Canllawiau ar wneud cais am y gronfa arloesi hinsawdd, gan gynnwys cymhwystra ac amodau’r grant.
Dogfennau
Cronfa Arloesi Hinsawdd: canllawiau , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 404 KB
Manylion
Diweddariad: dyddiad cau ar gyfer ceisiadau wedi’i ymestyn
Mae’r dyddiad cau ar gyfer ceisiadau i Gronfa Arloesi Hinsawdd DATGLOI wedi’i ymestyn.
Bydd ceisiadau newydd ac ailgyflwyniadau o geisiadau presennol yn cael eu derbyn tan 23:59 ddydd Gwener 2 Hydref 2026.
Gall ymgeiswyr sydd eisoes wedi cyflwyno cais ddefnyddio’r cyfle hwn i gyflwyno fersiwn ddiwygiedig os ydynt yn dymuno gwneud hynny. Pan fydd cais yn cael ei ailgyflwyno, y fersiwn ddiweddaraf a dderbynnir fydd yn cael ei thrin fel y cais terfynol.
