Neidio i'r prif gynnwy

Trosolwg

Rydym yn gofyn am farn ar ganllawiau drafft i gefnogi ysgolion wrth gyfyngu ar y defnydd o ffonau symudol yn ystod y diwrnod ysgol. Datblygwyd y canllawiau mewn ymateb i bryderon cynyddol am yr effaith y mae’r defnydd o ffonau symudol yn ei chael ar lesiant, ymgysylltiad, dysgu ac ymddygiad dysgwyr, wrth gydnabod y rôl bwysig y gall technoleg ddigidol ei chwarae mewn addysg pan gaiff ei defnyddio mewn ffordd briodol.

Yn benodol, nod yr ymgynghoriad yw:

  • sicrhau bod cymaint o ymgysylltu â phosibl ag ysgolion ac ymarferwyr addysg
  • bod yn gydnaws â chylchoedd cynllunio ysgolion ac adolygu polisi
  • galluogi rhanddeiliaid i ystyried y canllawiau yng nghyd-destun polisïau a threfniadau gweithredu presennol yr ysgol
  • llywio’r gwaith o fireinio’r canllawiau cyn eu cyhoeddi a’u gweithredu

Mae ystod o asesiadau effaith wedi’u cynnal i gefnogi’r gwaith o ddatblygu’r canllawiau, gan gynnwys Asesiad Effaith Llwyth Gwaith. Mae’r asesiadau hyn yn dangos na ragwelir y bydd y canllawiau yn creu llwyth gwaith ychwanegol sylweddol i ysgolion. Fodd bynnag, bydd y broses ymgynghori yn gyfle pwysig i gasglu rhagor o dystiolaeth ar unrhyw heriau ymarferol, ystyriaethau gweithredu a goblygiadau posibl o ran llwyth gwaith, gan sicrhau y gellir datblygu unrhyw gymorth angenrheidiol cyn gweithredu.

Ochr yn ochr â’r ymgynghoriad, bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gydag ysgolion, awdurdodau lleol a phartneriaid eraill i ddatblygu adnoddau ymarferol, anstatudol i gefnogi’r gwaith gweithredu. Bydd yr adnoddau hyn ar gael drwy Hwb a byddant yn helpu ysgolion i drosi’r canllawiau yn bolisïau ac arferion lleol.

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i sicrhau bod pawb yr effeithir arnynt gan y canllawiau yn cael cyfle i gyfrannu at eu datblygiad. Felly bydd fersiwn hawdd ei deall a fersiwn i ddysgwyr o’r ddogfen ymgynghori yn cael ei chyhoeddi ochr yn ochr â’r brif ddogfen ymgynghori er mwyn cefnogi hygyrchedd a chyfranogiad cynhwysol.

Mae’r ymgynghoriad 12 wythnos hwn yn gofyn am farn gan bartneriaid – gan gynnwys ysgolion a gynhelir ac ysgolion annibynnol, unedau cyfeirio disgyblion, ysgolion arbennig, awdurdodau lleol a chymdeithasau proffesiynol, yn ogystal â dysgwyr, rhieni a gofalwyr, arweinwyr ysgolion, athrawon, cyrff llywodraethu a rhanddeiliaid eraill sydd â buddiant – ar y canllawiau arfaethedig a’r broses o’u gweithredu yn ymarferol. Bydd yr ymgynghoriad yn helpu i sicrhau bod y canllawiau terfynol yn glir, yn effeithiol ac yn ymarferol ar draws ystod o leoliadau addysgol.

Cyflwyniad gweinidogol

Mae Cynllun 100 Diwrnod Cyntaf Llywodraeth Cymru yn cynnwys ymrwymiad clir i weithredu ar y mater o ddefnydd ffonau symudol mewn ysgolion. Ers cyhoeddi’r ymrwymiad, rwyf wedi gwrando’n ofalus ar farn arweinwyr ysgolion, ymarferwyr, rhieni a dysgwyr, ac rwy’n cydnabod y galwadau cynyddol am fwy o eglurder a chysondeb cenedlaethol yn y maes hwn.

Mae’r effaith y gall ffonau symudol, y cyfryngau cymdeithasol a thechnoleg ehangach ei chael ar lesiant, ymddygiad a phrofiadau dysgu plant a phobl ifanc yn fater o bryder sylweddol. Mae ysgolion a theuluoedd ledled Cymru wedi codi pryderon dilys am dynnu sylw yn yr ystafell ddosbarth, yr effaith ar ganolbwyntio a chyrhaeddiad, a’r goblygiadau ehangach i iechyd meddwl a llesiant meddyliol plant.

Ond rwyf am fod yn glir: fel Gweinidog Cabinet, rwy’n gosod disgwyliad cenedlaethol clir bod y defnydd o ffonau symudol yn cael ei gyfyngu yn ystod y diwrnod ysgol, gyda dulliau hyd at a chan gynnwys cyfyngiad llawn ar draws safle’r ysgol. Ar yr un pryd, rwy’n cydnabod y bydd angen gwneud eithriadau priodol, gan gynnwys i ddysgwyr sydd angen mynediad at ddyfais oherwydd anghenion meddygol neu anghenion dysgu ychwanegol.

Ar hyn o bryd, mater i ysgolion unigol a chyrff llywodraethu yw penderfynu sut y defnyddir ffonau symudol yn ystod y diwrnod ysgol. Mae gan benaethiaid eisoes yr awdurdod i gyfyngu ar y defnydd o ddyfeisiau, neu wahardd eu defnydd yn gyfan gwbl, ac mae llawer wedi dewis gwneud hynny. Rwy’n parhau i gredu mai ysgolion sydd yn y sefyllfa orau i ddeall eu hamgylchiadau eu hunain ac anghenion eu dysgwyr. Fodd bynnag, rwy’n cydnabod hefyd bod ysgolion yn galw am gyfarwyddyd cenedlaethol cryfach a mwy o gysondeb o ran dull.

Er mwyn llywio’r gwaith hwn, comisiynodd Llywodraeth Cymru arolwg gweithlu ar y defnydd o ffonau symudol mewn ysgolion. Mae’r canfyddiadau yn dangos bod gan y rhan fwyaf o ysgolion eisoes bolisi ar waith, ond bod llawer o amrywiaeth rhwng ysgolion o ran dull. Roedd mwyafrif sylweddol o’r ymatebwyr o blaid mwy o gyfarwyddyd cenedlaethol, gydag 82% yn ffafrio cyfyngiadau statudol.

Yng ngoleuni’r dystiolaeth hon, rwy’n lansio ymgynghoriad cyhoeddus ar ganllawiau statudol newydd ar gyfer ysgolion ac awdurdodau lleol. Pwrpas yr ymgynghoriad fydd ceisio barn ar gryfhau ac egluro disgwyliadau cenedlaethol o ran y defnydd o ffonau symudol yn ystod y diwrnod ysgol, gan gynnwys opsiynau i gyfyngu ar y defnydd o ffonau symudol mewn ffordd fwy cyson ar draws ysgolion Cymru.

Fy nod yw cael y cydbwysedd iawn rhwng darparu disgwyliadau cenedlaethol clir sy’n cefnogi dysgu, ymddygiad a llesiant, a chadw digon o hyblygrwydd i ysgolion ymateb i amgylchiadau lleol ac anghenion dysgwyr unigol. Bydd yr ymgynghoriad yn rhoi cyfle i ysgolion, rhieni, dysgwyr a rhanddeiliaid helpu i lunio fframwaith terfynol sy’n ymarferol ac yn effeithiol.

Bydd y canllawiau arfaethedig yn nodi disgwyliadau cryfach ar gyfer ysgolion ac awdurdodau lleol, a byddant yn cefnogi creu amgylcheddau dysgu mwy diogel lle mae llai o elfennau sy’n tynnu sylw. Yn amodol ar ganlyniad yr ymgynghoriad, bydd y canllawiau yn cael eu gweithredu a’u gwerthuso yn ystod y flwyddyn ysgol, gyda’r opsiwn o ystyried mesurau pellach os bydd angen camau ychwanegol.

Rwy’n annog pawb sydd â chysylltiad â llesiant a llwyddiant ein plant a’n pobl ifanc i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad, a helpu i lunio’r cam nesaf pwysig hwn.

Anna Brychan AS
Y Gweinidog Cabinet dros Addysg a’r Gymraeg

Y sail resymegol dros newid

Yng Nghynllun y 100 Diwrnod Cyntaf, mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i rymuso awdurdodau lleol i hyrwyddo diogelwch, dysgu a llesiant myfyrwyr drwy gyfyngu ar y defnydd o ffonau clyfar mewn ysgolion i’r rhai o dan 16 oed, gan weithio gyda chynghorau ac arweinwyr ysgolion i weithredu hyn mewn ffordd ymarferol a chymesur, gydag eithriadau priodol lle bo angen.

Ar hyn o bryd nid oes deddfwriaeth na chanllawiau penodol ar waith mewn perthynas â’r defnydd o ffonau symudol mewn ysgolion. Fodd bynnag, mae gan ysgolion ac awdurdodau lleol eisoes swyddogaethau cyffredinol yn ôl disgresiwn y gellir eu defnyddio i osod polisïau ar y defnydd o ffonau symudol (a dyfeisiau digidol) mewn ysgolion. Rydym yn deall bod gan y rhan fwyaf o ysgolion yng Nghymru bolisi ar ffonau symudol. Gall y rhain gynnwys cyfyngu ar ddefnydd yn ystod gwersi a (neu) amser egwyl.

Mae cyfyngu ar ffonau yn cefnogi amgylchedd dysgu mwy diogel a chyda mwy o ffocws trwy leihau tynnu sylw, gwella canolbwyntio, a lleihau tarfu mewn gwersi, gan alluogi myfyrwyr i ymgysylltu’n well â’u dysgu. Mae hefyd yn helpu i amddiffyn pobl ifanc rhag risgiau fel seiberfwlio, dod i gysylltiad â chynnwys niweidiol ar-lein, a phwysau defnyddio cyfryngau cymdeithasol yn ddi-baid, a all effeithio’n negyddol ar iechyd meddwl.

Yn ogystal, gall cyfyngiadau clir a chyson wella ymddygiad, lleihau gwrthdaro, ac annog ymwneud wyneb yn wyneb mwy cadarnhaol, gan gyfrannu at ddiwylliant ysgol cryfach. Bwriedir i’r dull gweithredu fod yn ymarferol ac yn gymesur, gyda hyblygrwydd i ysgolion ddarparu eithriadau priodol lle bo angen, megis ar gyfer anghenion meddygol neu ddiogelu.

Er mwyn deall y mater yn well, cynhaliwyd Arolwg o’r defnydd o ffonau symudol mewn ysgolion: polisïau ac effeithiau yn gynnar yn 2026. Gofynnodd yr arolwg ystod o gwestiynau i’r gweithlu ysgol, gan gynnwys pa bolisïau ar ffonau symudol sydd eisoes ar waith mewn ysgolion, sut maent yn cael eu rheoli a’u gorfodi, a pha heriau a dulliau hwyluso y mae ymarferwyr wedi’u profi wrth ddatblygu a gweithredu eu polisi neu ganllawiau. Gofynnodd yr arolwg hefyd sut roedd ymatebwyr yn credu y dylai Llywodraeth Cymru fynd i’r afael â hyn ar lefel genedlaethol. Er bod canlyniadau’r arolwg yn dangos amrywiad yn y ffordd y caiff y defnydd o ffonau symudol ei reoli ar draws lleoliadau, nododd y rhan fwyaf o’r ymatebwyr bod gan eu lleoliad bolisi ysgrifenedig ffurfiol (66.3%), gyda chyfrannau llai yn dweud bod rheolau a chanllawiau ysgrifenedig (18.0%) neu ganllawiau llafar (13.2%). Ar y cyfan mae’r dulliau gweithredu yn rhai cyfyngol, gan amlaf yn caniatáu ffonau ar y safle ond nid yn ystod y diwrnod ysgol (46.3%), er bod ymatebion ansoddol yn dangos amrywiad o ran y ffordd y caiff hyn ei gymhwyso yn ymarferol (ee y defnydd o drefniadau storio o gymharu â systemau casglu ar ddechrau’r dydd neu yn ystod gwersi). Roedd y mwyafrif helaeth o’r ymatebwyr yn dymuno mwy o gyfarwyddyd cenedlaethol, gydag 82.0% o blaid cyfyngiadau statudol.

Crynodeb o’r cynigion

Mae Llywodraeth Cymru yn cynnig canllawiau statudol newydd ar y defnydd o ffonau symudol mewn ysgolion er mwyn darparu disgwyliadau cenedlaethol cliriach a chefnogi ysgolion i greu amgylcheddau dysgu diogel a chadarnhaol sy’n helpu dysgwyr i ganolbwyntio.

Byddai’r canllawiau drafft, a ddatblygwyd mewn ymateb i ymrwymiadau yng Nghynllun y 100 Diwrnod Cyntaf ac adborth gan ysgolion a rhanddeiliaid, yn sefydlu disgwyliad bod ysgolion yn cyfyngu ar y defnydd o ffonau symudol yn ystod y diwrnod ysgol. Gan ganiatáu hyblygrwydd ar gyfer amgylchiadau lleol, byddai’r canllawiau yn amlinellu sbectrwm o ddulliau, o reoli defnydd yn llym i gyfyngiad llawn ar draws safle’r ysgol.

Bwriad y cynigion yw:

  • darparu cyfarwyddyd cenedlaethol cliriach wrth gynnal hyblygrwydd lleol
  • cefnogi ysgolion i ddatblygu polisïau ffonau symudol clir, cyson a chymesur
  • lleihau tynnu sylw yn yr ystafell ddosbarth a gwella gallu dysgwyr i ganolbwyntio, yn ogystal â’u hymgysylltiad a’u cyrhaeddiad
  • hyrwyddo ymddygiad cadarnhaol a chynyddu cyfleoedd ar gyfer rhyngweithio wyneb yn wyneb
  • helpu i amddiffyn plant a phobl ifanc rhag seiberfwlio, cynnwys ar-lein niweidiol a phwysau cyfryngau cymdeithasol
  • gwella llesiant a diogelwch dysgwyr

Byddai’r canllawiau yn adeiladu ar bwerau deddfwriaethol presennol. Mae’r ddeddfwriaeth bresennol eisoes yn galluogi awdurdodau lleol, cyrff llywodraethu a sefydliadau addysg bellach i gyfyngu ar y defnydd o ffonau symudol ac yn gosod dyletswyddau arnynt i ddiogelu a hyrwyddo lles a llesiant plant a phobl ifanc. Yn hytrach na chyflwyno deddfwriaeth newydd ar unwaith, y dull a ffefrir yw cryfhau disgwyliadau drwy ganllawiau statudol a ddyroddir gan Weinidogion Cymru.

O dan y cynigion, byddai disgwyl i bob ysgol a gynhelir ac annibynnol yng Nghymru gael polisi ffonau symudol, naill ai fel dogfen annibynnol neu fel rhan o bolisi ehangach ar ymddygiad neu lesiant. Byddai’r canllawiau yn nodi’r ffactorau y dylai ysgolion eu hystyried wrth ddatblygu eu dull gweithredu, gan gynnwys graddau unrhyw gyfyngiadau a’r amgylchiadau lle gall eithriadau fod yn briodol, megis oherwydd anghenion meddygol.

Gan fod y rhain yn ganllawiau statudol, byddai’n ofynnol i gyrff llywodraethu roi sylw i’w cynnwys wrth ddatblygu ac adolygu eu polisïau. Byddai gan ysgolion ddisgresiwn ynghylch eu trefniadau terfynol, ond byddai’n rhaid iddynt gyfiawnhau unrhyw benderfyniad i wyro oddi wrth y canllawiau, a byddai’n rhaid iddynt ddangos bod y penderfyniad wedi’i wneud ar sail resymol a chan roi ystyriaeth briodol i ffactorau perthnasol.

Mae Llywodraeth Cymru o’r farn bod canllawiau statudol yn debygol o gyflawni’r canlyniad a ddymunir o sicrhau bod gan bob ysgol bolisi clir ar y defnydd o ffonau symudol a bod cyfyngiadau priodol ar waith. Bydd yr ymgynghoriad cyhoeddus ffurfiol hwn yn profi a mireinio’r canllawiau, casglu barn rhanddeiliaid, asesu goblygiadau llwyth gwaith, a galluogi ymgysylltu pellach â’r gweithlu addysgu a’r undebau cyn eu cyhoeddi.

Ar ôl ymgynghori a gweithredu, byddai’r canllawiau yn cael eu gwerthuso dros gyfnod o flwyddyn ysgol. Byddai Llywodraeth Cymru yn cadw’r opsiwn o ystyried mesurau cryfach yn y dyfodol, gan gynnwys deddfwriaeth sylfaenol, pe bai angen camau pellach.

Cyfnod yr ymgynghoriad

Bydd yr ymgynghoriad hwn yn rhedeg am gyfnod o 12 wythnos, ac ar ôl hynny bydd yr holl ymatebion yn cael eu dadansoddi a’u hystyried gan Lywodraeth Cymru. Bydd yr adborth yn cael ei ystyried a chaiff unrhyw ddiwygiadau eu gwneud ac wedyn, yn unol â chytundeb gan y Gweinidog Cabinet dros Addysg a’r Gymraeg, bydd y canllawiau yn cael ei chyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru.

Cwestiynau’r ymgynghoriad

Cwestiwn 1

Ydych chi’n cytuno bod y canllawiau drafft ar ffonau symudol mewn ysgolion yn darparu digon o wybodaeth i gefnogi eich lleoliad ac awdurdodau lleol i ddatblygu a chynnal polisi ffonau symudol effeithiol?

Cwestiwn 2

Ydych chi’n cytuno bod y canllawiau drafft ar ffonau symudol mewn ysgolion yn glir ac yn hawdd eu deall?

Cwestiwn 3

Ydych chi’n cytuno bod y canllawiau drafft ar ffonau symudol mewn ysgolion yn hawdd i’w defnyddio wrth ddatblygu a chynnal polisi ffonau symudol?

Cwestiwn 4

Ydych chi’n cytuno bod y canllawiau drafft ar ffonau symudol mewn ysgolion yn cwmpasu’r prif ystyriaethau ar gyfer lleoliadau ysgol ac awdurdodau lleol wrth ddatblygu a gweithredu polisi ffonau symudol (er enghraifft defnydd yn ystod y diwrnod ysgol, storio, eithriadau, cyfathrebu a gorfodi)?

Cwestiwn 5

Ydych chi’n cytuno bod y canllawiau drafft ar ffonau symudol mewn ysgolion yn darparu cymorth ymarferol i leoliadau ysgolion ac awdurdodau lleol wrth weithredu polisi ffonau symudol?

Cwestiwn 6

Efallai y bydd angen i ysgolion a lleoliadau hefyd ystyried dyfeisiau digidol personol eraill, fel llechi, oriorau clyfar a sbectolau clyfar, wrth ddatblygu eu polisïau. I ba raddau ydych chi’n cytuno y dylid cynnwys canllawiau ychwanegol ar y dyfeisiau hyn?

Cwestiwn 7

Ydych chi’n cytuno bod y canllawiau drafft ar ffonau symudol mewn ysgolion yn adlewyrchu’n ddigonol y ffyrdd y gellir defnyddio ffonau symudol yn ystod y diwrnod ysgol at ddibenion addysgol, gweinyddol neu ddibenion eraill sy’n gysylltiedig â’r ysgol (er enghraifft cyrchu amserlenni, apiau addysgol neu systemau talu am brydau bwyd)?

Cwestiwn 8

Oes gennych chi farn ynghylch a allai fod angen gweithredu pellach, gan gynnwys deddfwriaeth, i gefnogi nodau’r canllawiau? (Os oes, esboniwch eich ateb a, lle bo’n berthnasol, nodwch pa ffurf y dylai’r camau gweithredu hynny ei chymryd.)

Cwestiwn 9

A oes gennych unrhyw sylwadau pellach ar sut y gellid gwella’r canllawiau i helpu lleoliadau ysgolion ac awdurdodau lleol i ddatblygu, gweithredu a chynnal polisi ffonau symudol effeithiol? (Os oes, nodwch nhw isod.)

Cwestiwn 10

Beth, yn eich barn chi, fyddai effeithiau tebygol y canllawiau ar y Gymraeg? Mae diddordeb penodol gyda ni mewn unrhyw effeithiau posibl ar gyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg ac ar beidio trin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg.

Ydych chi’n credu bod cyfleoedd i hyrwyddo unrhyw effeithiau cadarnhaol?
Ydych chi’n credu bod cyfleoedd i liniaru unrhyw effeithiau negyddol?

Cwestiwn 11

Yn eich barn chi, fyddai modd ffurfio neu addasu’r canllawiau er mwyn:

  • sicrhau effeithiau cadarnhaol neu effeithiau mwy cadarnhaol ar gyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg a pheidio â’i thrin yn llai ffafriol na’r Saesneg; neu 
  • i liniaru unrhyw effeithiau andwyol ar gyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg a pheidio â’i thrin yn llai ffafriol na’r Saesneg?

Defnyddiwch y ffurflen ymateb i’r ymgynghoriad i ateb y cwestiynau uchod.

Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data (GDPR y DU)

Llywodraeth Cymru fydd y rheolydd data ar gyfer ymgyngoriadau Llywodraeth Cymru ac unrhyw ddata personol a roddir gennych wrth ichi ymateb i’r ymgynghoriad. 

Mae gan Weinidogion Cymru bwerau statudol y byddant yn dibynnu arnynt i brosesu’r data personol hwn, a fydd yn eu galluogi i wneud penderfyniadau cytbwys ynghylch sut maent yn arfer eu swyddogaethau cyhoeddus. Y sail gyfreithiol ar gyfer prosesu’r wybodaeth yn y broses casglu data hon yw ein tasg gyhoeddus: hynny yw, arfer ein hawdurdod swyddogol i gyflawni rôl a swyddogaethau craidd Llywodraeth Cymru (Erthygl 6(1)(e)).

Bydd unrhyw ymateb a anfonwch atom yn cael ei weld yn llawn gan staff Llywodraeth Cymru sy’n gweithio ar y materion y mae’r ymgynghoriad hwn yn ymwneud â nhw, neu sy’n cynllunio ymgyngoriadau ar gyfer y dyfodol. Yn achos ymgyngoriadau ar y cyd, mae’n bosibl hefyd y bydd hyn yn cynnwys awdurdodau cyhoeddus eraill. Pan fydd Llywodraeth Cymru yn cynnal dadansoddiadau pellach o’r ymatebion i’r ymgynghoriad, efallai y bydd trydydd parti achrededig (er enghraifft, sefydliad ymchwil neu gwmni ymgynghori) yn cael ei gomisiynu i wneud y gwaith hwn. Dim ond o dan gontract yr ymgymerir â gwaith o’r fath. Mae telerau ac amodau safonol Llywodraeth Cymru ar gyfer contractau o’r fath yn cynnwys gofynion llym ar gyfer prosesu a chadw data personol yn ddiogel.

Er mwyn dangos bod yr ymgynghoriad wedi’i gynnal yn briodol, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyhoeddi crynodeb o’r ymatebion i’r ddogfen hon. Mae’n bosibl hefyd y byddwn yn cyhoeddi’r ymatebion yn llawn. Rydym yn cyhoeddi ymatebion yn ddienw ac ni fydd eich enw na’ch manylion cyswllt yn cael eu cynnwys. Os hoffech i’ch enw neu fanylion eraill gael eu cyhoeddi ochr yn ochr â’ch ymateb, rhowch wybod i ni pan fyddwch yn cyflwyno eich ymateb, a byddwn yn eu cynnwys.

Dylech hefyd fod yn ymwybodol o’n cyfrifoldebau o dan ddeddfwriaeth Rhyddid Gwybodaeth ac y gallai Llywodraeth Cymru fod o dan rwymedigaeth gyfreithiol i ddatgelu rhai mathau o wybodaeth.

Os caiff eich manylion chi eu cyhoeddi fel rhan o’r ymateb i’r ymgynghoriad, caiff yr adroddiadau cyhoeddedig hyn eu cadw am gyfnod amhenodol. Ni fydd unrhyw ddata arall sydd gan Lywodraeth Cymru amdanoch yn cael eu cadw am fwy na thair blynedd.

Eich hawliau

O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawliau canlynol:

  • i gael gwybod am y data personol a gedwir amdanoch, a gweld y data hynny
  • i’w gwneud yn ofynnol inni gywiro gwallau yn y data hynny
  • i wrthwynebu prosesu neu gyfyngu ar brosesu’r data (o dan amgylchiadau penodol)
  • i’ch data gael eu ‘dileu’ (o dan amgylchiadau penodol)
  • i gludadwyedd y data (o dan amgylchiadau penodol)
  • i gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, sef ein rheoleiddiwr annibynnol ar ddiogelu data

I gael rhagor o fanylion am yr wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei chadw a’r ffordd y mae’n cael ei defnyddio, neu os ydych am arfer eich hawliau o dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data, gweler y manylion cyswllt isod:

Y Swyddog Diogelu Data:

Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
CAERDYDD
CF10 3NQ

E-bost: swyddogdiogeludata@llyw.cymru.

Dyma fanylion cyswllt Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth: 

Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF

Ffôn: 0303 123 1113

Gwefan: ico gwefan

Gwneud cwyn

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i drin eich data personol yn saff ac yn ddiogel, a dim ond cyhyd ag y mae angen inni wneud hynny. 

Os oes gennych chi unrhyw bryderon ynglŷn â'r ffordd rydym yn defnyddio eich data personol, y peth gorau fyddai ichi eu codi â’r tîm perthnasol i ddechrau. 

Gallwch hefyd gysylltu â'r Swyddog Diogelu Data drwy e-bostio SwyddogDiogeluData@llyw.cymru neu drwy anfon llythyr i'r cyfeiriad isod: 

Llywodraeth Cymru 
Parc Cathays 
Caerdydd 
CF10 3NQ

Os hoffech wneud cwyn ffurfiol am y ffordd y mae Llywodraeth Cymru wedi prosesu eich data personol, mae sawl ffordd o wneud hynny:

Ffurflen ar-lein: Llenwi ein ffurflen gwyno ar-lein.

Dros y ffôn: 03000 251378

E-bost: Lawrlwytho'r ffurflen a'i hanfon drwy e-bost i cwynion@llyw.cymru.

Drwy'r post at:

Y Tîm Cynghori ar Gwynion
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

Byddwn yn cydnabod eich cwyn ac yn ymateb o fewn amserlen briodol, yn unol 
â deddfwriaeth diogelu data a'n proses gwyno.