Neidio i'r prif gynnwy

Trosolwg o Fesur Comisiynydd Safonau Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2009, ei daith drwy'r Senedd a deddfwriaeth israddol.

Cyhoeddwyd gyntaf:
2 Awst 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Trosolwg

Mae Mesur Comisiynydd Safonau Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2009 yn sefydlu swydd annibynnol Comisiynydd Safonau’r Senedd. Ei rôl yw hyrwyddo, annog a diogelu safonau ymddygiad uchel yn swydd gyhoeddus Aelod o’r Senedd (Cynulliad Cenedlaethol Cymru gynt). Mae hyn yn cynnwys:

  • derbyn cwynion yn erbyn aelodau’r Senedd, ymchwilio iddynt ac adrodd ar y canlyniad 
  • cynghori ar weithdrefnau ar gyfer gwneud cwynion ac ymchwilio iddynt
  • cynghori ar egwyddorion o ran ymddygiad Aelodau’r Senedd, gweithdrefnau ymchwilio i gwynion a hyrwyddo safonau ymddygiad uchel
  • adrodd yn flynyddol i’r Senedd.

Mae’r Mesur hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i drydydd partïon perthnasol ddarparu gwybodaeth i’r Comisiynydd ac yn ei gwneud yn drosedd os nad ydynt yn cydymffurfio, y gellir ei chosbi â dirwy.

Mae’r Nodiadau Esboniadol i’r Mesur yn rhoi sylwebaeth fanwl ar y darpariaethau amrywiol. 

Darllenwch y Mesur llawn:

Dod i rym

Daeth adrannau 1, 3 (gan gynnwys yr Atodlen), 20 a 21 i rym ar 10 Rhagfyr 2009, sef y diwrnod ar ôl i’r Mesur gael ei gymeradwyo gan Ei Mawrhydi yn y Cyfrin Gyngor, yn unol ag adran 21(2).

Daeth gweddill darpariaethau’r Mesur i rym y diwrnod ar ôl i hysbysiad o dan is-adran 21(3) gael ei gyhoeddi: 

Is-ddeddfwriaeth a wnaed o dan y Mesur

Ni wnaed unrhyw is-ddeddfwriaeth o dan y Mesur hwn.

Ystyriaeth y Senedd o’r ddeddfwriaeth

Cyflwynwyd y Mesur arfaethedig gan Jeff Cuthbert, a oedd y Gadeirydd y Pwyllgor ar Safonau Ymddygiad ar y pryd, ar 25 Mawrth 2009.

Cafodd ei basio gan y Cynulliad Cenedlaethol (fel yr oedd ar y pryd) ar 14 Hydref 2019:

a'r Memorandwm Esboniadol a baratowyd gan y Pwyllgor Safonau Ymddygiad (ar gyflwyno'r Mesur):

Cafodd y Bil Gymeradwyaeth Frenhinol ar 9 Rhagfyr 2009.

Erthyglau neu ddeunydd cysylltiedig