymru) |
Yn ogystal, mae Llywodraeth y DU wedi gwneud y Gorchymyn canlynol:
The Qualifications Wales Act 2015 (Consequential Provision) Order 2017 ar legislation.gov.uk
Ystyriaeth y Senedd o’r ddeddfwriaeth
Cyflwynwyd y Bil ar 1 Rhagfyr 2014 gan Huw Lewis AC, a oedd yn Weinidog Addysg a Sgiliau ar y pryd. Cafodd ei basio gan Senedd Cymru (Cynulliad Cenedlaethol Cymru bryd hynny) ar 16 Mehefin 2015.
Mae'r Memorandwm Esboniadol a luniwyd gan Lywodraeth Cymru (fel y cafodd ei ddiwygio ar ôl Cyfnod 2):
Cafodd y Ddeddf y Cydsyniad Brenhinol ar 5 Awst 2015.
