Cymer rhan yn y pysgodfa dreialu fasnachol-wyddonol ar gyfer tiwna asgell las yn nyfroedd Cymru.
Cynnwys
Cyflwyniad
Er mwyn cefnogi datblygu pysgodfa tiwna asgell glas fasnachol gynaliadwy ar gyfer y DU gyfan, rydyn ni'n cynnal treial masnachol-wyddonol. Rydyn ni'n gweithio mewn partneriaeth â Gweinyddiaethau Pysgodfeydd y DU a Thiriogaethau Dibynnol ar y Goron.
Mae'r treial hwn:
- ar wahân i bysgodfa fasnachol y DU
- yn wahanol i'r bysgodfa hamdden yng Nghymru a Lloegr
- yn gweithredu gan ddefnyddio rhan ar wahân o gwota tiwna asgell las y DU 2026
- nid yw'n effeithio ar awdurdodiadau trwyddedu na thrwyddedau wedi'u rhoi ar gyfer y pysgodfeydd hynny, ac
- ni fydd yn lleihau'r cwota a ddyrennir i'r pysgodfeydd hynny
Gofynnir i gyfranogwyr gyfrannu cryn data ychwanegol. Byddan nhw'n:
- cael cwota llai na'r rhai sydd wedi cael awdurdodiad trwyddedu ar gyfer pysgodfa fasnachol y DU
- cael eu hawdurdodi i dargedu tiwna asgell las mewn ardaloedd penodedig o ardal Cymru yn unig
Pwy allai wneud cais
I fod yn gymwys i wneud cais rhaid i ymgeiswyr:
- feddu ar drwydded bysgota fasnachol ddilys y DU.
- Ni fyddwch wedi cael awdurdodiad trwydded na thrwydded hamdden ar gyfer tiwna asgell las
- gwneud cais ar gyfer cwch sy'n 12 metr o hyd neu lai
- cytuno y bydd pob taith yn llai na 24 awr
Bydd angen i'r ymgeiswyr llwyddiannus:
- ddefnyddio gwialen a rîl yn unig (ddim yn taflu abwyd i'r dŵr i ddenu pysgod ('chumming'))
- cofnodi'r holl ddalfeydd a llenwi dogfennau eBCD yr ICCAT
- glanio dalfeydd ym mhorthladdoedd dynodedig Cymru (Aberdaugleddau a Chaergybi)
- cydweithredu ag unrhyw werthusiad o'r treial
- cytuno i ddilyn unrhyw hyfforddiant sy'n ofynnol cyn i'r pysgota ddechrau
- rhoi'r holl wybodaeth y gofynnir amdani mewn perthynas â gweithgareddau pysgota. Gallai hyn gynnwys:
- dyddiad a lleoliad pob dalfa
- dyddiad a lleoliad dal a rhyddhau pysgod rhy fach
- dyddiad a lleoliad unrhyw ddalfa a gollwyd
- amseroedd ymladd a chyflwr biolegol
- yr offer y daliwyd y pysgodyn ag ef
- hyd a phwysau'r pysgodyn
- porthladd glanio
- gwybodaeth gwerthu
- nifer yr aelodau o'r criw sy'n gyflogedig
- unrhyw sgil-ddalfa
- amodau'r tywydd
- nifer yr oriau y buoch yn pysgota a ble (hyd yn oed os na chafodd unrhyw bysgod eu dal).
- achosion o weld tiwna asgell las
Sut i wneud cais
Caeodd y cyfnod ymgeisio ar gyfer Datganiadau o Ddiddordeb ar 30 Awst.
Rydyn ni wedi dewis y cychod canlynol i gymryd rhan yn y bysgodfa dreialu fasnachol-wyddonol yn 2026:
- Vagabond M98
- Korey Jo M122
- Laura May M411
- Emily Jayne M45
- Safia Rose M53
