Neidio i'r prif gynnwy

Trosolwg o Deddf Trawsblannu Dynol (Cymru) 2013, ei gynnydd trwy'r Senedd a'r is-ddeddfwriaeth.

Cyhoeddwyd gyntaf:
30 Ionawr 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Trosolwg

Prif ddarpariaethau Deddf Trawsblannu Dynol (Cymru) 2013 (‘y Ddeddf’) yw:

  • gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i hyrwyddo trawsblannu
  • darparu bod gweithgareddau penodol a wneir yng Nghymru at ddiben trawsblannu yn gyfreithlon os rhoddwyd cydsyniad iddynt
  • nodi sut y caiff cydsyniad ei roi i weithgareddau trawsblannu, gan gynnwys yr amgylchiadau lle ystyrir bod cydsyniad wedi ei roi yn absenoldeb cydsyniad datganedig
  • ei gwneud yn drosedd i weithgareddau trawsblannu gael eu cyflawni yng Nghymru heb gydsyniad
  • gwneud diwygiadau i Ddeddf Meinweoedd Dynol 2004 gan gynnwys darpariaeth mewn perthynas â chod ymarfer sy’n:
    • rhoi canllawiau ymarferol i bersonau sy’n cyflawni gweithgareddau trawsblannu
    • gosod y safonau a ddisgwylir mewn perthynas â chyflawni’r gweithgareddau hynny, gan gynnwys sut y mae cydsyniad i’w gael

Mae’r Nodiadau Esboniadol i’r Ddeddf yn rhoi sylwebaeth fanwl ar y darpariaethau amrywiol:

Darllenwch y Ddeddf yn llawn:

Dod i rym

Daeth adrannau 1, 2, 21 a 22 i rym ar 10 Medi 2013, sef y diwrnod cafodd y Ddeddf y Cydsyniad Brenhinol, yn unol ag adran 21(4).

Daw gweddill darpariaethau’r Ddeddf i rym pan fydd Gweinidogion Cymru yn gwneud un neu ragor o orchmynion, yn unol ag adran 21(1). 

Mae’r Gorchymyn canlynol wedi ei wneud:

Is-deddfwriaeth a wnaed o dan y Ddeddf

Ystyriaeth y Senedd o’r ddeddfwriaeth

Cyflwynwyd y Bil ar 3 Rhagfyr 2012 gan Lesley Griffiths AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar y pryd. Yn dilyn newid ym mhortffolios y Gweinidogion ym mis Mawrth 2013, awdurdododd y Prif Weinidog Mark Drakeford AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar y pryd, i fod yr Aelod newydd sy'n gyfrifol am y Bil, o 18 Mawrth 2013.

Cafodd y Bil ei basio gan Senedd Cymru (Cynulliad Cenedlaethol Cymru bryd hynny) ar 2 Gorffennaf 2013.

Mwy o wybodaeth am y Bil a gofnod o hynt y Bil trwy'r Senedd (Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar y pryd) ar senedd.cymru.

Mae'r Memorandwm Esboniadol a luniwyd gan Lywodraeth Cymru (fel y cafodd ei ddiwygio ar ôl Cyfnod 2):

Cafodd y Ddeddf y Cydsyniad Brenhinol ar 10 Medi 2013.