Dafydd Trystan Davies AS, y Gweinidog Cabinet dros Effeithiolrwydd Llywodraeth a’r Cyfansoddiad
Mae Llywodraeth newydd Cymru wedi bod yn gweithio’n gyflym ers etholiad y Senedd ym mis Mai i sicrhau newid gwirioneddol i bobl ledled Cymru.
Fel yr addawyd yn ystod yr ymgyrch etholiadol, rydym wedi canolbwyntio ar gynllun sy’n cwmpasu’r 100 diwrnod cyntaf, o gyfarfod cyntaf Cabinet newydd Llywodraeth Cymru ar 18 Mai.
Roedd ein 100 diwrnod cyntaf yn gyfle i ddechrau cyflawni ein blaenoriaethau allweddol a gosod y sylfeini ar gyfer y diwygiadau tymor hwy sydd eu hangen ar Gymru. Heddiw, ar y 100fed diwrnod ers i’r Cabinet gyfarfod am y tro cyntaf, rwy’n falch o gadarnhau bod yr holl weithgareddau cychwynnol a gynlluniwyd ar gyfer pob un o’r ymrwymiadau bellach wedi’u cwblhau dros y 100 diwrnod diwethaf.
Er enghraifft, o fis Medi ymlaen, bydd mwy o ddisgyblion ysgol uwchradd yng Nghymru yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim, gydag ysgolion yn darparu’r prydau hynny yn ystod y tymor ysgol. Fe fydd cannoedd yn rhagor o deuluoedd yng Nghymru yn elwa ar ehangu’r ddarpariaeth gofal plant a ariennir. Rydym yn mynd i’r afael ag amseroedd aros drwy fuddsoddi dros £145m a sefydlu grŵp arbenigol i ddatblygu opsiynau ar gyfer canolfannau llawfeddygol ledled Cymru. Mae paratoadau ar waith ar gyfer lansio gwasanaeth bysiau newydd rhwng y Gogledd a’r De yr hydref hwn, a fydd yn torri dros awr o’r siwrnai.
Ac rydym wedi sefyll dros Gymru drwy ddadlau’r achos dros gymunedau Cymru gyda Llywodraeth y DU – ar gyllid, cyllid canlyniadol HS2, cyfiawnder amgylcheddol i gymunedau glofaol, a’r angen am Fil Cymru newydd.
Mae un ymrwymiad sy’n ymwneud â Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 yn gofyn am newidiadau deddfwriaethol cyn y gellir ei gwblhau. Rydym yn parhau i fod wedi ymrwymo i eithrio llochesi o’r Ddeddf ac ar hyn o bryd rydym yn paratoi i ymgynghori ar gynigion i gyflawni hyn.
Bydd y Prif Weinidog yn rhoi rhagor o fanylion ar gyflawni’r ymrwymiadau 100 diwrnod cyntaf yr wythnos nesaf. Bydd adroddiad cynnydd hefyd yn cael ei gyhoeddi a bydd ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru o 2 Medi ymlaen.
Nid dyna ddiwedd y gwaith, fodd bynnag. Bydd yr ymrwymiadau hyn yn sail hollbwysig i’n gwaith dros weddill tymor y Senedd hon.
Wrth inni symud i gam nesaf y weinyddiaeth hon, byddwn yn bwrw ymlaen â’r gwaith o gyflawni blaenoriaethau go iawn pobl Cymru:
- torri rhestrau aros, a datblygu gwasanaeth iechyd a gofal sy’n addas ar gyfer y dyfodol
- helpu teuluoedd â chostau byw drwy ofal plant sy’n fforddiadwy ac o safon
- datgloi potensial economi Cymru, a chreu swyddi da sy’n talu’n dda
- codi safonau yn ein hysgolion a sicrhau’r amodau gorau ar gyfer dysgu
- mynd i’r afael â thlodi plant
- sefyll dros Gymru a mynnu tegwch gan San Steffan.
Rydym hefyd wedi cyhoeddi’r fersiwn gyntaf o ddangosfwrdd digidol sy’n galluogi pobl i olrhain cynnydd yn erbyn y blaenoriaethau hyn. Mae’r dangosfwrdd yn darparu gwybodaeth am yr hyn yr ydym yn ei wneud, yn ogystal â set o ddata â ffocws i ddangos a yw’r camau hynny’n gwneud gwahaniaeth i bobl Cymru. Mae’n cyflawni ymrwymiad a oedd yng Nghynllun y 100 Diwrnod Cyntaf ac yn dangos ein hymrwymiad ehangach i fod y Llywodraeth fwyaf agored yng Nghymru ers datganoli.
Cyhoeddir y datganiad hwn yn ystod y toriad er mwyn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau. Os bydd yr Aelodau am imi wneud datganiad pellach, neu ateb cwestiynau ynghylch hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.
