Neidio i'r prif gynnwy

Yn bresennol

  • Rhun ap Iorwerth AS (Cadeirydd)
  • Sioned Williams AS
  • Mabon ap Gwynfor AS
  • Anna Brychan AS
  • Heledd Fychan AS
  • Llŷr Gruffydd AS
  • Siân Gwenllian AS
  • Y Gwir Anrhydeddus Elin Jones AS
  • Adam Price AS
  • Dafydd Trystan Davies AS
  • Y Gwir Anrhydeddus Elfyn Llwyd 

Swyddogion

  • Andrew Goodall, yr Ysgrifennydd Parhaol 
  • Rachel Garside-Jones, Cyfarwyddwr Swyddfa’r Prif Weinidog
  • Jo Salway, Cyfarwyddwr Swyddfa’r Cabinet 
  • Toby Mason, Cyfarwyddwr Cyfathrebu Strategol
  • Carwyn Wycherley, Dirprwy Bennaeth Swyddfa’r Cabinet
  • Aled ap Dafydd, Uwch-gynghorydd Arbennig
  • Elin Roberts, Uwch-gynghorydd Arbennig
  • Emily Edwards, Uwch-gynghorydd Arbennig
  • Francess Ifan, Uwch-gynghorydd Arbennig
  • Cai Elis, Cynghorydd Arbennig
  • Jonathan Evershed, Cynghorydd Arbennig 
  • Damian Roche, Ysgrifenyddiaeth y Cabinet (cofnodion) 
  • Christopher W Morgan, Ysgrifenyddiaeth y Cabinet (cofnodion)
  • James Oxenham, Ysgrifenyddiaeth y Cabinet 
  • Claire Bennett, Cyfarwyddwr Cyffredinol Llywodraeth Leol, Tai a Gwydnwch Gwledig (eitem 4)
  • Chris Jones, Dirprwy Gyfarwyddwr, Etifeddiaeth Lofaol, Dŵr a Llifogydd (eitem 4)

Eitem 1: Cofnodion y cyfarfod blaenorol

1.1 Cymeradwyodd y Cabinet gofnodion 8 Mehefin.

Eitem 2: Eitemau’r Prif Weinidog

Ymddiswyddiad Prif Weinidog y DU

2.1 Dywedodd y Prif Weinidog wrth y Cabinet ei bod yn siomedig bod gallu Llywodraeth Cymru i ymgysylltu â Phrif Weinidog y DU ar faterion sy'n bwysig i bobl Cymru yn cael ei rwystro gan y dryswch yn San Steffan.

2.2 Yn dilyn cyhoeddiad Syr Keir Starmer am ei ymddiswyddiad y bore hwnnw, roedd wedi galw am berthynas newydd gyda San Steffan, gyda ffocws ar fwy o bwerau, cyllid teg a pharch at y mandad democrataidd a gyflwynwyd gan bobl Cymru. Byddai'n bwysig ceisio perthynas adeiladol gyda'r Prif Weinidog nesaf, gyda disgwyliadau clir bod yn rhaid i'r agenda barch weithio'r ddwy ffordd.

Rhybudd am dywydd eithafol 

2.3 Cyfeiriodd y Prif Weinidog at y rhybudd coch am wres eithafol oedd yn effeithio ar rannau o Gymru yr wythnos honno. Roedd y tymheredd uchel yn debygol o arwain at effeithiau eang, gan gynnwys ar iechyd, ac o safbwynt diogelwch oherwydd cynnydd yn nifer y bobl sy'n ymweld ag ardaloedd arfordirol, llynnoedd ac afonydd. Efallai y bydd tarfu ar deithio ar ffyrdd, ar reilffyrdd ac yn yr awyr hefyd, gyda goblygiadau posibl o ran llesiant i unigolion sy'n profi oedi hir.

2.4 Roedd y Llywodraeth yn gweithio'n agos gyda chyrff cyhoeddus, gan gynnwys Iechyd Cyhoeddus Cymru, i sicrhau bod pobl ledled Cymru yn cael mynediad at wybodaeth glir a chyfredol yn ystod y cyfnod hwn. Byddai deunydd cyfathrebu ar gael ar gyfer y cyhoedd hefyd, gan atgoffa pobl i gymryd gofal ac i wirio bod unigolion agored i niwed yn iawn. Roedd trefniadau cydlynu wedi'u rhoi ar waith i fonitro a rheoli effeithiau'r gwres eithafol ar draws meysydd polisi'r Llywodraeth. Byddai'r Cabinet yn derbyn diweddariadau rheolaidd.

Cyfarfodydd yn Nulyn a Llundain

2.5 Dywedodd y Prif Weinidog wrth y Cabinet y byddai'n mynychu cyfres o ddigwyddiadau a chyfarfodydd gyda Llywodraeth Iwerddon yn Nulyn ddydd Mercher, ac y byddai'n annerch cyfarfod Penaethiaid Cenadaethau'r UE yn Llundain ddydd Iau.

Eitem 3: Busnes y Senedd

3.1 Ystyriodd y Cabinet grid y Cyfarfod Llawn ar gyfer yr wythnos honno a nododd y byddai dadl gyntaf yr Aelodau yn y Senedd bresennol yn cael ei chynnal ddydd Mercher, ar y testun marw-enedigaeth. Roedd y testun hwn wedi cael cefnogaeth pob plaid yn y Senedd, felly roedd yn annhebygol y byddai angen pleidlais.

Eitem 4: Diwygio'r sector dŵr a chynlluniau ar gyfer Adolygiad Prisiau 2029 CAB(26-27)12

4.1 Cyflwynodd y Gweinidog Cabinet dros Wydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd y papur, a oedd yn gofyn i'r Cabinet gytuno ar y dull arfaethedig o gyflawni’r agweddau allweddol ar ymrwymiad y Llywodraeth i gymryd rheolaeth ar ddŵr, tra'n nodi'r ddibyniaeth ar Lywodraeth y DU a'i Bil Dŵr Glân arfaethedig. Roedd y papur yn gofyn i'r Cabinet gytuno hefyd ar y dull o ymdrin ag Adolygiad Prisiau 2029 (PR29).

4.2 Byddai'r diwygiadau hyn yn dechrau'r broses a fyddai'n ceisio sicrhau bod dŵr wedi'i ddatganoli yn llawn. Byddai'n darparu'r sail i alluogi sefydlu system reoleiddio sy'n canolbwyntio ar Gymru i adlewyrchu blaenoriaethau a heriau hirdymor. Roedd yn gymhleth a byddai angen gofyn am bwerau newydd i'r Senedd i sicrhau ei lwyddiant.

4.3 Byddai'r Gweinidog yn ysgrifennu cyn bo hir at Lywodraeth y DU i geisio cytundeb ysgrifenedig ffurfiol cynnar i gadarnhau blaenoriaethau'r Llywodraeth ynghylch datganoli Dŵr yn llawn.

Eitem 5: Diweddariad Llafar – Iechyd a Gofal - Parodrwydd ar gyfer y Gaeaf

5.1 Rhoddodd y Gweinidog Cabinet dros Iechyd a Gofal yr wybodaeth ddiweddaraf i'r Cabinet ar y gwersi a ddysgwyd o'r Gaeaf blaenorol a'r camau sydd ar y gweill i gryfhau gwydnwch ym maes iechyd a gofal cymdeithasol ar gyfer y tymor sydd i ddod, gan gynnwys y ddesg gydlynu galwadau 999.

5.2 Daeth adolygiad Gaeaf 2025-26 i'r casgliad nad oedd methiant yn y system, ond bod gwasanaethau wedi gweithredu yn agos at derfynau gweithredu diogel am gyfnodau hir. Roedd y prif ddarganfyddiadau'n awgrymu bod y pwysau'n dechrau yn gynnar, gan barhau gydol yr hydref a'r gaeaf, yn hytrach na digwyddiadau byr o benllanw. Nid y galw eithriadol yn unig oedd y brif her, ond capasiti gwelyau cyfyngedig, y defnydd uchel o welyau ac arferion gweithredol anghyson, a adawodd y system mewn sefyllfa o bwysau dwys am gyfnod rhy hir. 

5.3 Roedd rhai ymyriadau wedi'u targedu wedi gwella'r sefyllfa, gan gynnwys y ddesg gydgysylltu 999 ar gyfer cwympiadau, gwell capasiti cymunedol a chefnogaeth i gartrefi gofal. Ond roedd y polisi cenedlaethol yn cael llai o effaith pan oedd y gwaith cyflawni yn anwastad ar draws Byrddau Iechyd a phartneriaid. Roedd swyddogion wedi nodi, mewn gohebiaeth, pum blaenoriaeth allweddol ar gyfer sefydliadau iechyd a gofal. Byddai angen iddynt fod yn rhagweithiol gyda gofal i bobl fregus yn y gymuned.

5.4 Y gaeaf hwn, byddai'r ffocws ar fod yn barod yn gynharach, cadw gafael dynnach ar gyflawni, a chamau gweithredu cryfach drwy gydol y flwyddyn o ran llif cleifion, rhyddhau cleifion o'r ysbyty, a chapasiti cymunedol. Y nod fyddai gofal brys a gofal mewn argyfwng sy'n fwy diogel, a mwy gwydn, drwy leihau uwchgyfeirio a gofal mewn coridorau.  Byddai gwell llif drwy ysbytai a gofal cymunedol cryfach, yn enwedig i bobl fregus. 

5.5 Diogelu capasiti ysbytai ar gyfer gofal acíwt a rhyddhau pobl yn ddiogel heb oedi. Byddai angen rheolaeth weithredol effeithiol, gyda ffocws ar lesiant staff.

5.6 Byddai hyn yn golygu gwaith cynllunio cryfach o ran brechu; mesurau tynnach i atal a rheoli heintiau, a ffocws o'r newydd ar ryddhau cleifion yn gynnar ac ar benwythnosau mewn ffordd ddiogel, a chymorth ymarferol ar gyfer gwydnwch staff.

5.7 Gofynnwyd i'r byrddau iechyd a'u partneriaid gynllunio'n gynharach, cydweithio'n agosach, a rhannu gwybodaeth am gapasiti, gan ganolbwyntio ar nifer fach o ganlyniadau allweddol. Felly, byddai angen i asesiadau parodrwydd gael eu cwblhau erbyn diwedd mis Awst, a disgwylir cyngor i Weinidogion ddechrau mis Medi. Byddai angen i unrhyw risgiau sylweddol gael eu huwchgyfeirio i lefel uwch yn gyflym, i gael cefnogaeth a sicrwydd. Roedd cyllid cylchol ychwanegol ar gyfer capasiti gofal brys ac argyfwng wedi cael ei ddyrannu'n barod.

5.8 Yn ogystal, roedd yr Awdurdodau Lleol wedi cael cyllid cylchol i helpu i adeiladu gwydnwch yn y system yn gyffredinol, cynyddu capasiti gwasanaethau cymunedol a helpu i wella pethau o ran llif cleifion a rhyddhau cleifion yn ddiogel o'r ysbyty. Byddai hyn yn cael ei olrhain yn agos trwy drefniadau rhaglen sefydledig.

5.9 Byddai cynllun cyfathrebu cenedlaethol hefyd, fel bod y cyhoedd yn cael cyngor clir, cyson ar frechiadau, hylendid, mynediad at wasanaethau, a rhyddhau'n ddiogel o'r ysbyty er mwyn gwella gartref.

5.10 Croesawodd y Cabinet y diweddariad nododd y byddai'r Gweinidog yn cyflwyno Datganiad Llafar ar 30 Mehefin yn nodi cynlluniau'r Llywodraeth ar gyfer parodrwydd y sector iechyd a gofal ar gyfer y gaeaf. Cytunwyd y byddai angen i swyddogion ystyried sylwadau'r Gweinidogion.

Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
Mehefin 2026