Dysgwch pryd i brofi anifeiliaid sydd wedi cael eu brechu a sut i gael profion preifat.
Cynnwys
Cyflwyniad
Ers 10 Tachwedd 2025, mae Cymru gyfan wedi bod yn barth dan gyfyngiadau'r tafod glas. Mae hyn yn golygu nad oes angen prawf cyn-symud er mwyn symud anifeiliaid yng Nghymru.
Profi anifeiliaid sydd wedi cael eu brechu rhag y tafod glas
Dylech aros o leiaf saith diwrnod ar ôl brechu i gynnal samplu a phrofi am y tafod glas (prawf PCR) cyn symud. Gallai profi o fewn saith diwrnod arwain at ganlyniadau positif anghywir.
Os ydych yn profi i wirio a yw gwrthgyrff wedi datblygu ar ôl brechu rhag y tafod glas (prawf ELISA), dylech aros o leiaf 21 diwrnod ar ôl i'r cwrs o frechiadau gael ei gwblhau cyn cymryd samplau.
Profion tafod glas preifat
Profion cyn-symud preifat
Rhaid ichi gomisiynu eich milfeddyg preifat eich hun i gasglu samplau, a rhaid ichi dalu am hyn. Mae canllawiau ar gasglu ac anfon samplau ar gael ar wefan Sefydliad Pirbright a rhaid eu dilyn os ydych yn defnyddio milfeddyg preifat. Rhaid cyflwyno samplau yn uniongyrchol i Sefydliad Pirbright.
Rhaid ichi nodi'n glir ar y ffurflen gyflwyno a ydych eisiau prawf PCR yn unig neu brawf PCR a phrawf ELISA. Mae'r ffurflen gyflwyno ar gael ar wefan Sefydliad Pirbright. Gwnewch yn siŵr eich bod yn defnyddio'r fersiwn ddiweddaraf.
Bydd samplau'n cael eu profi yn y drefn maen nhw'n cyrraedd. Nid oes modd blaenoriaethu ar sail dyddiadau symud arfaethedig, na phrofi samplau'n gyflymach.
Nid yw'r labordy yn gweithio ar benwythnosau na gwyliau banc. Gwiriwch oriau agor Sefydliad Pirbright o amgylch cyfnodau gwyliau i gynllunio eich profion o'u cwmpas.
Dylai'r unigolyn sy'n gwneud cais am drwydded a'r milfeddyg fod yn ofalus wrth gymryd samplau, i sicrhau eu bod yn llenwi'r ffurflenni'n gywir, eu bod yn gwneud y gwaith samplu'n gywir a'u bod yn llenwi'r labeli'n glir. Gallai unrhyw gamgymeriad arwain at oedi a ffioedd posibl am gywiro adroddiadau.
Pwysig
Gwnewch yn siŵr bod ID swyddogol yr anifail wedi'i ddangos yn glir ar y ffurflen a bod y ffurflen cyflwyno sampl wedi'i marcio â 'prawf cyn-symud'. Gall unrhyw amwysedd ynghylch ID anifeiliaid oedi canlyniadau'r prawf. Ychwanegwch rif cyfeirnod y drwydded, os oes un gennych chi, gan y bydd yn cyflymu cyhoeddi'r drwydded os bydd profion yn negyddol.
Mathau eraill o brofion preifat
Gallai mathau eraill o brofion preifat gynnwys:
- profion yn dilyn casglu cynnyrch cenhedlu
- profion cyn-fridio ar hyrddod neu deirw
- profion ar ôl symud
Ar gyfer y rhain ac unrhyw fath arall o brofion preifat, dilynwch yr un broses ag ar gyfer profion cyn-symud preifat, ond gofynnwch i'ch milfeddyg nodi'n glir y rheswm dros brofi ar y ffurflen cyflwyno sampl.
Talu am brofion
Pan fydd Sefydliad Pirbright yn derbyn eich sampl, byddan nhw'n dechrau ei phrofi cyn gynted â phosibl.
Byddan nhw hefyd yn anfon anfoneb atoch, y dylech ei thalu cyn gynted â phosibl, ond ni fydd hyn yn dylanwadu ar ba mor fuan y bydd y profion yn dechrau na phryd y byddwch yn cael eich canlyniadau.
Cael eich canlyniadau
Bydd Sefydliad Pirbright yn e-bostio'r canlyniadau atoch chi neu'ch milfeddyg preifat ac APHA ar yr un pryd. Peidiwch â ffonio Sefydliad Pirbright am ganlyniadau.
Dylech ganiatáu o leiaf tri diwrnod gwaith i'r labordy gwblhau profion o'r dyddiad mae'r samplau'n dod i law.
Pan fydd APHA yn cael eich canlyniadau negyddol, gallan nhw brosesu eich trwydded.
Cymorth
Os oes gan eich anifail arwyddion o'r tafod glas, efallai y byddwch yn gymwys i gael prawf diagnostig wedi'i ariannu gan y llywodraeth. Am ragor o wybodaeth ac i roi gwybod am glefyd posibl, cysylltwch a'r:
Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion
03003 038 268 77
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.
