Rhaglen Plant Iach Cymru (cysylltiadau gyda phlant): Ionawr i Fawrth 2026
Mae’r Rhaglen Plant Iach Cymru yn rhaglen iechyd cyffredinol ar gyfer pob teulu gyda phlant oed 0 i 7 ar gyfer Ionawr i Fawrth 2026.
Ar y dudalen hon
Prif bwyntiau
Ffigur 1: cyfradd cwblhau cyswllt chwarterol Rhaglen Plant Iach Cymru, Hydref 2016 i fis Mawrth 2026 [Nodyn 1]
Disgrifiad o ffigur 1: siart llinell sy'n dangos bod canran y cysylltiadau a gwblhawyd wedi cynyddu ers dechrau'r rhaglen.
Ffynhonnell: Y Cronfa Ddata Genedlaethol ar Iechyd Plant Cymunedol (NCCHD)
[Nodyn 1] Mae’r data ar gyfer pob plentyn yn cynnwys plant a ddiffinnir fel rhai sy’n derbyn, ac nid sy’n derbyn gwasanaethau Dechrau’n Deg gan ddefnyddio eu cod post Dechrau’n Deg.
- Gyda’i gilydd, derbyniodd 81.7% o blant cymwys gyswllt Plant Iach Cymru yn y chwarter Ionawr i fis Mawrth 2026, sydd yn ostyngiad o 5.1 pwynt canran ar y chwarter blaenorol.
- Dim ond un o'r naw pwynt cyswllt (yn 6 wythnos) a welodd gynnydd o'r chwarter blaenorol yng nghanran y plant cymwys a gafodd gyswllt.
Bu gweithredu diwydiannol gan ymwelwyr iechyd yn dechrau ar 23 Chwefror 2026 ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg. Mae’n bosibl bod y data ar gyfer Ionawr i fis Mawrth 2026 wedi cael eu heffeithio.
Manylion cyswllt
Ystadegau iechyd cymunedol a phoblogaeth
E-bost: ystadegau.iechyd@llyw.cymru
Cyfryngau: 0300 025 8099
