Neidio i'r prif gynnwy

Mae angen gwirfoddolwyr wrth i Grand Départ Le Tour de France ddod i Gymru yn 2027, y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais yw dydd Mawrth 1 Medi.

Cyhoeddwyd gyntaf:
24 Awst 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Bydd Tlws Le Grand Départ yn dod i Ŵyl Gaws Caerffili ddydd Sadwrn 29 Awst.

Mae'r cyfnod ar gyfer gwneud cais i fod yn rhan o hanes drwy wirfoddoli i fod wrth galon Grand Départ Le Tour de France a Grand Départ Le Tour de France Femmes avec Zwift yng Nghymru yr haf nesaf yn cau cyn bo hir.

Bydd gwirfoddolwyr, a elwir yn swyddogol yn JOY Makers, yn cefnogi trydydd cymal ras y dynion ddydd Sul 4 Gorffennaf 2027, sy'n dechrau yn y Trallwng ac yn mynd drwy dirweddau eiconig, dyffrynnoedd hardd a chanol trefi prysur cyn gorffen yng Nghaerdydd.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw dydd Mawrth 1 Medi 2026. Gall unrhyw un sy'n 16 oed neu'n hŷn wneud cais heb unrhyw brofiad blaenorol, gan y bydd hyfforddiant llawn yn cael ei ddarparu.

Mae gwirfoddolwyr rhwng 18 a 25 oed hefyd yn gymwys ar gyfer y cynllun Barod am Waith, sy'n cynnig hyfforddiant sgiliau cyflogadwyedd a mentora sy'n canolbwyntio ar yrfaoedd.

Hyd yn hyn, mae tua 1,250 o wirfoddolwyr wedi datgan diddordeb ledled Cymru. Mae'r trefnwyr yn awyddus i annog rhagor o geisiadau gan bobl o fewn cyrraedd hawdd y llwybr, gyda phob gwirfoddolwr yn cyfrannu at roi ei gymuned ar y map, yn ogystal â chefnogi Le Tour.

Yr wythnos hon, bydd cyfle i aelodau'r cyhoedd ddod i weld Tlws swyddogol Le Grand Départ, pan fydd yn cael ei harddangos yng Ngŵyl Gaws Caerffili ddydd Sadwrn 29 Awst, fel rhan o'i thaith ledled y DU.

Dywedodd y Gweinidog Cabinet dros Ddiwylliant a Chwaraeon, Heledd Fychan:

Mae croeswu y Tour de France yn gyfle arbenning i Gymru. Byddwn yn adeiladu ar etifeddiaeth Geraint Thomas, annog cenhedlaeth newydd i ddechrau beicio ac arddangos y gorau sydd gan Gymru i'w gynnig.

Drwy wirfoddoli, byddwch yn helpu Cymru i ymestyn ei chroeso unigryw i'r byd, wrth ar yr un pryd chwarae rhan mewn digwyddiad pwysig, meithrin cysylltiadau newydd, dathlu eich cymuned leol ac ennill sgiliau a fydd o fudd i'ch gyrfa.

Waeth a ydych chi'n wirfoddolwr profiadol neu'n gwirfoddoli am y tro cyntaf, mae lle i bawb. Hoffwn i annog unrhyw un sy'n awyddus i gymryd rhan i gynrychioli ei gymuned fel rhan o Les Grand Départs.

Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru i sicrhau y gall gwirfoddoli ar gyfer y digwyddiadau hyn agor drysau i gyfleoedd pellach ledled Cymru.

Dywedodd Matt Brown, Dirprwy Brif Weithredwr Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru:

Bydd gwirfoddolwyr yn chwarae rhan ganolog wrth ddod â Le Tour de France i Gymru yn 2027. Rydyn ni wrth ein bodd yn gweithio ochr yn ochr â Llywodraeth Cymru ar Le Tour de France i greu etifeddiaeth wirfoddoli barhaol sy'n cryfhau cymunedau ledled Cymru am flynyddoedd i ddod.

Os oes gennych chi ddiddordeb mewn gwirfoddoli, chwiliwch am 'JOY makers' cyn y dyddiad cau dydd, sef dydd Mawrth 1 Medi.