Neidio i'r prif gynnwy

Trosolwg o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013, ei gynnydd trwy'r Senedd a'r is-ddeddfwriaeth.

Cyhoeddwyd gyntaf:
30 Ionawr 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Trosolwg

Mae prif ddarpariaethau Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013 (‘y Ddeddf’) yn:

  • rhagnodi bod swydd Archwilydd Cyffredinol Cymru yn parhau ac yn nodi’r telerau;
  • creu corff corfforaethol newydd o’r enw Swyddfa Archwilio Cymru (“SAC”) ac yn rhoi swyddogaethau iddo;
  • rhagnodi trefniadau llywodraethu ar gyfer Archwilydd Cyffredinol Cymru a SAC, gan gynnwys trefniadau ar gyfer arolygiaeth yr Archwilydd Cyffredinol gan SAC, a’r berthynas rhwng y ddau;
  • rhagnodi sut y mae swyddogaethau Archwilydd Cyffredinol Cymru i’w harfer, ac yn gwneud darpariaeth i’r Archwilydd Cyffredinol archwilio cyfrifon cyrff llywodraeth leol yng Nghymru.

Mae’r Nodiadau Esboniadol i’r Ddeddf yn rhoi sylwebaeth fanwl ar y darpariaethau amrywiol:

Darllenwch y Ddeddf yn llawn:

Dod i rym

Daeth adrannau 30, 35 a 36 i rym ar 29 Ebrill 2013, sef y diwrnod cafodd y Ddeddf y Cydsyniad Brenhinol, yn unol ag adran 35(1). 

Yn amodol ar hynny, daw’r Ddeddf i rym yn unol â darpariaeth a wneir gan Weinidogion Cymru drwy orchymyn, yn unol ag adran 35(2):

Mae’r Gorchymyn canlynol wedi ei wneud:

Is-deddfwriaeth a wnaed o dan y Ddeddf

Ystyriaeth y Senedd o’r ddeddfwriaeth

Cyflwynwyd y Bil gan Jane Hutt AS, y Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Tŷ ar y pryd, ar 9 Gorffennaf 2012. Cafodd y Bil ei basio gan Senedd Cymru (Cynulliad Cenedlaethol Cymru bryd hynny) ar 5 Mawrth 2013.

Mwy o wybodaeth am y Bil a gofnod o hynt y Bil trwy'r Senedd (Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar y pryd) ar senedd.cymru.

Mae'r Memorandwm Esboniadol a luniwyd gan Lywodraeth Cymru (pan gyflwynwyd y Bil):

Cafodd y Ddeddf y Cydsyniad Brenhinol ar 29 Ebrill 2013.