Neidio i'r prif gynnwy

Trosolwg o Ddeddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013, ei gynnydd trwy'r Senedd a'r is-ddeddfwriaeth.

Cyhoeddwyd gyntaf:
30 Ionawr 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Trosolwg

Mae Deddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013 (‘y Ddeddf’) yn gwneud darpariaeth ynghylch safleoedd cartrefi symudol yng Nghymru: 

  • ar gyfer trwyddedu safleoedd rheoleiddiedig etc. ac mewn cysylltiad â hynny,
  • i amddiffyn rhag troi allan o safleoedd gwarchodedig,
  • ynghylch telerau cytundebau i osod cartrefi symudol ar safleoedd gwarchodedig,
  • y caiff awdurdodau lleol ddarparu safleoedd i gartrefi symudol a gwahardd gosod cartrefi symudol ar dir comin odani, ac
  • ynghylch materion atodol a chyffredinol.

Mae’r Nodiadau Esboniadol i’r Ddeddf yn rhoi sylwebaeth fanwl ar y darpariaethau amrywiol:

Darllenwch y Ddeddf yn llawn:

Dod i rym

Daeth Rhan 6 i rym ar 5 Tachwedd 2013, sef drannoeth y diwrnod y cafodd y Ddeddf hon y Cydsyniad Brenhinol, yn unol ag adran 64(1).

Daw darpariaethau eraill y Ddeddf i rym ar ddiwrnod a bennir drwy orchymyn a wneir gan Weinidogion Cymru, yn unol ag adran 64(2). 

Mae’r Gorchymyn canlynol wedi ei wneud:

Is-deddfwriaeth a wnaed o dan y Ddeddf:

EnwRhifDyddiad gwnaedDyddiad dod i rymDogfennau ategol
Gorchymyn Deddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013 (Darpariaethau Canlyniadol) 2016 ar legislation.gov.uk2016 Rhif 964 (Cy. 237)    28 Medi 2016       31 Hydref 2016 2016 Rhif 964 (Cy. 237): Memorandwm Esboniadol (Saesneg yn unig) ar senedd.cymru
Rheoliadau Cartrefi Symudol (Datganiad Ysgrifenedig) (Cymru) 201 ar legislation.gov.uk42014 Rhif 1762 (Cy. 177) 2 Gorffennaf 20141 Hydref 20142014 Rhif 1762 (Cy. 177): Memorandwm Esboniadol (Saesneg yn unig) ar senedd.cymru
Rheoliadau Cartrefi Symudol (Gwerthu a Rhoi yn Anrheg) (Cymru) 2014 ar legislation.gov.uk2014 Rhif 1763 (Cy. 178)2 Gorffennaf 20141 Hydref 20142014 Rhif 1763 (Cy. 178): Memorandwm Esboniadol (Saesneg yn unig) ar senedd.cymru
Rheoliadau Cartrefi Symudol (Rheolau Safle) (Cymru) 2014 ar legislation.gov.uk2014 Rhif 1764 (Cy. 179)2 Gorffennaf 20141 Hydref 20142014 Rhif 1764 (Cy. 179)Memorandwm Esboniadol (Saesneg yn unig) ar senedd.cymru
Rheoliadau Cartrefi Symudol (Ffioedd am Leiniau) (Ffurf Ragnodedig) (Cymru) 2014 ar legislation.gov.uk2014 Rhif 1760 (Cy. 175)2 Gorffennaf 20141 Hydref 20142014 Rhif 1760 (Cy. 175): Memorandwm Esboniadol (Saesneg yn unig) ar senedd.cymru
Gorchymyn Deddf Cartrefi Symudol 1983 (Diwygio Atodlen 1 a Diwygiadau Canlyniadol) (Cymru) 2013 ar legislation.gov.uk2013 Rhif 1723 (Cy. 167)   10 Gorffennaf 2013    10 Gorffennaf 2013    2013 Rhif 1723 (Cy. 167): Memorandwm Esboniadol (Saesneg yn unig) ar senedd.cymru
Gorchymyn Deddf Tai ac Adfywio 2008 (Diwygiadau Canlyniadol i Ddeddf Cartrefi Symudol 1983) (Cymru) 2013 ar legislation.gov.uk2013 Rhif 1722 (Cy. 166)    10 Gorffennaf 2013       10 Gorffennaf 2013 2013 Rhif 1722 (Cy. 166): Memorandwm Esboniadol (Saesneg yn unig) ar senedd.cymru

Ystyriaeth y Senedd o’r ddeddfwriaeth

Bil Aelod Cynulliad oedd hwn, a gyflwynwyd gan Peter Black AC ar 24 Hydref 2012, ar ôl iddo lwyddo mewn balot deddfwriaethol. Cafodd y Bil ei basio gan Senedd Cymru (Cynulliad Cenedlaethol Cymru bryd hynny) ar 25 Medi 2013.

Mwy o wybodaeth am y Bil a gofnod o hynt y Bil trwy'r Senedd (Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar y pryd) ar senedd.cymru.

Mae'r Memorandwm Esboniadol a luniwyd gan Lywodraeth Cymru (fel y cafodd ei ddiwygio ar ôl Cyfnod 2):

Cafodd y Ddeddf y Cydsyniad Brenhinol ar 4 Tachwedd 2013.