Neidio i'r prif gynnwy

Adran 1: pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu hystyried a pham?

Mae Cynllun y 100 Diwrnod Cyntaf a gyhoeddwyd gan y Seithfed Senedd yn cynnwys ymrwymiad i wneud y canlynol:

'Rhoi’r grym i awdurdodau lleol hyrwyddo diogelwch, dysgu a llesiant myfyrwyr drwy gyfyngu ar y defnydd o ffonau clyfar mewn ysgolion i’r rhai o dan 16 oed, gan weithio gyda chynghorau ac arweinwyr ysgolion i weithredu hyn mewn ffordd ymarferol a chymesur, gydag eithriadau priodol lle bo angen.'

Mae ffonau symudol a dyfeisiau digidol personol eraill yn cael eu defnyddio'n helaeth gan blant a phobl ifanc, ac maent yn rhan gynyddol o'u bywydau bob dydd. Er y gall y technolegau hyn gefnogi dysgu a chyfathrebu, gallant hefyd greu heriau mewn ysgolion, gan gynnwys tynnu sylw oddi wrth y dysgu, effeithio ar lefelau lles unigolion, a chreu risgiau os cânt eu camddefnyddio.

Ers dechrau defnyddio ffonau clyfar yn eang - a gynyddwyd ymhellach yn sgil newidiadau mewn arferion ymgysylltu digidol yn ystod ac ar ôl pandemig Covid‑19 - mae'r gydnabyddiaeth wedi bod yn tyfu o'r angen i gefnogi ysgolion i reoli'r defnydd o ffonau symudol yn fwy effeithiol. Mae hyn yn cynnwys cydbwyso manteision addysgol technoleg ddigidol â'r angen i'w chadw rhag tarfu ar y dysgu, diogelu dysgwyr, a hyrwyddo ymddygiad cadarnhaol a lefelau lles.

Ar hyn o bryd, mae ysgolion yng Nghymru yn pennu eu polisïau eu hunain mewn perthynas â'r defnydd o ffonau symudol. Mae hyn wedi arwain at amrywio yn yr arferion ar draws ysgolion ac awdurdodau lleol, ac nid oes canllawiau statudol ar waith i gefnogi dull gweithredu cenedlaethol cyson.

Nid oes fframwaith deddfwriaethol penodol sy'n llywodraethu'r defnydd o ffonau symudol mewn ysgolion. Fodd bynnag, mae gan ysgolion ac awdurdodau lleol bwerau i fynd ati, yn ôl eu disgresiwn, i ddatblygu a gweithredu polisïau ar y defnydd o ffonau symudol a dyfeisiau digidol personol eraill.

Yn absenoldeb canllawiau statudol cenedlaethol, gall dulliau o reoli'r defnydd o ffonau symudol fod yn wahanol iawn. Mae'r amrywio hwn yn gallu effeithio ar y gallu cyson i ddiogelu amgylcheddau dysgu rhag unrhyw darfu, ac ar y sylw a roddir i faterion yn ymwneud â lefelau lles, ymddygiad a diogelwch dysgwyr.

Mae yna farn gref ar draws y sector addysg bod y defnydd o ffonau symudol yn ystod y diwrnod ysgol yn cyfrannu'n sylweddol at ymddygiad gwael, y lefelau ymddieithrio oddi wrth addysg, a materion fel bwlio ac aflonyddu, ac mae galwadau cynyddol i gyfyngu ar neu wahardd ffonau symudol o ysgolion. Tynnwyd ein sylw at amrywiol faterion yn ymwneud â chamddefnyddio ffonau symudol mewn ysgolion, gan gynnwys plant yn recordio a rhannu delweddau o fwlio ac ymladd ar-lein, a phlant yn recordio athrawon neu ddisgyblion ac yna'n defnyddio AI i ffugio'r delweddau.

Er mwyn cyflawni'r ymrwymiad 100 Diwrnod, ym mis Mehefin eleni, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y bwriad i lunio canllawiau statudol newydd i gyfyngu ar y defnydd o ffonau symudol mewn ysgolion er mwyn cryfhau'r disgwyliadau a darparu fframwaith gweithredu cliriach.

Bydd y canllawiau yn cynnwys gwybodaeth am sut y dylai ysgolion ddatblygu eu polisïau, a sut i ystyried eithriadau priodol lle mae gan ddysgwyr resymau penodol dros ofyn am fynediad at ffôn yn ystod y diwrnod ysgol.

Nod canllawiau statudol yw helpu i gysoni'r strategaeth ar draws Cymru, gan barhau ar yr un pryd i ganiatáu'r hyblygrwydd priodol i ysgolion ac awdurdodau lleol i ymateb i amgylchiadau lleol.

Bydd canllawiau statudol yn cefnogi ysgolion i ddatblygu polisïau clir, sy'n seiliedig ar dystiolaeth, ar ddefnyddio ffonau symudol. Eu nod fydd:

  • diogelu lles dysgwyr
  • hyrwyddo ymddygiad cadarnhaol
  • cynnig y cyfleoedd dysgu gorau posibl
  • parhau i hyrwyddo manteision technoleg
  • sicrhau cysondeb ledled Cymru
  • sicrhau bod polisïau yn deg 
  • sicrhau bod polisïau yn cyd-fynd ag egwyddorion Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn

Bydd y canllawiau yn berthnasol i bob ystod oedran mewn:

  • ysgolion a gynhelir
  • ysgolion arbennig
  • unedau cyfeirio disgyblion
  • ysgolion annibynnol

Bydd datblygu canllawiau statudol yn cefnogi ysgolion ac awdurdodau lleol i weithredu polisïau cymesur ac effeithiol, gan sefydlu dull mwy cyson, ar sail gwybodaeth, o reoli'r defnydd o ffonau symudol ledled Cymru. Bydd hefyd yn helpu i sicrhau bod y defnydd o ddyfeisiau personol yn cyd-fynd â blaenoriaethau addysgol ehangach Llywodraeth Cymru a'r Cwricwlwm i Gymru.

Atal

Bydd disgwyl i ysgolion roi sylw dyladwy i'r canllawiau statudol newydd, gan gynyddu cysondeb a lleihau'r tebygolrwydd o ystyried cyfyngiadau fel rhywbeth dewisol, a thrwy hynny gefnogi cyfyngiadau mwy unffurf ar ffonau symudol mewn ysgolion ledled Cymru.

Bydd canllawiau cenedlaethol clir, cyson ar ddefnyddio ffonau symudol mewn ysgolion yn helpu ysgolion ac awdurdodau lleol i ddatblygu polisïau sydd wedi'u diffinio'n dda, ar sail tystiolaeth. Yn ei dro, bydd hyn yn cyfrannu at leihau unrhyw darfu ar ddysgu, hyrwyddo ymddygiad cadarnhaol, a lleihau'r risgiau sy'n gysylltiedig â chamddefnydd, gan gynnwys effeithiau ar lefelau lles dysgwyr, a'r posibilrwydd o ddod i gysylltiad â deunyddiau niweidiol ar-lein.

Bydd dull gweithredu mwy cyson yn galluogi ysgolion i gymryd camau ataliol, gan helpu i sefydlu disgwyliadau clir ar gyfer dysgwyr, staff, a rhieni neu ofalwyr. Bydd hyn o fudd i greu amgylcheddau dysgu cefnogol lle nad yw'r defnydd o ffôn symudol yn tynnu oddi wrth ymgysylltu addysgol neu lefelau diogelwch.

Integreiddio

Mae gan ysgolion ac awdurdodau lleol bwerau i'w defnyddio yn ôl eu disgresiwn eisoes i ddatblygu a gweithredu polisïau sy'n ymwneud ag ymddygiad dysgwyr, gan gynnwys ffonau symudol. Ni fydd cyflwyno canllawiau statudol yn creu dyletswydd newydd, ond bydd yn cefnogi ac yn cryfhau'r trefniadau presennol drwy ddarparu fframwaith cenedlaethol cliriach ar gyfer gwneud penderfyniadau.

Bydd y cynnig yn helpu i gyflawni ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ddatblygu fframwaith integredig ar gyfer cefnogi lles, ymddygiad a chyfleoedd ymgysylltu dysgwyr, gan gydnabod natur ryng-gysylltiedig y materion hyn. Yn ogystal, mae'n cyd-fynd â datblygiadau polisi ehangach y DU i geisio cryfhau mesurau i amddiffyn plant a phobl ifanc ar-lein, gan gynnwys mesurau i gyfyngu ar y defnydd o'r cyfryngau cymdeithasol.

Bydd angen i'r gweithlu addysg ymgyfarwyddo â'r canllawiau statudol a sut y dylid eu cymhwyso yng nghyd-destun ysgolion unigol. Mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu darparu cyfarwyddyd i gefnogi'r broses o'u gweithredu, a disgwylir i hynny greu manteision mwy hirdymor drwy gynyddu cysondeb, rhoi eglurder ar ddisgwyliadau, a sicrhau dull gweithredu mwy cydlynol o safbwynt y defnydd o ffonau symudol mewn ysgolion ledled Cymru.

Credwn fod y cynnig hwn yn cyfrannu at y 7 nod lles a amlinellir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru):

  1. Cymru lewyrchus.
  2. Cymru gydnerth.
  3. Cymru iachach.
  4. Cymru sy’n fwy cyfartal.
  5. Cymru o gymunedau cydlynus.
  6. Cymru â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu.
  7. Cymru sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang.

Cydweithredu

Yn 2025, cynhaliodd Llywodraeth ddiwethaf Cymru Uwchgynhadledd Ymddygiad Genedlaethol. Yn dilyn yr Uwchgynhadledd, mewn ymateb i bryderon cynyddol gan y sector addysg ynghylch y defnydd o ffonau symudol mewn ysgolion, sefydlwyd fforwm cenedlaethol newydd i gydgynllunio canllawiau cenedlaethol newydd i ddarparu mwy o eglurder a chysondeb. Roedd aelodau'r fforwm yn cynnwys:

  • ymarferwyr a phenaethiaid
  • partneriaid fel awdurdodau lleol, cynrychiolwyr y trydydd sector a seicolegwyr addysg
  • rhanddeiliaid allweddol gan gynnwys cynrychiolwyr undebau llafur.

Bwrwyd ymlaen â'r gwaith gyda'r Fforwm rhwng Medi 2025 a Ionawr 2026 i 
gyd-greu canllawiau newydd ac adnoddau ategol i helpu ysgolion i wneud penderfyniadau gwybodus ynghylch ffonau symudol.

Cynnwys

Er mwyn cefnogi ymhellach y gwaith o baratoi canllawiau newydd ar ffonau symudol a chyfres ehangach o adnoddau ar gyfer ysgolion, ym mis Mawrth 2026 lansiwyd Arolwg o'r defnydd o ffonau symudol mewn ysgolion: polisïau ac effeithiau. Gofynnodd yr arolwg ystod o gwestiynau i weithlu ysgolion, er mwyn cael gwybod pa bolisïau ar ffonau symudol sydd eisoes ar waith mewn ysgolion, sut maent yn cael eu rheoli a'u gorfodi, a pha heriau a dulliau hwyluso y mae ymarferwyr wedi'u darganfod wrth ddatblygu a gweithredu eu polisi neu eu canllawiau. Gofynnodd yr arolwg hefyd sut, ym marn yr ymatebwyr, y dylai Llywodraeth Cymru fynd i'r afael â'r mater hwn ar lefel genedlaethol.

Effaith

Mewn ymateb i arolwg cenedlaethol ymhlith y gweithlu addysg yn gynharach eleni ar y defnydd o ffonau symudol mewn ysgolion: polisïau ac effeithiau, roedd mwyafrif helaeth yr ymatebwyr yn gofyn am fwy o gyfeiriad ar lefel genedlaethol, ac roedd 82.0% o blaid cyfyngiadau statudol ar ffonau symudol mewn ysgolion.

Rydym o'r farn mai dysgwyr, lleoliadau addysg, a rhanddeiliaid ehangach, gan gynnwys rhieni neu ofalwyr a fydd yn profi effaith y cynnig hwn yn bennaf. Dyma'r sylfaen, felly, o ran diben yr ymgynghoriad a'r gwaith o ddatblygu'r canllawiau statudol.

Rydym yn cydnabod y gallai fod gan randdeiliaid safbwyntiau gwahanol ar effeithiau cyfyngu ar y defnydd o ffonau symudol mewn ysgolion. Fodd bynnag, gall dulliau cliriach a mwy cyson o reoli ffonau symudol gyfrannu at amgylcheddau dysgu gwell, hyrwyddo ymddygiad cadarnhaol, a gwella lefelau lles dysgwyr. 

Nod y canllawiau yw cefnogi ysgolion ac awdurdodau lleol wrth iddynt ystyried a rheoli'r defnydd o ffonau symudol, gan gydnabod ar yr un pryd y gall ffactorau ehangach hefyd ddylanwadu ar ymddygiad, lefelau lles a phrofiadau addysgol dysgwyr.

Mae'r ymgynghoriad yn rhoi cyfle ystyrlon i gasglu safbwyntiau partïon â diddordeb ar y canllawiau arfaethedig, gan gynnwys sut i'w cymhwyso'n ymarferol ac unrhyw effeithiau posibl nad ydynt wedi'u nodi eto. Bydd yr adborth hwn yn helpu i sicrhau bod y canllawiau terfynol yn seiliedig ar dystiolaeth, yn gymesur ac yn ymateb i anghenion y rhai y bwriedir eu cefnogi. 

Bydd yr ymgynghoriad ar y canllawiau newydd yn rhedeg am 12 wythnos o 9 Medi, 2026. Rydym yn croesawu ymatebion i gwestiynau'r ymgynghoriad gan y cyhoedd, gan gynnwys pobl ar draws y sector addysg.

Y Gymraeg

Mae Asesiad Effaith ar y Gymraeg wedi'i gynnal, a'r canlyniad oedd y byddai'r canllawiau yn cael effaith isel neu niwtral ar y Gymraeg.

Nid oes unrhyw effaith uniongyrchol ar y Gymraeg nac ar ddiwylliant Cymru sy'n deillio o gyflwyno cyfyngiadau ar ddefnyddio ffonau symudol mewn ysgolion. Bwriedir i'r canllawiau gael eu gweithredu'n gyson ar draws pob ysgol yng Nghymru, ac nid ydynt yn gwahaniaethu ar sail cyfrwng iaith.

Costau ac Arbedion

Nid ydym yn rhagweld unrhyw gostau ychwanegol sylweddol i Lywodraeth Cymru yn sgil cynnal yr ymarfer ymgynghori hwn. 

Ar ben hynny, nid oes unrhyw oblygiadau ariannol ychwanegol yn gysylltiedig ag ymgysylltu â rhanddeiliaid neu'r gweithgarwch ôl-ymgynghori sy'n gysylltiedig â mireinio a chyhoeddi'r canllawiau statudol newydd. Bydd y gweithgareddau hyn yn cael eu cynnal gan swyddogion o Lywodraeth Cymru, fel rhan o'u rolau presennol.

Fodd bynnag, efallai y bydd cost fach iawn i benodi cwmni allanol i ymgymryd â'r adolygiad o'r ymatebion i'r ymgynghoriad a pharatoi'r adroddiad cryno, yn dibynnu ar lefel yr ymateb.

Adran 8: casgliad

Sut y mae pobl y mae’r cynnig fwyaf tebygol o effeithio arnynt wedi’u cynnwys yn y gwaith o’i ddatblygu?

O ystyried natur y cynnig, rhanddeiliaid addysg a fyddai'n gyfrifol am weithredu'r canllawiau a dargedwyd yn bennaf wrth fynd ati i ymgysylltu. Cyd-grewyd y canllawiau gyda fforwm cenedlaethol ar gyfer ffonau symudol mewn ysgolion, a gyfarfu rhwng Medi 2025 a Ionawr 2026. Roedd aelodau'r fforwm yn cynnwys:

  • Arweinwyr ysgolion ac ymarferwyr
  • Awdurdodau lleol
  • Cymdeithasau proffesiynol
  • Sefydliadau'r trydydd sector
  • Ymchwilwyr ac academyddion

Ystyriwyd y canllawiau ymhellach mewn Cyfarfod Bwrdd Crwn i Benaethiaid a chyfarfodydd Grŵp Cynghori Gweinidogol ar gyfer Penaethiaid a gynhaliwyd ym mis Chwefror 2026.

Ystyriwyd anghenion a buddiannau plant a phobl ifanc, dysgwyr â nodweddion gwarchodedig, siaradwyr Cymraeg a grwpiau eraill yr effeithir arnynt ar sail y dystiolaeth bresennol, canfyddiadau ymchwil, adborth rhanddeiliaid ac arbenigedd polisi perthnasol yn ystod y broses ddatblygu.

Beth yw'r effeithiau cadarnhaol a negyddol mwyaf arwyddocaol?

Disgwylir i'r canllawiau gael effeithiau cadarnhaol o bob math ar bobl a chymunedau Cymru drwy gefnogi ysgolion i ddatblygu dulliau clir, cyson o reoli'r defnydd o ffonau symudol, mewn ffordd sy'n briodol i'w hardal.

Roedd adborth gan randdeiliaid addysg yn tynnu sylw at bryderon am effaith ffonau symudol ar ddysgu, ymddygiad, lefelau lles a rhyngweithio cymdeithasol, gan gydnabod hefyd yr angen am hyblygrwydd digonol i adlewyrchu anghenion dysgwyr unigol ac amgylchiadau lleol. Mae'r canllawiau yn ymateb i'r themâu hyn drwy ddarparu fframwaith cenedlaethol sy'n cefnogi ysgolion i ddatblygu polisïau sy'n addas i'w cyd-destunau eu hunain.

Mae'r manteision mwyaf arwyddocaol a ragwelir yn ymwneud â gwelliannau yn niwylliant ysgolion, lefelau lles dysgwyr a lefelau ymgysylltu ag addysg. Drwy leihau elfennau diangen sy'n tynnu sylw yn ystod y diwrnod ysgol, disgwylir i'r canllawiau gyfrannu at amgylcheddau dysgu tawelach, a ffocws cryfach ar addysgu a dysgu.

O bosibl, gall hyn fod o fudd i wella'r ymgysylltu ar ran dysgwyr ynghyd â'u lefelau presenoldeb, gan eu helpu i wneud y mwyaf o gyfleoedd addysgol. Bwriad y canllawiau hefyd yw lleihau rhyngweithio ar-lein niweidiol mewn ysgolion, gan gynnwys seiberfwlio, ffilmio a rhannu digwyddiadau heb ganiatâd, a chylchredeg deunydd amhriodol. Disgwylir i hyn gyfrannu at amgylcheddau ysgol mwy diogel a lle dangosir mwy o barch at ddysgwyr a staff.

Gallai'r canllawiau hefyd gryfhau patrymau rhyngweithio cymdeithasol a meithrin perthynas drwy annog mwy o gyfathrebu wyneb yn wyneb rhwng dysgwyr yn ystod y diwrnod ysgol. Gall hyn gyfrannu at ddatblygu sgiliau cymdeithasol a chyfathrebu, gwella cydberthnasau rhwng cyfoedion, a meithrin ymdeimlad cryfach o berthyn o fewn cymunedau ysgol. Drwy leihau'r cyfnod pan all dysgwyr ddod i gysylltiad â deunydd ar-lein a all roi pwysau arnynt a thynnu eu sylw pan fyddant yn yr ysgol, gallai'r canllawiau hefyd helpu i wella lefelau lles a lleihau straen i rai plant a phobl ifanc.

Disgwylir buddion hefyd i weithlu ysgolion. Gallai disgwyliadau cliriach a dulliau mwy cyson o reoli'r defnydd o ffonau symudol helpu i leihau nifer y digwyddiadau lle mae angen ymyrraeth staff, gan leihau'r llwyth gwaith sy'n gysylltiedig â mynd i'r afael â chamddefnydd o ffonau symudol ac ymddygiad ar-lein yn ystod y diwrnod ysgol. Gallai hyn gyfrannu at leihau straen a gwella lefelau lles arweinwyr ysgolion, athrawon a staff cymorth.

Mae'r canllawiau yn cefnogi nifer o nodau lles Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, gan gynnwys Cymru Lewyrchus drwy gefnogi ymgysylltu a chyflawni addysgol; Cymru Iachach drwy eu cyfraniad posibl at les dysgwyr a staff; Cymru sy'n Fwy Cyfartal drwy gydnabod y gallai fod angen i ysgolion wneud addasiadau neu eithriadau rhesymol ar gyfer rhai dysgwyr; a Cymru o Gymunedau Cydlynus drwy hyrwyddo cydberthnasau cadarnhaol, parch a chynhwysiant o fewn lleoliadau ysgol. Mae'r canllawiau hefyd yn cefnogi amcanion lles Llywodraeth Cymru sy'n ymwneud â chodi safonau, lleihau anghydraddoldebau addysgol a hyrwyddo lles dysgwyr.

Nid oes unrhyw effeithiau andwyol arwyddocaol ar y Gymraeg a diwylliant Cymru wedi'u nodi. Mae'r canllawiau yr un mor berthnasol i ysgolion cyfrwng Cymraeg, dwyieithog a chyfrwng Saesneg, ac nid ydynt yn effeithio ar gyfleoedd i ddefnyddio neu ddatblygu'r Gymraeg. Yn yr un modd, ni ragwelir unrhyw effeithiau arwyddocaol ar yr economi na'r amgylchedd, gan nad yw'r canllawiau yn gofyn am seilwaith ychwanegol, yn creu costau sylweddol, nac yn arwain at newidiadau o ran defnydd tir, trafnidiaeth na'r defnydd o adnoddau.

O gymharu â'r sefyllfa bresennol, lle mae dulliau o reoli'r defnydd o ffonau symudol yn amrywio'n sylweddol rhwng ysgolion, disgwylir i'r canllawiau ddarparu mwy o eglurder a chysondeb, gan gadw hyblygrwydd lleol ar yr un pryd. Dylai hyn helpu ysgolion i greu amgylcheddau dysgu diogel, cynhwysol ac effeithiol sy'n cefnogi ymddygiad cadarnhaol, lles a chanlyniadau addysgol.

Yn sgil yr effeithiau a nodwyd, sut bydd y cynnig yn cyfrannu cymaint â phosibl at ein hamcanion lles a'r saith nod lles a (neu) yn osgoi, lleihau, neu liniaru unrhyw effeithiau negyddol?

Mae effeithiau negyddol posibl sy'n gysylltiedig â chyfyngiadau ar y defnydd o ffonau symudol wedi'u lliniaru yn sgil natur hyblyg y canllawiau. Yn hytrach na gofyn i ysgolion fabwysiadu un dull gweithredu, mae'r canllawiau yn caniatáu i ysgolion bennu polisïau sy'n adlewyrchu amgylchiadau lleol ac anghenion dysgwyr unigol. Bwriad yr hyblygrwydd hwn yw lleihau risg effeithiau anghymesur ar grwpiau penodol o ddysgwyr, gan gynnal y nod cyffredinol o wella'r profiad dysgu, lefelau lles a diwylliant ysgolion ar yr un pryd. Gan nad oes unrhyw effeithiau andwyol arwyddocaol wedi'u nodi yn sgil datblygu'r polisi nac ymgysylltu â rhanddeiliaid, ni ystyrir bod angen unrhyw fesurau lliniaru pellach ar hyn o bryd. Fodd bynnag, bydd adborth gan ysgolion a rhanddeiliaid yn parhau i lywio'r gweithredu ac unrhyw adolygu ar y canllawiau i'r dyfodol.

Sut y caiff effaith y cynnig ei monitro a'i gwerthuso wrth iddo fynd rhagddo ac ar ôl iddo gael ei gyflawni?

Bydd effaith y canllawiau yn cael ei monitro drwy ymgysylltu parhaus â rhanddeiliaid allweddol, gan gynnwys ysgolion, awdurdodau lleol, undebau addysgu a phlant a phobl ifanc. Bydd yr adborth yn cael ei ddefnyddio i nodi unrhyw broblemau o ran y gweithredu, a meysydd lle gallai fod angen cymorth pellach.

Bydd Llywodraeth Cymru hefyd yn ystyried tystiolaeth berthnasol sy'n ymwneud ag ymddygiad dysgwyr, lefelau lles, presenoldeb, diogelu a diwylliant ysgolion yng ngoleuni ymrwymiad ehangach y Cynllun 100 Diwrnod i ddatblygu fframwaith integredig sy'n canolbwyntio ar y materion rhyng-gysylltiedig hyn. 

Bydd sylw arbennig yn cael ei roi i p'un a yw'r canllawiau yn gweithredu fel y'u bwriadwyd ac a yw unrhyw grwpiau o ddysgwyr yn profi effeithiau anghymesur.

Felly, bydd y canllawiau yn cael eu hadolygu a'u diweddaru'n rheolaidd, lle bo hynny'n briodol, yng ngoleuni tystiolaeth sy'n dod i'r amlwg, adborth rhanddeiliaid a newidiadau mewn polisi neu arferion.

Caiff gwerthusiad ffurfiol ei ystyried ar ôl eu gweithredu'n llawn o fis Medi 2027. Yn y cyfamser, bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i fonitro effeithiolrwydd a dylanwad y canllawiau drwy brosesau ymgysylltu ac adolygu cyson ymhlith rhanddeiliaid.