Adolygiad pum mlynedd o'r ddarpariaeth ddysgu ychwanegol cyfrwng Cymraeg: crynodeb
Tystiolaeth o'r adolygiad, gan gynnwys y cynnydd a wnaed, yr heriau a'r argymhellion sy'n weddill.
Ar y dudalen hon
Cyflwyniad
Mae'r adroddiad hwn yn amlinellu canfyddiadau'r Adolygiad Pum Mlynedd cyntaf o Ddarpariaeth Ddysgu Ychwanegol (DDdY) Cyfrwng Cymraeg a gynhaliwyd rhwng mis Hydref 2025 a mis Mai 2026.
Cyd-destun polisi
Mae'r system Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) yng Nghymru yn cefnogi plant a phobl ifanc 0 i 25 oed ac mae'n seiliedig ar Ddeddf ADY 2018, Cod ADY 2021 a rheoliadau cysylltiedig. Mae'n disodli'r system Anghenion Addysgol Arbennig (AAA) flaenorol a chafodd ei chyflwyno'n raddol o 2021 i 2025. Un o nodau canolog y broses ddiwygio yw creu system ADY ddwyieithog lle y gall dysgwyr gael mynediad at DDdY yn y Gymraeg lle bo angen.
Mae'r Ddeddf ADY yn cyflwyno diffiniadau statudol o ADY a DDdY, yn ei gwneud yn ofynnol i bob dysgwr ag ADY gael Cynllun Datblygu Unigol (CDU). Mae’r Ddeddf yn gosod i ystyried a ddylai DDdY yn Gymraeg gael ei darparu yn Gymraeg ar:
- ysgolion a gynhelir
- Awdurdodau Lleol (ALlau)
- sefydliadau addysg bellach (SABau)
- byrddau iechyd lleol (BILlau)
Rhaid i'r cyrff hyn gymryd “pob cam rhesymol” i ddarparu DDdY drwy gyfrwng y Gymraeg.
Mae Adran 89 o'r Ddeddf ADY yn ei gwneud yn ofynnol i adolygiad cenedlaethol gael ei gynnal o ddigonolrwydd DDdY cyfrwng Cymraeg bob 5 mlynedd. Nod yr adolygiad pum mlynedd cyntaf hwn yw meithrin dealltwriaeth sylfaenol o'r lefel bresennol o ddigonolrwydd DDdY cyfrwng Cymraeg drwy asesu sut y mae'r darpariaethau yn y Ddeddf ADY yn cael eu rhoi ar waith yn ymarferol. Mae'n archwilio'r prosesau sy'n gysylltiedig â deall a chymhwyso'r dyletswyddau hyn ac i ba raddau y mae anghenion ieithyddol dysgwyr yn cael eu hadnabod a'u cofnodi'n briodol. Mae hefyd yn ystyried argaeledd a hygyrchedd darpariaeth cyfrwng Cymraeg ac a all y systemau sydd ar waith, gan gynnwys y gweithlu ac adnoddau eraill, ddarparu'r cymorth y mae gan ddysgwyr yr hawl i'w gael.
Methodoleg
Casglwyd tystiolaeth i lywio canfyddiadau’r adolygiad hwn drwy brofforma a ddosbarthwyd i bob awdurdod lleol yn gofyn am ddata ar:
- yr angen am DDdY cyfrwng Cymraeg
- y gweithlu
- yr hyfforddiant
- y dyletswyddau
- yr adolygiadau digonolrwydd
- cynnydd hyd yma
Casglwyd tystiolaeth hefyd drwy gyfweliadau â chynrychiolwyr awdurdodau lleol a BILlau, ymarferwyr mewn 16 o leoliadau addysg sy'n astudiaethau achos o bob cwr o Gymru gan gynnwys:
- ysgolion cynradd
- ysgolion uwchradd
- SABau
- ysgolion arbennig
- Unedau Cyfeirio Disgyblion (UCDau)
- sampl o rieni a dysgwyr ag ADY
- swyddogion Llywodraeth Cymru
- rhanddeiliaid ehangach
Archwiliodd yr ymchwil hefyd ddata sy'n berthnasol i DDdY cyfrwng Cymraeg gan gynnwys:
- Cyfrifiad Ysgolion Blynyddol ar Lefel Disgyblion (CYBLD)
- Cyfrifiad o'r rhai sy'n cael Addysg Heblaw yn yr Ysgol (AHY)
- Cyfrifiad Blynyddol o'r Gweithlu Ysgolion (CBGY)
- Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg
Canfyddiadau
Meithrin dealltwriaeth o lefel yr angen am DDdY cyfrwng Cymraeg
Mae asesu'r lefel gyffredinol o angen am DDdY cyfrwng Cymraeg gan ddefnyddio data sy'n cael eu cofnodi ar hyn o bryd yn heriol. Data CYBLD sy'n rhoi'r trosolwg cenedlaethol mwyaf dibynadwy o'r sefyllfa ar gyfer dysgwyr mewn ysgolion prif ffrwd sydd ag ADY, ond nid yw'n cofnodi faint ohonynt sydd angen neu sy'n derbyn DDdY cyfrwng Cymraeg. Fodd bynnag, mae dadansoddiad o ddata CYBLD nas cyhoeddwyd o'r blaen yn darparu dangosyddion procsi, sy'n dangos bod Cymraeg yn cael ei haddysgu fel iaith gyntaf i 6,835 o ddysgwyr ag ADY/AAA, ac mae'n cynnig amcangyfrif rhesymol o lefel bosibl yr angen am DDdY cyfrwng Cymraeg ar gyfer Cymru gyfan.
Ar gyfer dysgwyr ôl-16, mae data sydd ar gael yng Nghofnod Dysgu Gydol Oes Cymru yn dangos bod gan hyd at 4% o'r rhai mewn SABau sy'n astudio o leiaf 1 gweithgaredd ble mae 50% neu fwy o'u hasesiad drwy gyfrwng y Gymraeg ADY (145 o ddysgwyr). Mae hyn yn awgrymu y gallai hyd at 145 o ddysgwyr mewn SABau fod angen DDdY cyfrwng Cymraeg. Fodd bynnag, nododd y 2 SAB a gyfwelwyd nad oes gan yr un o'u dysgwyr ADY presennol gynllun datblygu unigol sy'n nodi'r angen am DDdY cyfrwng Cymraeg.
Ar gyfer dysgwyr sy'n cael addysg heblaw yn yr ysgol (AHY), mae cyfrifiad AHY yn casglu data ar nifer y dysgwyr ag ADY. Fodd bynnag, nid yw'r data'n nodi anghenion ieithyddol y dysgwyr hyn na'r iaith a siaredir ganddynt ac felly nid yw'n rhoi syniad o'r angen tebygol am DDdY cyfrwng Cymraeg.
Ar hyn o bryd, nid oes ffordd gadarn o asesu lefel yr angen am DDdY cyfrwng Cymraeg ar lefel leol. Mae dangosyddion procsi sy'n seiliedig ar ddata CYBLD yn llai cadarn ar lefel leol oherwydd niferoedd bach mewn rhai ardaloedd. Mae'r graddau y mae awdurdodau lleol yn casglu gwybodaeth yn ganolog ynghylch a yw CDUau ysgolion a gynhelir yn nodi gofyniad i ddarparu DDdY cyfrwng Cymraeg yn amrywio rhwng awdurdodau lleol, yn bennaf oherwydd y defnydd o wahanol systemau rheoli data.
Mae data sy'n ymwneud â'r angen am DDdY cyfrwng Cymraeg ar gyfer dysgwyr eraill, gan gynnwys carfan Swyddogion Arweiniol ADY a dysgwyr ôl-16 hefyd yn anghyson ar draws awdurdodau lleol.
Mae'r cyfyngiadau ar ddata sy'n gallu darparu dealltwriaeth gywir o angen yn creu goblygiadau ar gyfer pennu a monitro digonolrwydd DDdY cyfrwng Cymraeg.
Dyletswyddau a phenderfyniadau ynghylch a ddylid darparu DDdY yn y Gymraeg
Mae gan awdurdodau lleol a chyrff llywodraethu ddealltwriaeth dda o'r ddyletswydd i ystyried a ddylid darparu DDdY yn y Gymraeg ac mae penderfyniadau ynghylch a oes angen y ddarpariaeth hon wedi'u cynnwys fel rhan annatod o'r dull sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn ar gyfer pob dysgwr unigol.
O fewn y dull hwn mae rhagdybiaeth gyffredinol bod dysgwyr oedran ysgol statudol ag ADY mewn ysgolion prif ffrwd a gynhelir yn cael DDdY yn unol ag iaith y lleoliad. Tybir bod DDdY yn cael ei darparu yn y Gymraeg mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg ac yn Saesneg mewn ysgolion cyfrwng Saesneg. Tybir hefyd fod DDdY yn cael ei darparu yn iaith y ffrwd y mae dysgwyr yn ei mynychu mewn ysgolion dwyieithog. Fodd bynnag, mae rhai CDUau yn cynnwys sawl elfen o DDdY, ac ni all yr ysgol ddarparu pob un ohonynt. Yn yr achosion hyn, rhaid trefnu DDdY gan ddarparwyr allanol drwy'r awdurdodau lleol neu'r BILl.
Mae'n llai eglur sut y mae penderfyniadau'n cael eu gwneud ynghylch a oes angen DDdY cyfrwng Cymraeg ar ddysgwyr mewn lleoliadau addysg lle nad yw iaith y lleoliad wedi'i diffinio, fel SABau ac UCDau. Fodd bynnag, nododd cynrychiolwyr SABau ac UCDau mai ychydig iawn o'r dysgwyr yn eu sefydliad sydd â CDUau sy'n cynnwys gofyniad am DDdY cyfrwng Cymraeg. Nid yw'n glir beth yw'r rheswm am hyn, ond awgrymodd y staff fod rhagdybiaeth ymhlith dysgwyr bod UCDau, fel SABau, yn sefydliadau cyfrwng Saesneg ac felly efallai y bydd dysgwyr yn disgwyl i'r holl DDdY gael ei darparu yn Saesneg.
Mae penderfyniadau sy'n ymwneud â DDdY mewn ysgolion arbennig a Chanolfannau Adnoddau Arbenigol yn ymestyn y tu hwnt i ystyried a ddylid darparu hyn yn y Gymraeg neu'r Saesneg gan fod angen darpariaeth drwy iaith arwyddion neu ddulliau cyfathrebu eraill ar rai dysgwyr. Nododd cynrychiolwyr o ysgolion arbennig nad oes gan ddysgwyr yn aml CDUau sy'n amlinellu gofyniad ar gyfer DDdY cyfrwng Cymraeg. Fodd bynnag, lle roedd yn hysbys bod y dysgwr yn siaradwr Cymraeg neu'n dod o aelwyd Gymraeg, gwnaed ymdrechion i sicrhau bod y dysgwr yn cael ei gefnogi yn y Gymraeg, neu o leiaf yn ddwyieithog, lle y bo'n bosibl.
Yn gyffredinol, mae penderfyniadau ynghylch a ddylid darparu DDdY yn y Gymraeg yn aml yn dibynnu ar sawl ffactor gan gynnwys:
- a oes darpariaeth Gymraeg ar gael yn lleoliad addysg y dysgwr
- a oes staff ac adnoddau ar gael i allu darparu DDdY yn y Gymraeg
- canfyddiadau teuluoedd ynghylch a fydd DDdY ar gael yn y Gymraeg
Darparu DDdY Cyfrwng Cymraeg
Dywedodd y rhan fwyaf o leoliadau addysg eu bod yn gallu darparu DDdY yn newis iaith y dysgwyr. Mewn rhai achosion, mae angen DDdY ar ddysgwyr sy'n gofyn am fewnbwn neu gymorth gan ddarparwyr allanol yn yr awdurdod lleol, neu gyrff y GIG mewn ymateb i atgyfeiriad o dan Adran 20.
Dengys tystiolaeth o'r adolygiad hwn nad yw darpariaeth o'r fath ar gael yn y Gymraeg bob tro, hyd yn oed pan fo'r dysgwr yn derbyn DDdY cyfrwng Cymraeg yn ei ysgol. Nodwyd diffyg capasiti o ran y gweithlu ADY arbenigol ac adnoddau cyfrwng Cymraeg priodol fel y prif resymau dros hyn. Hyd yn oed lle mae darpariaeth ar gael, gall cael mynediad ati olygu pellteroedd teithio hir neu amseroedd aros estynedig. O ganlyniad, mae'r iaith a bennir ar gyfer DDdY mewn CDUau yn aml yn adlewyrchu nid yn unig anghenion neu ddewisiadau'r dysgwr, ond hefyd yr elfennau y gellir eu darparu yn y Gymraeg.
Nododd cynrychiolwyr BILlau mai dim ond cyfran fach iawn o atgyfeiriadau a nodir fel rhai sydd angen darpariaeth cyfrwng Cymraeg. Mae'r rhesymau dros y galw isel hwn yn aneglur a gallant gynnwys:
- rhagdybiaethau bod gwasanaethau'r GIG neu rai llwybrau clinigol yn cael eu darparu yn Saesneg yn bennaf
- dewisiadau rhieni
- ansicrwydd ynghylch argaeledd gwasanaethau cyfrwng Cymraeg
Felly, efallai nad yw nifer yr atgyfeiriadau sy'n cynnwys gofyniad am ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg yn adlewyrchu gwir faint yr angen.
Mae'r dystiolaeth ar allu cyrff y GIG i ddarparu DDdY cyfrwng Cymraeg yn gyfyngedig oherwydd bylchau yn y data ar y gweithlu a'r data monitro. Mae canfyddiadau'r adolygiad yn dangos, er bod Swyddogion Arweiniol Clinigol Dynodedig Addysg (SACDAau) wedi nodi nad oeddent yn ymwybodol o unrhyw fylchau nodedig yn y ddarpariaeth DDdY cyfrwng Cymraeg, roedd rhai ysgolion a rhieni o'r farn nad oedd y DDdY cyfrwng Cymraeg y dylai cyrff y GIG ei ddarparu yn diwallu eu hanghenion bob tro.
Dulliau o adolygu digonolrwydd DDdY cyfrwng Cymraeg
O dan Adran 63 o'r Ddeddf ADY, mae'n ofynnol i awdurdodau lleol adolygu digonolrwydd DDdY cyfrwng Cymraeg yn eu hardal nhw. Mae rheoliadau Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol adrodd ar y camau y maent yn eu cymryd i adolygu digonolrwydd y ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg.
Ledled Cymru, mae awdurdodau lleol yn gyffredinol yn mabwysiadu dull adweithiol sy'n cael ei arwain gan y galw ar gyfer eu hadolygiadau digonolrwydd. Os oes angen DDdY arbenigol cyfrwng Cymraeg y tu hwnt i'r hyn y gellir ei ddarparu o fewn y lleoliadau addysg (er enghraifft darpariaeth a gyflwynir gan athro arbenigol), mae awdurdodau lleol yn gwneud ymdrechion i'w darparu. Os yw'r ddarpariaeth sydd ar gael yn bodloni'r lefel ofynnol, neu os na wneir unrhyw atgyfeiriadau ar gyfer DDdY cyfrwng Cymraeg o'r natur hon, tybir bod y ddarpariaeth yn ddigonol. Mae hyn yn codi cwestiynau ynghylch a oes anghenion heb eu diwallu nad ydynt yn cael eu cydnabod, yn enwedig lle y gall teuluoedd dybio nad yw DDdY cyfrwng Cymraeg ar gael neu ei bod yn ofynnol i'w plentyn deithio pellter hir neu orfod aros yn hwy er mwyn cael y ddarpariaeth honno. Mae hyn eto'n awgrymu nad yw'r galw a gofnodwyd o bosibl yn adlewyrchu'r angen sylfaenol yn llawn.
Mae adolygiadau awdurdodau lleol o ddigonolrwydd DDdY cyfrwng Cymraeg fel arfer yn barhaus ac wedi'u hymgorffori mewn cynlluniau ADY ehangach. Cynigiwyd rhai enghreifftiau ar draws awdurdodau lleol lle mae'r broses hon yn ystyried sut y gallai'r angen am DDdY cyfrwng Cymraeg, neu'r gallu i'w darparu, newid dros amser. Fodd bynnag, nid yw'n ymddangos bod y dulliau rhagweithiol hyn yn cael eu mabwysiadu'n eang.
Capasiti'r gweithlu i ddarparu DDdY cyfrwng Cymraeg
Asesodd yr adolygiad hwn i ba raddau y mae'r gweithlu sydd ar gael i ddarparu DDdY cyfrwng Cymraeg lle mae ei hangen yn ddigonol. Adroddodd rhai awdurdodau lleol fod ganddynt gapasiti digonol o fewn eu gweithlu i ddarparu DDdY cyfrwng Cymraeg, tra bod eraill wedi tynnu sylw at fylchau sylweddol ynghyd ag amrywiad yn ôl rôl arbenigol.
Dywedodd bron i hanner yr awdurdodau lleol fod prinder athrawon arbenigol sy'n medru'r Gymraeg ar gyfer amhariad ar y golwg, amhariad ar y clyw ac awtistiaeth, a nododd llawer fod prinder seicolegwyr addysg hefyd. Mae'r bylchau hyn i'w priodoli i gyfuniad o ffactorau, gan gynnwys prinder cyffredinol waeth beth fo iaith y ddarpariaeth ac anawsterau o ran recriwtio staff sy'n meddu ar arbenigedd mewn ADY a'r sgiliau Cymraeg sydd eu hangen. Caiff bylchau hefyd eu dylanwadu gan fregusrwydd timau bach iawn lle y gall colli 1 aelod o staff sy'n medru'r Gymraeg o dîm ADY arbenigol gael effaith sylweddol ar y ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg sydd ar gael yn yr ardal honno.
Mae amrywiadau yn nigonolrwydd y gweithlu hefyd yn adlewyrchu gwahaniaethau yn y ffordd y mae awdurdodau lleol yn asesu hynny. Mae rhai awdurdodau lleol yn asesu digonolrwydd drwy gymharu cyfran y staff sy'n medru'r Gymraeg â chyfran yr ysgolion cyfrwng Cymraeg yn eu hardal nhw. Felly, mae angen cymharol ychydig o staff arbenigol sy'n medru'r Gymraeg ar awdurdodau lleol sydd â chymharol ychydig o ysgolion cyfrwng Cymraeg i gefnogi'r ysgolion hyn. Fodd bynnag, mewn awdurdodau sy'n cwmpasu ardaloedd daearyddol mawr, mae angen i'r timau bach hyn deithio pellteroedd maith yn aml i ddarparu cymorth, ac mae hynny'n cyfyngu ar eu hargaeledd yn ymarferol. O ganlyniad, efallai na fydd y gweithlu sy'n ymddangos yn ddigonol ar bapur yn ddigonol o safbwynt gweithredol.
Mae canfyddiadau'r adolygiad yn dangos, ar draws BILlau, fod clinigwyr sy'n medru'r Gymraeg wedi'u dosbarthu'n anghyfartal, a bod eu hargaeledd yn gyfyngedig mewn meysydd arbenigol fel therapi lleferydd ac iaith, anhwylder datblygu iaith ac anghenion cymhleth. Fodd bynnag, mae'r galw a gofnodwyd am DDdY cyfrwng Cymraeg gan BILlau yn fach iawn, ac mae bylchau yn argaeledd data'r gweithlu a data monitro yn ei gwneud yn anodd asesu'r capasiti gwirioneddol ar draws y BILlau i ddarparu DDdY cyfrwng Cymraeg.
Recriwtio a chadw
Hyd yn oed mewn achosion lle yr adroddodd awdurdodau lleol fod ganddynt ddigon o staff ADY arbenigol sy'n medru'r Gymraeg ar hyn o bryd, nododd bron pob un y gall recriwtio unigolion i'r rolau hyn fod yn heriol. Ochr yn ochr â'r heriau sy'n gysylltiedig â'r nifer cymharol fach o arbenigwyr sy'n medru'r Gymraeg sydd ar gael i'w recriwtio i'r swyddi hyn, gall denu staff i ardaloedd gwledig fod yn her ychwanegol i rai awdurdodau leol.
Mae'r canfyddiadau hefyd yn dangos bod llawer o ysgolion cyfrwng Cymraeg, yn enwedig y rhai sydd wedi'u lleoli mewn ardaloedd lle y siaredir Saesneg yn bennaf, yn ei chael hi'n anodd recriwtio Cynorthwywyr Addysgu (CA) sy'n medru'r Gymraeg a all gynnig cymorth yn y dosbarth i ddysgwyr ag ADY. Yn aml, mae rolau CA yn rhai â chyflog isel a gallant fod yn heriol iawn, ac felly, gall cadw'r aelodau hyn o staff fod yn her hefyd.
Mae'r canfyddiadau'n dangos bod anawsterau recriwtio a chadw staff, ynghyd ag effaith newidiadau staff o fewn timau bach, yn golygu y gall argaeledd y gweithlu, ac felly ddigonolrwydd y gweithlu, newid yn gyflym dros gyfnodau byr.
Er mwyn mynd i'r afael â rhai o'r bylchau hyn yn y gweithlu, mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno mesurau i gynyddu'r cyflenwad o Seicolegwyr Addysg sy'n medru'r Gymraeg drwy ariannu lleoedd hyfforddi ychwanegol, ond bydd hyn yn cymryd amser i'w gyflawni.
Datblygiad proffesiynol
Dywedodd awdurdodau lleol ac ysgolion fod cyfleoedd i gael hyfforddiant ADY arbenigol cyfrwng Cymraeg yn gyfyngedig. Mae'r rhan fwyaf o gyrsiau allanol yn gyrsiau cyfrwng Saesneg, sy'n ei gwneud yn ofynnol i ymarferwyr gyfieithu neu addasu cynnwys i'w ddefnyddio gyda dysgwyr neu i'w rannu gyda chydweithwyr. Nid yw rhywfaint o hyfforddiant arbenigol (er enghraifft, ar gyfer therapyddion lleferydd ac iaith) ar gael yng Nghymru neu efallai nad yw'r cynnwys yn adlewyrchu cyd-destun addysg cyfrwng Cymraeg yn ddigonol.
Adnoddau
Mae'r adnoddau dysgu a diagnostig cyfrwng Cymraeg sydd ar gael i gefnogi DDdY yn parhau i fod yn llai na'r adnoddau cyfatebol cyfrwng Saesneg sydd ar gael. Dywedodd y rhan fwyaf o ysgolion fod bylchau, yn aml oherwydd bod llawer o adnoddau arbenigol neu fasnachol yn cael eu datblygu y tu allan i Gymru a'u bod ond ar gael yn Saesneg. O ganlyniad, mae Cydlynwyr ADY mewn lleoliadau cyfrwng Cymraeg yn aml yn cyfieithu deunyddiau eu hunain, sy'n cynyddu'r llwyth gwaith ac yn codi pryderon ynghylch safoni a chysondeb. Ni ellir addasu rhai adnoddau, yn enwedig y rhai sy'n seiliedig ar ffoneg Saesneg neu sy'n cynnwys terminoleg na ellir ei chyfieithu, gan adael ymarferwyr heb ddewisiadau amgen addas cyfrwng Cymraeg.
Mae llawer o raglenni ymyrraeth ddigidol hefyd ond ar gael yn Saesneg ac mae cyfyngiadau trwyddedu arnynt sy'n golygu na chaniateir eu cyfieithu. Nododd ysgolion arbennig fod adnoddau digidol ar gyfer dysgwyr ag anghenion cymhleth bron yn gyfan gwbl yn rhai cyfrwng Saesneg, gan gyfyngu ar barhad y ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg.
Dywedodd dros hanner yr awdurdodau lleol nad oedd digon o adnoddau cyfrwng Cymraeg ar gael, yn enwedig offer diagnostig. Nid oes unrhyw asesiadau cyfrwng Cymraeg wedi'u safoni yn bodoli ar gyfer meysydd allweddol fel dyslecsia, anhwylder datblygu iaith, derbyn/mynegi ieithyddol na datblygiad iaith y blynyddoedd cynnar. Lle mae offer Saesneg wedi cael eu cyfieithu, ni ellir cynhyrchu sgorau safonedig. Mae rhywfaint o gynnydd yn cael ei wneud, gan gynnwys asesiadau llythrennedd cyfrwng Cymraeg sy'n cael eu datblygu gan Brifysgol Metropolitan Caerdydd.
Mae prinder difrifol hefyd o ran adnoddau llythrennedd a rhifedd i gefnogi darparu DDdY cyfrwng Cymraeg. Er enghraifft, tynnodd ysgolion sylw at ddiffyg deunyddiau darllen cyfrwng Cymraeg sy'n briodol i oedran, straeon cymdeithasol ac adnoddau ar gyfer dysgwyr hŷn ag ADY. Mae Adnodd yn mynd i’r afael â’r bylchau hyn gyda chyfres ddarllen newydd, deunyddiau Braille a phrint bras gwell, a thrwy gomisiynu adnoddau Cymraeg a Saesneg ar yr un pryd. Gwelir gwahaniaethau tebyg gydag adnoddau rhifedd.
Dosbarthiadau arbennig dynodedig gan ysgolion mewn ysgolion prif ffrwd a Chanolfannau Adnoddau Arbenigol
Mae nifer y dosbarthiadau arbennig dynodedig gan ysgolion mewn lleoliadau prif ffrwd sy'n cynnig darpariaeth cyfrwng Cymraeg wedi cynyddu yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Mae'r rhain yn darparu mannau pwrpasol i ddarparu cymorth wedi'i dargedu ac i helpu mwy o ddysgwyr ag ADY i aros mewn addysg cyfrwng Cymraeg.
Mae awdurdodau lleol hefyd wedi ehangu Canolfannau Adnoddau Arbenigol Cyfrwng Cymraeg a ariennir yn ganolog ar gyfer dysgwyr ag ADY mwy cymhleth. Mae rhai o’r rhain yn gwasanaethu ardaloedd daearyddol mawr, sy’n ymestyn cwmpas y ddarpariaeth, ond maent hefyd yn creu rhai rhwystrau mynediad sy’n gysylltiedig â theithio ac yn lleihau cyfleoedd i ddysgwyr gymryd rhan mewn gweithgareddau allgyrsiol.
At ei gilydd, mae twf dosbarthiadau arbennig dynodedig gan ysgolion a Chanolfannau Adnoddau Arbenigol wedi helpu mwy o ddysgwyr ag ADY i aros mewn addysg cyfrwng Cymraeg. Fodd bynnag, nid yw'n glir eto a yw mynediad at y cyfleusterau hyn a'r graddau y mae adnoddau ar gael iddynt yn cynnig yr un lefel o gymorth arbenigol cyfrwng Cymraeg o'i gymharu â'r hyn sydd ar gael drwy gyfrwng y Saesneg.
Profiadau rhieni/gofalwyr a dysgwyr o DDdY cyfrwng Cymraeg
Yn gyffredinol, dywedodd y nifer bach o rieni a gyfwelwyd iddynt gael profiadau cadarnhaol o gymorth cyfrwng Cymraeg mewn ysgolion. Roedd y prif heriau'n ymwneud â'r ffaith bod gwasanaethau arbenigol allanol, fel Therapi Lleferydd ac Iaith, ar gael drwy gyfrwng y Saesneg yn unig ac oedi o ran cael mynediad at wasanaethau allanol a ddarperir gan gyrff y GIG drwy gyfrwng y Gymraeg. Cyfeiriodd rhai rhieni at amseroedd aros hir ar gyfer asesiadau ond roeddent yn teimlo bod ysgolion yn darparu cymorth cyfrwng Cymraeg cryf yn y cyfamser. Dywedodd rhieni hefyd fod staff yn aml yn cyfieithu neu’n creu adnoddau cyfrwng Cymraeg eu hunain oherwydd bylchau yn y deunyddiau sydd ar gael.
Mewn ysgolion cynradd cyfrwng Cymraeg, disgrifiodd rhieni gymorth cyfrwng Cymraeg fel rhywbeth arferol sydd wedi'i ymgorffori yn y ddarpariaeth, heb fod angen gofyn amdano. Fodd bynnag, dywedodd y rhan fwyaf o rieni plant mewn ysgolion arbennig fod DDdY fel arfer yn cael ei darparu yn Saesneg, gan adlewyrchu dewisiadau cyfathrebu eu plentyn, er bod y Gymraeg yn aml yn cael ei defnyddio'n anffurfiol. Dywedodd un rhiant fod yr ysgol arbennig yr oedd ei blentyn yn ei mynychu yn cynnig DDdY cyfrwng Cymraeg llawn mewn amgylchedd dwyieithog.
Roedd y dysgwyr eu hunain yn tueddu i beidio â gwahaniaethu rhwng cymorth cyfrwng Cymraeg a chymorth cyfrwng Saesneg. Roedd disgyblion cynradd cyfrwng Cymraeg yn gyfforddus yn derbyn cymorth yn y Gymraeg neu'n ddwyieithog, tra bod dysgwyr mewn lleoliadau uwchradd cyfrwng Saesneg yn gwerthfawrogi cael staff dwyieithog er bod DDdY yn cael ei darparu yn Saesneg.
Dywedodd rhanddeiliaid nad oedd teuluoedd weithiau’n cael gwybodaeth glir am eu hawliau i gael DDdY cyfrwng Cymraeg. Gall gwybodaeth anghyson ledled Cymru ac ansicrwydd ynghylch pa gymorth y gellid disgwyl yn rhesymol iddo fod ar gael yn y Gymraeg wneud i rai rhieni ddibynnu ar gyngor anffurfiol neu drefnu asesiadau preifat er mwyn deall y system ADY.
Y cynnydd a wnaed a'r heriau sy'n parhau
Gwnaed cynnydd dros y 5 mlynedd diwethaf tuag at ddatblygu system ADY ddwyieithog a chynyddu argaeledd DDdY cyfrwng Cymraeg.
Mae meysydd cynnydd yn cynnwys mwy o DDdY arbenigol cyfrwng Cymraeg, yn enwedig Canolfannau Adnoddau Arbenigol newydd mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg, a chomisiynu adnoddau dysgu, asesu a digidol cyfrwng Cymraeg. Mae argaeledd hyfforddiant arbenigol cyfrwng Cymraeg wedi gwella, gan gynnwys llwybrau hyfforddi Seicolegwyr Addysg. Mae'r Arweinydd Gweithredu Cenedlaethol, a oedd yn weithredol rhwng mis Ebrill 2024 a mis Mawrth 2026, wedi cryfhau'r trefniadau cydweithio, rhannu tystiolaeth a datblygu adnoddau.
Er bod cynnydd wedi'i wneud, nid oes system gwbl ddwyieithog ar gael eto, ac ni ellir ystyried bod argaeledd a darpariaeth DDdY cyfrwng Cymraeg yn ddigonol ym mhob achos eto. Mae sawl her nodedig hefyd yn parhau o ran sicrhau mynediad teg. Ochr yn ochr â chyfyngiadau ar y gweithlu ac adnoddau, mae canfyddiadau ynghylch addasrwydd ac argaeledd cymorth cyfrwng Cymraeg yn parhau i ddylanwadu ar rai dysgwyr a theuluoedd i ddewis darpariaeth cyfrwng Saesneg yn hytrach na darpariaeth cyfrwng Cymraeg.
Er bod yr adolygiad wedi canfod tystiolaeth ac enghreifftiau o gryfhau argaeledd DDdY cyfrwng Cymraeg, nododd y rhan fwyaf o awdurdodau lleol y byddai darparu DDdY cyfrwng Cymraeg fel dyletswydd absoliwt yn heriol o dan yr amodau presennol, gyda dim ond 2 o blith yr 20 awdurdodau lleol a ymatebodd yn nodi y byddai'n ymarferol gwneud hynny heb unrhyw newidiadau.
At ei gilydd, mae'r canfyddiadau'n amlygu'r angen i barhau i ddatblygu DDdY cyfrwng Cymraeg, gan gynnwys:
- gwell dealltwriaeth o lefel yr angen
- cryfhau capasiti'r gweithlu, gwella argaeledd a rhannu adnoddau cyfrwng Cymraeg
- gwell cysondeb rhwng y sector addysg a'r sector iechyd wrth ddarparu DDdY cyfrwng Cymraeg
- mynd i'r afael â chanfyddiadau a bylchau mewn gwybodaeth sy'n dylanwadu ar benderfyniadau
Argymhellion
Datblygwyd yr argymhellion canlynol gyda'r bwriad o sicrhau y gwneir cynnydd tuag at gryfhau DDdY cyfrwng Cymraeg a mynd i'r afael â'r heriau a nodwyd (gweler yr adroddiad am argymhellion manylach).
Data
Dylai Llywodraeth Cymru barhau i asesu argaeledd data ar lefelau lleol a chenedlaethol yn ymwneud â'r angen am DDdY cyfrwng Cymraeg.
Dylai Llywodraeth Cymru barhau i asesu argaeledd data sy'n ymwneud â darparu DDdY cyfrwng Cymraeg.
Mae angen mynd i'r afael â diffyg data mewn perthynas â'r deilliannau i blant a phobl ifanc sydd angen DDdY cyfrwng Cymraeg ac sy'n cael y ddarpariaeth honno.
Darparu DDdY Cyfrwng Cymraeg
Mae angen annog a chefnogi ysgolion ac awdurdodau lleol i sicrhau bod y sail ar gyfer gwneud penderfyniadau'n ymwneud ag iaith DDdY a ddarperir i ddysgwyr yn cael ei chofnodi'n glir a'i hadolygu.
Mae angen cryfhau cysondeb o ran y DDdY cyfrwng Cymraeg a ddarperir gan bob sector addysg a'r hyn a ddarperir gan gyrff y GIG.
Cynnal adolygiadau digonolrwydd yn y dyfodol
Mae angen cryfhau asesiadau digonolrwydd DDdY cyfrwng Cymraeg lleol er mwyn galluogi awdurdodau lleol i gyflawni'r dyletswyddau a nodir o dan Adran 63 o'r Ddeddf ADY.
Y gweithlu
Mae angen cryfhau'r gweithlu ADY sy'n medru'r Gymraeg drwy gefnogi mwy o siaradwyr Cymraeg i ymgymryd â rolau ADY arbenigol ar draws awdurdodau lleol a BILlau.
Adnoddau
Mae angen parhau â gweithgareddau presennol i ddatblygu adnoddau ADY cyfrwng Cymraeg ychwanegol, a chyflymu hynny lle bo modd.
Gwybodaeth ac ymwybyddiaeth
Mae angen codi ymwybyddiaeth ymhlith rhieni, dysgwyr a rhai ymarferwyr ADY nad oes angen i ddysgwyr ag ADY symud o ddarpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg i ddarpariaeth cyfrwng Saesneg o reidrwydd er mwyn cael y DDdY sydd ei angen arnynt.
Manylion cyswllt
Awduron: Harries, S., Lewis, S., Thomas, H., Lane, J. and Williams, A. (2026)
Safbwyntiau'r ymchwilwyr a fynegir yn yr adroddiad hwn, ac nid safbwyntiau Llywodraeth Cymru o reidrwydd.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â:
Cangen Ymchwil Ysgolion
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
E-bost: ymchwilysgolion@llyw.cymru
Rhif ymchwil cymdeithasol: 78/2026
ISBN Digidol: 978-1-80853-051-7

