Llyr Gruffydd AS, Gweinidog Cabinet dros Wydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd
Cytunodd y Prif Weinidog i roi diweddariad yn dilyn y pryderon a godwyd yn y Senedd ar 2 Mehefin am adroddiadau o salwch yn gysylltiedig â defnyddio Afon Tawe wrth hamddena. Gallaf gadarnhau bod Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cwblhau adolygiad o'r wybodaeth amgylcheddol sydd ar gael iddo. Nid yw wedi dod o hyd i dystiolaeth o lygredd, diffyg cydymffurfio â thrwyddedau na digwyddiad amgylcheddol arall a fyddai'n esbonio'r salwch yr adroddwyd amdano neu'n cyfiawnhau camau gorfodi rheoleiddiol.
Ers i'r adroddiadau gael eu dwyn i'w sylw, mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cysylltu â sefydliadau partner perthnasol. Mae hyn yn golygu bod y sefydliadau priodol wedi ystyried yr wybodaeth amgylcheddol a'r wybodaeth am iechyd y cyhoedd sydd ar gael.
Adolygodd Cyfoeth Naturiol Cymru adroddiadau am ddigwyddiadau, gwybodaeth am ansawdd dŵr, a gwybodaeth weithredol yn ymwneud â seilwaith dŵr gwastraff a systemau gorlif storm. Nid oedd ei adolygiad o'r data monitro rheolaidd diweddaraf ar gyfer Afon Tawe yn dangos unrhyw ddirywiad sylweddol yn y dangosyddion amgylcheddol allweddol y mae'n eu monitro.
Mae gwaith monitro rheolaidd yn cael ei gynnal ar Afon Tawe i asesu yn bennaf gyflwr amgylcheddol yr afon o dan Reoliadau'r Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr, yn hytrach nag ansawdd dŵr ymdrochi.
Rwy'n cydnabod y pryder y mae'r adroddiadau hyn wedi'u hachosi i'r trigolion a phawb sy'n defnyddio ac yn parchu ein hafonydd. Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio gyda Cyfoeth Naturiol Cymru a'i bartneriaid i gefnogi ymateb cydweithredol ar sail tystiolaeth i adroddiadau o lygredd a risgiau i iechyd y cyhoedd.
Dylai unrhyw un sy'n dewis defnyddio afonydd neu ddyfroedd agored eraill wrth hamddena ystyried y risgiau posibl a dilyn canllawiau Iechyd Cyhoeddus Cymru ar gadw'n ddiogel mewn dyfroedd awyr agored yng Nghymru.
Cyhoeddir y datganiad hwn yn ystod y toriad er mwyn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau.
