Neidio i'r prif gynnwy

Yn bresennol

Eluned Jones (Cadeirydd, Llywodraeth Cymru), Gemma Wheeler, Megan Nicholas, Char Lewis, Paul Jones (Llywodraeth Cymru), Paige Minahan, Helen Bloomfield, Karren Perrow, Katherine Griffith, Lee Murray (CNC), Olivia Ross, Richard Shelmerdine (JNCC), Ellie Hoad (MMO), Adrian Judd (Cefas), Tristan Bromley (Ystâd y Goron), Jacques Villemot (Rewilding Britain), Tom Luddington (Fforwm Arfordir Sir Benfro), Shaun Gaffey (RSPB), Chloe Wenman, Alex Curd (Y Gymdeithas Cadwraeth Forol), John Wrottesley (Cymdeithas Ceblau Tanfor Ewrop), Georgia Boston (Cymdeithas Cynhyrchwyr Agregau Morol Prydain), Jonathan Monk (Awdurdod Porthladd Aberdaugleddau), Shea Buckland-Jones (WWF), Kate Fotnam, Cloe Evans (Y Gymdeithas Hwylio Frenhinol), Nick Salter (Asiantaeth y Môr a Gwylwyr y Glannau), Mark Herbert (Associated British Ports), Mark Gray (Cymdeithas Pysgotwyr Cymru), Tom O'Connor (Y Grid Cenedlaethol)

1. Croeso a chyflwyniadau

Cadeirydd, Llywodraeth Cymru

Croesawodd Eluned yr aelodau newydd a'r aelodau sy'n dychwelyd i'r Grŵp Cyfeirio Rhanddeiliaid Cynllunio Morol (MPSRG) a chychwynnodd y cyflwyniadau. 

2. Datblygu'r Fframwaith Cynllunio Morol yng Nghymru

Eluned Jones, Llywodraeth Cymru

Rhoddodd Eluned wybodaeth gefndir am lywodraeth Plaid Cymru, a etholwyd yn ddiweddar, gan gyflwyno'r Gweinidogion Cabinet a'r Dirprwy Weinidogion. Tynnodd sylw at y ffaith bod portffolio Llyr Gruffydd, y Gweinidog Cabinet dros Wydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd, yn cynnwys cynllunio morol. 

Yn eu maniffesto, roedd Plaid Cymru wedi ymrwymo i ddatblygu'r fframwaith cynllunio morol. Mae'r Gweinidogion wrthi'n gweithio ar gyflawni cynllun y 100 Diwrnod Cyntaf

Rhoddodd Eluned drosolwg o'r fframwaith cynllunio morol presennol yng Nghymru, sy'n cynnwys y canlynol:

  • deunydd cynllunio ffurfiol, megis Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru, Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru: canllawiau gweithredu, hysbysiadau Cynllunio Morol, a Datganiadau Morol gan y Cabinet, a 
  • deunydd cynllunio atodol, megis datganiadau technegol, canllawiau lleoliadol ar gyfer sectorau, a Phorth Cynllunio Morol Cymru

Mae deunydd cynllunio ffurfiol yn ystyriaeth berthnasol wrth wneud penderfyniadau, tra bo deunydd cynllunio atodol yn cefnogi gwaith cymhwyso polisïau Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru, ac yn sail iddo. Mae canllawiau a dogfennau trawsffiniol a gyhoeddir gan reoleiddwyr a'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau mewn awdurdodau cyhoeddus hefyd yn cefnogi'r fframwaith cynllunio morol ac yn helpu i'w weithredu yng Nghymru. 

Gwahoddodd Eluned gwestiynau am y fframwaith cynllunio morol presennol ac anogodd drafodaeth ar sut y gellir ei ddatblygu. Tynnodd sylw at y ffaith mai'r Gweinidog Cabinet dros Wydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd fyddai'n penderfynu a ddylid bwrw ymlaen ag unrhyw awgrymiadau a godwyd. 

Roedd y themâu a drafodwyd yn cynnwys: 

  • cefnogaeth i'r fframwaith presennol a'r cyfeiriad
  • yr angen i hybu fframwaith hyblyg 
  • blaenoriaethu / rhagnodi gofodol
  • effeithiau cronnol
  • ymgysylltu â'r gymuned

3. Diweddariad ar waith Fforwm Arfordir Sir Benfro

Tom Luddington, Fforwm Arfordir Sir Benfro

Tynnodd Tom sylw at weledigaeth, cenhadaeth a gwerthoedd Fforwm Arfordir Sir Benfro, gan roi cipolwg ar y sefydliad. 

Mae Fforwm Arfordir Sir Benfro:

  • yn hyrwyddo gwaith hamddena cynaliadwy, sy'n cynnwys mentrau fel Moroedd Gwyllt Cymru 
  • wedi gweithio gyda Cyfoeth Naturiol Cymru a phartneriaid eraill i ddiweddaru Cod Morol Sir Benfro, gan ddarparu cynnwys newydd ar fioddiogelwch morol, dulliau gwell, teclynnau negeseua newydd, a gwaith cwmpasu marinas
  • wedi cyflwyno rôl Cydlynydd Arfordirol i ymgysylltu â chymunedau arfordirol a'u hannog i gymryd rhan
  • yn chwarae rhan fawr yn Ynni Môr Cymru, sy'n canolbwyntio ar ynni adnewyddadwy morol
  • yn ymgysylltu â chymunedau, gan sicrhau bod ynni adnewyddadwy yn hybu gwerth cymdeithasol er lles cymunedau lleol
  • yn archwilio addasu i'r hinsawdd mewn ardaloedd arfordirol drwy astudiaeth gwmpasu'r arfordir yn Saundersfoot a phecyn cymorth addasu i'r hinsawdd Sir Benfro.

Croesawodd Tom gwestiynau am y gwaith a wneir gan Fforwm Arfordir Sir Benfro.

4. Ailwylltu'r môr ac ynni gwynt ar y môr

Jacques Villemot, Rewilding Britain

Mae Rewilding Britain wedi comisiynu adolygiad llenyddiaeth yn ddiweddar, i edrych ar effaith ynni gwynt ar y môr ar ailwylltu'r môr.

Tynnodd Jacques ein sylw at rai o egwyddorion ailwylltu. Yna amlinellodd rai o effeithiau ecolegol ynni gwynt ar y môr, gan awgrymu eu bod yn bellgyrhaeddol ac yn amrywio ar draws camau adeiladu, gweithredu a datgomisiynu ffermydd gwynt. Mae datblygu ynni gwynt ar y môr yn gallu creu cyfleoedd hefyd, wrth i lwybrau at swyddi glas, addysg, a grymuso cymunedol ddod i'r amlwg. Gall cronfeydd budd cymunedol, perchnogaeth gymunedol, a rhaglenni rheoli cynefinoedd hwyluso hyn.

Daeth Jacques i'r casgliad bod datblygiad ynni gwynt ar y môr sy'n sbarduno newid system i bawb yn dibynnu ar sawl ffactor, megis cyfranogiad ystyrlon gan y gymuned, dealltwriaeth well o gefnforoedd, ac ailwylltu ar raddfa morlun. 

Gwahoddodd Jacques gwestiynau am yr adolygiad llenyddiaeth a'i ganfyddiadau.

5. Gwydnwch Moroedd ac Arfordiroedd Cymru (RoWSC)

Paige Minahan, Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC)

Esboniodd Paige fod Gwydnwch Moroedd ac Arfordiroedd Cymru / RoWSC yn dwyn ffrydiau gwaith amrywiol ynghyd o dan un rhaglen i lunio, ysgogi a sicrhau moroedd mwy gwydn i Gymru, yn unol â Deddf yr Amgylchedd (Cymru) a'r ddyletswydd yn Adran 6. Mae RoWSC yn canolbwyntio ar gyd-ddatblygu dulliau gweithredu a rhoi gwybod am gyfleoedd sylweddol i wella pa mor wydn yw moroedd Cymru.

Nod RoWSC yw:

  • meithrin dealltwriaeth gyffredin o'r camau gweithredu a'r materion sy'n flaenoriaeth er mwyn sicrhau bod moroedd Cymru yn wydn
  • cynyddu cyllid a buddsoddiad ar gyfer y materion sy'n flaenoriaeth
  • cefnogi sefydliadau ehangach gyda'u gwaith
  • hysbysu Cronfa Marine Cymru a mecanweithiau ariannol eraill
  • cefnogi gwaith cynllunio morol a pholisi bioamrywiaeth
  • sicrhau bod prosiectau adfer yn cyflawni gan ddefnyddio dull mwy pendant

6. Unrhyw fater arall

Nid oedd unrhyw faterion eraill.

Daeth y cyfarfod i ben.