Neidio i'r prif gynnwy

Huw Lewis, y Gweinidog Addysg a Sgiliau

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Mai 2014
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Cafodd Bil Addysg Uwch (Cymru) ei osod heddiw, 19 Mai 2014.  


Pwrpas y Bil yw darparu ar gyfer diwygio’r system ar gyfer rheoleiddio sefydliadau addysg uwch a darparwyr eraill addysg uwch yng Nghymru sy’n gweithredu cynllun ffioedd a mynediad a gymeradwywyd gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC). Bydd y cyrsiau addysg uwch a gynigir gan y sefydliadau a’r darparwyr hyn yn cael eu dynodi’n awtomatig at ddibenion y cymorth statudol i fyfyrwyr a roddir gan Lywodraeth Cymru. Mae Llywodraeth Cymru o’r farn y bydd gwella’r rheolaethau rheoleiddio yn helpu i ddiogelu buddiannau myfyrwyr, trethdalwyr a chymdeithas yn effeithiol.


Bydd y Bil yn sicrhau y bydd CCAUC yn gallu parhau i reoleiddio’r addysg a ddarperir yng Nghymru gan y sefydliadau a’r darparwyr hyn, heb fod ei allu i wneud hynny’n dibynnu ar y cymorth ariannol a roddir iddynt.


Cynigir mai’r sefydliadau a’r darparwyr a ddylai benderfynu a ydynt am wneud cais i CCAUC gymeradwyo cynllun ffioedd a mynediad ai peidio. O ran y sefydliadau a’r darparwyr sydd â chynllun cymeradwy ar waith, mae’r Bil yn rhoi swyddogaethau i CCAUC a fydd:

  • yn galluogi CCAUC i orfodi rheolaethau ffioedd dysgu a gofynion cynlluniau ffioedd a mynediad (Rhan 2 o’r Bil);
  • yn ei gwneud yn ofynnol i CCAUC asesu ansawdd darpariaeth addysg uwch, a bydd yn gallu cymryd camau penodol os nad yw hwnnw’n ddigon da (Rhan 3 o’r Bil); 
  •  yn ei gwneud yn ofynnol i CCAUC baratoi a chyhoeddi cod sy’n ymwneud â threfniadau ariannol a dulliau rheoli cyllid y sefydliadau a’r darparwyr hyn, a bydd yn gallu cymryd camau os byddant yn methu â chydymffurfio â’r cod newydd hwnnw (Rhan 4 o’r Bil).

Bydd llawer o’r rhwymedigaethau y bydd y Bil yn eu rhoi ar y sefydliadau a’r darparwyr sy’n gweithredu cynllun ffioedd yn debyg i’r rhwymedigaethau a osodir gan CCAUC ar hyn o bryd, ond sy’n cael eu gorfodi drwy delerau ac amodau sydd ynghlwm wrth gymorth ariannol. Hefyd, bydd y Bil yn darparu ar gyfer cryfhau swyddogaethau monitro a gorfodi CCAUC mewn perthynas  â mynediad i addysg uwch.

 
Bydd y newidiadau a gyflwynir gan y Bil yn sicrhau bod ein myfyrwyr, ein trethdalwyr a’n cymdeithas yn parhau i allu bod yn hyderus yn ansawdd addysg uwch yng Nghymru; yn ogystal â sicrhau bod cydraddoldeb o ran mynediad i addysg uwch yn parhau yn flaenoriaeth; bod y terfynau o ran ffioedd yn parhau i gael eu gorfodi; a bod CCAUC yn gallu parhau i ddarparu sicrwydd bod materion ariannol sefydliadau yn cael eu rheoli’n briodol.