Neidio i'r prif gynnwy

Trosolwg o Ddeddf Teithio Llesol (Cymru) 2013, ei gynnydd trwy'r Senedd a'r is-ddeddfwriaeth.

Cyhoeddwyd gyntaf:
30 Ionawr 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Trosolwg

Mae’r Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 (‘y Ddeddf’) yn gwneud darpariaeth—

  • ar gyfer mapiau a gymeradwyir o lwybrau teithio llesol presennol a’r cyfleusterau cysylltiedig mewn ardal awdurdod lleol,
  • ar gyfer mapiau rhwydwaith integredig a gymeradwyir o’r llwybrau teithio llesol newydd a gwell a’r cyfleusterau cysylltiedig y mae eu hangen i greu rhwydweithiau integredig o lwybrau teithio llesol a chyfleusterau cysylltiedig mewn ardal awdurdod lleol,
  • sy’n ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol roi sylw i fapiau rhwydwaith integredig wrth lunio polisïau trafnidiaeth ac i sicrhau bod llwybrau teithio llesol a chyfleusterau cysylltiedig newydd a gwell,
  • sy’n ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru adrodd ar deithio llesol yng Nghymru,
  • sy’n ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru ac awdurdodau lleol, wrth gyflawni swyddogaethau o dan Ddeddf Priffyrdd 1980, gymryd camau rhesymol i wella’r ddarpariaeth a wneir ar gyfer cerddwyr a beicwyr a rhoi sylw i anghenion cerddwyr a beicwyr wrth arfer swyddogaethau penodol eraill, ac
  • sy’n ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru ac awdurdodau lleol arfer eu swyddogaethau o dan y Ddeddf er mwyn hyrwyddo teithiau teithio llesol a sicrhau llwybrau teithio llesol a chyfleusterau cysylltiedig newydd a gwell.

Mae’r Nodiadau Esboniadol i’r Ddeddf yn rhoi sylwebaeth fanwl ar y darpariaethau amrywiol:

Darllenwch y Ddeddf yn llawn:

Dod i rym

Daw adrannau 3 i 11 i rym yn unol â darpariaeth a wneir gan Weinidogion Cymru drwy orchymyn a wnaed drwy offeryn statudol, yn unol ag adran 14(1):

Mae’r gorchymyn canlynol wedi ei wneud:

Daeth darpariaethau eraill y Ddeddf hon i rym ar 5 Tachwedd 2013, sef y diwrnod ar ôl i’r Ddeddf gael y Cydsyniad Brenhinol, yn unol ag adran 14(2).

Is-deddfwriaeth a wnaed o dan y Ddeddf

Ni wnaed unrhyw is-ddeddfwriaeth o dan y Ddeddf hon.

Ystyriaeth y Senedd o’r ddeddfwriaeth

Cyflwynwyd y Bil ar 18 Chwefror 2013 gan Carl Sargeant AC, sef y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau ar y pryd. Yn dilyn newid ym mhortffolios y Gweinidogion ym mis Mawrth 2013, awdurdododd y Prif Weinidog John Griffiths AC, y Gweinidog Diwylliant a Chwaraeon, i fod yr Aelod newydd â chyfrifoldeb am y Bil, o 18 Mawrth 2013. Cafodd y Bil ei basio gan Senedd Cymru (Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar y pryd) ar 1 Hydref 2013.

Mwy o wybodaeth am y Bil a gofnod o hynt y Bil trwy'r Senedd (Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar y pryd) ar senedd.cymru.

Mae'r Memorandwm Esboniadol a luniwyd gan Lywodraeth Cymru (fel y cafodd ei ddiwygio ar ôl Cyfnod 2):

Cafodd y Ddeddf y Cydsyniad Brenhinol ar 4 Tachwedd 2013.