Neidio i'r prif gynnwys

Gwybodaeth am organeddau a addaswyd yn enetig (GMOau) ar gyfer ymchwil a marchnata, gan gynnwys ceisiadau, penderfyniadau a hysbysiadau.

Cyhoeddwyd gyntaf:
21 Hydref 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Er mwyn diogelu iechyd pobl a’r amgylchedd a sicrhau dewis i ddefnyddwyr, mae deddfwriaeth lem ar waith sy’n rheoleiddio rhyddhau organeddau a addaswyd yn enetig yn fwriadol i’r amgylchedd.

Rhoddir caniatâdau ar gyfer rhyddhau organeddau a addaswyd yn enetig at ddibenion ymchwil a marchnata gan Weinidogion Cymru o dan adrannau 111 a 112 o Ddeddf Diogelu’r Amgylchedd 1990 a Rheoliadau Organeddau a Addaswyd yn Enetig (Eu Gollwng yn Fwriadol) (Cymru) 2002. 

Ceisiadau i farchnata organeddau a addaswyd yn enetig

Mae Lallemand UK Limited (yn cynrychioli Danstar Ferment A.G.) wedi cyflwyno cais i Weinidogion Cymru am ganiatâd i farchnata yng Nghymru furum a addaswyd yn enetig ar gyfer bragu cwrw sur.

Mae ceisiadau am ganiatâd i farchnata’r organedd hwn hefyd wedi’u cyflwyno yn Lloegr ac yn yr Alban.

Mae’n ofynnol inni asesu’r cais hwn gan ddefnyddio cyngor gwyddonol gan y Pwyllgor Cynghori ar Ryddhau i’r Amgylchedd (ACRE). Ar ôl cwblhau’r asesiad, byddwn yn ei gyhoeddi ac yn gwahodd sylwadau ynghylch unrhyw risg o niwed i’r amgylchedd a allai ddeillio o’r rhyddhad y gwneir cais amdano.

Cedwir y gofrestr o geisiadau am ganiatâd, fel y’i nodir yn Rhan VIII o Reoliadau 2002, yn swyddfeydd Llywodraeth Cymru, Rhodfa Padarn, Aberystwyth, SY23 3UR. 

Gellir archwilio’r gofrestr yn bersonol yn ystod oriau swyddfa, sef rhwng 08.00 a 05.00.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â GM-Regulation@llys.cymru.

Cydsyniad i ryddhau organeddau a addaswyd yn enetig