Neidio i'r prif gynnwy

Trosolwg o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch (Llywodraethu a Gwybodaeth) (Cymru) 2014, ei gynnydd trwy'r Senedd a'r is-ddeddfwriaeth.

Cyhoeddwyd gyntaf:
31 Ionawr 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Trosolwg

Mae Deddf Addysg Bellach ac Uwch (Llywodraethu a Gwybodaeth) (Cymru) 2014 (‘y Ddeddf’) yn gwneud darpariaeth i roi effaith i gynigion i roi mwy o ryddid i golegau, gan roi rhagor o reolaeth iddynt dros eu trefniadau llywodraethu a diddymu eu hunain. Nid yw’n newid prif bwerau colegau i ddarparu addysg bellach, addysg uwch ac (o fewn rhai terfynau) addysg uwchradd. Un o’r ystyriaethau allweddol sy’n llywio’r darpariaethau yw penderfyniad y Swyddfa Ystadegau Gwladol i ailddosbarthu Sefydliadau Addysg Bellach (SABau) fel rhan o lywodraeth ganolog at ddiben Cyfrifon Gwladol.

Mae’r Ddeddf hefyd yn moderneiddio’r ffordd y caiff cyllid myfyrwyr ei ddarparu drwy wneud y broses yn fwy effeithlon. Mae’n sefydlu sail gyfreithiol i Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi ddarparu gwybodaeth i Weinidogion Cymru (ac eraill sy’n gweithredu ar ran Gweinidogion Cymru, neu sy’n arfer eu swyddogaethau) mewn cysylltiad â benthyciadau a grantiau i fyfyrwyr.

Mae rhagor o wybodaeth am y Ddeddf ar gael yn y Nodiadau Esboniadol:

Darllenwch y Ddeddf yn llawn:

Dod i rym

Daeth adrannau 9, 11 a 12 i rym ar 27 Ionawr 2014, sef y diwrnod y cafodd y Ddeddf y Cydsyniad Brenhinol, yn unol ag adran 11(1).

Daw gweddill darpariaethau’r Ddeddf hon i rym ar ddiwrnod a bennir gan Weinidogion Cymru mewn gorchymyn a wneir drwy offeryn statudol, yn unol ag adran 11(2). 

Mae’r Gorchymyn a ganlyn wedi ei wneud:

Is-deddfwriaeth sydd wedi gwneud o dan y Ddeddf

Ni wnaed unrhyw is-ddeddfwriaeth o dan y Ddeddf hon.

Ystyriaeth y Senedd o’r ddeddfwriaeth

Cyflwynwyd y Bil hwn ar 29 Ebrill 2013 gan Leighton Andrews AC, y Gweinidog Addysg a Sgiliau ar y pryd. Yn dilyn newid ym mhortffolios y Gweinidogion ym mis Mehefin 2013, awdurdododd y Prif Weinidog Huw Lewis AC, y Gweinidog Addysg a Sgiliau, fel yr Aelod newydd sy’n gyfrifol am y Bil, o 26 Mehefin 2013. Cafodd y Bil ei basio gan Senedd Cymru (Cynulliad Cenedlaethol Cymru bryd hynny) ar 3 Rhagfyr 2013.

Mwy o wybodaeth am y Bil a gofnod o hynt y Bil trwy'r Senedd (Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar y pryd) ar senedd.cymru.

Mae'r Memorandwm Esboniadol a luniwyd gan Lywodraeth Cymru (wrth gyflwyno’r Bil):

Cafodd y Ddeddf y Cydsyniad Brenhinol ar 27 Ionawr 2014.