Data bwydo ar y fron: Ionawr i Fawrth 2026
Mae’r data yn cynnwys statws bwydo ar y fron ar enedigaeth, 10 diwrnod, 6 i 8 wythnos a 6 mis fesul bwrdd iechyd lleol ar gyfer Ionawr i Fawrth 2026.
Ar y dudalen hon
Prif bwyntiau
Ffigur 1: cyfraddau bwydo ar y fron yn ôl oedran y plentyn, Gorffennaf 2014 i fis Mawrth 2026 [Nodyn 1] [Nodyn 2]
Disgrifiad o ffigur 1: siart linell sy’n dangos bod canran y babanod sy’n cael eu bwydo ar y fron o bob oed wedi cynyddu’n raddol dros y degawd diwethaf.
Ffynhonnell: Y Gronfa Ddata Genedlaethol ar Iechyd Plant Cymunedol, Iechyd a Gofal Digidol Cymru
Bwydo ar y fron, cyfraddau chwarterol yn ôl bwrdd iechyd lleol gan oedran (StatsCymru)
[Nodyn 1] Cyfrifir cyfraddau bwydo ar y fron ar gyfer cofnodion sydd â statws bwydo ar y fron hysbys. Mae statws bwydo ar y fron ar goll o rhwng 9% (yn 10 niwrnod) ac 21% (yn 6 mis) o’r cofnodion yn y chwarter cyfredol.
[Nodyn 2]: Bu gweithredu diwydiannol gan ymwelwyr iechyd yn dechrau ar 23 Chwefror 2026 ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg. Mae’n bosibl bod y data ar gyfer Ionawr i fis Mawrth 2026 wedi cael eu heffeithio.
- Mae cyfraddau bwydo ar y fron wedi gostwng y chwarter hwn adeg geni, yn 10 diwrnod ac yn 6 wythnos, tra bod y gyfradd yn 6 mis wedi cynyddu i'r uchaf a gofnodwyd erioed
Adeg genedigaeth
- Roedd y gyfradd bwydo ar y fron yn 66.7%, sy’n ostyngiad o 0.6 pwynt canran ar y chwarter blaenorol.
- Mae hyn yn gynnydd o 0.8 pwynt canran ar yr un chwarter y flwyddyn flaenorol, a chynnydd o 9.1 pwynt canran ar y chwarter cyntaf y mae data cymaradwy ar ei gyfer (mis Gorffennaf i fis Medi 2014).
Yn 10 diwrnod oed
- Roedd y gyfradd bwydo ar y fron yn 60.1%, sy’n ostyngiad o 1.5 pwynt canran ar y chwarter blaenorol.
- Mae hyn yn gynnydd o 1.3 pwynt canran ar yr un chwarter y flwyddyn flaenorol, a chynnydd o 15.5 pwynt canran ar y chwarter cyntaf y mae data cymaradwy ar ei gyfer (mis Gorffennaf i mis Medi 2014).
Yn 6 wythnos oed
- Roedd y gyfradd bwydo ar y fron yn 50.2%, sy’n ostyngiad o 1.1 pwynt canran ar y chwarter blaenorol.
- Mae hyn yn gynnydd o 4.0 pwynt canran ar yr un chwarter y flwyddyn flaenorol, a chynnydd o 19.6 pwynt canran ar y chwarter cyntaf y mae data cymaradwy ar ei gyfer (mis Gorffennaf i mis Medi 2014).
Yn 6 mis oed
- Roedd y gyfradd bwydo ar y fron yn 38.2%, sy’n gynnydd o 2.6 pwynt canran ar y chwarter blaenorol.
- Mae hyn yn gynnydd o 5.4 pwynt canran ar yr un chwarter y flwyddyn flaenorol, a 19.8 pwynt canran ar y chwarter cyntaf y mae data cymaradwy ar ei gyfer (mis Gorffennaf i mis Medi 2015).
Manylion cyswllt
Ystadegau iechyd cymunedol a phoblogaeth
E-bost: ystadegau.iechyd@llyw.cymru
Cyfryngau: 0300 025 8099
