Neidio i'r prif gynnwy

Ein gweledigaeth: Gweithio mewn partneriaeth gymdeithasol

Sefydlwyd y Fforwm Gwaith Teg Gofal Cymdeithasol (“y Fforwm”) ym mis Medi 2020 yn dilyn argymhelliad gan Gomisiwn Gwaith Teg Cymru.

Caiff ei gadeirio'n annibynnol gan yr Athro Rachel Ashworth, yr Athro Rheoli Gwasanaethau Cyhoeddus yn Ysgol Fusnes Caerdydd.

Mae'r Fforwm yn dwyn ynghyd:

  • gynrychiolwyr cyflogwyr
  • undebau llafur
  • rhanddeiliaid eraill
  • Llywodraeth Cymru

fel partneriaid cydradd.

Drwy greu lle ar gyfer gweithio mewn partneriaeth gymdeithasol go iawn yn y sector gofal cymdeithasol, nod y Fforwm yw:

  • gwella cyflog y gweithlu
  • gwella telerau ac amodau'r gweithlu
  • cefnogi'r broses ymarferol o roi egwyddorion gwaith teg ar waith ar draws gofal cymdeithasol yng Nghymru

Caiff y gwaith hwn ei ddatblygu drwy:

  • raglen weithgareddau'r Fforwm ei hun
  • grwpiau gorchwyl a gorffen pwrpasol
  • ymgysylltiad ehangach â rhanddeiliaid

Ein cynnydd yn erbyn ein blaenoriaethau Gwaith Teg

Fframwaith tâl a dilyniant teg ar gyfer y sector cyfan

Cafwyd datblygiad arwyddocaol yn gynharach eleni pan gyflwynodd y Fforwm Fframwaith Tâl a Dilyniant gwirfoddol ar gyfer y sector.

Mae'r Fframwaith yn gosod strwythur clir ar draws y sector sy'n disgrifio:

  • ehangder y rolau ym maes gofal cymdeithasol
  • y llwybrau dilyniant sydd ar gael
  • y sgiliau a'r cyfrifoldebau sy'n gysylltiedig â phob lefel

Mae'r Fframwaith yn dangos bod gofal cymdeithasol yn yrfa gyfoethog a gwerth chweil, a byddwn yn gweithio i bwysleisio hyn o fewn y sector a thu hwnt iddo.

Un o’r prif nodau yw hyrwyddo ac annog mwy o gysondeb mewn tâl a dilyniant, gan gefnogi cyflogwyr i gysoni graddfeydd cyflog yn well ar draws y sector a galluogi gweithwyr i ystyried gofal cymdeithasol fel gyrfa gynaliadwy a gwerth chweil.

Yn arwyddocaol ddigon, mae'r Fforwm wedi ymrwymo i adolygu lefelau cyflog ar gyfer y gweithlu yn dilyn cwblhau gwaith ymchwil yn ddiweddar ar raddfeydd cyflog ar draws y sector, a gomisiynwyd gan Gofal Cymdeithasol Cymru.

Mae'r Fforwm wedi cytuno ar fan cychwyn yn y Fframwaith, y dylai gweithwyr gofal cymdeithasol gael eu talu yn unol â Band 3 yr Agenda ar gyfer Newid ac mae wedi'i gynnwys yn y fframwaith hwnnw.

Mae'r Fforwm yn ystyried y cysondeb hwn yn gam hanfodol i hyrwyddo tegwch, cydraddoldeb a chysondeb ar draws y gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol.

Bydd elfen gyflog y Fframwaith yn parhau i gael ei datblygu a'i chryfhau wrth i'r Fframwaith esblygu.

Cydraddoldeb o ran telerau ac amodau drwy bartneriaeth gymdeithasol

Y llynedd, gwnaethom gyhoeddi sefydlu Partneriaeth Gweithlu Gofal Cymdeithasol.

Yn ystod y deuddeg mis diwethaf, mae'r Bartneriaeth wedi llwyddo i ddatblygu:

  • Cytundebau Cydnabod enghreifftiol
  • polisïau Disgyblu enghreifftiol
  • polisïau Cwyno enghreifftiol

yn ystod ei blwyddyn gyntaf.

Mae hyn yn nodi cam pwysig wrth helpu i sicrhau bod polisïau adnoddau dynol yn cael eu defnyddio'n fwy cyson a bod amodau gwaith yn cael eu gwella ym mhob rhan o'r sector.

Caiff y rhain, a blaenoriaethau eraill y Bartneriaeth, eu pennu gan ddarparwyr gofal cymdeithasol a'r gweithlu.

Gwobrwyo Teg

Mae Deddf Hawliau Cyflogaeth y DU (2025) bellach yn galluogi i Gytundebau Cyflog Teg ar gyfer y gweithlu Gofal Cymdeithasol gael eu hymestyn i Gymru.

Gweithiodd y Fforwm yn agos gyda Llywodraeth Cymru i gyhoeddi Ymgynghoriad ar ddatblygu Corff Negodi Gofal Cymdeithasol i Gymru i bennu Cytundebau Cyflog Teg ar gyfer y gweithlu gofal cymdeithasol.

Daeth yr ymgynghoriad i ben ar 28 Ebrill, a bydd adroddiad o'r ymatebion yn cael ei gyhoeddi yn yr haf.

Gyda Chytundebau Cyflog Teg ar gam cynnar yn eu datblygiad, mae'r Fforwm yn parhau i oruchwylio'r broses o roi'r Cyflog Byw Gwirioneddol ar waith, sef ymrwymiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i gynnal ers 2022.

Canfu gwerthusiad annibynnol, er bod y polisi wedi gwneud cynnydd sylweddol o ran talu'r Cyflog Byw Gwirioneddol i weithwyr gofal yng Nghymru, gan wella tegwch o ran cyflogau yn ystod cyfnod eithriadol o heriol i'r sector, nad yw'r polisi wedi'i gyflawni'n llawn gan nad yw tua 16% o'r gweithlu'n derbyn y Cyflog Byw Gwirioneddol eto.

Adroddodd darparwyr hefyd bryder ynghylch cywasgu cyflogau o ganlyniad anfwriadol i roi'r polisi ar waith.

Mae'r Fforwm yn falch o nodi'r ymrwymiad a wnaeth y llywodraeth newydd yng Nghymru yn ei maniffesto i sicrhau mai'r Cyflog Byw Gwirioneddol fydd y gyfradd isafswm cyflog ar gyfer y sector gofal cymdeithasol yng Nghymru ac mae'n edrych ymlaen at gydweithio i gyflawni'r nod ar y cyd hwn.

Profiad Cynorthwywyr Personol yn y sector gofal cymdeithasol

Mae'r Grŵp Rhanddeiliaid Cynorthwywyr Personol yn parhau i oruchwylio materion sy'n ymwneud â Chynorthwywyr Personol, gan sicrhau bod eu safbwyntiau'n cael eu hadlewyrchu mewn polisïau ar:

  • gyflog
  • delerau ac amodau
  • hyfforddiant a datblygiad
  • hyrwyddo undebau llafur
  • ymwybyddiaeth o'r cymorth sydd ar gael

Mae'r aelodau'n cynnwys cynrychiolwyr o:

  • Lywodraeth Cymru
  • undebau llafur
  • Gofal Cymdeithasol Cymru
  • cynrychiolwyr cyflogwyr cynorthwywyr personol
  • Gweithgor Cynorthwywyr Personol “Awdurdodau Lleol Cymru Gyfan”
  • y Fforwm Taliadau Uniongyrchol

Ymhlith y prif flaenoriaethau mae:

  • gwella data ar y gweithlu cynorthwywyr personol
  • cryfhau cyfathrebu a gwybodaeth ar gyfer cynorthwywyr personol
  • sicrhau bod cynorthwywyr personol yn cytuno ar Fframwaith Tâl a Dilyniant y Gweithlu Gofal Cymdeithasol er mwyn cefnogi cyflog teg a datblygu gyrfa

Mae'r Grŵp wedi cyfrannu at yr ymgynghoriad ar gyflwyno taliadau uniongyrchol i oedolion sy'n derbyn Gofal Iechyd Parhaus y GIG, gan ystyried yr effeithiau posibl ar Gynorthwywyr Personol sy'n gweithio ym maes gofal cymdeithasol.

Mae'r Grŵp a'i aelodau'n gweithio'n agos gyda swyddogion Taliadau Uniongyrchol Llywodraeth Cymru a chynrychiolwyr byrddau iechyd i gefnogi'r broses o roi taliadau uniongyrchol ym maes Gofal Iechyd Parhaus ar waith yn effeithiol.

Byddant yn parhau i wneud hynny drwy ymgysylltiad parhaus a thrafodaethau a rennir mewn cyfarfodydd rhwng Rhanddeiliaid, er mwyn sicrhau cysondeb ac arferion diogel a chyson ym meysydd iechyd a gofal cymdeithasol.

Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant

Mae'r grŵp Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant yn parhau i weithio gyda phartneriaid, yn ogystal â chysylltu â Grŵp Gorchwyl a Gorffen Llais y Gweithiwr y Fforwm ei hun a Phartneriaeth y Gweithlu Gofal Cymdeithasol, i sicrhau bod materion Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant yn cael eu hystyried mewn perthynas â phob dimensiwn o waith teg.

Mae'r Grŵp wedi trafod:

  • cynnydd yn erbyn y camau gweithredu a nodir yng Nghynllun Gweithredu Cymru Wrth-Hiliol ar gyfer y gweithlu gofal cymdeithasol
  • sut y gallant gefnogi aelodau o'r gweithlu sy'n wynebu cam-drin a gwahaniaethu

Mae'r Grŵp yn ystyried sut i wella canllawiau i'r gweithlu o ran sut i roi gwybod am achosion o'r fath, er mwyn i'r holl staff deimlo'n ddiogel i wneud hynny.

Mae'r Grŵp yn casglu gwybodaeth am fylchau mewn adnoddau, hyfforddiant a phrosesau cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn y gweithlu gofal cymdeithasol.

Yng ngoleuni'r adroddiad ar yr adolygiad annibynnol o ymrwymiad Cyflog Byw Gwirioneddol Llywodraeth Cymru, mae'r Grŵp wedi canolbwyntio ar ystyried:

  • sut rydym yn cynorthwyo'r broses o gasglu data ar y nifer lleiaf o weithwyr nad ydynt yn derbyn y Cyflog Byw Gwirioneddol
  • sut y gellir gwella hyn

Bydd y Grŵp yn dwyn ynghyd dystiolaeth ar ganlyniadau gwahanol o safbwynt Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant.

Eleni, mae aelodau wedi clywed gan gydweithwyr Llywodraeth Cymru am:

  • y Model Cymdeithasol o Anabledd
  • rôl Hyrwyddwyr Cyflogaeth Pobl Anabl

Bydd y Grŵp yn parhau i gysylltu â phartneriaid i rannu gwybodaeth ac i helpu i feithrin cysylltiadau rhwng darparwyr gofal cymdeithasol a'r hyrwyddwyr hyn.

Comisiynu gwaith ymchwil ac ymgysylltu ar ddarparu gwasanaethau micro-ofal

Mae Llywodraeth Cymru wedi cynnal ymgysylltiad pellach â rhanddeiliaid ym mhob rhan o'r sector yn 2025 a dechrau 2026, gan gynnwys holi awdurdodau lleol i gael dealltwriaeth gyfoes o sut mae gwasanaethau micro-ofal yn cael eu defnyddio i ddarparu gofal a chymorth drwy gomisiynu neu drwy daliadau uniongyrchol.

Gofynnwyd i randdeiliaid am eu barn ar bolisïau neu ddatblygiadau rheoleiddio posibl, sy'n cael eu hystyried ar hyn o bryd.

Tynnu sylw at ddiogelwch a hyblygrwydd contractau

Yn gynharach eleni, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ganfyddiadau o ymchwil a gomisiynwyd ar gontractau dim oriau a chwtogi galwadau'n fwriadol ym maes gofal cartref yng Nghymru.

Mae'r canfyddiadau'n dangos, er gwaethaf ymdrechion rheoleiddio ers 2017, bod contractau dim oriau yn parhau i fod yn gyffredin, a hynny'n bennaf oherwydd:

  • arferion comisiynu
  • pwysau ariannol
  • prinder gweithlu

Er bod rhai gweithwyr gofal yn gwerthfawrogi hyblygrwydd trefniadau dim oriau, mae llawer yn profi:

  • ansicrwydd ariannol
  • straen
  • diffyg rheolaeth ar eu bywydau gwaith

gyda chyfran sylweddol yn ffafrio contractau oriau wedi'u gwarantu.

Mae effeithiau cwtogi galwadau'n fwriadol hefyd yn ddifrifol gan fod hyn:

  • yn tanseilio ansawdd gofal
  • yn cynyddu trallod moesol i weithwyr
  • yn cyfrannu at ddiffygiad
  • yn cyfrannu at gyfraddau uchel o swyddi gwag
  • yn cyfrannu at gyfraddau cadw staff gwael

Mae'r Fforwm wedi rhannu canfyddiadau'r adroddiad hwn â Llywodraeth y DU i lywio eu newidiadau arfaethedig i'r agweddau contractau dim oriau yn y Ddeddf Hawliau Cyflogaeth.

Ochr yn ochr â hyn, bydd y Fforwm yn parhau i weithio gyda phartneriaid cymdeithasol i gydbwyso'r heriau proffesiynol a phersonol yn ymwneud â chontractau dim oriau a manteision gweithio hyblyg.

Ffocws ar hawliau cyflogeion, eu llais a chynrychiolaeth ohonynt

Mae canfyddiadau arolwg gweithlu cenedlaethol Gofal Cymdeithasol Cymru 2025 yn tynnu sylw at bwysigrwydd camau gweithredu parhaus a chydweithredol i gryfhau gwaith teg, cyflog teg a dilyniant ar draws y gweithlu gofal cymdeithasol yng Nghymru.

Er bod morâl gwell ac ymdeimlad cryf o bwrpas yn dangos ymrwymiad wedi'i gymell gan werthoedd y sector, mae pwysau ariannol parhaus, boddhad amrywiol â chyflog, ac adroddiadau o straen sy'n gysylltiedig â llwyth gwaith a gofynion gweinyddol yn tynnu sylw at yr angen am arferion cyflogaeth mwy cyson a thryloyw.

Mae'r canfyddiadau'n atgyfnerthu'r achos dros ddulliau ar hyd y sector sy'n:

  • cefnogi cyflog teg a chynaliadwy
  • galluogi llwybrau dilyniant clir
  • cydnabod sgiliau a phrofiad
  • lleihau pwysau y gellir eu hosgoi yn y gwaith

Gyda'i gilydd, mae'r dystiolaeth yn cefnogi cydweithio parhaus drwy Fforwm Gwaith Teg Gofal Cymdeithasol i:

  • ymgorffori egwyddorion gwaith teg
  • hyrwyddo tegwch a chadw staff
  • sicrhau bod rolau gofal cymdeithasol yn cynnig llwybrau gyrfa diogel, gwerthfawr a deniadol

Gweithiodd Grŵp Gorchwyl a Gorffen Llais y Gweithiwr yn agos gyda Gofal Cymdeithasol Cymru i gefnogi a chael cymaint o gyfranogiad â phosibl yn arolwg 2026.

Roedd hyn yn cynnwys:

  • helpu i wella hygyrchedd
  • sicrhau bod gweithwyr yn teimlo'n ddiogel ac yn hyderus i rannu eu barn

Er nad yw adroddiad terfynol 2026 wedi'i gyhoeddi eto, mae'r canfyddiadau cynnar yn awgrymu bod yr arolwg wedi gweld cyfradd ymateb o ychydig o dan 10% o'r gweithlu, sydd i fyny o 7% yn 2025.

Mae'r Grŵp yn edrych ymlaen at ystyried y canfyddiadau ehangach pan gânt eu cyhoeddi.

Mae'r Grŵp hefyd yn dilyn gwaith Gofal Cymdeithasol Cymru yn agos i hyrwyddo a gwreiddio diwylliannau gweithle cadarnhaol ym maes gofal cymdeithasol, gyda chymorth Sefydliad Rayne.

Mae ymchwil a thystiolaeth gan y Sefydliad yn pwysleisio cysylltiadau cryf rhwng diwylliannau sefydliadol cadarnhaol a chanlyniadau llesiant gwell ar gyfer:

  • pobl sy'n defnyddio gwasanaethau gofal a chymorth
  • y gweithlu sy'n eu cefnogi

Bydd y Grŵp yn parhau i roi mewnbwn i'r Fforwm, gan gynnig arsylwadau ac awgrymiadau i'w hystyried i gefnogi mynediad gweithwyr at undebau llafur ledled Cymru.

Recriwtio Rhyngwladol

Daeth recriwtio rhyngwladol yn un o'r blaenoriaethau allweddol i'r Fforwm Gwaith Teg Gofal Cymdeithasol y llynedd.

Mae'n ystyried yr heriau y mae gweithwyr gofal mudol yn eu hwynebu, gan gynnwys y risg o gamfanteisio ar weithwyr, yn rheolaidd.

Er ein bod yn gwybod bod y rhan fwyaf o gyflogwyr yn cefnogi eu gweithwyr mudol yn llwyr, roedd mwy o drwyddedau noddi cyflogwyr yn cael eu dirymu gan Fisâu a Mewnfudo'r DU (UKVI) a oedd yn golygu bod gweithwyr mudol a oedd eisoes yn gweithio ym maes gofal cymdeithasol yng Nghymru yn cael eu "dadleoli" heb unrhyw fai arnyn nhw eu hunain.

Ar ddechrau 2025 nid oedd unrhyw gymorth uniongyrchol i weithwyr mudol yng Nghymru, a nododd y Fforwm fod hwn yn bryder allweddol wrth amddiffyn a chefnogi'r gweithwyr hyn.

Yn ogystal, ym mis Gorffennaf 2025 cyhoeddodd UKVI ddiwedd ar recriwtio o dramor i rolau gofal cymdeithasol.

Roedd hyn yn golygu nad oedd cyflogwyr a oedd wedi bwriadu recriwtio o dramor yn gallu gwneud hynny mwyach, gan achosi mwy o bwysau ar y gweithlu ar draws y sector.

Roedd y Fforwm yn glir bod angen mynd i'r afael â hyn, ac mewn ymateb, sefydlodd Llywodraeth Cymru y Gwasanaeth Cynghori Cenedlaethol.

Mae'r gwasanaeth:

  • yn cefnogi gweithwyr gofal cymdeithasol sydd wedi'u dadleoli
  • yn cefnogi gweithwyr o dramor sydd eisoes yn byw yng Nghymru
  • yn helpu gweithwyr i ddod o hyd i gyflogaeth arall ym maes gofal cymdeithasol
  • yn helpu darparwyr i fynd i'r afael â phwysau'r gweithlu

Mae'n:

  • cysylltu gweithwyr â darparwyr gofal Cymreig sydd â swyddi gwag a thrwyddedau noddi
  • darparu pwynt cyswllt cyntaf i weithwyr o dramor
  • eu cyfeirio at wasanaethau cymorth perthnasol

Er bod cynnydd wedi'i wneud, rydym yn cydnabod bod angen camau gweithredu pellach a byddwn yn parhau i fonitro cynnydd y Gwasanaeth Cynghori Cenedlaethol.

Rydym yn annog Llywodraeth nesaf Cymru i gymryd camau i sicrhau cydweithio ar draws yr holl bartneriaid allweddol, gan gynnwys:

  • Llywodraeth y DU
  • y Swyddfa Genedlaethol
  • comisiynwyr
  • darparwyr gofal
  • y Fforwm

i gryfhau mesurau diogelwch, sicrhau bod gwaith comisiynu'n cefnogi ac yn galluogi triniaeth deg i bob gweithiwr, a chytuno ar ddull cyson o fynd i'r afael ag arferion cyflogaeth gwael lle cânt eu nodi.

Blaenoriaethau sy'n dod i'r amlwg ar gyfer y Fforwm yn 2026

Tâl Salwch

Mae'r Fforwm yn parhau i dynnu sylw at bryderon ynghylch tâl salwch ar draws y sector gofal cymdeithasol.

Er ei fod yn croesawu'r newidiadau a gafodd eu cynnwys fel rhan o'r Ddeddf Hawliau Cyflogaeth i wella tâl salwch, nid yw'r Fforwm yn teimlo bod y rhain yn mynd yn ddigon pell.

Yn ogystal, fel Fforwm sy'n cynnwys cynrychiolwyr cyflogwyr gofal cymdeithasol, rydym yn ymwybodol o'r pwysau ariannol y mae'r agwedd hon ar y Ddeddf wedi'i roi ar gyflogwyr gofal cymdeithasol, heb unrhyw gyllid ychwanegol i gefnogi cyflogwyr i roi'r newidiadau hyn ar waith.

Mae canlyniadau Arolwg Gweithlu Gofal Cymdeithasol Cymru mewn perthynas â thâl salwch yn parhau i roi gwybod i ni fod materion tâl salwch yn bryder o hyd, ac yn wir mae hyn yn parhau i fod yn ffocws blaenoriaeth i'r Fforwm.

Gwnaethom ysgrifennu at y Dirprwy Weinidog Plant a Gofal Cymdeithasol blaenorol ar ddechrau'r flwyddyn i bwysleisio o'r newydd ein pryderon ynghylch tâl salwch ac, er gwaetha'r heriau ariannol, byddwn yn parhau i dynnu sylw at hyn fel mater o flaenoriaeth gyda'r llywodraeth newydd.

Deddf Hawliau Cyflogaeth (2026)

Y llynedd croesawodd y Fforwm gyhoeddiad Bil Hawliau Cyflogaeth newydd Llywodraeth y DU a dderbyniodd Gydsyniad Brenhinol ym mis Rhagfyr 2025.

Bydd y Ddeddf Hawliau Cyflogaeth yn cyflwyno diwygiadau sylweddol drwy gydol 2026, gan ganolbwyntio ar:

  • gryfhau hawliau gweithwyr
  • gwella pwerau undebau llafur
  • gorfodi cyflog teg ym mhob sector

Bydd y Ddeddf yn sefydlu Asiantaeth Gwaith Teg newydd ledled y DU a fydd yn gwella gorfodadwyedd ymarferol amddiffyniadau cyfreithiol a hawliau cyflogaeth presennol i raddau helaeth.

Bydd y Ddeddf hefyd yn atgyfnerthu:

  • diwylliant o hyblygrwydd
  • diwylliant o gymorth

a fydd yn gwella'r amodau sy'n caniatáu i weithwyr aros mewn gwaith yn ddiogel, gydag urddas a diogelwch ariannol yn sylweddol.

Bydd y Ddeddf yn cryfhau diogelwch ar gyfer:

  • gweithwyr dim oriau
  • gweithwyr nifer isel o oriau

Bydd y Ddeddf yn cyflwyno:

  • hawliau newydd i oriau wedi'u gwarantu
  • iawndal ar gyfer shifftiau byr rybudd
  • iawndal ar gyfer shifftiau wedi'u canslo

Bydd y Ddeddf hefyd yn:

  • atgyfnerthu'r gwaharddiad ar gymalau cyfyngu
  • ychwanegu at y diwygiadau cynharach i dâl gwyliau
  • ychwanegu at y diwygiadau cynharach i gyfrifiadau oriau gwaith

Mae hyn yn lleihau hyblygrwydd un‑ochrog a brofir yn aml gan weithwyr gofal, gan annog contractau mwy sefydlog a diogelwch incwm.

Er bod y Ddeddf yn perthyn i Lywodraeth y DU, mae'r Fforwm a Phartneriaeth y Gweithlu Gofal Cymdeithasol wedi cytuno bod rôl i'w chwarae wrth baratoi'r sector ar gyfer y newidiadau hyn.

Mae'r Fforwm yn cydnabod yr heriau y bydd darparwyr gofal cymdeithasol yn benodol yn eu hwynebu wrth fabwysiadu rhai o'r mentrau hyn, heb unrhyw gyllid â chymorth.

Mae'r Bartneriaeth yn ystyried:

  • blaenoriaethau newydd ar gyfer 2026 i 2027
  • datblygu polisïau a fydd yn helpu darparwyr i gefnogi a mabwysiadu'r newidiadau o'r Ddeddf Hawliau Cyflogaeth

Rhagor o Wybodaeth

Aelodau'r Fforwm

Mae aelodau'r Fforwm fel a ganlyn:

  • Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru
  • Fforwm Gofal Cymru
  • GMB
  • Fforwm Darparwyr Cenedlaethol
  • Y Coleg Nyrsio Brenhinol
  • Gofal Cymdeithasol Cymru
  • Cyngres Undebau Llafur Cymru
  • Unsain
  • Llywodraeth Cymru
  • Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

Cylch gwaith y Fforwm

Mae cylch gwaith y Fforwm yn canolbwyntio ar weithwyr gofal cymdeithasol a delir yn y sectorau:

  • cyhoeddus
  • preifat
  • trydydd sector

I ddechrau, roedd yn canolbwyntio'n bennaf ar weithwyr gofal cymdeithasol yn y sector annibynnol, ond bydd ei ystyriaethau hefyd yn ymestyn i'r sector cyhoeddus.

Ni fydd y fforwm yn amharu ar y proffesiynau hynny sydd â chytundebau bargeinio cyfunol presennol ar waith, er enghraifft:

  • Gweithwyr Cymdeithasol
  • Therapyddion Galwedigaethol
  • Nyrsys Cofrestredig

Archwiliad ac adolygiad y Fforwm Gwaith Teg Gofal Cymdeithasol

Ers ein diweddariad diwethaf, mae'r Fforwm wedi croesawu archwiliad mewnol gan Lywodraeth Cymru, a oedd yn cynnig cyfle gwerthfawr i fyfyrio ar ein ffyrdd o weithio ac adeiladu ar yr hyn sydd eisoes yn gweithio'n dda.

Roedd yr archwiliad yn cydnabod:

  • dull partneriaeth gymdeithasol cryf y Fforwm
  • ymgysylltu effeithiol â rhanddeiliaid

Roedd hefyd yn cefnogi gwelliannau pellach, gan gynnwys:

  • goruchwyliaeth gliriach o'n gwaith
  • trefniadau cyflawni mwy strwythuredig
  • adolygiad rheolaidd o aelodaeth ac arweinyddiaeth
  • cyflwyno cofrestr risg

Er mwyn cefnogi gwelliant parhaus, mae'r Fforwm hefyd wedi cryfhau ei brosesau adolygu blynyddol, gan gynnwys:

  • arolwg o aelodau
  • cylch gorchwyl wedi'i adnewyddu ar gyfer y Fforwm
  • cylch gorchwyl wedi'i adnewyddu ar gyfer grwpiau gorchwyl a gorffen y Fforwm

gan helpu i sicrhau eglurder, effeithlonrwydd a phenderfyniadau effeithiol.

Wrth i ni symud ymlaen gyda llywodraeth newydd i Gymru, mae'r Fforwm yn edrych ymlaen at adeiladu ar ei sylfaen gref o weithio mewn partneriaeth er mwyn parhau i ddatblygu gwaith teg ym maes gofal cymdeithasol.

Rhagor o wybodaeth

Ceir rhagor o wybodaeth am y Fforwm ar wefan Llywodraeth Cymru:

Fforwm Gwaith Teg Gofal Cymdeithasol