Ystadegau, Dogfennu
Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010: Fehefin 2026
Data ar atgyfeiriadau ac amserau aros ar gyfer Gwasanaethau Cymorth Iechyd Meddwl Gofal Sylfaenol Lleol (asesiadau ac ymyriadau therapiwtig) ar gyfer Ebrill i Fehefin 2026.
Ar y dudalen hon
Rhan 1: asesiadau Gwasanaethau Cymorth Iechyd Meddwl Sylfaenol Lleol (LPMHSS)
Pobl o dan 18 oed
- Cafodd 1,177 o atgyfeiriadau eu derbyn.
- Roedd 87.5% o asesiadau yn cael eu cynnal o fewn 28 o ddiwrnodau i'r dyddiad y derbyniwyd yr atgyfeiriad.
- Cafodd 86.3% o ymyriadau therapiwtig eu dechrau o fewn 28 o ddiwrnodau yn dilyn asesiad.
Pobl 18 oed a throsodd
- Cafodd 6,361 o atgyfeiriadau eu derbyn ar gyfer asesiad.
- Roedd 82.7% o asesiadau yn cael eu cynnal o fewn 28 o ddiwrnodau i'r dyddiad y derbyniwyd yr atgyfeiriad.
- Cafodd 86.8% o ymyriadau therapiwtig eu dechrau o fewn 28 o ddiwrnodau yn dilyn asesiad.
Pob oedran
- Cafodd 7,538 o atgyfeiriadau eu derbyn ar gyfer asesiad.
- Roedd 83.7% o asesiadau yn cael eu cynnal o fewn 28 o ddiwrnodau i'r dyddiad y derbyniwyd yr atgyfeiriad.
- Cafodd 86.7% o ymyriadau therapiwtig eu dechrau o fewn 28 o ddiwrnodau yn dilyn asesiad.
Rhan 2: statws Cynlluniau Gofal a Thriniaeth (CTP)
Pobl o dan 18 oed
- Roedd 751 o gleifion yn derbyn gwasanaethau Iechyd Meddwl eilaidd.
- Roedd gan 713 CTP dilys (94.9% o’r grŵp oedran hon).
Pobl 18 oed a throsodd
- Roedd 16,751 o gleifion yn derbyn gwasanaethau Iechyd Meddwl eilaidd.
- Roedd gan 14,115 CTP dilys (84.3% o’r grŵp oedran hon).
Pob oedran
- Roedd 17,502 o gleifion yn derbyn gwasanaethau Iechyd Meddwl eilaidd.
- Roedd gan 14,828 CTP dilys (84.7% o'r holl gleifion sy'n derbyn gwasanaethau Iechyd Meddwl eilaidd).
Rhan 3: asesiadau ar ddefnyddwyr blaenorol o wasanaethau iechyd meddwl eilaidd
- Roedd 88.9% o adroddiadau ar ganlyniadau asesiadau yn cael eu hanfon o fewn 10 diwrnod gwaith wedi i asesiad Rhan 3 gael ei gynnal.
Manylion cyswllt
Ystadegau Perfformiad GIG Cymru
E-bost: hss.performance@llyw.cymru
Cyfryngau: 0300 025 8099
