Trosolwg o Fesur Strategaethau ar gyfer Gofalwyr (Cymru) 2010, ei gynnydd trwy'r Senedd a'r is-ddeddfwriaeth.
Cynnwys
Trosolwg
Daeth Mesur Strategaethau ar gyfer Gofalwyr (Cymru) 2010 (‘y Mesur’) yn gyfraith ym mis Medi 2010 ond cafodd ei ddiddymu wedyn gan adran 279 o Rheoliadau Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (Diwygiadau Canlyniadol) 2016 on legislation.gov.uk.
Roedd Mesur Strategaethau ar gyfer Gofalwyr (Cymru) 2010 yn ei gwneud yn ofynnol i’r GIG ac awdurdodau lleol yng Nghymru weithio mewn partneriaeth i lunio, cyhoeddi a gweithredu strategaeth ar y cyd mewn perthynas â gofalwyr. Bwriad Llywodraeth Cymru oedd y byddai’r Mesur hwn yn llenwi’r bylchau yn narpariaeth gwasanaethau drwy ddarparu fframwaith statudol newydd. Yn benodol, roedd y Mesur yn gwneud darpariaeth i sicrhau:
- bod gan ofalwyr yr wybodaeth gywir ar yr adeg gywir i’w cefnogi yn eu rôl ofalu
- bod asiantaethau statudol yn ymgysylltu’n briodol â gofalwyr fel partneriaid wrth ddarparu gofal, gan eu cynnwys ar bob lefel wrth asesu, darparu a gwerthuso trefniadau gofal
Mae’r Nodiadau Esboniadol i’r Mesur yn rhoi sylwebaeth fanwl ar y gwahanol ddarpariaethau:
Darllenwch y Ddeddf yn llawn:
Dod i rym
Roedd y Mesur yn dod i rym yn unol â darpariaeth a wneir gan Gweinidogion Cymru trwy orchymyn. Mae’r Gorchymyn canlynol wedi ei wneud:
Is-ddeddfwriaeth a wnaed o dan y Mesur:
| Enw | Rhif | Dyddiad gwnaed | Dyddiad dod i rym | Dogfennau ategol |
| Rheoliadau Strategaethau ar gyfer Gofalwyr (Cymru) (Diwygio) 2012 ar legislation.gov.uk | 2012 Rhif 282 (Cy. 46) | 3 Chwefror 2012 | 29 Chwefror 2012 | 2012 Rhif 282 (Cy. 46): Memorandwm Esboniadol (Saesneg yn unig) ar senedd.cymru |
| Rheoliadau Strategaethau ar gyfer Gofalwyr (Cymru) 2011 ar legislation.gov.uk | 2011 Rhif 2939 (Cy. 315) | 6 Rhagfyr 2011 | 1 Ionawr 2012 | 2011 Rhif 2939 (Cy. 315): Memorandwm Esboniadol (Saesneg yn unig) ar senedd.cymru |
Ystyriaeth y Senedd o’r ddeddfwriaeth
Cyflwynwyd y Mesur ar 25 Ionawr 2010 gan Gwenda Thomas AC, y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol ar y pryd. Pasiwyd y Mesur gan Senedd Cymru (Cynulliad Cenedlaethol Cymru bryd hynny) ar 21 Medi 2010.
Mae'r Memorandwm Esboniadol a baratowyd gan Lywodraeth Cymru (fersiwn terfynol):
Cafodd y Mesur y Gymeradwyaeth Frenhinol ar 10 Tachwedd 2010.
