Galwedigaethau y mae galw cynyddol amdanynt: 2025
Dadansoddiad o’r galwedigaethau sydd wedi gweld y cynnydd mwyaf yn y galw yn ddiweddar, yn eu trefn.
Ar y dudalen hon
Cefndir
Mae’r dadansoddiad hwn yn gosod galwedigaethau yng Nghymru yn eu trefn trwy ddefnyddio codau Dosbarthiad Galwedigaethol Safonol (SOC) 3 digid 2020 yn unol â newidiadau diweddar yn nangosyddion galw y farchnad lafur.
Seiliwyd y drefn ar 9 ‘dangosydd galw’ sy’n ymwneud â newidiadau yn yr elfennau canlynol:
- enillion
- oriau taledig
- cyflogaeth
- gweithgarwch recriwtio
- hysbysebion swyddi ar-lein
Trefnwyd y galwedigaethau ar wahân ar sail pob dangosydd, ac yna neilltuwyd safle terfynol iddynt ar sail eu safle cyfartalog ar draws yr holl ddangosyddion, gan roi pwysoliad cyfartal i bob dangosydd. Er mwyn i’r galwedigaethau gael eu cynnwys, roedd yn rhaid cael data amdanynt ar gyfer o leiaf 6 o blith y 9 dangosydd galw.
Dyma oedd y dangosyddion galw:
- newid canrannol dros flwyddyn a 3 blynedd mewn enillion canolrifol yr awr ar gyfer pob gweithiwr (2024 i 2025 a 2022 i 2025)
- newid canrannol dros flwyddyn a 3 blynedd mewn oriau taledig wythnosol canolrifol a weithiwyd ar gyfer pob gweithiwr (2024 i 2025 a 2022 i 2025)
- newid canrannol dros flwyddyn a 3 blynedd mewn cyflogaeth (blynyddoedd yn gorffen Rhagfyr 2024 i Ragfyr 2025 a blynyddoedd yn gorffen Rhagfyr 2022 i Ragfyr 2025)
- newid canrannol dros flwyddyn a 3 blynedd yn nifer gyfartalog yr hysbysebion swyddi ar-lein misol (2024 i 2025 a 2022 i 2025)
- newid yng nghyfran y gweithwyr a gyflogwyd o’r newydd rhwng 2019 a 2021 a rhwng 2022 a 2024
Ar ôl rhoi’r galwedigaethau yn nhrefn y galw a oedd amdanynt, fe’u grwpiwyd yn bedwar “band galw” ar sail cyflogaeth gronnol y gweithlu:
- Galwedigaethau â’r ‘galw uchaf’ amdanynt: y galwedigaethau uchaf eu safle, sef rhai a oedd ymhlith 20% uchaf y gyflogaeth gronnol
- Galwedigaethau â ‘galw uwch’ amdanynt: y galwedigaethau uchaf ond un eu safle, sef rhai a oedd ymhlith 30% dilynol y gyflogaeth gronnol (20.1% i 50%)
- Galwedigaethau â ‘galw is’ amdanynt: yr holl alwedigaethau a oedd yn weddill, sef rhai a oedd ymhlith y 50% a oedd yn weddill yn y gyflogaeth gronnol
- Galwedigaethau ‘heb safle’: Galwedigaethau na fu modd eu cynnwys yn y drefn gan nad oedd data digonol ar gael
Hefyd, cynhwyswyd gwybodaeth ychwanegol am sgiliau a chymwysterau er mwyn cynnig cyd-destun, ond ni ddefnyddiwyd yr wybodaeth hon wrth bennu trefn y galw. Roedd y dangosyddion hyn yn cynnwys:
- Lefel sgiliau galwedigaethol y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) (lefelau 1 i 4)
- cyfran y gweithwyr a oedd yn meddu ar gymhwyster lefel 3 neu uwch y Fframwaith Cymwysterau Rheoleiddiedig (RQF)
Yn y dadansoddiad, gwnaed defnydd o ddata’r Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth, yr Arolwg Blynyddol o Oriau ac Enillion, a data hysbysebion swyddi ar-lein Textkernel. Mae’r holl ganlyniadau’n ymwneud â Chymru a defnyddiwyd y data diweddaraf a oedd ar gael ar yr adeg y gwnaed y cyfrifiad, hyd at Ragfyr 2025.
Mae’r dadansoddiad ‘sgiliau yn ôl galwedigaeth’ yn defnyddio data fframwaith Dosbarthiad Sgiliau Safonol y DU (UKSSC). Mae’r fframwaith hwn yn darparu gwybodaeth am bwysigrwydd sgiliau sy’n ofynnol i alwedigaethau a ddosberthir o dan y system SOC. Mae fframwaith UKSSC yn cynnwys sgiliau unigol, grwpiau sgiliau a meysydd sgiliau ehangach. Mae’r canlyniadau a gyflwynir yn y datganiad hwn wedi’u seilio ar feysydd sgiliau.
Mae sgoriau pwysigrwydd sgiliau UKSSC ar gael ar lefel SOC 4 a 6 digid. Er mwyn cael amcangyfrifon ar lefel SOC 3 digid, pwysolwyd galwedigaethau 6 digid yn ôl eu cyfran o’r gyflogaeth yn y rhiant-alwedigaeth 3 digid trwy ddefnyddio data Cyfrifiad 2021. Mewn achosion pan gyfrannodd amryfal sgiliau at grŵp sgiliau neu faes sgiliau o fewn rhyw alwedigaeth, pennwyd cyfartaledd y sgoriau pwysigrwydd cyn mynd ati i bwysoli a chydgasglu.
Cafodd y sgoriau dilynol ar gyfer meysydd sgiliau a bwysolwyd ar sail cyflogaeth eu cyfansymio a’u defnyddio i bennu’r meysydd sgiliau pwysicaf a mwyaf cyffredin ar draws galwedigaethau y pennwyd eu bod yn y categori ‘galw uchaf’ neu’r categori ‘galw uwch’ yng Nghymru. Dylid dehongli’r sgoriau fel dulliau dangosol o fesur pwysigrwydd sgiliau cymharol yn hytrach nag fel amcangyfrifon manwl gywir.
Y prif ganfyddiadau
Ledled Cymru yn 2025:
- Roedd 215,100 o bobl (14.7% o’r gweithlu) yn gweithio yn yr 13 galwedigaeth ‘galw uchaf’ (y galwedigaethau a ddangosodd y twf diweddar mwyaf yn y galw amdanynt)
- Roedd yr 13 galwedigaeth ‘galw uchaf’ yn cynnwys:
- Galwedigaethau chwaraeon a ffitrwydd (SOC 343)
- Gweithwyr proffesiynol cyswllt cyfreithiol (352)
- Gweithwyr proffesiynol cyswllt cyllid (353)
- Gweithwyr proffesiynol cyswllt gwerthu, marchnata a meysydd cysylltiedig (355)
- Adeiladu a chrefftau adeiladu (531)
- Paratoi bwyd a lletygarwch (543)
- Galwedigaethau addysgu a chymorth gofal plant (611)
- Gwasanaethau hamdden a theithio (621)
- Trin gwallt a gwasanaethau cysylltiedig (622)
- Gweithwyr peiriannau gweithio metel (812)
- Cydosodyddion a gweithwyr tasgau cyffredin (814)
- Gyrwyr trafnidiaeth ffyrdd (821)
- Gweithwyr trafnidiaeth a gyrwyr eraill (823)
- roedd 502,500 yn ychwaneg o bobl yn gweithio mewn 23 o alwedigaethau ‘galw uwch’ (galwedigaethau â thwf uwch na’r cyfartaledd yn y galw amdanynt)
- roedd gan nifer o’r galwedigaethau ‘galw uchaf’ sylfaen gyflogaeth sylweddol, ond cafodd nifer o’r galwedigaethau mwyaf yng Nghymru eu dosbarthu fel galwedigaethau ‘galw uwch’; yn cynnwys:
- Gwasanaethau personol gofalu (80,600 mewn cyflogaeth)
- Gweithwyr proffesiynol addysgu (57,300)
- Cynorthwywyr gwerthu ac arianwyr manwerthu (51,900)
- gwelwyd y galwedigaethau ‘galw uchaf’ yn bennaf mewn galwedigaethau sgiliau canolradd, wedi’u hollti rhwng lefel 2 (47.7%) a lefel 3 (52.3%) SYG
- roedd gan y mwyafrif o’r galwedigaethau ‘galw uchaf’ lefelau cyflog cymharol isel i gymedrol, gydag enillion canolrifol yr awr islaw £20
- y maes sgiliau yr oedd ei angen amlaf ar gyfer galwedigaethau ‘galw uchaf’ a galwedigaethau ‘galw uwch’ oedd ‘rheoli cofnodion sefydliadol a gweithredol’ (yn bresennol mewn 22 o blith 36 o alwedigaethau); y sgiliau yr oedd eu hangen amlaf wedyn oedd:
- arwain gweithrediadau a gwelliannau sefydliadol (17 o alwedigaethau)
- cyfathrebu gwybodaeth gymhleth, dechnegol neu sensitif (17 o alwedigaethau)
- y diwydiant ‘gweinyddiaeth gyhoeddus, addysg ac iechyd’ a gyflogai’r gyfran fwyaf o weithwyr mewn galwedigaethau ‘galw uchaf’ (23.0%, 49,200) a galwedigaethau ‘galw uwch’ (47.7%, 239,000), a châi hynny ei ysgogi’n bennaf gan gyflogaeth yn y byd addysg
Galwedigaethau y mae galw amdanynt
Ar draws marchnad lafur Cymru, cafodd 13 o alwedigaethau eu categoreiddio fel galwedigaethau ‘galw uchaf’, sef y rhai a ddangosodd gynnydd mawr yn y galw amdanynt yn ddiweddar. Roedd y galwedigaethau hyn yn cyfateb i 14.7% o’r gweithlu yn 2025, sef 215,100 o bobl mewn cyflogaeth.
Ffigur 1: lefel cyflogaeth a chyfran yn ôl y band galw, ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben Rhagfyr 2025
Disgrifiad o ffigur 1: siart colofnau yn dangos bod galwedigaethau ‘galw uchaf’ yn cyfateb i 14.7% o’r gyflogaeth a bod galwedigaethau ‘galw uwch’ yn cyfateb i 34.3% - gyda’i gilydd, maent yn cynrychioli 49.0% o bobl mewn cyflogaeth. Roedd cyfran debyg (48.9%) yn gweithio mewn galwedigaethau ‘galw is’; roedd 2.0% yn gweithio mewn galwedigaethau na lwyddwyd i bennu eu safle.
Ffynhonnell: Dadansoddiad Llywodraeth Cymru o’r Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth
Gan eu trefnu yn ôl eu prif grŵp SOC, syrthiodd yr 13 galwedigaeth ‘galw uchaf’ i 4 grŵp, sef: Galwedigaethau proffesiynol cysylltiedig, Galwedigaethau crefftau medrus, Gofalu, hamdden a galwedigaethau gwasanaeth o fath arall, a Gweithwyr prosesau, offer a pheiriannau. Roedd yr 13 galwedigaeth ‘galw uchaf’ yn cynnwys:
Galwedigaethau proffesiynol cysylltiedig:
- Galwedigaethau chwaraeon a ffitrwydd (SOC 343)
- Gweithwyr proffesiynol cyswllt cyfreithiol (352)
- Gweithwyr proffesiynol cyswllt cyllid (353)
- Gweithwyr proffesiynol cyswllt gwerthu, marchnata a meysydd cysylltiedig (355)
- Galwedigaethau crefftau medrus:
- Adeiladu a chrefftau adeiladu (531)
- Paratoi bwyd a lletygarwch (543)
- Gofalu, hamdden a galwedigaethau gwasanaeth o fath arall:
- Galwedigaethau addysgu a chymorth gofal plant (611)
- Gwasanaethau hamdden a theithio (621)
- Trin gwallt a gwasanaethau cysylltiedig (622)
- Gweithwyr prosesau, offer a pheiriannau:
- Gweithwyr peiriannau gweithio metel (812)
- Cydosodyddion a gweithwyr tasgau cyffredin (814)
- Gyrwyr trafnidiaeth ffyrdd (821)
- Gweithwyr trafnidiaeth a gyrwyr eraill (823)
Rhoddwyd 23 o alwedigaethau eraill yn y categori ‘galw uwch’. Roedd y galwedigaethau hyn yn cyfateb i 34.3% o’r gweithlu yn 2025, sef 502,500 o bobl mewn cyflogaeth.
Gan eu trefnu yn ôl eu prif grŵp SOC, roedd y galwedigaethau ‘galw uwch’ hyn wedi’u gwasgaru’n ehangach na’r grŵp ‘galw uchaf’. Roeddent i’w gweld yn arbennig mewn galwedigaethau rheoli, galwedigaethau proffesiynol a galwedigaethau proffesiynol cysylltiedig. Roedd y 23 galwedigaeth ‘galw uwch’ yn cynnwys:
- Rheolwyr, cyfarwyddwyr ac uwch-swyddogion:
- Cyfarwyddwyr a rheolwyr cynhyrchu (SOC 112)
- Cyfarwyddwyr a rheolwyr gweithredol (113)
- Cyfarwyddwyr a rheolwyr gwasanaethau iechyd a chymdeithasol (117)
- Rheolwyr a pherchnogion mewn gwasanaethau lletygarwch a hamdden (122)
- Rheolwyr a pherchnogion mewn gwasanaethau iechyd a gofal (123)
- Rheolwyr a pherchnogion mewn gwasanaethau eraill (125)
- Galwedigaethau proffesiynol:
- Gweithwyr proffesiynol gwyddorau naturiol a chymdeithasol (211)
- Gweithwyr proffesiynol ymchwil a datblygu a gweithwyr proffesiynol ymchwil o fath arall (216)
- Ymarferwyr meddygol (221)
- Gweithwyr proffesiynol addysgu (231)
- Galwedigaethau proffesiynol cysylltiedig:
- Gweithwyr proffesiynol cyswllt lles a thai (322)
- Gweithwyr proffesiynol cyswllt busnes (354)
- Gweithwyr proffesiynol AD, hyfforddiant a chanllawiau galwedigaethol o fath arall (357)
- Gweithwyr proffesiynol cyswllt rheoleiddio (358)
- Galwedigaethau gweinyddol ac ysgrifenyddol: Galwedigaethau gweinyddol: cofnodion (413)
- Galwedigaethau crefftau medrus:
- Crefftau gorffen adeiladau (532)
- Goruchwylwyr adeiladu a chrefftau adeiladu (533)
- Galwedigaethau gofalu, hamdden a gwasanaethau eraill: Gwasanaethau personol gofalu (613)
- Galwedigaethau gwerthu a gwasanaethau i gwsmeriaid:
- Cynorthwywyr gwerthu ac arianwyr manwerthu (711)
- Galwedigaethau sy’n gysylltiedig â gwerthu (712)
- Gweithwyr prosesau, offer a pheiriannau:
- Gweithwyr prosesau (811)
- Gweithwyr a gyrwyr peiriannau symudol (822)
- Galwedigaethau elfennol: Galwedigaethau glanhau elfennol (922)
Ffigur 2: lefelau cyflogaeth ar gyfer y galwedigaethau ‘galw uchaf’ a ‘galw uwch’, ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben Rhagfyr 2025
Disgrifiad o ffigur 2: siart bar yn dangos bod gan alwedigaethau ‘galw uwch’, ar y cyfan, sylfeini cyflogaeth mwy na galwedigaethau ‘galw uchaf’, yn enwedig o ran Gwasanaethau personol gofalu, Gweithwyr proffesiynol addysgu, Cynorthwywyr gwerthu ac arianwyr manwerthu, a Chyfarwyddwyr a rheolwyr swyddogaethol. Hefyd, roedd nifer o alwedigaethau ‘galw uchaf’ yn cyflogi nifer fawr o weithwyr, ac Adeiladu a chrefftau adeiladu a Gyrwyr trafnidiaeth ffyrdd a oedd â’r lefelau cyflogaeth uchaf yn y band.
Ffynhonnell: Dadansoddiad Llywodraeth Cymru o’r Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth
Roedd gan nifer o’r galwedigaethau ‘galw uchaf’ sylfeini cyflogaeth sylweddol, ac o’r herwydd gallai pwysau o ran galw effeithio ar nifer gymharol fawr o weithwyr. Yn y grŵp ‘galw uchaf’, roedd y lefelau cyflogaeth ar eu huchaf ymhlith y canlynol:
- Adeiladu a chrefftau adeiladu – cyflogi 36,800 o bobl (2.5% o weithlu cyflogedig Cymru)
- Gyrwyr trafnidiaeth ffyrdd – 33,800 (2.3% o’r gweithlu cyflogedig)
- Galwedigaethau addysgu a chymorth gofal plant – 33,000 (2.2% o’r gweithlu cyflogedig)
- Gweithwyr proffesiynol gwerthu, marchnata a meysydd cysylltiedig – 32,900 (2.2% o’r gweithlu cyflogedig)
- Paratoi bwyd a lletygarwch – 20,400 (1.4% o’r gweithlu cyflogedig)
Ond nid y galwedigaethau ‘galw uchaf’ hyn, o angenrheidrwydd, oedd y galwedigaethau mwyaf ym marchnad lafur Cymru yn gyffredinol, a dueddai i gael eu dosbarthu fel galwedigaethau ‘galw uwch’, yn cynnwys:
- Gwasanaethau personol gofalu – cyflogi 80,600 o bobl (5.5% o weithlu cyflogedig Cymru)
- Gweithwyr proffesiynol addysgu – 57,300 (3.9% o’r gweithlu cyflogedig)
- Cynorthwywyr gwerthu ac arianwyr manwerthu – 51,900 (3.6% o’r gweithlu cyflogedig)
- Cyfarwyddwyr a rheolwyr swyddogaethol – 47,700 (3.2% o’r gweithlu cyflogedig)
Er nad oedd y cynnydd mwyaf yn y galw yn digwydd o angenrheidrwydd yng ngalwedigaethau mwyaf Cymru, awgryma hyn fod nifer o alwedigaethau mawr, serch hynny, wedi gweld cynnydd yn y galw.
Roedd y galw cyffredinol o ran recriwtio, a fesurir trwy ddefnyddio nifer gyfartalog yr hysbysebion swyddi ar-lein misol newydd, yn adlewyrchu maint yr alwedigaeth yn fras. Gwelwyd y nifer fwyaf o hysbysebion swyddi yn 2025 yn y ddwy alwedigaeth fwyaf, sef: Gwasanaethau personol gofalu (1,576 o hysbysebion swyddi ar-lein misol newydd ar gyfartaledd) a Gwasanaethau elfennol eraill (969 o hysbysebion). Ond cynhyrchodd nifer o alwedigaethau ‘galw uchaf’ nifer gymharol fawr o hysbysebion o ystyried maint eu gweithlu. Y galwedigaethau ‘galw uchaf’ â’r nifer fwyaf o hysbysebion swyddi oedd:
- Gyrwyr trafnidiaeth ffyrdd (863)
- Gweithwyr proffesiynol gwerthu, marchnata a meysydd cysylltiedig (808)
- Galwedigaethau addysgu a chymorth gofal plant (771)
Er bod y galw o ran recriwtio yn gysylltiedig, yn gyffredinol, â maint y gyflogaeth, dengys hyn fod galw mawr wedi bod am rai galwedigaethau ‘galw uchaf’ o ystyried maint eu gweithlu. Er bod hysbysebion swyddi ar-lein yn arwydd o’r galw o ran recriwtio, dylid nodi y gall gwahaniaethau mewn dulliau recriwtio ar draws galwedigaethau effeithio ar nifer yr hysbysebion a welwyd.
Yn gyffredinol, nid oedd y galwedigaethau ‘galw uchaf’ yn alwedigaethau â chyflogau mawr, oherwydd roedd gan y mwyafrif ohonynt enillion canolrifol yr awr islaw £20 yn 2025. Y galwedigaethau â’r cyflogau mwyaf o blith y galwedigaethau ‘galw uchaf’ oedd:
- Gweithwyr trafnidiaeth a gyrwyr eraill (£28.11 yr awr)
- Gweithwyr proffesiynol gwerthu, marchnata a meysydd cysylltiedig (£19.82 yr awr)
- Gweithwyr proffesiynol cyswllt cyllid (£19.38 yr awr)
- Adeiladu a chrefftau adeiladu (£17.13 yr awr)
Ond roedd gan nifer o alwedigaethau ‘galw uchaf’ enillion canolrifol yr awr cymharol isel yn cynnwys:
- Trin gwallt a gwasanaethau cysylltiedig (£12.63 yr awr)
- Paratoi bwyd a lletygarwch (£13.75 yr awr)
- Gyrwyr trafnidiaeth ffyrdd (£14.58 yr awr)
Awgryma hyn fod galwedigaethau ‘galw uchaf’ i’w cael yn bennaf mewn rolau â chyflogau isel i gymedrol.
Mewn gwrthgyferbyniad, roedd y galwedigaethau ‘galw uwch’ yn cwmpasu amrediad cyflog ehangach o lawer – o rolau â chyflogau bach i rai o’r galwedigaethau â’r cyflogau mwyaf. Roedd y rhain yn cynnwys:
- Ymarferwyr meddygol (£44.09 yr awr)
- Cyfarwyddwyr a rheolwyr gwasanaethau iechyd a chymdeithasol (£31.32 yr awr)
- Gweithwyr proffesiynol addysgu (£30.13 yr awr)
Lefel sgiliau a gofynion cymwysterau ar gyfer galwedigaethau y mae galw amdanynt
Archwiliwyd y bandiau galwedigaeth yn ôl y lefel sgiliau a oedd yn ofynnol ar eu cyfer. Mae SYG yn neilltuo lefel sgiliau rhwng 1 a 4 i bob SOC 2 ddigid. Dyma lefelau sgiliau SYG:
- lefel sgiliau 1, mae’r lefel hon yn cwmpasu galwedigaethau lle cysylltir cymhwysedd â graddau boddhaol a enillwyd mewn addysg orfodol
- lefel sgiliau 2, mae’r lefel hon yn cwmpasu galwedigaethau sydd angen gwybodaeth trwy gyfrwng addysg gyffredinol dda ond sydd, fel arfer, â chyfnod hwy o brofiad gwaith neu hyfforddiant cysylltiedig â gwaith
- lefel sgiliau 3, mae’r lefel hon yn berthnasol i alwedigaethau sydd, fel arfer, angen corff o wybodaeth sy’n gysylltiedig â chyfnod mewn addysg ôl-orfodol, ond nid hyd at lefel gradd fel arfer
- lefel sgiliau 4, mae’r lefel hon yn berthnasol i alwedigaethau sydd, fel arfer, angen gradd neu gyfnod cyfwerth mewn profiad gwaith perthnasol
Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am y modd y dosberthir lefelau sgiliau yn erthygl SYG ar SOC 2020: strwythur a disgrifiadau.
Ffigur 3: cyfran o’r gyflogaeth mewn galwedigaethau ‘galw uchaf’ a ‘galw uwch’ yn ôl lefel sgiliau yng Nghymru, ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben Rhagfyr 2025
Disgrifiad o ffigur 3: siart bar yn dangos bod galwedigaethau ‘galw uchaf’ i’w cael yn bennaf ar lefel 2 a lefel 3, a bod galwedigaethau ‘galw uwch’ wedi’u gwasgaru’n bennaf ar draws lefelau 2, 3 a 4, gyda chyfran fechan hefyd ar lefel 1.
Ffynhonnell: Dadansoddiad Llywodraeth Cymru o’r Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth.
Roedd yr holl alwedigaethau ‘galw uchaf’ angen sgiliau canolradd a oedd, fel arfer, islaw lefel gradd, a gwelir eu bod yn perthyn i lefel 2 (47.7% o’r gyflogaeth ‘galw uchaf’) a lefel 3 (52.3%) SYG yn 2025. Ni ddosbarthwyd unrhyw alwedigaeth ‘galw uchaf’ ar lefel 1 (galwedigaethau sydd angen graddau boddhaol a enillwyd mewn addysg orfodol) na lefel 4 (galwedigaethau sydd angen gradd neu brofiad cyfwerth). Awgryma hyn fod y galwedigaethau lle gwelwyd y cynnydd diweddar mwyaf mewn galw i’w cael yn bennaf mewn rolau a oedd angen hyfforddiant a sgiliau canolradd.
Mewn gwrthgyferbyniad, dangosodd galwedigaethau ‘galw uwch’ ofynion ehangach mewn perthynas â sgiliau, gan gwmpasu pedair lefel SYG. Er bod cyfran fawr o’r rhai a gyflogid yn y grŵp hwn wedi’u dosbarthu ar lefel 2 (35.9%) a lefel 3 (26.5%) yn 2025, cafodd bron i draean (32.3%) eu dosbarthu ar lefel 4, yn cynnwys:
- Gweithwyr proffesiynol addysgu
- Ymarferwyr meddygol
- Gweithwyr proffesiynol gwyddorau naturiol a chymdeithasol
- Gweithwyr proffesiynol ymchwil a datblygu a gweithwyr proffesiynol ymchwil o fath arall
Roedd cyfran fechan o’r gyflogaeth ‘galw uwch’ mewn galwedigaethau ar lefel 1 (5.3%). Dengys hyn fod y pwysau o ran galw y tu allan i’r galwedigaethau ‘galw uchaf’ wedi’i wasgaru’n fwy cyfartal ar draws galwedigaethau sgiliau canolradd a galwedigaethau sgiliau uwch.
Adlewyrchwyd y patrwm hwn hefyd yn lefelau’r cymwysterau. Yn 2025, roedd oddeutu 64.3% o weithwyr mewn galwedigaethau ‘galw uchaf’ yn meddu ar gymhwyster lefel 3 neu uwch y Fframwaith Cymwysterau Rheoleiddiedig (sy’n cyfateb i gymwysterau Safon Uwch neu uwch), o gymharu â 73.3% mewn galwedigaethau ‘galw uwch’. Hefyd, roedd gan nifer o alwedigaethau ‘galw uwch’ gyfran uchel iawn o weithwyr a oedd yn meddu ar gymwysterau lefel 3 neu uwch y Fframwaith Cymwysterau Rheoleiddiedig, yn cynnwys:
- Gweithwyr proffesiynol addysgu (97.0%)
- Ymarferwyr meddygol (96.4%)
- Gweithwyr proffesiynol ymchwil a datblygu a gweithwyr proffesiynol ymchwil o fath arall (93.1%)
- Gweithwyr proffesiynol gwyddorau naturiol a chymdeithasol (93.1%)
Er bod y galwedigaethau a welodd y cynnydd diweddar mwyaf mewn galw angen hyfforddiant a sgiliau ar lefel ganolradd yn gyffredinol, awgryma hyn fod galwedigaethau ‘galw uwch’ yn fwy tebygol o fod yn gysylltiedig â chymwysterau uwch.
Y sgiliau sy’n ofynnol ar gyfer galwedigaethau y mae galw amdanynt
Mae fframwaith Dosbarthiad Sgiliau Safonol y DU (UKSSC) yn darparu data am bwysigrwydd a gofynion sgiliau yn ôl SOC. Defnyddiwyd y data hwn i gyfrifo’r meysydd sgiliau yr oedd eu hangen amlaf ar draws galwedigaethau ‘galw uchaf’ a ‘galw uwch’ yng Nghymru, ynghyd â’u sgoriau pwysigrwydd cysylltiedig. Ceir rhagor o wybodaeth am y fethodoleg yn yr adran cefndir.
Ffigur 4: amlder y 10 maes sgiliau uchaf ar draws galwedigaethau ‘galw uchaf’ a ‘galw uwch’, ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben Rhagfyr 2025
Disgrifiad o ffigur 4: siart bar yn dangos mai ‘rheoli cofnodion sefydliadol a gweithredol’ oedd y maes sgiliau yr oedd ei angen yn fwyaf cyffredin; fe’i gwelir mewn 22 o blith 36 o alwedigaethau ‘galw uchaf’ a ‘galw uwch’.
Ffynhonnell: Dadansoddiad Llywodraeth Cymru o ddata sgiliau fframwaith Dosbarthiad Sgiliau Safonol y DU yn ôl SOC.
Y meysydd sgiliau a ymddangosai amlaf ymhlith y 10 uchaf ar gyfer galwedigaethau ‘galw uchaf’ a ‘galw uwch’ oedd:
- rheoli cofnodion sefydliadol a gweithredol (yn bresennol mewn 22 o blith 36 o alwedigaethau)
- arwain gweithrediadau a gwelliannau sefydliadol (17 galwedigaeth)
- cyfathrebu gwybodaeth gymhleth, dechnegol neu sensitif (17 galwedigaeth)
Roedd y patrwm hwn yn eithaf tebyg ar gyfer galwedigaethau ‘galw uchaf’, gyda 6 o blith y 10 maes sgiliau amlaf i’w gweld ar draws y ddau grŵp. ‘Rheoli cofnodion sefydliadol a gweithredol’ oedd y maes sgiliau a welwyd amlaf o hyd (yn bresennol mewn 10 o blith 13 o alwedigaethau ‘galw uchaf’), ac yna ‘datblygu a gweithredu strategaethau marchnata’ a ‘chyfathrebu gwybodaeth gymhleth, dechnegol neu sensitif’ (y ddau yn bresennol mewn 6 galwedigaeth).
Yn y band ‘galw uchaf’, roedd y maes sgiliau a welwyd amlaf yn dangos cysylltiadau â grwpiau galwedigaethol arbennig hefyd. Câi ‘rheoli cofnodion sefydliadol a gweithredol’ a ‘chynnal ymchwil fasnachol a chyfreithiol’ eu cysylltu’n fwyaf cyffredin â ‘Galwedigaethau proffesiynol cysylltiedig’. Câi ‘cyfathrebu gwybodaeth gymhleth, dechnegol neu sensitif’ ei gysylltu’n arbennig â ‘Galwedigaethau gofalu, hamdden neu wasanaeth o fath arall’; ond fe’i gwelwyd hefyd mewn rhai ‘Galwedigaethau proffesiynol cysylltiedig’. Roedd ‘gwerthuso a dilysu gwybodaeth’ i’w weld yn bennaf mewn ‘Galwedigaethau prosesu, offer a pheiriannau’, ac roedd ‘Adeiladu a chrefftau adeiladu’ i’w weld yn bennaf mewn ‘Galwedigaethau crefftau medrus’.
Ceir gwybodaeth am y sgiliau penodol sy’n gysylltiedig â phob galwedigaeth ‘galw uchaf’ yn y tablau data.
Y galw am alwedigaethau ar draws diwydiannau
Y diwydiant gweinyddiaeth gyhoeddus, addysg ac iechyd a gyflogai’r nifer fwyaf o weithwyr mewn galwedigaethau ‘galw uchaf’ (49,200) a galwedigaethau ‘galw uwch’ (239,000) – sef 23.% o’r gyflogaeth mewn galwedigaethau ‘galw uchaf’ a 47.7% mewn galwedigaethau ‘galw uwch’. Mae hyn yn adlewyrchu’r nifer fawr o alwedigaethau ‘galw uchaf’ a ‘galw uwch’ sydd i’w cael yn y diwydiant ‘gweinyddiaeth gyhoeddus, addysg ac iechyd’.
Ffigur 5: lefelau cyflogaeth yn ôl diwydiant ar gyfer galwedigaethau ‘galw uchaf’ a ‘galw uwch’, ar gyfer y flwyddyn ar ddaeth i ben Rhagfyr 2025
Disgrifiad o ffigur 5: siart bar yn dangos mai’r diwydiant ‘gweinyddiaeth gyhoeddus, addysg ac iechyd’ a oedd â’r gyfran fwyaf o’r gyflogaeth mewn galwedigaethau ‘galw uchaf’ a ‘galw uwch’ yng Nghymru.
Ffynhonnell: Dadansoddiad Llywodraeth Cymru o’r Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth
Roedd y mwyafrif o’r rhai a gâi eu cyflogi mewn ‘gweinyddiaeth gyhoeddus, addysg ac iechyd’ yn y grwpiau ‘galw uchaf’ a ‘galw uwch’ yn perthyn i’r byd addysg (36.4%), ac yna:
- Gweinyddiaeth gyhoeddus ac amddiffyn; nawdd cymdeithasol gorfodol – 50,200 (17.4%)
- Gweithgareddau iechyd dynol – 49,200 (17.1%)
- Gweithgareddau gofal preswyl – 46,100 (16.0%)
Er mai addysg a oedd â’r gyfran fwyaf o’r gyflogaeth yn y grŵp hwn; o ystyried maint mawr y gyflogaeth, roedd sectorau a chanddynt gyfrannau llai yn dal i gyfrif am nifer fawr o unigolion.
Y tu allan i ‘weinyddiaeth gyhoeddus, addysg ac iechyd’, câi’r gyflogaeth yn y galwedigaethau ‘galw uchaf’ ei dosbarthu’n weddol gyfartal ar draws y diwydiannau:
- dosbarthu, gwestai a bwytai (32,800 o bobl, 15.4%)
- adeiladu (30,000, 14.0%)
- trafnidiaeth a chyfathrebu (29,000, 13.6%)
- gweithgynhyrchu (24,400, 11.4%)
- bancio a chyllid (23,400, 10.9%)
Roedd y rhain i gyd yn cyfrif am gyfran sylweddol o’r gyflogaeth yn y grŵp ‘galw uchaf’. Awgryma hyn fod y galwedigaethau a welodd y cynnydd diweddar mwyaf mewn galw wedi’u gwasgaru ar draws amrediad eang o ddiwydiannau yn hytrach na’u bod i’w cael yn bennaf mewn un sector yn unig.
Mewn gwrthgyferbyniad, roedd galwedigaethau ‘galw uwch’ i’w gweld yn bennaf mewn ‘gweinyddiaeth gyhoeddus, addysg ac iechyd’, a oedd yn cyfrif am bron i hanner (239,000, 47.7%) y gyflogaeth yn y grŵp. Gwelwyd cyfrannau llai, ond sylweddol, yn y diwydiannau canlynol:
- dosbarthu, gwestai a bwytai (80,300, 16.0%)
- bancio a chyllid (74,000, 14.8%)
Dengys hyn fod y galw cynyddol y tu allan i’r galwedigaethau ‘galw uchaf’ i’w weld yn bennaf mewn gwasanaethau cyhoeddus a galwedigaethau proffesiynol.
Manylion cyswllt
Awduron: Awdur yr adroddiad: Cyflogadwyedd a Sgiliau, Gwasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddi
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â’r canlynol:
Cyflogadwyedd a Sgiliau
Gwasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddi
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
Cyfeiriad e-bost: kasemployabilityandskillsresearch@llyw.cymru
Rhif ymchwil cymdeithasol: 80/2026
ISBN Digidol: 978-1-80853-239-9

