Siân Gwenllian AS, Gweinidog Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio
Heddiw mae'n bleser gennyf gyhoeddi penodiad Tamsin Ramasut a'r Athro Simon Gibson CBE fel cyd-gadeiryddion y Tasglu Canol Trefi newydd.
Gan ddod ag arbenigedd helaeth at ei gilydd ym maes adfywio, creu lleoedd, busnes, arloesedd a buddsoddiad, bydd Tamsin a Simon yn arwain y grŵp gorchwyl a gorffen hwn wedi'i ffocysu wrth gyflawni un o ymrwymiadau allweddol y Llywodraeth hon i gefnogi dyfodol canol trefi ledled Cymru.
Mae canol trefi yn parhau i fod yng galon ein cymunedau, o ddinasoedd, trefi a phentrefi i'r aneddiadau gwledig sy'n gweithredu fel canolfannau gwasanaethau a chymunedol hanfodol. Maent yn lleoedd lle mae pobl yn gweithio, yn cael mynediad at wasanaethau, treulio amser gyda theulu a ffrindiau, a chymryd rhan mewn bywyd trefol a diwylliannol. Ond maent yn parhau i wynebu heriau sylweddol o ganlyniad i ymddygiad newidiol defnyddwyr, pwysau economaidd a'r rôl mae canol trefi yn ei chwarae ym mywydau pobl bob dydd.
Cafodd y Tasglu Canol Trefi ei sefydlu i ddarparu cyngor ymarferol, arbenigol ar sut y gallwn gefnogi canol trefi. Bydd ei waith yn canolbwyntio ar nodi camau gweithredu a all herio'r dirywiad, a'r newid yn y defnydd i gynyddu’r nifer sy’n eu defnyddio, cefnogi busnesau Cymru, denu buddsoddiad a chryfhau bywiogrwydd hirdymor ein trefi a chanol ein dinasoedd.
Mae'r Athro Simon Gibson CBE yn hwylusydd arloesedd Cymru ers amser maith. Fel un o sylfaenwyr Alacrity ac wrth gyflawni rolau arwain yn Wesley Clover, Ubiquity Software ac Awdurdod Datblygu Cymru, mae wedi helpu i ddenu buddsoddiad, cefnogi entrepreneuriaeth a sbarduno twf busnes ledled Cymru, profiad a fydd yn amhrisiadwy i waith y Tasglu.
Mae Tamsin Ramasut yn ymarferydd profiadol yn y maes adfywio, creu lleoedd ac ymgysylltu cymunedol ac mae ganddi brofiad helaeth o weithio ar draws y sectorau cyhoeddus, preifat a chymunedol. Drwy ei gwaith presennol ar y rhaglen Natur, Trefi a Dinasoedd, ymgynghori ar ymgysylltu cymunedol a rolau blaenorol mae wedi cefnogi ystod eang o brosiectau adfywio, ymgysylltu a rhai sy’n seiliedig ar leoedd. Bydd ei harbenigedd mewn cyfranogi, cynllunio ac adfywio a arweinir gan y gymuned yn dod â syniadau gwerthfawr i waith y Tasglu.
Gyda’i gilydd, mae’r cyd-gadeiryddion yn dod ag ystod o brofiad sy’n ymwneud â busnes, buddsoddi, adfywio, creu lleoedd ac ymgysylltu cymunedol, gan ddarparu arweinyddiaeth gytbwys ar gyfer gwaith y Tasglu.
Gan weithio gydag aelodau o bob rhan o fusnes, llywodraeth leol, adfywio, cynllunio, y byd academaidd a chymunedau, bydd y cyd-Gadeiryddion yn goruchwylio rhaglen waith uchelgeisiol gyda'r nod o nodi argymhellion ymarferol ar gyfer Gweinidogion Cymru.
Edrychaf ymlaen at weithio gyda'r Tasglu a derbyn ei argymhellion ar sut y gallwn sicrhau bod ein canol trefi yn parhau i fod yn lleoedd bywiog, ffyniannus a gwerthfawr i fusnesau, cymunedau a chenedlaethau'r dyfodol.
Cyhoeddir y datganiad hwn yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau. Os bydd yr Aelodau am imi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynghylch hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddaf yn hapus i wneud hynny.
