Neidio i'r prif gynnwy

Trosolwg

Croesawodd y Cadeirydd aelodau'r panel i'r cyfarfod. Diolchodd i'r aelodau a oedd wedi cyflwyno adborth cyn y cyfarfod.

Amcanion y cyfarfod oedd gwneud y canlynol:

  • Cyd-bwyllgor Cadwraeth Natur (JNCC) i roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygu senarios i gynorthwyo gwaith adolygu senarios terfynol all-lein
  • panel i gynghori ar fethodolegau modelu senarios rhywogaethau ac ecosystemau
  • panel i gynghori ar y broses o ddewis dangosyddion a chreu rhestr fer

Diweddariad byr ar y bil, y pynciau targed a'r metrigau

Rhoddodd swyddogion yr wybodaeth ddiweddaraf i'r panel fod Deddf yr Amgylchedd (Egwyddorion, Llywodraethiant a Thargedau Bioamrywiaeth) (Cymru) 2026 wedi derbyn Cydsyniad Brenhinol ar 27 Ebrill. Mae'n cyflwyno tair elfen allweddol; ymgorffori egwyddorion amgylcheddol yng nghyfraith Cymru, sefydlu corff llywodraethu amgylcheddol i Gymru, a chyflwyno fframwaith targedau bioamrywiaeth ar gyfer Cymru. Bydd angen cyflwyno targedau bioamrywiaeth mewn deddfwriaeth erbyn Ebrill 2028.

Gyda llywodraeth newydd ar waith, mae swyddogion yn gweithio i flaenoriaethau newydd. Er nad oes rhaglen lywodraethu wedi'i sefydlu eto, mae'r ymdrechion presennol yn canolbwyntio ar gyflawni ymrwymiadau 100 diwrnod cyntaf y llywodraeth. Mae gwaith wedi dechrau ar Gynllun Gweithredu Hinsawdd a Natur uchelgeisiol i Gymru, a fydd yn canolbwyntio ar lunio llwybr ymarferol at sero net erbyn 2040 ac adferiad sylweddol i natur erbyn 2050.

Tynnodd swyddogion sylw at nifer o ymrwymiadau maniffesto fyddai'n debygol o fod o ddiddordeb i'r panel, er enghraifft ymrwymiad i gyflwyno targedau newydd a gorfodadwy i leihau llygredd yn ein hafonydd a'n moroedd yn seiliedig ar yr egwyddor mai'r llygrydd sy'n talu.

Trafodaeth a'r wybodaeth ddiweddaraf am y targedau

Cyn y cyfarfod gofynnwyd i'r panel adolygu'r broses a'r gwaith o dynnu rhestr fer o ddangosyddion ar gyfer rhywogaethau a rheoli ecosystemau yn effeithiol; ac adolygu'r methodolegau modelu senarios ar gyfer rhywogaethau a rheoli ecosystemau yn effeithiol.

Rhoddodd swyddogion yr wybodaeth ddiweddaraf i'r panel ar y gwaith datblygu targedau

Rhoddwyd diweddariad ar ddatblygu targedau llygredd golau gan gynnwys gweithdy diweddar a gynhaliwyd yn Aberystwyth i greu rhestr fer o fetrigau ac ystyried sut y gall gwahanol yrwyr ac amodau galluogi effeithio ar hyn o dan wahanol senarios. 

Nododd y panel yr angen am gyfathrebu da wrth gyflwyno'r targedau i randdeiliaid a'r cyhoedd. Roedd angen naratif clir ynghylch y rhesymau y tu ôl i ddyrannu targedau. 

Ar gyfer y pwnc targed maethynnau gormodol, dywedodd swyddogion fod gwaith yn mynd rhagddo i nodi'r fethodoleg modelu fwyaf priodol. Mae hyn yn cynnwys ystyried modelu presennol a pharhaus yn y sectorau amaethyddiaeth a dŵr, er mwyn sicrhau aliniad ac osgoi dyblygu neu anghysondeb.

O dan y maes blaenoriaeth tystiolaeth, mae swyddogion yn parhau i weithio ar ddatblygu targed posibl ar asesiadau cyflwr. Cynhaliwyd gweithdy ar-lein gydag arbenigwyr pwnc a rhanddeiliaid i ystyried galluogwyr a rhwystrau ar gyfer y targed hwn. Mae swyddogion hefyd yn parhau i archwilio targed posibl ar gynllunio gofodol sy’n cynnwys bioamrywiaeth o dan y maes blaenoriaeth hwn.

Cymeradwyodd y panel y pynciau targed arfaethedig ar gyfer y maes blaenoriaeth tystiolaeth. Mae swyddogion yn edrych ar bwnc targed mapio gofodol posibl i gynnwys bioamrywiaeth, a fyddai, pe bai'n cael ei ddatblygu, yn cyfrannu at darged 1 y Fframwaith Bioamrywiaeth Byd-eang. Cynhaliwyd trafodaethau gyda chydweithwyr Polisi Cynllunio Cymru a Dyfodol Cymru ar y pwnc targed posibl hwn. 

Cymeradwyodd y panel gaffael dadansoddiad cost a budd. Nodwyd y byddai'r contract yn cael ei gaffael ar gyfer y gwaith ym mis Gorffennaf.

Cymeradwyodd y panel ddatblygiad Rheoli Tir Cynaliadwy o ddangosydd digonedd rhywogaethau a gwydnwch ecosystemau. 

Dull o greu rhestr fer o ddangosyddion, a chanlyniadau

Rhoddodd swyddogion ddiweddariad ar y gwaith hyd yma. Roedd JNCC wedi cwblhau dadansoddiad manwl o'r dangosyddion ar y rhestr fer gan Lywodraeth Cymru ar ddigonedd a dosbarthiad cymharol rhywogaethau; rheoli ecosystemau yn effeithiol a maethynnau gormodol yn yr amgylchedd. Roedd proses tri cham wedi'i defnyddio i hidlo'r dangosyddion. Cymeradwyodd y panel y broses dri cham ac roeddent yn ei ystyried fel un oedd yn darparu fframwaith rhesymol ar gyfer asesu a dewis dangosyddion.

Tynnodd y panel sylw at yr angen am hyfywedd hirdymor ar gyfer y dangosyddion, yn enwedig y maes blaenoriaeth rhywogaethau lle gellid bod angen ychwanegu neu dynnu rhywogaethau o'r dangosydd yn y dyfodol, o bosibl. Byddai gallu diweddaru targedau yn darparu gwydnwch tymor hir, byddai hyn hefyd yn berthnasol i lygryddion.

Diweddariad prosiect senarios

Rhoddodd JNCC drosolwg o'r gwaith hyd yma i ddarparu tystiolaeth a all gefnogi penderfyniadau ar lefelau uchelgais ar gyfer y targedau statudol. Roedd y dull eang yn defnyddio senarios i archwilio gwahanol newidiadau amgylcheddol posibl yn y dyfodol a modelau i ddangos effaith hynny ar dargedau bioamrywiaeth.

Croesawodd y panel y dull a gymerwyd gan JNCC a'r angen am naratif o ran sut y gellir dehongli'r senarios, yn enwedig, ynghylch ansicrwydd a chyfyngiadau. 

Modelu rhywogaethau

Darparodd JNCC ddiweddariad. Nodwyd bod rhai grwpiau tacsonomig na ellid eu modelu oherwydd diffyg data. Y dosbarthiad â'r data gorau oedd y rhai sydd â chynlluniau monitro hirsefydlog, ee adar, ystlumod, lepidoptera.

Mae JNCC yn defnyddio dull a ddatblygwyd yn wreiddiol gan Defra i edrych ar ragamcanu tueddiadau rhywogaethau a llywio targedau. Fe'i cynlluniwyd fel ffordd syml o asesu pa raddfeydd o newid niferoedd y mae'n debygol y gellir eu cyflawni trwy wahanol senarios. 

Gofynnodd JNCC i'r panel roi gwybod a oeddent yn ymwybodol o unrhyw setiau data ar gyfer pysgod dŵr croyw a macroinfertebratau dŵr croyw a fyddai'n ddefnyddiol i'w defnyddio ar gyfer y modelu digonedd neu'r modelu dosbarthiad.

Modelu ecosystemau

Cyflwynodd JNCC y dull modelu arfaethedig ar gyfer rheoli targedau ecosystemau yn effeithiol. Roedd y gwaith yn seiliedig ar fodelu senarios posibl yn y dyfodol ar gyfer sgoriau Dangosydd Effeithiolrwydd Rheoli Ardaloedd Gwarchodedig a Chadwraeth (MEPCA) ar gyfer Ardaloedd Gwarchodedig neu Gadwraeth (PCAs) morol, daearol a dŵr croyw yng Nghymru.

Gofynnwyd i'r panel anfon y data gorau sydd ar gael at JNCC y gallwn ei ddefnyddio i sefydlu llinellau sylfaen ar gyfer pob maen prawf MEPCA a, lle bo'n bosibl, tueddiadau hanesyddol (ee amlder monitro, yn hytrach na dim ond pryd y digwyddodd y gwaith monitro diweddaraf).

Unrhyw fusnes arall

Cytunodd y panel y byddai'n ddefnyddiol cael amserlen o gerrig milltir allweddol rhwng nawr ac Ebrill 2028, a fydd yn caniatáu i'r aelodau feddwl am bethau cyn i bynciau godi. 

Cloi

Diolchodd y Cadeirydd i aelodau’r panel am eu mewnbwn ac anogodd adborth ysgrifenedig ychwanegol.

Caiff y cyfarfod nesaf ei gynnal ar 30 Medi 2026.