Anna Brychan AS, Gweinidog Cabinet dros Addysg a’r Gymraeg
Mae'n bleser gennyf gyhoeddi buddsoddiad o £200,000 gan Lywodraeth Cymru ar gyfer cyfres o gynlluniau peilot mewn Ysgolion Bro sy'n edrych ar ddulliau o fynd i'r afael â materion ymddygiad a chefnogi ymgysylltiad â'r ysgol. Mae hyn yn cyflawni ein hymrwymiad yng Nghynllun y 100 Diwrnod Cyntaf i ddechrau gweithio tuag at ddarparu dull cofleidiol o ran iechyd meddwl, llesiant ac ymddygiad mewn ysgolion.
Mae'r buddsoddiad hwn yn ymwneud â sicrhau bod dysgwyr yn derbyn yr help sydd ei angen arnynt i ymgysylltu, cymryd rhan a llwyddo yn yr ysgol.
Rydym yn gwybod y gall ffactorau y tu allan i'r ystafell ddosbarth gael effaith sylweddol ar allu dysgwr i ddod i'r ysgol, ymgysylltu â'r ysgol a llwyddo. Mae costau byw, pryderon ynghylch iechyd meddwl a lles, pwysau teuluol ac anghenion cymorth cynyddol gymhleth yn golygu bod ysgolion yn aml yn ymateb i heriau sy'n effeithio ar bob agwedd ar brofiad a datblygiad y plentyn.
Bydd y cynlluniau peilot yn ymgysylltu â'r holl ffactorau hyn ac yn edrych ar sut y gall gwasanaethau weithio'n fwy effeithiol gyda'i gilydd o amgylch anghenion plant, pobl ifanc a'u teuluoedd. Trwy ddod ag arbenigedd penodol yn agosach at ysgolion, gallwn ddarparu cymorth cynharach ac atal heriau rhag dod yn rhwystrau i ddysgu, lles a llwyddiant.
Bydd Ysgolion Bro yn ganolog i'r gwaith hwn. Trwy gryfhau cysylltiadau rhwng dysgwyr, teuluoedd, cymunedau a gwasanaethau, gall ysgolion weithredu fel angorau cymunedol sy'n hyrwyddo llesiant, gwella ymgysylltu a phresenoldeb, a helpu plant a phobl ifanc i ffynnu.
Mae sicrhau bod gan y gweithlu addysg fynediad at yr arbenigedd a'r gefnogaeth ymarferol sydd eu hangen i ymateb yn hyderus i anghenion cynyddol gymhleth y dysgwyr yn amcan allweddol. Bydd cydweithredu cryfach ar draws gwasanaethau yn helpu i adnabod pryderon yn gynharach a chreu llwybrau mwy effeithiol er mwyn cefnogi disgyblion.
Mae uchelgais syml yn greiddiol i hyn, sef y dylai pob plentyn a pherson ifanc gael y cyfle i gymryd rhan lawn ym mywyd yr ysgol, teimlo ei fod yn perthyn, a chyflawni eu potensial. Mae'r buddsoddiad hwn yn ategu ein hymrwymiad arall yn Nghynllun y 100 Diwrnod Cyntaf i ddatblygu fframwaith integredig ar gyfer presenoldeb, ymddygiad, ac iechyd meddwl a lles. Trwy weithredu dull sy'n canolbwyntio mwy ar atal problemau, bydd yn helpu i sicrhau bod dysgwyr yn derbyn y cymorth cywir ar yr adeg iawn.
Mae gwaith ar y fframwaith yn mynd rhagddo ar hyn o bryd. Bydd y fframwaith, sydd wedi ei ddatblygu gyda chymorth phartneriaid allweddol, yn cryfhau ymyrraeth gynnar ac yn gwella cefnogaeth i blant, pobl ifanc a'u teuluoedd.
Mae hyn yn gam pwysig tuag at greu system gryfach o gefnogaeth i plant a phobl ifanc. Trwy weithio mewn partneriaeth ag ysgolion, teuluoedd, cymunedau a gwasanaethau cyhoeddus, gallwn gael gwared ar rwystrau rhag dysgu, cryfhau cyfleoedd ar gyfer llwyddiant a helpu i sicrhau bod pob dysgwr yn gallu ffynnu.
Cyhoeddir y datganiad hwn yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau. Os bydd Aelodau am imi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynghylch hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddaf yn hapus i wneud hynny.
