Cyfarfod y Cabinet: 15 Mehefin 2026
Cofnodion cyfarfod o'r Cabinet ar 15 Mehefin 2026.
Ar y dudalen hon
Yn bresennol
- Rhun ap Iorwerth AS (Cadeirydd)
- Sioned Williams AS
- Mabon ap Gwynfor AS
- Anna Brychan AS
- Heledd Fychan AS
- Llŷr Gruffydd AS
- Siân Gwenllian AS
- Y Gwir Anrhydeddus Elin Jones AS
- Adam Price AS
- Dafydd Trystan Davies AS
- Y Gwir Anrhydeddus Elfyn Llwyd
Swyddogion
- Andrew Goodall, yr Ysgrifennydd Parhaol
- Rachel Garside-Jones, Cyfarwyddwr Swyddfa’r Prif Weinidog
- Jo Salway, Cyfarwyddwr Swyddfa’r Cabinet
- Toby Mason, Cyfarwyddwr Cyfathrebu Strategol
- Carwyn Wycherley, Dirprwy Bennaeth Swyddfa’r Cabinet
- Aled ap Dafydd, Uwch-gynghorydd Arbennig
- Elin Roberts, Uwch Gynghorydd Arbennig
- Emily Edwards, Uwch-gynghorydd Arbennig
- Francess Ifan, Uwch-gynghorydd Arbennig
- Cai Elis, Cynghorydd Arbennig
- Jonathan Evershed, Cynghorydd Arbennig
- Sophie Jones, Ysgrifenyddiaeth y Cabinet (cofnodion)
- Christopher W Morgan, Ysgrifenyddiaeth y Cabinet (cofnodion)
- Katie Mason, Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
- Andrew Jeffreys, Cyfarwyddwr Trysorlys Cymru (eitem 4)
- Emma Watkins, Dirprwy Gyfarwyddwr Is-adran y Gyllideb a Busnes y Llywodraeth (eitem 4)
- Sharon Bounds, Dirprwy Gyfarwyddwr Rheoli Ariannol (eitem 4)
- Nicola Edwards, Dirprwy Gyfarwyddwr Cydraddoldeb mewn Addysg (eitem 5)
- Martyn Gunter, Pennaeth Cyfoethogi ac Ymgysylltu (eitem 5)
Eitem 1: Cofnodion y Cyfarfod blaenorol
1.1 Cymeradwyodd y Cabinet gofnodion 1 Mehefin.
Eitem 2: Eitemau’r Prif Weinidog
Cyhoeddiad Llywodraeth y DU ynghylch gwahardd cyfryngau cymdeithasol i blant o dan 16 oed
2.1 Cyfeiriodd y Prif Weinidog at y cyhoeddiad diweddar gan Lywodraeth y DU a oedd yn nodi y byddai’n cyflwyno isafswm oedran ar gyfer cyfyngu ar allu pobl ifanc o dan 16 oed i ddefnyddio ystod o lwyfannau cyfryngau cymdeithasol, yn debyg i’r model a roddir ar waith yn Awstralia. Dyma’r ymateb cyntaf i’r ymgynghoriad a gynhaliwyd ynglŷn â chyfryngau cymdeithasol a phobl ifanc.
2.2 Roedd y Gweinidog Cabinet dros Fenter, Cysylltedd ac Ynni wedi trafod y gwaharddiad arfaethedig â Gweinidog AI a Diogelwch Ar-lein Llywodraeth y DU y bore blaenorol, lle cadarnhawyd y byddai’r gwaharddiad yn canolbwyntio ar y rhai o dan 16 oed, ond y byddai cyfyngiadau hefyd ar swyddogaethau, yn ddiofyn, i bobl ifanc 16 ac 17 oed.
2.3 Nodwyd bod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddiogelu pobl ifanc ar-lein. Byddai angen asesu’n ofalus oblygiadau effaith ehangach y cyhoeddiad ar y rhai yr effeithir arnynt a’r effaith ar feysydd sydd wedi’u datganoli, megis iechyd a llesiant ac addysg yn benodol. Cydnabuwyd hefyd fod rôl i gwmnïau technoleg ystyried y goblygiadau er budd llesiant pobl ifanc.
Eitem 3: Busnes y Senedd
3.1 Ystyriodd y Cabinet grid y Cyfarfod Llawn ar gyfer yr wythnos honno a nodwyd y byddai’r datganiad gan y Gweinidog Cabinet dros Addysg a’r Gymraeg yn canolbwyntio ar flaenoriaethau ar gyfer addysg. Nodwyd y byddai datganiad arall ynglyn â’r Gymraeg yn cael ei wneud yn ddiweddarach yn y tymor.
3.2 Cafwyd cytundeb ynglŷn â pha grwpiau gwleidyddol fyddai’n cadeirio pwyllgorau.
Byddai Plaid Cymru yn cadeirio’r pwyllgorau a ganlyn:
- Pwyllgor y Blynyddoedd Cynnar, Plant, Pobl Ifanc ac Addysg
- y Pwyllgor Safonau Ymddygiad
- y Pwyllgor Cydraddoldeb, Hawliau Dynol a Chyfiawnder Cymdeithasol
- Pwyllgor yr Economi, Ynni a Chysylltedd
- y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg a Chwaraeon
- Phwyllgor y Cyfansoddiad, Cyfiawnder a Materion Allanol.
Byddai Reform yn cadeirio’r pwyllgorau a ganlyn:
- Y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Materion Gwledig
- y Pwyllgor Llywodraeth Leol, Tai a Chynllunio
- y Pwyllgor Deddfwriaeth
- y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus
- Pwyllgor Deisebau
Byddai Llafur yn cadeirio’r pwyllgorau a ganlyn:
- Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Byddai Ceidwadwyr yn cadeirio’r pwyllgorau a ganlyn:
- Pwyllgor Cyllid
Eitem 4: Y diweddaraf ar Sefyllfa’r Gyllideb – Ariannu Blaenoriaethau a Chyllideb Atodol Gyntaf 2026-27 CAB(26-27)07
4.1 Cyflwynodd y Gweinidog Cabinet dros Gyllid y papur, a oedd yn gofyn i’r Cabinet gymeradwyo Cyllideb Atodol Gyntaf 2026-27 a nodi’r gweithgarwch cyfathrebu a chyhoeddi arfaethedig.
4.2 Y Gyllideb Atodol Gyntaf oedd y cyfle cyntaf i gynnig newidiadau i gyllideb y flwyddyn a dechrau’r broses o sicrhau bod gwariant yn cyd-fynd â blaenoriaethau’r Llywodraeth. Roedd y gwaith yn canolbwyntio ar set wedi’i dargedu o ddyraniadau adnoddau a chyfalaf ychwanegol i sicrhau cynnydd o ran y blaenoriaethau, gan hefyd arddangos rheoli ariannol gofalus.
4.3 Roedd y papur yn amlinellu’r dyraniadau wedi’u targedu, gan ddod i gyfanswm o £164m o gyllid adnoddau a £130m o gyllid cyfalaf.
4.4 Cymeradwyodd y Cabinet y papur a nodwyd y dull gweithredu ar gyfer rheoli yn ystod y flwyddyn. Byddai’r Gyllideb Atodol Gyntaf yn cael ei chyhoeddi ar 23 Mehefin, a’i thrafod yn y Senedd ar 14 Gorffennaf.
Eitem 5: Ffonau symudol mewn ysgolion CAB(26-27)10
5.1 Cyflwynodd y Gweinidog Cabinet dros Addysg a’r Gymraeg y papur, a oedd yn gofyn i’r Cabinet nodi canfyddiadau arolwg cenedlaethol ar-lein a gynhaliwyd gan Lywodraeth Cymru yn ddiweddar ynghylch ffonau symudol mewn ysgolion a chytuno ar y dull gweithredu a argymhellir ar gyfer cyfyngu ar ddefnydd dyfeisiau o’r fath.
5.2 Ar hyn o bryd, nid oedd deddfwriaeth na chanllawiau penodol ar y defnydd o ffonau symudol mewn ysgolion yng Nghymru. Fodd bynnag, roedd ysgolion ac Awdurdodau Lleol yn gallu gosod eu polisïau eu hunain, gyda’r mwyafrif o ysgolion yn cyfyngu ar y defnydd o ffonau symudol yn ystod gwersi.
5.3 Nodwyd bod ffonau symudol mewn ysgolion yn gysylltiedig â materion o ran ymddygiad, bwlio ac aflonyddu, a oedd yn arwain at ddatgysylltu o addysg. Roedd galwadau cynyddol i gyfyngu ar eu defnydd, gan staff, y cyfryngau, gwleidyddion a grwpiau ymgyrchu. Yn ogystal, yn gynharach y diwrnod hwnnw, roedd Llywodraeth y DU wedi darparu ymateb cychwynnol i’r ymgynghoriad ar ddefnydd plant o gyfryngau cymdeithasol.
5.4 Roedd yr ymgynghoriad hwn wedi amlinellu sefyllfa gryfach o ran ffonau symudol mewn ysgolion, gyda’r bwriad y byddai pob ysgol a ariennir gan y wladwriaeth yn Lloegr heb ffonau symudol yn ystod y diwrnod ysgol. Rhagwelid y byddai Llywodraeth y DU yn gosod y canllawiau presennol ar ffonau symudol mewn ysgolion ar sail statudol. Byddai hyn yn rhoi grym y gyfraith i’r canllawiau ac yn disodli’r canllawiau anstatudol presennol yn Lloegr. Argymhellwyd y dylai Gweinidogion Cymru ddyroddi canllawiau tebyg.
5.5 Byddai’r dull gweithredu hwn yn sefydlu disgwyliad cenedlaethol clir a chyson ar gyfer cyfyngu ar y defnydd o ffonau symudol mewn ysgolion, gan hefyd ddarparu eglurder i arweinwyr, staff, dysgwyr a rhieni. Byddai dyletswydd ar gyrff llywodraethu ysgolion i roi sylw i’r canllawiau.
5.6 Croesawodd y Cabinet y papur.
5.7 Cymeradwyodd y Cabinet y papur.
Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
Mehefin 2026
