Cyfarfod Grŵp Cynghori Draenogiaid y Môr: 26 Mawrth 2026
Nodiadau'r cyfarfod a gynhaliwyd 26 Mawrth 2026.
Ar y dudalen hon
Yn bresennol
Grŵp
Colin Charman (CC)
Jim Evans (JE)
Hannah Rudd (HR)
Sion Williams (SW)
David Curtis (DC)
Simon Frobisher (SF)
Grant Jones (GJ)
Kieran Hyder (KH)
Kevin Denman (KD)
Brett Garner (BG)
Gareth Henson (GH)
Llywodraeth Cymru
Julian Bray (JB)
Seb Evans (SE)
Michelle Billing (MB)
Matt Sayer (MS)
Prideaux Hattle (PH)
Michelle Fraser (MF)
Ymddiheuriadau
Richard Strudwick (RS)
Ian McCarthy (IM)
John O’Connor (JO)
Peter Elliot (PE).
Nodiadau
Croeso a Chyflwyniadau, Diben y Cyfarfod
Croesawodd JB bawb i 11eg cyfarfod y grŵp a nododd ymddiheuriadau gan Richard Strudwick a Peter Elliot.
Adolygu a chymeradwyo nodiadau a chamau gweithredu'r cyfarfod blaenorol
Adolygodd Michelle Billing y nodiadau a'r camau gweithredu o'r cyfarfod blaenorol. Ni wnaed unrhyw sylwadau, a chytunwyd y gellid cyfieithu a chyhoeddi'r nodiadau.
Cadarnhaodd MB fod holl nodiadau'r cyfarfodydd blaenorol bellach wedi'u cyfieithu a'u cyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru.
Nodwyd bod rhai camau gweithredu cyfarfodydd blaenorol wedi'u nodi fel rhai a oedd yn weddill oherwydd blaenoriaethu elfen hamdden yr astudiaeth economaidd-gymdeithasol a'r VCRS. Bydd y gwaith ar y camau gweithredu hyn yn ailddechrau fis nesaf ochr yn ochr â'r adolygiad awdurdodi draenogiaid môr.
Roedd crynodeb un dudalen a ddosbarthwyd gyda'r agenda yn nodi'r cynnydd yn erbyn camau gweithredu FMP hyd at ddiwedd 2025 a blaenoriaethau ar gyfer 2026. Y bwriad yw i hyn gael ei gynhyrchu'n flynyddol. Gofynnwyd am adborth ar fformat a defnyddioldeb y papur erbyn dydd Gwener 24 Ebrill.
Cam gweithredu 1: cyfieithu a chyhoeddi nodiadau a chamau gweithredu o gyfarfod 10.
Rhwydo o'r lan
System Wirfoddol ar gyfer Cofnodi Dalfeydd (VCRS)
Rhoddodd SE ddiweddariad ar y system wirfoddol ar gyfer cofnodi dalfeydd o ran rhwydo o'r lan yng Nghymru.
Cafwyd cymeradwyaeth i lansio'r system gan y Dirprwy Brif Weinidog ar 1 Ebrill.
Arddangos y VCRS
Gwnaeth Michelle Fraser arddangos y system brawf VCRS, gan gynnwys y broses gofrestru ac efelychiad o ffurflen dalfa lawn i ddangos nodweddion y system. Bydd canllawiau ar gael i gefnogi defnyddwyr wrth i'r system gael ei lansio.
Yn ystod yr arddangosiad:
- gofynnodd aelod a fyddai'r system ar gael fel ap - MF i wirio hyn gyda'r tîm digidol a data
- esboniwyd na chaniateir i bobl sy'n rhwydo o'r lan at ddibenion hamdden gadw draenogiaid môr sy'n cael eu dal mewn rhwydi gosod, fel y nodir yng Nghanllawiau Pysgota Draenogiaid Môr 2026
- yn achos rhwyd a osodwyd am fwy nag un llanw, dylid darparu ffurflen dalfa bob tro y caiff y rhwyd ei chlirio, yn hytrach nag ar ddiwedd y cyfnod pysgota
- cododd aelod bryderon nad oedd y nodwedd ddilysu sy'n cyfyngu hyd rhwyd i'r hyd cyfreithiol hiraf yn briodol, o ystyried bod y defnyddiwr yn atebol am gydymffurfio. Cytunwyd y byddai'r dilysiad yn cael ei ddileu
Cam gweithredu 2: cadarnhau a oes ap ar gael ar gyfer y VCRS.
Cam gweithredu 3: dileu dilysu hyd rhwyd hiraf o'r VCRS.
Diweddariad ar yr astudiaeth sgil-ddalfa
Cadarnhaodd SE fod Prifysgol Lerpwl wedi cael ei chomisiynu i gynnal yr astudiaeth sgil-ddalfa wyddonol ar gyfer rhwydo o'r lan yng Nghymru. Mae'r astudiaeth yn cefnogi ymrwymiad yr FMP i adolygu rhwydo o'r lan a rhwydo yn nŵr bas y glannau i asesu a oes angen mesurau amddiffyn rhanbarthol neu genedlaethol ychwanegol i atal sgil-ddalfeydd pysgod mudol a rhywogaethau gwarchodedig eraill.
Nododd SE fod cyfradd ymateb dda o ran y niferoedd a gymerodd ran. Fodd bynnag, anogwyd rhagor o bobl i gymryd rhan oherwydd y bydd mwy o ddata yn gwella cadernid yr astudiaeth. Gofynnwyd i'r aelodau hybu’r niferoedd sy’n cymryd rhan, a gellir cylchredeg y manylion cofrestru eto os oes angen.
Astudiaethau economaidd-gymdeithasol: masnachol a hamdden
Mae drafft cyntaf yr adroddiad ar elfen fasnachol yr astudiaeth economaidd-gymdeithasol wedi dod i law gan Seafish. Darparwyd adborth ac mae disgwyl adroddiad drafft terfynol.
Cyhoeddwyd y gwahoddiad i gyflwyno dyfynbris ar gyfer elfen hamdden yr astudiaeth economaidd-gymdeithasol cyn y Nadolig a daeth tri ymateb i law erbyn y dyddiad cau ar 30 Ionawr.
Dyfarnwyd y contract ddiwedd mis Chwefror i'r Countryside and Community Research Institute (CCRI), ym Mhrifysgol Swydd Gaerloyw.
Cynhaliwyd cyfarfodydd cychwynnol gyda thîm ymchwil CCRI. Disgwylir nodyn briffio manwl erbyn diwedd mis Mawrth, sy'n nodi manteision a risgiau gwahanol ddulliau i gefnogi gwaith cynllunio astudiaeth gadarn o'r cychwyn cyntaf.
Bydd yr aelodau'n cael eu hysbysu yn ystod y cam cynnar hwn a thrafodir â hwy unwaith y bydd y cynllun astudio a'r fethodoleg wedi'u drafftio. Bydd tîm y prosiect yn mynychu cyfarfod grŵp cynghori, gyda diweddariadau pellach yn cael eu darparu yn y cyfarfod nesaf.
Diweddariadau
Recreational bag limit increase
Adolygu system awdurdodi draenogiaid môr
Cadarnhaodd SE, gyda'r gwaith ar y VCRS ar fin cael ei gwblhau, bod disgwyl i'r cynnydd ar yr adolygiad awdurdodi ailddechrau ym mis Ebrill.
Mae papur trafod wedi'i ddrafftio ac mae gyda'r gwasanaethau cyfreithiol i'w glirio ar hyn o bryd. Bydd y papur wedyn yn cael ei rannu gyda'r aelodau.
Cynyddu terfyn bagiau hamdden
Yn dilyn trafodaethau'r UE, daeth deddfwriaeth i gynyddu'r terfyn bagiau hamdden i rym ar 27 Chwefror 2026.
Mae'r Canllawiau Pysgota Draenogiaid Môr wedi'u diweddaru i adlewyrchu'r newidiadau, ac unwaith y bydd y tymor caeedig presennol yn dod i ben ar 31 Mawrth 2026, caniateir i bysgotwyr hamdden gadw hyd at dri physgodyn y dydd.
Canllawiau trin draenogiaid môr
Diolchodd SE i'r Angling Trust am eu gwaith wrth ddatblygu'r canllawiau trin, ynghyd â'r holl aelodau a gwblhaodd yr arolwg a helpodd i lywio'r canllawiau.
Cadarnhaodd HR fod y sylwadau terfynol wedi'u cyflwyno ar 25 Mawrth 2026.
Unwaith y bydd y testun terfynol wedi'i gadarnhau, bydd fersiwn Gymraeg yn cael ei llunio, a bydd sticeri bocs offer hefyd ar gael.
Unrhyw fater arall; dyddiad y cyfarfod nesaf
Bydd y cyfarfod nesaf yn cael ei gynnal yng nghanol mis Mai a bydd yn canolbwyntio ar elfen hamdden y contract economaidd-gymdeithasol.
Cododd DC bryderon bod pysgotwyr hamdden yn anfodlon â'r dull strategol presennol, gan nodi bod y mater hwn wedi'i godi yn y Grŵp Cynghori Gweinidogol ar Bysgodfeydd Cymru (MAGWF) heb ymateb boddhaol.
Dywedodd JB fod llawer o ffocws ar ddatblygu Cynlluniau Rheoli Pysgodfeydd newydd ar hyn o bryd, ac y cyfeirir at y sector hamdden ym mhob un. Eglurodd y gallai fod Gweinidog newydd ar ôl yr etholiad, gan roi cyfle i'r sector hamdden fynegi ei ddymuniadau'n glir, gyda JO yn gweithredu fel y cynrychiolydd.
Gofynnodd DC am yr adroddiad tymor caeedig a luniwyd gan Brifysgol Bangor, yn benodol a oedd wedi'i ysgrifennu o safbwynt biolegol neu orfodi.
Cadarnhaodd MS fod yr adroddiad wedi'i ysgrifennu fel papur gwyddonol ac awgrymodd efallai na fydd y tymor caeedig presennol yn cyd-fynd â thystiolaeth fiolegol newydd.
Cadarnhaodd JB y bydd papur Bangor yn cael ei rannu ar ôl iddo gael ei adolygu gan gymheiriaid. Bydd cyfle i drafod y pwnc yn fanylach mewn cyfarfod yn y dyfodol.
Nododd KH fod Prifysgol Essex yn ymgymryd â gwaith tebyg ar gyfnodau silio pysgod ar draws ardal ehangach a chroesawodd y cyfle i ystyried canfyddiadau o Fangor ac Essex.
Cam gweithredu 4: MS i gydlynu trafodaeth ar gyfnodau silio rhwng Prifysgol Essex a Phrifysgol Bangor.
Camau gweithredu
Camau sy'n weddill o gyfarfodydd blaenorol
Cyfarfod 7: 5 Rhagfyr 2024
- Cael cyngor ar sut gellid amrywio terfynau niferoedd hamdden. MB: parhaus.
- Siarad â’r adran orfodi ynglŷn â monitro cychod draenogiaid môr hamdden yn ne Cymru. MB: parhaus.
Cyfarfod 8: 4 Chwefror 2025
- Paratoi datganiad ynglŷn â rôl genweirio hamdden a phwysigrwydd data hamdden wrth gyflawni’r FMP draenogiaid môr. SE/HR: parhaus.
- Archwilio’r posibilrwydd o ddefnyddio llysgenhadon i hyrwyddo’r dyddiaduron genweirio môr. MB: parhaus.
Cyfarfod 9: 11 Mawrth 2025
- Cyfarfod â KH i archwilio posibiliadau i enweirwyr gymryd rhan mewn rheoli’r Dyddiadur Genweirio Môr. MB/SE: parhaus.
Camau gweithredu newydd o’r cyfarfod hwn
- Cyfieithu a chyhoeddi nodiadau a chamau gweithredu o gyfarfod 10. MF: cwblhawyd 13 Ebrill 2026.
- Cadarnhau a oes ap ar gael ar gyfer y VCRS. MB: cwblhawyd 1 Ebrill 2026.
- Dileu'r dilysiad hyd rhwyd hiraf o'r VCRS. SE: cwblhawyd 23 Ebrill 2026.
- Cydlynu trafodaeth ar gyfnodau silio rhwng Prifysgol Essex a Phrifysgol Bangor. MS: parhaus.
