Neidio i'r prif gynnwy

Trosolwg o Fesur Addysg (Cymru) 2011, ei gynnydd trwy'r Senedd a'r is-ddeddfwriaeth.

Cyhoeddwyd gyntaf:
16 Chwefror 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Trosolwg

Mae Mesur Addysg (Cymru) 2011 (‘y Mesur’) yn rhoi cyfres o bwerau a dyletswyddau ar waith i wneud cydweithio’n gyffredin yn y system addysg er mwyn gwella llywodraethiant ysgolion a symleiddio’r ffordd y caiff lleoedd ysgol eu cynllunio yng Nghymru. 

Mae'r Mesur yn:

  • ysgogi cydweithio rhwng awdurdodau lleol, cyrff llywodraethu ysgolion a gynhelir a Sefydliadau Addysg Bellach;
  • rhoi pŵer i awdurdodau lleol sefydlu ffederasiwn o ysgolion;
  • hyfforddi llywodraethwyr ysgol a gwella clercio cyrff llywodraethu; ac
  • atal ysgolion rhag newid categori yn y dyfodol er mwyn dod yn ysgolion sefydledig ac atal ysgolion sefydledig newydd rhag cael eu hadeiladu.

Mae’r Nodiadau Esboniadol i’r Mesur yn rhoi sylwebaeth fanwl ar y gwahanol ddarpariaethau:

Darllenwch y Ddeddf yn llawn:

Dod i rym

Daeth adrannau 26 i 34 i rym ar ddiwedd y cyfnod o ddau fis yn dilyn y Gymeradwyaeth Frenhinol yn unol ag adran 33 (mewn geiriau eraill ar 10 Gorffennaf 2011).

Daw gweddill y darpariaethau i rym yn unol â darpariaeth a wneir gan Weinidogion Cymru drwy orchymyn. Mae’r Gorchmynion canlynol wedi eu gwneud:

Is-deddfwriaeth a wnaed o dan y Ddeddf

TeitlRhifDyddiad gwneudDyddiad dod i rymDogfennau ategol
Rheoliadau Llywodraethu Ysgolion a Gynhelir (Gofynion Hyfforddi ar gyfer Llywodraethwyr) (Cymru) (Diwygio) 2024 ar legislation.gov.uk2024 Rhif 854 (Cy. 133)    13 Awst 20249 Medi 20242024 Rhif 854 (Cy. 133): Memorandwm Esboniadol ar senedd.cymru
Rheoliadau Llywodraethu Ysgolion a Gynhelir (Gofynion Hyfforddi ar gyfer Llywodraethwyr) (Cymru) (Diwygio) 2021 ar legislation.gov.uk2021 Rhif 367 (Cy. 112)19 Mawrth 202114 Ebrill 20212021 Rhif 367 (Cy. 112): Memorandwm Esboniadol ar senedd.cymru
Rheoliadau Addysg (Diwygiadau sy’n Ymwneud â Gwybodaeth Asesiadau Athrawon) (Cymru) 2018 ar legislation.gov.uk2018 Rhif 766 (Cy. 153)26 Mehefin 201831 Gorffennaf 20182018 Rhif 766 (Cy. 153): Memorandwm Esboniadol (Saesneg yn unig) ar senedd.cymru
Rheoliadau Llywodraethu Ysgolion a Gynhelir (Gofynion Hyfforddi ar gyfer Llywodraethwyr) (Cymru) (Diwygio) 2016 ar legislation.gov.uk2016 Rhif 137 (Cy. 66)3 Chwefror 20161 Mawrth 2016Memorandwm Esboniadol 2016 Rhif 137 (Cy. 66): (Saesneg yn unig) ar senedd.cymru
Rheoliadau Llywodraethu Ysgolion a Gynhelir (Gofynion Hyfforddi ar gyfer Llywodraethwyr) (Cymru) (Diwygio) 2014 ar legislation.gov.uk2014 Rhif 2225 (Cy. 214)20 Awst 201419 Medi 20142014 Rhif 2225 (Cy. 214): Memorandwm Esboniadol (Saesneg yn unig) ar senedd.cymru
Gorchymyn Addysg (Ysgolion Bach) (Cymru) 2014 ar legislation.gov.uk2014 Rhif 1133 (Cy. 112)29 Ebrill 201422 Mai 20142014 Rhif 1133 (Cy. 112): Memorandwm Esboniadol (Saesneg yn unig) ar senedd.cymru
Rheoliadau Ffedereiddio Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2014 ar legislation.gov.uk2014 Rhif 1132 (Cy. 111)29 Ebrill 201422 Mai 20142014 Rhif 1132 (Cy. 111): Memorandwm Esboniadol (Saesneg yn unig) ar senedd.cymru
Rheoliadau Staffio Ysgolion a Gynhelir (Cymru) (Diwygio) 2014 ar legislation.gov.uk2014 Rhif 1609 (Cy. 165)18 Mehefin 201416 Gorffennaf 20142014 Rhif 1609 (Cy. 165): Memorandwm Esboniadol (Saesneg yn unig) ar senedd.cymru
Rheoliadau Llywodraethu Ysgolion a Gynhelir (Clerc i Gorff Llywodraethu) (Cymru) 2013 ar legislation.gov.uk2013 Rhif 2127 (Cy. 208)23 Awst 201320 Medi 20132013 Rhif 2127 (Cy. 208)Memorandwm Esboniadol (Saesneg yn unig) ar senedd.cymru
Rheoliadau Llywodraethu Ysgolion a Gynhelir (Gofynion Hyfforddi ar gyfer Llywodraethwyr) (Cymru) 2013 ar legislation.gov.uk2013 Rhif 2124 (Cy. 207)23 Awst 201320 Medi 20132013 Rhif 2124 (Cy. 207): Memorandwm Esboniadol (Saesneg yn unig) ar senedd.cymru
Rheoliadau Cydlafurio Rhwng Cyrff Addysg (Cymru) 2012 ar legislation.gov.uk2012 Rhif 2655 9Cy. 287)22 Hydref 201216 Tachwedd 20122012 Rhif 2655 9Cy. 287): Memorandwm Esboniadol (Saesneg yn unig) ar senedd.cymru

Ystyriaeth y Senedd o’r ddeddfwriaeth

Cyflwynwyd y Mesur ar 6 Rhagfyr 2010 gan Leighton Andrews AC, y Gweinidog Plant, Addysg a Dysgu Gydol Oes ar y pryd. Pasiwyd y Mesur gan Senedd Cymru (a elwid bryd hynny yn Gynulliad Cenedlaethol Cymru) ar 29 Mawrth 2011. 

Mwy o wybodaeth am y Bil a gofnod o hynt y Bil trwy'r Senedd (Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar y pryd) ar senedd.cymru.

Memorandwm Esboniadol a luniwyd gan Lywodraeth Cymru (i adlewyrchu’r Mesur fel y’i diwygiwyd ar ôl Cyfnod 2):

Cafodd y Mesur y Gymeradwyaeth Frenhinol ar 10 Mai 2011.