Neidio i'r prif gynnwy

Trosolwg o Ddeddf Rheoli Ceffylau (Cymru) 2014, ei gynnydd trwy'r Senedd a'r is-ddeddfwriaeth.

Cyhoeddwyd gyntaf:
2 Awst 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Trosolwg

Mae Deddf Rheoli Ceffylau (Cymru) 2014 (y Ddeddf) yn rhoi pwerau i awdurdodau lleol gymryd meddiant o geffylau, merlod, mulod neu unrhyw anifeiliaid o dras ceffyl os ydynt yn pori’n anghyfreithlon, yn crwydro ar dir heb ganiatâd neu wedi eu gadael yn unman yng Nghymru. Pori’n anghyfreithlon yw pan fydd perchnogion anifeiliaid yn caniatáu, yn fwriadol neu’n esgeulus, i’r anifeiliaid yna bori ar dir heb ganiatâd perchennog y tir, neu os yw’r perchennog wedi tynnu ei ganiatâd yn ôl.

Mae’r Nodiadau Esboniadol i’r Ddeddf yn rhoi sylwebaeth fanwl ar y darpariaethau amrywiol:

Darllenwch y Ddeddf yn llawn:

Dod i rym

Daeth y Ddeddf i rym ar 28 Ionawr 2014, sef y diwrnod ar ôl iddi gael y Cydsyniad Brenhinol, yn unol ag adran 10:

Is-ddeddfwriaeth a wnaed o dan y Ddeddf

Ni wnaed unrhyw is-ddeddfwriaeth o dan y Ddeddf hon.

Ystyriaeth y Senedd o’r ddeddfwriaeth

Cyflwynwyd y Bil gan Alun Davies AS, a oedd yn Weinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd ar y pryd, ar 14 Hydref 2013. Fe’i pasiwyd gan Senedd Cymru (Cynulliad Cenedlaethol Cymru bryd hynny) ar 10 Rhagfyr 2013.

Mwy o wybodaeth am y Bil a gofnod o hynt y Bil trwy'r Senedd (Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar y pryd) ar senedd.cymru.

Mae'r Memorandwm Esboniadol a luniwyd gan Lywodraeth Cymru (wrth gyflwyno’r Bil):

Cafodd y Ddeddf y Cydsyniad Brenhinol ar 27 Ionawr 2014.