Cynnydd ar Gynllun Hawliau Pobl Anabl 2025 i 2035 o ran y camau gweithredu tymor byr: cymdogaethau, lleoedd a thrafnidiaeth
Diweddariad cynnydd chwarterol ar y camau gweithredu tymor byr o fewn thema cymdogaethau, lleoedd a thrafnidiaeth.
Ar y dudalen hon
Cyflwyniad
Mae’r ddogfen hon yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd a wnaed gan Lywodraeth Cymru o dan Thema 1: Cymdogaeth, lleoedd a thrafnidiaeth o’r Cynllun Hawliau Pobl Anabl: Camau Gweithredu Tymor-byr, a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr 2025.
Darparwyd y diweddariad hwn i’r Bwrdd Cynghori Allanol ar gyfer y Cynllun Hawliau Pobl Anabl ar 30 Mehefin 2026.
Bydd cynnydd ar y themâu ‘Cyflogaeth, incwm (arian) ac addysg’, ‘Byw’n annibynnol, iechyd a gofal cymdeithasol’, a ‘Chyfiawnder ac amgylcheddau cefnogol’ yn cael ei gyflwyno gerbron y Bwrdd Cynghori Allanol rhwng mis Medi a mis Rhagfyr 2026, ac yn cael ei gyhoeddi yn dilyn y cyfarfodydd hyn.
Trafnidiaeth
Gweithredu a chynnydd
Llywodraeth Cymru i weithio gydag awdurdodau lleol a gweithredwyr trafnidiaeth i gasglu a diweddaru data ar argaeledd a lleoliad mannau parcio ar gyfer deiliaid Bathodyn Glas, a’u hintegreiddio ar wefannau trafnidiaeth.
- Ar hyn o bryd mae tua 60% o awdurdodau lleol yn cyhoeddi gwybodaeth am leoliadau a chapasiti parcio Bathodyn Glas, ond mae’r ddarpariaeth yn parhau i fod yn anghyson ledled Cymru.
- Mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud gwaith archwilio cychwynnol gyda phartneriaid i ddeall argaeledd a statws cyhoeddi’r wybodaeth hon.
- Mae gwaith yn mynd rhagddo gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC), Trafnidiaeth Cymru a Chymdeithas Parcio Prydain i wella cysondeb ac amlygrwydd gwybodaeth am barcio hygyrch, a’r modd y cyfeirir unigolion at wybodaeth o’r fath.
- Bydd gweithgarwch pellach yn parhau trwy 2026 a 2027 wrth i’r gwaith hwn fynd rhagddo.
Gweithredu a chynnydd
Llywodraeth Cymru i wella’r cyswllt â phobl anabl wrth ddatblygu gwasanaethau trafnidiaeth hygyrch a threfniadau goruchwylio.
- Gan weithio gyda Trafnidiaeth Cymru, mae Llywodraeth Cymru wedi sefydlu Bwrdd Teithio Cynhwysol a Phanel Teithio Pobl Anabl.
- Bwriad y trefniadau hyn yw symud y tu hwnt i ymgynghori traddodiadol tuag at gyd-gynhyrchu parhaus, gan alluogi pobl anabl i helpu i lunio gwasanaethau, dylanwadu ar ddatblygu polisi, nodi rhwystrau o fewn y system drafnidiaeth a chefnogi atebolrwydd am gyflawni gwelliannau.
Gweithredu a chynnydd
Llywodraeth Cymru i sicrhau bod sefydliadau trafnidiaeth yn cynnal ymgynghoriadau rheolaidd a chynhwysol gyda phlant a phobl ifanc anabl, a’u rhieni a’u gofalwyr.
- Mae Trafnidiaeth Cymru yn sefydlu Panel Plant a Phobl Ifanc pwrpasol.
- Mae’r gwaith hwn yn cael ei ddatblygu gyda sefydliadau sydd â phrofiad o ymgysylltu’n ystyrlon â phlant a phobl ifanc.
- Bydd y panel yn gweithio ochr yn ochr â’r strwythurau ymgysylltu ehangach sydd eisoes wedi’u sefydlu drwy’r Bwrdd Teithio Cynhwysol a’r Panel Teithio Pobl Anabl.
Gweithredu a chynnydd
Llywodraeth Cymru i ddatblygu rhaglen hyfforddi safonol ar gyfer yr holl staff sy’n delio â chwsmeriaid ym maes trafnidiaeth gan gynnwys rheilffyrdd, bysiau, tacsis, cerbydau hurio preifat a meysydd awyr. Mae’r hyfforddiant yn cynnwys y Model Cymdeithasol o Anabledd, deddfwriaeth cydraddoldeb gan gynnwys cŵn tywys a chŵn cymorth, a gofal cwsmeriaid da i bobl anabl.
- Mae Trafnidiaeth Cymru wedi cwblhau adolygiad o hyfforddiant staff y rheilffyrdd i sicrhau ei fod yn cynnwys:
- Y Model Cymdeithasol o Anabledd
- deddfwriaeth cydraddoldeb
- cŵn tywys a chŵn cymorth
- gofal cwsmeriaid da i bobl anabl
- Wrth weithredu masnachfreintiau bysiau o dan Ddeddf Gwasanaethau Bysiau (Cymru) 2026, bydd gofynion hyfforddiant ymwybyddiaeth anabledd a hygyrchedd yn rhan o gytundebau masnachfreinio.
- Ym mis Ebrill 2026 lansiodd Llywodraeth Cymru gyfres o fideos hyfforddi i gefnogi gyrwyr tacsis a cherbydau hurio preifat gyda hygyrchedd a diogelu.
- Datblygwyd tair ffilm a gyd-gynhyrchwyd gyda theithwyr anabl, sefydliadau cynrychiadol, awdurdodau lleol a’r sector tacsis:
- ffilm Hyfforddiant Cerbydau Hygyrch i Gadeiriau Olwyn
- ffilm Hyfforddiant Amhariad ar y Golwg
- ffilm Profiad Teithwyr sy’n cynnwys profiadau bywyd teithwyr anabl ledled Cymru
- Mae’r ffilmiau wedi’u hymgorffori yng nghanllawiau Llywodraeth Cymru ac maent yn cael eu hyrwyddo drwy awdurdodau lleol a darparwyr hyfforddiant.
- Mae Llywodraeth Cymru nawr yn gwerthuso eu defnydd a’u heffeithiolrwydd.
Gweithredu a chynnydd
Llywodraeth Cymru i weithio ar draws y llywodraeth a chyda gweithredwyr trafnidiaeth i sicrhau bod technolegau digidol a chynorthwyol ar gael ac yn hygyrch ar draws dulliau trafnidiaeth er mwyn rhoi hyder i bobl anabl wrth gynllunio a mynd ar deithiau sy’n diwallu eu hanghenion.
- Mae Trafnidiaeth Cymru yn gwneud cynnydd ar gyflwyno eu hoffer digidol ar gyfer teithiau aml-ddull, gan gynnwys darparu offeryn cynllunio teithiau aml-ddull gyda nodweddion hygyrchedd parod. Disgwylir rhyddhau fersiwn gyntaf yr offeryn hwn yn hydref 2026.
- Bwriad yr offeryn yw helpu pobl i nodi llwybrau a gwasanaethau sy’n bodloni eu gofynion hygyrchedd er mwyn rhoi mwy o hyder ac annibyniaeth iddynt wrth deithio.
Gweithredu a chynnydd
Llywodraeth Cymru i sicrhau bod ein dull gweithredu Teithio i Bawb a’n polisïau trafnidiaeth ehangach a’n cyllid grant yn ystyried anghenion hygyrchedd pobl anabl, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig lle mae mwy o ddibyniaeth arnynt yn aml.
- Trawsnewidiwyd cynlluniau grant Llywodraeth Cymru yn 2026 i gyd-fynd â’r Cynlluniau Trafnidiaeth Rhanbarthol, sydd wedi’u cyhoeddi a’u cytuno gan Weinidogion ar gyfer y pum mlynedd nesaf. Mae’r rhain yn cynnwys Cynlluniau Cyflawni gyda manylion y cynlluniau i’w cyflawni ym mhob lleoliad. Rhaid i bob cynllun trafnidiaeth a ddarperir yng Nghymru ddilyn yr Arweiniad ar Arfarnu Trafnidiaeth Cymru (WelTAG), sy’n cynnwys offeryn Arfarnu Llesiant Integredig i gefnogi cynllunwyr trafnidiaeth i nodi ble mae asesiadau effaith statudol fel asesiadau effaith cydraddoldeb yn berthnasol, a sut orau i fodloni’r gofynion hynny.
- Mae ein dull Teithio i Bawb presennol yn nodi pum egwyddor y mae Llywodraeth Cymru a’i phartneriaid cyflawni yn eu hystyried wrth ddylunio a chyflawni cynlluniau trafnidiaeth yng Nghymru: teimlo’n ddiogel, teimlo bod croeso i chi, hygyrchedd, cynnwys ac ymgorffori newid. Mae’r egwyddorion hyn yn cefnogi dull Model Cymdeithasol o Anabledd trwy annog sefydliadau i nodi a dileu rhwystrau wrth ddylunio a chynllunio gwasanaethau a seilwaith trafnidiaeth, yn hytrach na dibynnu ar addasiadau ar ôl eu cyflwyno.
- Rhoddir sylw arbennig i hygyrchedd mewn ardaloedd gwledig, lle gall opsiynau trafnidiaeth cyfyngedig arwain at fwy o rwystrau i deithio a chymryd rhan.
Tai fforddiadwy a hygyrch
Gweithredu a chynnydd
Llywodraeth Cymru i weithio gydag awdurdodau lleol a darparwyr gwasanaethau i wella’r ddarpariaeth o lety hygyrch i bobl anabl, eu gofalwyr a’u plant wrth ffoi rhag trais.
- Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i weithio’n uniongyrchol gydag awdurdodau lleol a darparwyr gwasanaethau i wella’r ddarpariaeth o lety hygyrch i bobl anabl, eu gofalwyr a’u plant wrth ffoi rhag trais. Mae hyn yn rhan o raglen ehangach o fesurau sydd wedi’u cynllunio i gryfhau tai hygyrch, gan gynnwys gwella’r broses o gydgysylltu a darparu addasiadau tai ac offer drwy awdurdodau lleol, ac adolygu Gofynion Ansawdd Datblygu Cymru 2021 i sicrhau bod safonau tai yn cefnogi anghenion hygyrchedd. Mae mentrau ehangach y llywodraeth i gynnal hawliau pobl anabl yn atgyfnerthu ymhellach y fframwaith ar gyfer datblygu a chefnogi llety brys hygyrch ledled Cymru.
- Mae’r Ddeddf Digartrefedd a Dyrannu Tai Cymdeithasol (Cymru) yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau tai lleol yng Nghymru sefydlu a chynnal cofrestr o lety tai yn eu hardal sydd â nodweddion a allai gynorthwyo person anabl. Bydd y ddarpariaeth hon yn cefnogi awdurdodau tai lleol i sicrhau bod llety yn cael ei baru orau â’r rhai sydd ag angen hygyrchedd, gan gefnogi cynnal tenantiaethau yn y llety mwyaf addas.
- Gall awdurdodau tai lleol gynnwys yr holl lety yn eu hardal sy’n cynnwys nodweddion a allai gefnogi unigolion anabl, gan gynnwys llety yn y sector rhentu preifat, er mwyn creu cofrestr fwy cynhwysfawr o opsiynau tai hygyrch.
- Mae’r Ddeddf hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau ynghylch cofrestrau tai hygyrch yng Nghymru. Rhaid i’r rheoliadau hyn ddarparu ar gyfer cyhoeddi gwybodaeth gyffredinol am gofrestrau tai hygyrch a sut maent yn gweithredu mewn ardal.
- Mae’r Ddeddf hefyd yn rhoi cyfle i Weinidogion Cymru wneud darpariaethau pellach mewn perthynas â sut mae eiddo yn cael eu hychwanegu a’u tynnu oddi ar y rhestr, yr wybodaeth y mae’n rhaid i’r gofrestr tai hygyrch ei chadw, datgelu gwybodaeth a gedwir ar y gofrestr, ynghyd â chasglu a chyhoeddi data.
- Mae gwaith yn mynd rhagddo mewn cydweithrediad â chydweithwyr ar draws meysydd tai, trais yn erbyn menywod, iechyd a gofal cymdeithasol.
Gweithredu a chynnydd
Llywodraeth Cymru i adolygu Gofynion Ansawdd Datblygu Cymru 2021, gan gynnwys eu heffaith a’u heffeithiolrwydd.
- Mae’r gwaith o adolygu Gofynion Ansawdd Datblygu Cymru wedi dechrau. Disgwylir i’r Panel Cynghori ar Gydraddoldeb Tai ac Adfywio drafod yr adolygiad erbyn mis Medi 2026.
- Dywedodd swyddogion y bydd yr adolygiad yn ystyried sut y gellir cryfhau gofynion hygyrchedd o fewn safonau tai.
- Mae gwaith hefyd ar y gweill i hyrwyddo mabwysiadu safonau hygyrchedd yn ehangach y tu hwnt i’r maes tai cymdeithasol, gan gynnwys yn y sector preifat.
Gweithredu a chynnydd
Llywodraeth Cymru i weithio gydag awdurdodau lleol i barhau i wella hygyrchedd a chydlynu’r gwaith o gyflwyno addasiadau tai a chyflenwi offer.
- Mae gwaith Llywodraeth Cymru gydag awdurdodau lleol i wella hygyrchedd addasiadau tai, a chydlynu’r gwaith o’u cyflwyno, yn cael ei gefnogi’n bennaf gan y cynllun HWYLUSO: Cymorth er mwyn Byw’n Annibynnol. Mae’r cynllun hwn yn darparu cyllid ar gyfer addasiadau bach, canolig a mawr i gartrefi, megis canllawiau cydio, rampiau, cawodydd â mynediad gwastad, lifftiau cadair, a hyd yn oed newidiadau strwythurol mawr i helpu pobl anabl a phobl hŷn i fyw’n annibynnol yn eu cartrefi. Mae’n un o’r prif raglenni cenedlaethol sydd wedi’u cynllunio i sicrhau bod awdurdodau lleol yn gallu cyflawni addasiadau yn gyflym ac yn gyson ledled Cymru, gan gefnogi’r nod ehangach o wella darpariaeth tai hygyrch a chyflenwi offer.
- Roedd y gwariant cyffredinol ar gymorth ar gyfer gwelliannau tai yn £56.5 miliwn yn 2023 i 2024. Yn dilyn tanwariant yn ystod y pandemig, a chynnydd diweddar mewn costau a galw, dyma oedd y swm uchaf a gofnodwyd. Roedd elfen orfodol y Grantiau Cyfleusterau i Bobl Anabl yn cyfrif am £44.3 miliwn (78.3 y cant) o gyfanswm y gwariant, a chafodd 7,083 o gartrefi eu gwella. Y gwariant cyfartalog fesul Grant Cyfleusterau i Bobl Anabl gorfodol oedd £9,600.
- Gwariwyd £8.8 miliwn o gyllid ar welliannau tai, ac eithrio Grantiau Cyfleusterau i Bobl Anabl, drwy grantiau awdurdodau lleol, benthyciadau, cymorth trydydd parti a chyfraniadau gan breswylwyr. Y gwariant cyfartalog oedd £2,500 fesul cartref, sy’n gyson â’r 10 mlynedd diwethaf.
- Mae’r gwaith o adolygu Gofynion Ansawdd Datblygu Cymru 2021 wedi dechrau. Disgwylir i’r Panel Cynghori ar Gydraddoldeb Tai ac Adfywio drafod yr adolygiad ym mis Medi 2026.
- Dywedodd swyddogion Llywodraeth Cymru y bydd yr adolygiad yn ystyried sut y gellir cryfhau gofynion hygyrchedd o fewn safonau tai.
- Mae gwaith hefyd ar y gweill i annog mabwysiadu’r safonau hyn yn ehangach y tu hwnt i’r maes tai cymdeithasol, gan gynnwys yn y sector tai preifat.
- Mae’r adolygiad yn rhan o ymdrechion ehangach i sicrhau bod hygyrchedd yn cael ei ystyried o’r cychwyn cyntaf wrth gynllunio ym maes tai, yn hytrach na mynd i’r afael â materion yn ôl-weithredol.
Gweithredu a chynnydd
Llywodraeth Cymru i weithio gyda sefydliadau tai i helpu i ledaenu gwybodaeth fwy hygyrch am dai i bobl anabl, gan gynnwys y rhai sydd wedi’u hallgáu’n ddigidol.
- Mae Tai Pawb wedi cyhoeddi cyfres o ganllawiau arferion da mewn perthynas ag anabledd a thai:
- Accessible Homes (2018)
- Dementia Service Provision and Housing Design (2014)
- Tenancy Breakdowns: Equality Considerations (2013)
- Making the most of Hearing Induction Loops (2013)
- Reasonable Adjustments: Employment (2013)
- Making information accessible (2012)
- Language communication needs (2010)
- Disability Equality and Housing (2010)
- Mae’r Ddeddf Digartrefedd a Dyrannu Tai Cymdeithasol (Cymru) yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau ynghylch cofrestrau tai hygyrch yng Nghymru. Rhaid i’r rheoliadau hyn ddarparu ar gyfer cyhoeddi gwybodaeth gyffredinol am gofrestrau tai hygyrch a sut maent yn gweithredu mewn ardal. Mae’r Ddeddf hefyd yn rhoi cyfle i Weinidogion Cymru wneud darpariaethau pellach mewn perthynas â sut mae eiddo yn cael eu hychwanegu a’u tynnu oddi ar y rhestr, yr wybodaeth y mae’n rhaid i’r gofrestr tai hygyrch ei chadw, datgelu gwybodaeth a gedwir ar y gofrestr, casglu a chyhoeddi data a gedwir ar y gofrestr, a rhoi swyddogaethau i awdurdodau tai lleol neu Weinidogion Cymru. Mae gwaith manwl yn cael ei wneud ar y Rheoliadau hyn fel rhan o weithredu’r ddeddfwriaeth.
Gweithredu a chynnydd
Llywodraeth Cymru i weithio gydag arbenigwyr a sefydliadau pobl anabl i gynllunio a darparu hyfforddiant i sefydliadau tai.
- Trafodaethau i’w trefnu gyda Tai Pawb i asesu sut y gellir cyflwyno’r hyfforddiant hwn.
- Mae’r gwaith yn parhau drwy weithredu cofrestrau tai hygyrch.
- Mae hygyrchedd gwybodaeth am dai yn cael ei ystyried fel rhan o weithredu’r Ddeddf Digartrefedd a Dyrannu Tai Cymdeithasol (Cymru).
Gweithredu a chynnydd
Bydd Llywodraeth Cymru yn ymgysylltu â phobl anabl i ddeall y rhwystrau penodol i dai, er enghraifft i bobl anabl sy’n Sipsiwn, Roma a Theithwyr.
- Mae’r gwaith cwmpasu cychwynnol wedi dechrau, ac mae trafodaethau gydag arweinwyr polisi eraill yn dechrau.
- Bydd y gwaith ymgysylltu yn parhau drwy’r Panel Cynghori ar Gydraddoldeb Tai ac Adfywio. Cynhaliwyd y cyfarfod cyntaf ar 13 Ionawr 2026 i drafod blaengynllun gwaith, a chynhaliwyd ail gyfarfod ar 19 Mawrth i ystyried sut i weithredu Deddf Digartrefedd a Dyrannu Tai Cymdeithasol (Cymru) a Strategaeth Tai Cymru.
- Yn y cyfarfod ym mis Mehefin 2026 ystyriwyd cynigion ar fforddiadwyedd tai, gweithredu’r Ddeddf Diogelwch Adeiladau, ac Arolwg Tai Cymru.
- Mae’r trafodaethau wedi cynnwys fforddiadwyedd tai, gweithredu’r Ddeddf Diogelwch Adeiladau, Strategaeth Tai Cymru, a gwaith ar yr arolwg tai.
Y Model Cymdeithasol o Anabledd
Gweithredu a chynnydd
Bydd Llywodraeth Cymru’n adlewyrchu’r Model Cymdeithasol o Anabledd ac yn hyrwyddo’r Cynllun Hyderus o ran Anabledd yn ei dull gweithredu ar gyfer caffael cymdeithasol gyfrifol.
- Mae’r tîm Cynhwysiant Pobl Anabl yn gweithio gyda chydweithwyr Caffael i sicrhau bod y canllawiau ar y Model Cymdeithasol o Anabledd ym maes Caffael yn cael eu cryfhau. Mae hyn yn cynnwys paratoi canllawiau ymarferol i gyrff cyhoeddus a chyflogwyr ar sut i gymhwyso’r Model Cymdeithasol o Anabledd a’i ymgorffori mewn arferion bob dydd.
- Mae rheoliad 7 o Reoliadau Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2026 yn diwygio adran 27(2) o Ddeddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023 i newid “pobl ag anableddau” i “bobl anabl”; mae hyn er mwyn sicrhau bod y gwelliannau y mae’r cymalau gweithiau cyhoeddus cymdeithasol wedi’u cynllunio i’w cyflawni yn cyd-fynd â’r Model Cymdeithasol o Anabledd.
- Mae sawl adran o’r canllawiau statudol ar Ddeddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) yn cyfeirio at bwysigrwydd mynd i’r afael â rhwystrau sy’n wynebu pobl anabl. Er enghraifft, mae’r ddogfen ‘Cymalau Gweithiau Cyhoeddus Cymdeithasol Enghreifftiol’ a gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2026 yn hyrwyddo mwy o gyfleoedd cyflogaeth i bobl anabl ac yn annog contractwyr i ymuno â’r cynllun Cyflogwyr Hyderus o ran Anabledd.
Gweithredu a chynnydd
Llywodraeth Cymru i sicrhau bod hyfforddiant ar y Model Cymdeithasol o Anabledd ar gael i holl weithwyr y sector cyhoeddus drwy ychwanegu modiwl e-ddysgu ar Dysgu@Cymru. Bydd hyn yn ategu’r hyfforddiant sydd eisoes ar gael i’r sector preifat ar Busnes Cymru.
- Rydym yn gweithio gyda swyddogion yn Dysgu@Cymru i lanlwytho modiwl e-ddysgu sydd eisoes wedi’i greu i’w gwefan. Bydd y gwaith hwn yn cael ei gwblhau dros yr haf. Ar ôl cwblhau’r gwaith, bydd y modiwl e-ddysgu ar gael yn rhad ac am ddim i holl weithwyr y sector cyhoeddus ledled Cymru. Mae’r modiwl e-ddysgu eisoes ar gael i holl gyflogwyr y sector preifat drwy wefan Busnes Cymru Llywodraeth Cymru.
- Mae’r tîm o Hyrwyddwyr Cyflogaeth Pobl Anabl yn Llywodraeth Cymru wedi datblygu gweminar am ddim i gyflogwyr a gweithwyr i wella dealltwriaeth o’r Model Cymdeithasol o Anabledd yn y gweithle. Mae’r weminar ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg, ac fe’i cyflwynir drwy raglen dreigl fisol.
- Mae canllawiau ar y Model Cymdeithasol o Anabledd, ynghyd â chyngor ac arweiniad ar faterion sy’n ymwneud â recriwtio a chadw gweithwyr anabl, ar gael ar wefan Busnes Cymru.
Gweithredu a chynnydd
Llywodraeth Cymru i adolygu a diwygio polisïau Adnoddau Dynol presennol i sicrhau nad ydynt yn creu rhwystrau i bobl anabl. Cynnwys pobl anabl yn y gwaith o gynllunio, gweithredu a monitro polisïau, arferion a gweithdrefnau newydd a gwell.
- Ar hyn o bryd mae’r Tîm Penodiadau Cyhoeddus yn datblygu nifer o welliannau i’r ffordd y mae penodiadau cyhoeddus yn cael eu hyrwyddo a’u cyflawni, gyda ffocws penodol ar gynhwysiant a hygyrchedd. Mae hyn yn cynnwys gwaith i godi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o benodiadau cyhoeddus, gwneud y broses ymgeisio yn gliriach ac yn fwy syml, a sicrhau bod cymorth priodol ac addasiadau rhesymol ar gael i ymgeiswyr.
- Mae Adnoddau Dynol Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda’r Hyrwyddwyr Cyflogaeth Pobl Anabl i drafod â chydweithwyr anabl a deall eu profiadau yn y gwaith yn well, gan gynnwys y rhwystrau y maent yn eu hwynebu. Bydd hyn yn adeiladu ar y cynnydd sylweddol sydd eisoes wedi’i wneud i wella arferion recriwtio, gan ehangu’r ffocws i brofiadau ehangach cydweithwyr yn y gweithle, a nodi lle y gallai fod angen cryfhau polisïau, arferion a gweithdrefnau.
Gweithredu a chynnydd
Llywodraeth Cymru i gyhoeddi Fframwaith Pontio Teg i helpu datblygwyr polisi a’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau i ystyried effeithiau a chyfleoedd ehangach newid hinsawdd ar wahanol grwpiau o bobl, gan gynnwys pobl anabl.
- Cyhoeddwyd y Fframwaith Pontio Teg ym mis Rhagfyr 2025. Mae gwaith ar ymgorffori’r Fframwaith ar draws Llywodraeth Cymru yn cael ei wneud drwy 2026 a thu hwnt, gan gynnwys drwy Gynllun Cyllideb Garbon 3 a gwaith i ddatblygu Cynllun Hinsawdd a Natur newydd, fel y nodir ym Maniffesto’r Llywodraeth. Mae’r gwaith o ymgysylltu â’r sector cyhoeddus, y sector preifat a grwpiau cymunedol yn y camau cynnar a bydd yn rhan allweddol o’n dull gweithredu.
Gweithredu a chynnydd
Llywodraeth Cymru ynghyd â’r Bwrdd Cynghori Allanol i ddychwelyd at y set lawn o argymhellion a luniwyd ar y cyd gan y Tasglu Hawliau Pobl Anabl ar ddechrau’r gwaith o ddatblygu unrhyw gamau gweithredu newydd i bobl anabl yn ymwneud â’r Cynllun hwn.
- Mae’r Tîm Cynhwysiant Pobl Anabl yn gweithio gyda’r Bwrdd Cynghori Allanol ar gynllun gwaith i ystyried yr argymhellion a gyd-gynhyrchwyd gan y Tasglu Hawliau Anabledd.
