Neidio i'r prif gynnwy

Yn bresennol

  • Rhun ap Iorwerth AS (Cadeirydd)
  • Sioned Williams AS
  • Mabon ap Gwynfor AS
  • Anna Brychan AS
  • Heledd Fychan AS
  • Llyr Gruffydd AS
  • Siân Gwenllian AS
  • Y Gwir Anrhydeddus Elin Jones AS
  • Adam Price AS
  • Dafydd Trystan Davies AS
  • Y Gwir Anrhydeddus Elfyn Llwyd

Swyddogion

  • Andrew Goodall, yr Ysgrifennydd Parhaol
  • Rachel Garside-Jones, Cyfarwyddwr Swyddfa’r Prif Weinidog
  • Jo Salway, Cyfarwyddwr Swyddfa’r Cabinet
  • Toby Mason, Cyfarwyddwr Cyfathrebu Strategol
  • Carwyn Wycherley, Dirprwy Bennaeth Swyddfa’r Cabinet
  • Aled ap Dafydd, Uwch-gynghorydd Arbennig
  • Elin Roberts, Uwch-gynghorydd Arbennig
  • Emily Edwards, Uwch-gynghorydd Arbennig
  • Francess Ifan, Uwch-gynghorydd Arbennig
  • Guto Ifan, Cynghorydd Arbennig
  • Luke Nicholas, Cynghorydd Arbennig
  • Damian Roche, Ysgrifenyddiaeth y Cabinet (cofnodion)
  • Katie Mason, Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
  • Christopher W Morgan, Ysgrifenyddiaeth y Cabinet (cofnodion)
  • James Oxenham, Ysgrifenyddiaeth y Cabinet

Eitem 1: Cofnodion y Cyfarfod blaenorol

1.1 Cymeradwyodd y Cabinet gofnodion 22 Mehefin.

Eitem 2: Eitemau’r Prif Weinidog

Y Tour de France yng Nghymru – digwyddiad blwyddyn i fynd

2.1 Rhoddodd y Prif Weinidog wybod i’r Cabinet ei fod ef, a’r Trefnydd, y Prif Chwip a’r Gweinidog Cabinet dros Ddiwylliant a Chwaraeon, wedi bod mewn digwyddiad yng Nghastell Caerffili yn gynharach y diwrnod hwnnw i nodi blwyddyn nes y bydd y Tour de France yn dod i Gymru.

2.2 Byddai hon yn adeg arbennig i Gymru – byddai’n rhan o’r digwyddiad am y tro cyntaf, gyda Chymal Tri yn ei gyfanrwydd yn cael ei gynnal rhwng y Trallwng a Chaerdydd. Roedd cynlluniau wrthi’n cael eu gwneud i groesawu’r digwyddiad i Gymru ac i arddangos ei thirwedd a’i chymunedau bywiog a chyfeillgar.

2.3 Byddai cais yn cael ei wneud am 1,000 o wirfoddolwyr ar hyd y llwybr i helpu i sicrhau bod Tour de France yn llwyddiant.

Eitem 3: Busnes y Senedd

3.1 Nododd y Cabinet grid y Cyfarfod Llawn ar gyfer yr wythnos honno.

Ysgrifenyddiaeth y Cabinet