Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Cesglir gwybodaeth am smygu, defnyddio e-sigaréts ac yfed alcohol drwy Arolwg Cenedlaethol Cymru. Mae'r adroddiad hwn yn seiliedig ar gyfweliadau a gynhaliwyd rhwng mis Ebrill 2024 a mis Mawrth 2025.

Mae rhagor o ganlyniadau ar gael yn y dangosydd canlyniadau rhyngweithiol ar gyfer Arolwg Cenedlaethol Cymru.

Prif ganfyddiadau

  • Dywedodd 10% o bobl yng Nghymru eu bod yn smygu ar hyn o bryd.
  • Y ffactorau a oedd yn gysylltiedig â smygu oedd:
    • bod yn sengl
    • peidio â bod yn grefyddol
    • bod mewn iechyd gwael
    • bod â chyflwr iechyd meddwl
    • bod â lefelau is o gymwysterau
    • a rhentu eu cartref
  • Dywedodd 10% o bobl eu bod yn defnyddio e-sigaréts ar hyn o bryd; yn gyffredinol, roedd 18% o bobl wedi defnyddio e-sigaréts rywbryd yn eu bywydau.
  • Y ffactorau a oedd yn gysylltiedig â defnyddio e-sigaréts oedd:
    • bod yn ifanc
    • bod yn sengl
    • bod â chyflwr iechyd meddwl
    • rhentu eu cartref
    • a bod â lefelau is o gymwysterau
  • Dywedodd 15% o bobl eu bod yn yfed mwy nag 14 uned o alcohol yr wythnos, sef yr uchafswm a argymhellir yng nghanllawiau'r GIG.
  • Y ffactorau a oedd yn gysylltiedig ag yfed mwy o alcohol na'r canllawiau oedd:
    • bod yn wryw
    • bod yn hŷn
    • perthyn i'r grŵp ethnig gwyn
    • bod mewn iechyd cyffredinol da
    • cymryd rhan mewn chwaraeon
    • a bod â lefelau uwch o gymwysterau

Smygu

Dywedodd 10% o bobl 16 oed neu hŷn eu bod yn smygu ar hyn o bryd, a dywedodd 32% o bobl eu bod yn gyn-smygwyr.

Mae'r Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth (Swyddfa Ystadegau Cenedlaethol) yn darparu ffigurau ar gyfer pobl dros 18 oed ledled y DU. Mae hyn yn dangos bod lefelau smygu yng Nghymru yn debyg i gyfran smygwyr y DU yn 2024 (10.6%).

Ffigur 1: canran y bobl sy'n smygu, 2016 i 2025 [Nodyn 1]

Image

Disgrifiad o ffigur 1: mae'r siart yn dangos bod canran y bobl sy'n smygu wedi gostwng o 19% yn 2016 i 2017 i 10% yn 2024 i 2025.

Ffynhonnell: Arolwg Cenedlaethol Cymru, Llywodraeth Cymru

[Nodyn 1]: Newidiodd Arolwg Cenedlaethol Cymru ei ddull casglu data o gyfweliadau wyneb yn wyneb i gyfweliadau dros y ffôn o fis Ebrill 2020 i fis Mawrth 2021 ymlaen, ac mae'n bosibl bod hyn wedi effeithio ar y canlyniadau.

Yn 2024 i 2025, roedd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan y ganran uchaf o ysmygwyr (13%), ac roedd gan Fwrdd Iechyd Addysgu Powys y ganran isaf o ysmygwyr (7%). Gostyngodd y lefelau ym mhob bwrdd iechyd lleol rhwng 2016 a 2025. Gweler y ‘dangosfwrdd dangosydd canlyniadau’ am ragor o wybodaeth.

Ffactorau sy'n gysylltiedig â smygu

Archwiliwyd y berthynas rhwng smygu ac amrywiaeth o ffactorau gan ddefnyddio technegau ystadegol (gweler yr adran Gwybodaeth am ansawdd a methodoleg). Wrth ystyried ystod o ffactorau eraill, y ffactorau a oedd â chysylltiad annibynnol â smygu oedd:

  • bod â lefelau uwch o gymwysterau
  • rhentu eu cartref
  • bod mewn iechyd gwael
  • bod â chyflwr iechyd meddwl (er enghraifft, gorbryder, iselder)
  • bod yn sengl neu wedi ysgaru
  • peidio â bod yn grefyddol
  • bod yn wryw

Ymhlith y ffactorau eraill a gynhwyswyd yn y dadansoddiad ond na chanfuwyd eu bod yn gysylltiedig â smygu roedd:

  • oedran
  • salwch cyfyngus hirdymor
  • ethnigrwydd
  • cyfeiriadedd rhywiol
  • bod yn ofalwr
  • cymryd rhan mewn chwaraeon
  • amddifadedd materol
  • bwrdd iechyd lleol
  • boddhad â bywyd
  • teimlo bod bywyd yn werth chweil
  • dosbarthiad trefol/gwledig
  • statws economaidd

Trafodir isod am bob un o'r ffactorau a ganfuwyd eu bod yn gysylltiedig yn annibynnol ag ysmygu. 

Ffigur 2: canran y bobl sy'n smygu, yn ôl lefel cymhwyster

Image

Disgrifiad o ffigur 2: Mae'r siart yn dangos bod pobl â lefelau uwch o gymwysterau yn llai tebygol o smygu. Roedd 6% o bobl â chymwysterau ar lefel gradd neu uwch (lefelau 4 i 8 y Fframwaith Cymwysterau Cenedlaethol) yn smygu, o'i gymharu ag 20% o'r rhai â graddau TGAU islaw A i C neu heb unrhyw gymwysterau (islaw lefel 2 y Fframwaith Cymwysterau Cenedlaethol, neu heb gymwysterau). Gweler termau a diffiniadau am ddiffiniadau o'r cymwysterau.

Ffynhonnell: Arolwg Cenedlaethol Cymru, Llywodraeth Cymru

Roedd pobl mewn tai cymdeithasol a rhentwyr preifat yn fwyaf tebygol o smygu (23% a 17% yn y drefn honno; nid yw'r gwahaniaeth rhwng y grwpiau hyn yn ystadegol arwyddocaol). Roedd perchen-feddianwyr (7%) yn llai tebygol o smygu na'r 2 grŵp arall.

Roedd pobl mewn iechyd gwael neu wael iawn yn fwy tebygol o smygu (22%). Roedd 8% o bobl mewn iechyd da neu dda iawn yn smygu. Yn ogystal, roedd 24% o bobl â chyflwr iechyd meddwl, fel iselder neu orbryder, yn smygu o'i gymharu ag 8% o bobl nad oedd ganddynt gyflwr o'r fath.

Roedd 15% o bobl sengl a 14% o bobl wedi ysgaru yn smygu, o'i gymharu â chyfartaledd Cymru o 10%.

Wrth gymharu mathau o aelwydydd, roedd pobl mewn aelwydydd sengl nad oeddent yn bensiynwyr yn fwy tebygol o fod yn smygwyr. Roedd 24% o bobl mewn aelwydydd un oedolyn â phlant yn smygu, ac roedd 18% o bobl mewn aelwydydd un oedolyn heb blant yn smygu.

Roedd pobl â chrefydd (7%) yn llai tebygol o smygu na phobl nad oeddent yn grefyddol (13%).

Roedd bod yn wryw yn gysylltiedig yn annibynnol â bod yn fwy tebygol o smygu, gwahaniaeth a ddaeth i'r amlwg dim ond ar ôl ystyried ffactorau eraill. Mewn cymhariaeth syml, roedd cyfrannau'r dynion a'r menywod a oedd yn smygu yn debyg.

Ffactorau eraill

Dywedodd 16% o bobl mewn amddifadedd materol eu bod yn smygu, o'i gymharu â 9% o bobl nad oeddent mewn amddifadedd materol. Fodd bynnag, nid oedd unrhyw effaith annibynnol ar ôl ystyried ffactorau eraill. Felly, mae'n bosibl bod y ffactorau a drafodwyd uchod yn esbonio'r gwahaniaeth hwn yn well.

Defnyddio e-sigaréts

Mae'r canlyniadau ar gyfer defnyddio e-sigaréts yn annibynnol o’r canlyniadau ar gyfer ysmygu.

Dywedodd 10% o bobl 16 oed neu hŷn eu bod yn defnyddio e-sigaréts ar hyn o bryd; dywedodd 18% o bobl eu bod wedi'u defnyddio rywbryd yn eu bywydau. Ar gyfer yr un grŵp oedran, canfu'r Arolwg Barn a Ffordd o Fyw (Swyddfa Ystadegau Cenedlaethol) ar gyfer 2024 fod 10% o bobl ym Mhrydain Fawr yn defnyddio e-sigaréts.

Ffigur 3: canran y bobl sy'n defnyddio e-sigaréts, 2016 i 2025 [Nodyn 1]

Image

Disgrifiad o ffigur 3: mae'r siart yn dangos bod y defnydd o e-sigaréts wedi aros ar lefelau tebyg o tua 7% rhwng 2016 i 2017 a 2019 i 2020. Fodd bynnag, ar ôl gostwng i 5% yn 2020 i 2021, mae wedi cynyddu ers hynny i gyrraedd 10% yn 2024 i 2025.

Ffynhonnell: Arolwg Cenedlaethol Cymru, Llywodraeth Cymru

[Nodyn 1] Newidiodd Arolwg Cenedlaethol Cymru ei ddull casglu data o gyfweliadau wyneb yn wyneb i gyfweliadau dros y ffôn o fis Ebrill 2020 i fis Mawrth 2021 ymlaen, ac mae'n bosibl bod hyn wedi effeithio ar y canlyniadau.

Wrth edrych ar fyrddau iechyd lleol, gwelwyd cynnydd yn y defnydd o e-sigaréts ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan rhwng 2016 i 2017 a 2024 i 2025, o 7% i 13%. Gwelwyd cynnydd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg o 6% i 12% dros yr un cyfnod. Ni fu unrhyw newidiadau eraill yn ôl bwrdd iechyd lleol dros y cyfnod. Nid yw'n bosibl dangos y ffigurau ar gyfer Powys yn 2017 i 2018, 2019 i 2020 a 2024 i 2025 oherwydd maint bach y samplau. Gweler y ‘dangosfwrdd dangosydd canlyniadau’ am ragor o wybodaeth.

Ffactorau sy'n gysylltiedig â defnyddio e-sigaréts

Wrth ystyried ffactorau eraill, y ffactorau y canfuwyd eu bod yn gysylltiedig â defnyddio e-sigaréts oedd:

  • bod yn ifanc
  • bod â lefelau uwch o gymwysterau
  • peidio â bod yn berchen-feddiannydd
  • bod yn sengl
  • bod â chyflwr iechyd meddwl (er enghraifft, gorbryder, iselder)

Ymhlith y ffactorau eraill a gynhwyswyd yn y dadansoddiad ond na chanfuwyd eu bod yn gysylltiedig â defnyddio e-sigaréts roedd:

  • rhyw
  • salwch cyfyngus hirdymor
  • ethnigrwydd
  • crefydd
  • cyfeiriadedd rhywiol
  • iechyd cyffredinol
  • bod yn ofalwr
  • cymryd rhan mewn chwaraeon
  • amddifadedd materol
  • bwrdd iechyd lleol
  • dosbarthiad trefol/gwledig
  • boddhad â bywyd
  • a oedd bywyd yn werth chweil
  • statws economaidd

Trafodir pob un o'r ffactorau y canfuwyd eu bod â chysylltiad annibynnol â defnyddio e-sigaréts yn eu tro isod.

Roedd pobl iau yn fwy tebygol o ddefnyddio e-sigaréts. Roedd 16% o bobl 16 i 44 oed yn defnyddio e-sigaréts o'i gymharu â 9% o'r rhai 45 i 64 oed a 3% o'r rhai 65 oed neu hŷn.

Roedd pobl â lefelau is o gymwysterau yn fwy tebygol o ddefnyddio e-sigaréts. Roedd 15% o bobl â chymwysterau is na graddau TGAU A i C, neu heb gymwysterau, yn defnyddio e-sigaréts o'i gymharu â 7% o'r rhai â gradd neu gymhwyster uwch. Gweler termau a diffiniadau am ddiffiniadau o'r cymwysterau.

Roedd pobl mewn tai cymdeithasol (23%) a phobl mewn tai rhent preifat (19%) yn fwy tebygol na pherchen-feddianwyr (6%) o ddefnyddio e-sigaréts. Yn ogystal, roedd 18% o bobl sengl yn defnyddio e-sigaréts o'i gymharu â 5% o'r rhai a oedd yn briod neu mewn partneriaeth sifil.

Roedd 23% o'r rhai â chyflwr iechyd meddwl, fel iselder neu orbryder, yn defnyddio e-sigaréts o'i gymharu ag 8% o'r rhai nad oedd ganddynt gyflwr iechyd meddwl.

Yfed alcohol

Fel arfer, rhennir lefel yr yfed alcohol yn 4 grŵp:

  • Pobl nad ydynt yn yfed alcohol; y rhai nad ydynt yn yfed unrhyw alcohol.
  • Yfwyr cymedrol; y rhai sy'n yfed rhywfaint o alcohol, ond llai na 15 uned yr wythnos.
  • Yfwyr peryglus; dynion sy'n yfed rhwng 15 a 50 uned yr wythnos a menywod sy'n yfed rhwng 15 a 35 uned yr wythnos.
  • Yfwyr niweidiol; dynion sy'n yfed mwy na 50 uned yr wythnos a menywod sy'n yfed mwy na 35 uned yr wythnos

Ffigur 4: canran y bobl ym mhob categori o lefelau yfed alcohol

Image

Disgrifiad o ffigur 4: mae'r siart yn dangos bod 67% o bobl yn yfwyr cymedrol, bod 13% o bobl yn yfwyr peryglus, a bod 2% yn yfwyr niweidiol.

Mae'r dadansoddiad yn y bwletin hwn yn canolbwyntio'n bennaf ar bobl sy'n yfed mwy na'r 14 uned a argymhellir yr wythnos (sef yfwyr peryglus neu niweidiol). Yn 2024 i 2025, dywedodd 15% o bobl eu bod yn yfed mwy nag 14 uned o alcohol yr wythnos.

Ffigur 5: canran y bobl sy'n yfed mwy o alcohol na'r canllawiau, 2016 i 2025 [Nodyn 1]

Image

Disgrifiad o ffigur 5: mae'r siart yn dangos bod canran y bobl sy'n yfed mwy o alcohol na'r canllawiau wedi gostwng o 20% yn 2016 i 2017 i 15% yn 2024 i 2025.

Ffynhonnell: Arolwg Cenedlaethol Cymru, Llywodraeth Cymru

[Nodyn 1] Newidiodd Arolwg Cenedlaethol Cymru ei ddull casglu data o gyfweliadau wyneb yn wyneb i gyfweliadau dros y ffôn o fis Ebrill 2020 i fis Mawrth 2021 ymlaen, ac mae'n bosibl bod hyn wedi effeithio ar y canlyniadau.

Powys oedd y bwrdd iechyd lleol â'r ganran uchaf o bobl yn yfed mwy o alcohol na'r canllawiau yn 2024 i 2025 (20%). Dangosodd pob bwrdd iechyd arall ostyngiad ers 2016 i 2017 yn y gyfran a oedd yn yfed mwy na'r canllawiau, gan ostwng i tua 15% neu 16% o bobl yn 2024 i 2025. Gweler y ‘dangosfwrdd dangosydd canlyniadau’ am ragor o wybodaeth.

Ffactorau sy'n gysylltiedig ag yfed mwy o alcohol na'r canllawiau

Wrth ystyried ffactorau eraill, y ffactorau y canfuwyd eu bod yn gysylltiedig ag yfed mwy o alcohol na'r canllawiau oedd:

  • bod yn hŷn
  • bod yn wryw
  • bod â chymhwyster ar lefel gradd neu uwch
  • bod mewn iechyd cyffredinol da
  • perthyn i'r grŵp ethnig gwyn
  • heb grefydd
  • cymryd rhan mewn chwaraeon

Ymhlith y ffactorau eraill a gynhwyswyd yn y dadansoddiad ond na chanfuwyd eu bod yn gysylltiedig ag yfed mwy o alcohol na'r canllawiau roedd:

  • salwch cyfyngus hirdymor
  • statws priodasol
  • cyfeiriadedd rhywiol
  • bod yn ofalwr
  • bod â chyflwr iechyd meddwl
  • amddifadedd materol
  • deiliadaeth
  • bwrdd iechyd lleol
  • boddhad â bywyd
  • teimlo bod bywyd yn werth chweil
  • dosbarthiad trefol/gwledig

Trafodir pob un o'r ffactorau y canfuwyd eu bod â chysylltiad annibynnol ag yfed mwy o alcohol na'r canllawiau yn eu tro isod.

Ffigur 6: canran y bobl sy'n yfed mwy o alcohol na'r canllawiau, yn ôl grŵp oedran

Image

Disgrifiad o ffigur 6: mae'r siart yn dangos bod pobl yn y grŵp oedran 16 i 44 oed (11%) yn llai tebygol o yfed mwy na'r canllawiau na'r rhai yn y grŵp oedran 45 i 64 oed (19%) a'r rhai 65 oed neu hŷn (17%).

Ffynhonnell: Arolwg Cenedlaethol Cymru, Llywodraeth Cymru

Roedd dynion yn fwy tebygol o yfed mwy o alcohol na'r canllawiau (22%) na menywod (9%).

Mae 17% o bobl â chymwysterau ar lefel gradd neu uwch yn yfed mwy o alcohol na'r canllawiau, o'i gymharu ag 11% o bobl â graddau TGAU islaw A i C neu heb gymwysterau. Gweler termau a diffiniadau am ddiffiniadau o'r cymwysterau.

Roedd pobl mewn iechyd gwael neu wael iawn (11%) yn llai tebygol o yfed mwy o alcohol na'r canllawiau o'i gymharu â'r rhai a oedd mewn iechyd da neu dda iawn (17%).

Mae 16% o bobl yn y grŵp ethnig gwyn yn yfed mwy o alcohol na'r canllawiau (cyfartaledd Cymru oedd 10%). Roedd maint y samplau ar gyfer y grwpiau ethnig eraill yn rhy fach i ddarparu canlyniadau cadarn. Roedd peidio â bod yn grefyddol hefyd yn gysylltiedig ag yfed alcohol ar ôl ystyried ffactorau eraill, er nad oedd unrhyw wahaniaeth rhwng pobl grefyddol a phobl nad oeddent yn grefyddol mewn traws-ddadansoddiad syml.

Roedd pobl a gymerodd ran mewn chwaraeon yn fwy tebygol o yfed mwy na'r canllawiau. Roedd 21% o bobl yn yfed ar y lefel hon, o'i gymharu ag 14% o bobl a ddywedodd nad oeddent yn cymryd rhan mewn chwaraeon.

Ffactorau eraill

Dywedodd 16% o bobl nad oeddent mewn amddifadedd materol eu bod yn yfed mwy o alcohol na'r canllawiau, o'i gymharu â 10% o'r rhai a oedd mewn amddifadedd materol. Fodd bynnag, ar ôl ystyried ffactorau eraill, ni chanfuwyd cysylltiad rhwng yfed mwy na'r canllawiau a pheidio â bod mewn amddifadedd materol. Felly, mae'n bosibl bod y gwahaniaeth hwn yn cael ei egluro'n well gan y ffactorau a drafodwyd eisoes.

Cyd-destun polisi

Er mwyn mynd i'r afael ag effeithiau smygu, nod Llywodraeth Cymru yw sicrhau bod Cymru yn "ddi-fwg" erbyn 2030. Diffinnir hyn fel cyflawni cyfradd cyffredinrwydd smygu tybaco o 5% neu lai ymhlith pobl 16 oed a hŷn. Mae strategaeth Llywodraeth Cymru, Cymru Ddi-fwg, yn nodi'r tair thema lle mae camau gweithredu'n cael eu cymryd i leihau smygu. Y themâu hyn yw:

  • lleihau anghydraddoldebau (drwy gefnogi grwpiau o bobl sy'n fwy tebygol o smygu)
  • cenedlaethau'r dyfodol (drwy leihau effaith tybaco ar blant a phobl ifanc)
  • dull system gyfan o sicrhau Cymru ddi-fwg

Er mwyn lleihau risgiau iechyd sy'n gysylltiedig ag alcohol, mae'r Prif Swyddogion Meddygol yn argymell mai'r opsiwn mwyaf diogel yw peidio ag yfed mwy nag 14 uned yr wythnos yn rheolaidd. Amlinellir hyn a strategaethau eraill yn Yfed alcohol: cyngor ar yfed risg isel (Yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol).

Gwybodaeth am ansawdd a methodoleg

Roedd Arolwg Cenedlaethol Cymru Ebrill 2024 i Fawrth 2025 yn arolwg hapsampl, graddfa fawr a gynhaliwyd dros y ffôn, a oedd yn cynnwys pobl 16 oed a hŷn ledled Cymru.

Methodoleg

Dewiswyd cyfeiriadau ar hap, ac anfonwyd gwahoddiadau drwy'r post yn gofyn i bobl ddarparu rhif ffôn ar gyfer y cyfeiriad. Gellid darparu rhif ffôn drwy borth ar-lein neu linell ymholiadau dros y ffôn. Lle na chafodd rhif ffôn ei ddarparu, cynhaliwyd teleparu â chronfeydd data o rifau ffôn sydd ar gael i weld a ellid dod o hyd i un ar gyfer y cyfeiriad.

Yna, fe wnaeth y cyfwelydd alw'r rhif ffôn ar gyfer y cyfeiriad, darganfod faint o oedolion a oedd yn byw yno, a dewis un ar hap (y person a oedd â'r pen-blwydd nesaf) i gymryd rhan yn yr arolwg. Cafodd y person a ddewiswyd ei gyf-weld dros y ffôn. Ar ôl cwblhau'r adran ffôn, gofynnwyd iddynt gwblhau adran ar-lein ac anfonwyd manylion atynt.

Os na chafwyd rhif ar gyfer y cyfeiriad, dewiswyd 46% o'r achosion hyn ar hap ac fe wnaeth y cyfwelydd ymweld â'r cyfeiriad i ddewis ymatebydd. Yna, cynhaliwyd cyfweliad wyneb yn wyneb gyda nhw yn y cartref neu (os oedd yn well ganddynt gyfweliad dros y ffôn) casglwyd rhif ffôn ar eu cyfer.

Roedd yr arolwg yn para tua 40 i 45 munud ar gyfartaledd ac yn ymdrin ag ystod o bynciau. Cynigwyd taleb £15 i'r ymatebwyr i ddiolch iddynt am gymryd rhan. Roedd maint y sampl a gyflawnwyd bob mis yn rhyw 500 o bobl ar gyfartaledd, a'r gyfradd ymateb oedd 18.7% o'r rhai a oedd yn gymwys i gymryd rhan.

Pwysoli'r arolwg

Wrth gymharu'r sampl heb ei phwysoli a gyflawnwyd â sampl Ebrill 2022 i Fawrth 2023 heb ei phwysoli a gyflawnwyd, mae gan sampl Ebrill 2024 i Fawrth 2025 rai gwahaniaethau megis:

  • mwy o siaradwyr Cymraeg
  • llai o bobl 25 i 54 oed
  • mwy o bobl 75 oed a hŷn
  • mwy o bobl â chymwysterau lefel uwch
  • llai o bobl heb unrhyw gymwysterau
  • llai o bobl sy'n gweithio
  • a mwy o bobl mewn ardaloedd gwledig

O ran y math o aelwyd, mae mwy o aelwydydd un person yn sampl Ebrill 2024 i Fawrth 2025 a llai o gyplau (â phlant neu heb blant). Mae llai o bobl yn yr ardaloedd o incwm a chyflogaeth isaf, a mwy o bobl mewn ardaloedd lle mae gan bobl lefelau uwch o gymwysterau a sgiliau. Mae lledaeniad llai cyfartal o gyfweliadau ar draws y flwyddyn hefyd (er enghraifft, llai yn gymesur ym mis Chwefror a mis Mawrth) o'i gymharu â'r blynyddoedd blaenorol.

Defnyddir pwysoliadau'r arolwg i ddod â'r sampl yn agosach at y boblogaeth o ran oedran, rhyw, a maint yr awdurdod lleol, yn ogystal ag i wneud iawn am amrywiad o'r targed yn nifer y cyfweliadau ym mhob bwrdd iechyd ym mhob chwarter. Mae'r pwysoliadau'n lleihau ond ni fyddant yn dileu effeithiau gwahaniaethau yn y sampl a gyflawnwyd o'i gymharu â'r blynyddoedd blaenorol ac â'r boblogaeth gyffredinol. Fel y nodwyd uchod, dylid cymryd gofal felly wrth gymharu'r canlyniadau â'r blynyddoedd blaenorol, a dylid archwilio unrhyw wahaniaethau yng nghyd-destun ffynonellau eraill.

Dadansoddiad ystadegol

Mae'r datganiad hwn yn defnyddio dadansoddiad atchweliad i ganiatáu inni edrych ar y berthynas â ffactor penodol (er enghraifft smygu), gan gadw pethau eraill yn gyson (y cyfeirir ato weithiau fel "rheoli ar gyfer ffactorau eraill"). Fodd bynnag, nid yw'n golygu bod y ffactorau hyn yn achosi smygu, nac i'r gwrthwyneb.

Pan fo testun y datganiad hwn yn nodi gwahaniaeth rhwng dau ganlyniad arolwg, rydym wedi gwirio i sicrhau nad yw'r cyfyngau hyder (a elwir weithiau'n "ffin cyfeiliornad") ar gyfer y ddau ganlyniad yn gorgyffwrdd. Mae hyn yn awgrymu bod y gwahaniaeth yn arwyddocaol yn ystadegol, h.y. bod siawns o lai na 5% neu 1 o bob 20 fod y canlyniadau yn deillio o hynodrwydd yn sampl yr arolwg yn hytrach nag yn adlewyrchu gwahaniaeth gwirioneddol yn y boblogaeth ehangach. Pan na nodir gwahaniaeth, mae'r cyfyngau hyder yn gorgyffwrdd.

Mae holiadur yr arolwg ar gael ar ein tudalennau ar y we.

Mae siartiau a thablau manwl o'r canlyniadau ar gael yn ein dangosydd canlyniadau rhyngweithiol. I gael gwybodaeth am gasglu'r data a'r fethodoleg, gweler ein Hadroddiad ansawdd a'n Hadroddiad technegol.

Termau a diffiniadau

Lefelau cymwysterau

Mae cymwysterau uchaf yr ymatebwyr wedi'u codio yn ôl lefelau'r Fframwaith Cymwysterau Cenedlaethol (FfCC): lefel 1 yw'r lefel ar gyfer y cymwysterau isaf ac mae lefel 8 yn cyfateb i radd doethuriaeth neu gymhwyster cyfwerth. At ddibenion adrodd, mae ymatebwyr yn cael eu grwpio'n 5 categori, fel a ganlyn.

  • Lefelau 4 i 8 FfCC: Addysg uwch (Lefel 4+)
  • Lefel 3 FfCC: Safon uwch a chyfwerth (Lefel 3)
  • Lefel 2 FfCC: TGAU graddau A i C a chyfwerth (Lefel 2)
  • Is na Lefel 2 FfCC: TGAU is na gradd C (is na Lefel 2)
  • Dim cymwysterau: Dim cymwysterau

Mae rhagor o wybodaeth am y termau a ddefnyddir yn Arolwg Cenedlaethol Cymru ar gael yn ein Hadroddiad termau a diffiniadau.

Datganiad o gydymffurfiaeth â'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau

Mae ein hymarfer ystadegol yn cael ei reoleiddio gan y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau (OSR). Y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau sy'n gosod y safonau o ran dibynadwyedd, ansawdd a gwerth yn y Cod y dylai pob cynhyrchydd ystadegau swyddogol gydymffurfio â nhw.

Mae ein holl ystadegau yn cael eu cynhyrchu a'u cyhoeddi yn unol â nifer o ddatganiadau a phrotocolau i wella dibynadwyedd, ansawdd a gwerth. Mae'r rhain wedi'u nodi yn Natganiad Cydymffurfiaeth Llywodraeth Cymru.

Mae'r ystadegau swyddogol o dan ddatblygiad (OSR) hyn yn dangos y safonau disgwyliedig mewn perthynas â dibynadwyedd, ansawdd a gwerth cyhoeddus yn y ffyrdd canlynol.

Dibynadwyedd

Mae'r holl ddata personol sy'n sail i'r ystadegau hyn yn cael eu prosesu yn unol â gofynion Deddf Diogelu Data 2018.

Cyhoeddir ystadegau Arolwg Cenedlaethol Cymru mewn modd hygyrch a threfnus, gyda rhag-gyhoeddiad ymlaen llaw, ar wefan Llywodraeth Cymru am 9:30am ar y diwrnod cyhoeddi. Mae'r holl ddatganiadau ar gael i'w lawrlwytho am ddim.

Mae'r holl allbynnau'n cadw at y Cod Ymarfer drwy rag-gyhoeddi'r dyddiad cyhoeddi ar dudalennau gwe'r calendr o ddigwyddiadau i ddod. Yn ystod y prosesu, mae'r mynediad at y data wedi'i gyfyngu i'r rhai sy'n ymwneud â chynhyrchu'r ystadegau neu sicrhau ansawdd, neu sydd angen eu gweld at ddibenion gweithredol. Derbynwyr cymwys yn unig sy'n cael mynediad at y data cyn eu rhyddhau yn unol â'r Cod Ymarfer (Awdurdod Ystadegau'r DU).

Caiff y ffigurau a gyhoeddir eu creu gan ddadansoddwyr proffesiynol, gan ddefnyddio'r data diweddaraf sydd ar gael.

Ansawdd

Fel y nodwyd uchod, mae maint y sampl a gyflawnwyd ar gyfer Arolwg Cenedlaethol Ebrill 2024 i Fawrth 2025 (6,000 o ymatebwyr) yn llai nag a gynlluniwyd yn wreiddiol. Mae maint y sampl yn llai am i'r contractwr ddod ar draws problemau gwaith maes gan gynnwys cyfraddau ymateb is nag yn y blynyddoedd blaenorol. Mae newidiadau hefyd yng nghyfansoddiad y sampl heb ei phwysoli a gyflawnwyd o'i gymharu â'r blynyddoedd blaenorol.

Felly, ym mis Gorffennaf 2025, gofynnwyd i'r Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau atal dros dro ein statws ystadegau swyddogol achrededig ar gyfer y datganiad cyntaf hwn ac ar gyfer allbynnau eraill yn seiliedig ar ddata Ebrill 2024 i Fawrth 2025 ac fe roddwyd ataliad dros dro inni. Mae'r ataliad dros dro yn adlewyrchu'r ffaith na fydd allbynnau Ebrill 2024 i Fawrth 2025 yn gyffredinol yn darparu canlyniadau digon manwl gywir ar gyfer ardaloedd daearyddol bach ac is-grwpiau bach eraill, ac y dylid cymryd gofal wrth gymharu rhai canlyniadau Ebrill 2024 i Fawrth 2025 â'r rhai o'r blynyddoedd blaenorol. Mae'r holl allbynnau a seilir ar ddata Ebrill 2024 i Fawrth 2025 wedi'u nodi fel ystadegau swyddogol o dan ddatblygiad.

Mae'n dal yn briodol defnyddio'r ystadegau hyn. Ar lefel genedlaethol, mae amcangyfrifon yn parhau i ddarparu arwydd rhesymol o amcangyfrifon i Gymru, yn enwedig os cânt eu defnyddio ochr yn ochr â ffynonellau eraill. Er hynny, dylai defnyddwyr nodi'r cyfyngau hyder ehangach yn enwedig ar gyfer daearyddiaethau llai ac is-grwpiau poblogaeth llai.

Mae'r holl gamau sydd ynghlwm wrth gasglu, dilysu a chynhyrchu'r ystadegau hyn yn cael eu harwain gan ystadegwyr proffesiynol ac mae'r ystadegau yn cael eu cynhyrchu heb unrhyw ymyrraeth wleidyddol. Sicrhawyd ansawdd yr holl ystadegau cyn eu cyhoeddi.

Mae ystadegau a gyhoeddir gan Lywodraeth Cymru yn glynu wrth y Strategaeth Rheoli Ansawdd Ystadegol sy'n ategu elfen ansawdd y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau ac egwyddorion ansawdd allbynnau ystadegol y System Ystadegol Ewropeaidd.

Mae'r gwaith sefydlu ar gyfer dyluniad arolwg ar-lein newydd yn mynd rhagddo'n dda. Bydd y prif waith maes yn dechrau ym mis Mawrth 2026, ac fe ddisgwylir y canlyniadau cyntaf yn haf 2027. Un o fanteision allweddol y dull newydd yw y bydd yn bosibl darparu meintiau sampl llawer mwy, ac felly amcangyfrifon llawer mwy manwl gywir ar gyfer is-grwpiau bach. Ar ôl i'r prif waith maes ddechrau o dan y dyluniad newydd ar gyfer y cyfnod rhwng Ebrill 2026 a Mawrth 2027, byddwn yn gofyn bod bathodynnau ystadegau swyddogol achrededig yn cael eu hadfer gan y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau ar gyfer allbynnau arolygon o Ebrill 2026 i Fawrth 2027 ymlaen.

Gwerth

Defnyddir yr ystadegau hyn mewn amryw o ffyrdd. Dyma rai enghreifftiau:

  • darparu cyngor i'r Gweinidogion
  • llywio ystod eang o benderfyniadau polisi

Mae'r sylwebaeth a'r nodiadau yn y datganiad hwn wedi'u datblygu i geisio gwneud yr wybodaeth mor hygyrch â phosibl i ddefnyddwyr.

Mae croeso ichi gysylltu â ni yn uniongyrchol os oes gennych unrhyw sylwadau ynghylch sut rydym yn bodloni'r safonau hyn. Fel arall, gallwch gysylltu â'r Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau drwy e-bostio regulation@statistics.gov.uk neu drwy wefan y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau.
 

Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol 2015 yn ymwneud â gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae'r Ddeddf yn pennu saith nod llesiant i Gymru. Amcanion y nodau hyn yw creu Cymru sy'n fwy cyfartal, llewyrchus, cydnerth, iachach a chyfrifol ar lefel fyd-eang, gyda chymunedau cydlynus a diwylliant bywiog lle mae'r Gymraeg yn ffynnu. O dan adran (10)(1) o'r Ddeddf, rhaid i Weinidogion Cymru (a) gyhoeddi dangosyddion (“dangosyddion cenedlaethol”) sy'n gorfod cael eu cymhwyso at ddibenion mesur cynnydd tuag at gyflawni'r nodau llesiant, a (b) gosod copi o'r dangosyddion cenedlaethol gerbron Senedd Cymru. O dan adran 10(8) o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, pan fydd Gweinidogion Cymru yn diwygio'r dangosyddion cenedlaethol, rhaid iddynt, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol, wneud y canlynol: (a) cyhoeddi'r dangosyddion fel y'u diwygiwyd a (b) gosod copi ohonynt gerbron y Senedd. Cafodd y dangosyddion cenedlaethol hyn eu gosod gerbron y Senedd yn 2021. Mae'r dangosyddion a osodwyd ar 14 Rhagfyr 2021 yn disodli'r set a osodwyd ar 16 Mawrth 2016.

Mae gwybodaeth am y dangosyddion, ynghyd â naratif ar gyfer pob un o'r nodau llesiant a'r wybodaeth dechnegol gysylltiedig ar gael yn adroddiad Llesiant Cymru.

Rhagor o wybodaeth am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.

Nid oes dangosyddion cenedlaethol penodol sy'n gysylltiedig â smygu, defnyddio e-sigaréts nac yfed alcohol. Fodd bynnag, mae Dangosydd Cenedlaethol 3, sef canran yr oedolion sydd â dau neu ragor o ymddygiadau ffordd iach o fyw, yn gysylltiedig â smygu ac yfed alcohol. Gallai'r ystadegau sydd wedi'u cynnwys yn y bwletin hwn hefyd gynnig naratif ategol i'r dangosydd cenedlaethol hwn a chael eu defnyddio gan fyrddau gwasanaethau cyhoeddus mewn perthynas â'u hasesiadau llesiant lleol a'u cynlluniau llesiant lleol.

Manylion cyswllt

Tîm Arolygon
E-bost: arolygon@llyw.cymru 

Cyfryngau: 0300 025 8099

SB: 27/2026