Neidio i'r prif gynnwy

Trosolwg o Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2016 (diddymwyd), ei gynnydd trwy'r Senedd a'r is-ddeddfwriaeth.

Cyhoeddwyd gyntaf:
18 Awst 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Trosolwg

Roedd Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2016 (‘y Ddeddf’) yn gwneud darpariaethau amrywiol er mwyn gwella’r dull o warchod amgylchedd hanesyddol Cymru, gan gynnwys:

  • diwygio Deddf Henebion Hynafol ac Ardaloedd Archaeolegol 1979, yn bennaf mewn perthynas â henebion hynafol yng Nghymru,
  • ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru lunio a chynnal cofrestr o barciau a gerddi o ddiddordeb hanesyddol arbennig,
  • diwygio Deddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990 mewn perthynas ag adeiladau rhestredig,
  • ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru lunio a chynnal rhestr o enwau lleoedd hanesyddol yng Nghymru,
  • ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru lunio cofnod o’r amgylchedd hanesyddol ar gyfer pob awdurdod lleol yng Nghymru, a’i gadw’n gyfoes,
  • sefydlu’r Panel Cynghori ar Amgylchedd Hanesyddol Cymru. 

Mae sylwebaeth fanwl ar y darpariaethau amrywiol ar gael yn y Nodiadau Esboniadol i’r Ddeddf ar legislation.gov.uk.

Gweler y Ddeddf ar legislationi.gov.uk.

Cafodd y Ddeddf ei diddymu gan baragraff 193 o Atodlen 13 i Ddeddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023. Gweler Deddf 2023 ar legislation.gov.uk.

Is-ddeddfwriaeth a wnaed o dan y Ddeddf

Ni wnaed unrhyw is-ddeddfwriaeth o dan y Ddeddf hon.

Canllawiau statudol a ddyroddwyd o dan y Ddeddf

O dan adran 37 o’r Ddeddf, dyroddwyd canllawiau statudol, sef Cofnodion Amgylchedd Hanesyddol yng Nghymru: Llunio a Defnyddio, ar gyfer awdurdodau lleol ac awdurdodau parciau cenedlaethol yng Nghymru, a Cyfoeth Naturiol Cymru, ym mis Ebrill 2017. Yn dilyn diddymu’r Ddeddf ar 4 Tachwedd 2024, dyroddir y canllawiau statudol erbyn hyn o dan adran 196 o Ddeddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023.

Is-ddeddfwriaeth a wnaed o dan y Ddeddf

Cyflwynwyd y Bil ar 1 Mai 2015 gan Ken Skates AS, y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth ar y pryd.

Mwy o wybodaeth am Ddeddf a gofnod o hynt y Bil trwy'r Senedd (Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar y pryd) ar senedd.cymru.

Mae’r Memorandwm Esboniadol a luniwyd gan Lywodraeth Cymru (fel y cafodd ei ddiwygio ar ôl Cyfnod 2):

Cafodd y Ddeddf y Cydsyniad Brenhinol ar 21 Mawrth 2016.