Neidio i'r prif gynnwy

Pwyntiau i'w nodi

Os ydych chi’n defnyddio’r cynllun hwn i ddyfarnu cymhorthdal, rhaid ichi roi gwybod i’r Uned Rheoli Cymorthdaliadau – e-bost: rheolicymorthdaliadau@llyw.cymru.

1. Rhanbarth

Cymru

2. Teitl y cynllun cymhorthdal

Cronfa Diogelwch Adeiladau Cymru

3. Y sail gyfreithiol

Adran 60(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.

4. Amcanion polisi penodol y cynllun

Diben Cronfa Diogelwch Adeiladau Cymru yw darparu cyllid i gyweirio, yn gyflym, ddiffygion diogelwch tân a nodwyd yn yr holl adeiladau o fewn y cwmpas, er mwyn sicrhau diogelwch, llesiant a diogelwch ariannol lesddeiliaid a thrigolion.

5. Diben y cynllun

Mae gan Gronfa Diogelwch Adeiladau Cymru nifer o lwybrau cyllido gweithredol i fynd i'r afael â materion diogelwch tân penodol, hanfodol i fywyd, yng Nghymru. Bydd y cymhorthdal arfaethedig yn cefnogi, yn benodol, lesddeiliaid a thrigolion sy'n gymwys i gael cyllid o dan y llwybrau cyllido a ganlyn:

Taliadau ôl-weithredol ar gyfer arolygon diogelwch tân, gweithiau cyweirio diogelwch tân, a gosod larymau tân (neu osod rhai newydd).

Yn y bôn, iawndal yw'r cymorth hwn. Ei ddiben yw ad-dalu lesddeiliaid a thrigolion a aeth ati i nodi a mynd i'r afael â materion diogelwch tân yn eu hadeiladau cyn i Gynllun Diogelwch Adeiladau Llywodraeth y DU gael ei sefydlu.

Adeiladau sy'n dod o dan gontract y datblygwr:

Pan fo diffygion diogelwch tân mewn adeiladau 'fel y'u hadeiladwyd' ac mae'r tîm wedi gallu nodi'r datblygwr sy'n gyfrifol, bydd y datblygwr hwnnw a Gweinidogion Cymru wedi llofnodi contract cyfreithiol gyfrwymol. Mae'r gweithiau a'r costau cysylltiedig sydd i'w talu gan ddatblygwyr yn dod o dan set o Delerau Hunan-Gyweirio, sy'n rhan o'r contract. Fodd bynnag, mae rhai costau wedi'u heithrio o'r Telerau Hunan-Gyweirio, sef, yn benodol, y costau hynny sy'n gysylltiedig â mesurau diogelwch tân interim.

Adeiladau amddifad ac adeiladau nad ydynt yn dod o dan gontract y datblygwr:

I fynd i'r afael â gwaith cyweirio mewn adeiladau lle nad oes datblygwr wedi'i nodi, mae'r datblygwr wedi rhoi'r gorau i fasnachu, mae'r adeilad wedi cael ei godi cyn 1992, neu nid yw'r adeilad yn dod o dan gontract y datblygwr, bydd Llywodraeth Cymru yn cyllido'r gwaith o gyweirio diffygion diogelwch tân adeiladau 'fel y'u hadeiladwyd' ynghyd â mesurau diogelwch tân interim angenrheidiol.

Y canlyniadau a ddymunir ar gyfer y cynllun yw:

  • Diogelu bywyd rhag niwed sy'n gysylltiedig â thân
  • Cyweirio adeiladau yr effeithir arnynt i gydymffurfio â diogelwch tân i lefel y gellir ei goddef, o leiaf
  • Adfer hyder y cyhoedd a'r diwydiant masnachol yn niogelwch a hyfywedd adeiladau preswyl sy'n 11 metr neu uwch, a thrwy hynny, adfywio'r gangen honno o'r farchnad dai.

Yn dilyn cyhoeddi'r canllawiau ar Gynllun Cymhorthdal Symlach y DU ar gyfer Tai, aseswyd nad yw'n debygol y bydd unrhyw fantais gronnol yn deillio o ddarpariaethau cymorth lluosog mewn perthynas â phrosiectau mewn gwahanol leoliadau daearyddol. Mae hyn yn ymwneud â'r ffaith ei bod yn anodd manteisio ar arbedion maint wrth gaffael deunyddiau a gwasanaethau pan fydd gwaith adeiladu yn digwydd dros ardal ddaearyddol eang.

6. Awdurdodau cyhoeddus sydd wedi’u hawdurdodi i weithredu’r cynllun

Llywodraeth Cymru

7. Categorïau o fentrau cymwys

Mae'r cynllun hwn yn darparu cymorth i landlordiaid prynu i osod a chwmnïau rheoli eiddo yn unig. Nid yw dyfarniadau i berchen-feddiannwyr preifat ar adeiladau cymwys yn cael eu hystyried yn gymorthdaliadau, ac mae cymorthdaliadau i landlordiaid cymdeithasol yn rhan o gynllun gwahanol.

8. Sectorau i’w cefnogi

Gweithgareddau eiddo tirol.

9. Hyd cyfnod y cynllun

1 Mawrth 2024 tan 31 Mawrth 2030

10. Y gyllideb cymorth o dan y cynllun

£100,000,000

11. Ffurf y cymorth

Mae'r holl gymorthdaliadau a ddyfernir o dan y cynllun yn cael eu dyfarnu drwy grantiau uniongyrchol.

12. Telerau ac amodau cymhwysedd

Mae pob adeilad preswyl sy'n 11 metr ac uwch yng Nghymru yn gymwys. Mae gweithiau y bernir eu bod yn gymwys i gael cymorth yn seiliedig ar ganfyddiadau arolygon arbenigol, a bydd y rhain yn wahanol ar gyfer pob adeilad. Mae'r cymhorthdal hwn ar gael ar gyfer y categorïau o weithiau a ganlyn (er ni fwriedir i'r rhestr hon fod yn un gynhwysfawr):

  • system waliau allanol / cladin
  • adrannu (mewnol / allanol)
  • systemau synhwyro a larymau tân
  • systemau larwm gwacáu adeiladau
  • systemau atal tân

13. Y sail ar gyfer cyfrifo cymorthdaliadau

Pennir y cymhorthdal gan adroddiadau peiriannydd tân arbenigol. Bydd graddfa a chost cyweirio pob adeilad i'r safon ofynnol yn dra gwahanol ar gyfer pob adeilad. Ar hyn o bryd, mae'r tîm yn amcangyfrif uchafswm cymhorthdal o £500,000 fesul menter, a chyfanswm cyllideb o £100m. Fodd bynnag, bydd hyn yn destun adolygu a gwerthuso parhaus i sicrhau ei fod yn parhau yn addas i'r diben. Mae'r cynllun yn gweithredu cyfradd ymyrraeth o hyd at 100%.

14. Uchafswm y cymhorthdal a ganiateir o dan y cynllun

£500,000

15. Manylion cyswllt

I gael rhagor o wybodaeth ynghylch gwneud cais am gymorth o dan y cynllun hwn, cysylltwch â'r tîm drwy e-bost: IRCF@llyw.cymru

I gael rhagor o wybodaeth am sut mae’r cynllun hwn yn cydymffurfio â Deddf Rheoli Cymorthdaliadau 2022, cysylltwch â’r:

Yr Uned Rheoli Cymorthdaliadau

Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
DU

Rhif ffôn:

+ 44 (0)3000 604 400

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Image