Hoffem gael eich barn am ddiwygiadau arfaethedig i'r Cynllun Rhestr Ddetholedig (SLS) yng Nghymru.
Disgrifiad o'r ymgynghoriad
Hoffem gael eich barn am ddiwygiadau arfaethedig i’r Cynllun Rhestr Ddetholedig (SLS) yng Nghymru.
Mae’r SLS yn nodi meddyginiaethau y gall ymarferwyr cyffredinol ond eu presgripsiynu ar y GIG mewn amgylchiadau clinigol sydd wedi’u diffinio’n glir.
Caiff y meddyginiaethau a gwmpesir gan yr SLS a’r amgylchiadau y gellir eu presgripsiynu yn unol â nhw eu nodi yn Atodlen 2 i Reoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Contractau Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) (Rhagnodi Cyffuriau Etc.) (Cymru) 2004, fel y’u diwygiwyd.
Yn ymarferol, mae hyn yn golygu bod yr SLS yn cyfyngu ar allu ymarferwyr cyffredinol yng Nghymru i bresgripsiynu nifer bach o feddyginiaethau i sefyllfaoedd lle:
- mae manteision eu defnyddio yn glir
ac nid yw’n caniatáu iddynt gael eu presgripsiynu lle:
- nad yw’r manteision mor amlwg
- mae risgiau posibl
Dogfennau ymgynghori
Diwygiadau arfaethedig i'r Cynllun Rhestr Ddetholedig (SLS) yng Nghymru: Asesiad Effaith Integredig , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 129 KB
Diwygiadau arfaethedig i'r Cynllun Rhestr Ddetholedig (SLS) yng Nghymru: Asesiad o'r Effaith ar Hawliau Plant , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 153 KB
Diwygiadau arfaethedig i'r Cynllun Rhestr Ddetholedig (SLS) yng Nghymru: Asesiad o'r Effaith ar y Gymraeg , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 128 KB
Diwygiadau arfaethedig i'r Cynllun Rhestr Ddetholedig (SLS) yng Nghymru: Asesiad Effaith Rheoleiddiol , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 95 KB
Sut i ymateb
Cyflwynwch eich sylwadau erbyn 17 Rhagfyr 2026, ar un o`r ffurfiau a ganlyn:
Ffurflen ar-lein
E-bost
Lawrlwythwch y ffurflen ymateb.
Complete and return to: Pharmacyand.PrescribingBranch@gov.wales
Post
Lawrlwythwch y ffurflen ymateb.
Anfonwch ffurflenni wedi’u cwblhau i:
Y Gangen Fferylliaeth a Phresgripsiynu
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
Wrth ymateb, byddai’n ddefnyddiol pe gallech gadarnhau a ydych yn ymateb fel unigolyn neu’n cyflwyno ymateb swyddogol ar ran sefydliad a chynnwys y canlynol:
- eich enw
- eich swydd (os yw’n gymwys)
- enw’r sefydliad (os yw’n gymwys)
